Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Stamrnt.
News
Cite
Share
Stamrnt. Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cafodd Syr. John Bow* ring yr anrhydedd o dalu ymwelisd &'r Amherawdwr Napoleon, yn mhalas y Tuileries, Llythyr o Buckberg, dyddiedig yr Slain o'r mis diweddaf a hysbysa farwolaeth, ar y ddydd hwnw, o ddolury galon, George William, tywysog lIywodraethol. Schauimburg-Lippet yn ei 76 fhvydd o'i oedran, a'r 54fed o'i freniniaeth. Ei gan* lyniedydd, Adolf George, o anwyd Awst 1, 18l7 ac briododd Herminia, Tywysoges Weldeck a Pyrmont, yn 1844. Y mae Mr. T. Mason Jones wedi cyrhaedd i Lundain 0 Naples, ac y mae ar ddechreu darlithio ar Garibaldi. Dywed newyddiaduron Califfornia fod masnach hynod yo cael ei dwyn yn mlaen rhwng San Francisco a Hong Koog. Ymddengys tod y cwmnïal1 ymfudol yn y porthladd olaf yo cytuno i gymmeryd cyrff Chineaidd a fyddont feirw yn ol; yr oedd un Hong yn cynnwys 200 o gyrff mewn cistiau. Dywed llythyr o Vienna fod Mr. Roebuck wedi ei Awstriai" eiddo; ei fod wedi cael gwledd gan yr archddugiaid, a'i 10 yn siarad yn erbyn yr Italiaid. Y mae archeb am dair mil o barau o ddillad milwraidd Hun" garaidd wedi ei derbyn yn Paris, ac y maent i fod yn baroo erbyn Chwefror nesaf. Y mae yr holl hanesion yn cytuno ddweyd fod Hungary mewn sefyllfa gynhyrfus. Dywedir fod Mr. Sydney Herbert i gael ei godi i D9 V Arglwyddi. Y mae Arglwydd Bloomfield wedi ei appwyntio yn llfsgeo- adwr Prydain yn llys Vienna. Pe bai yr Unol Daleithiau a'u tiriogaethau wedi eu pobloff mor dew a Phrydain Fawr, cynnwysent 750,000,000 o bo™ -nifer bron cvmmaint a pboblogaeth yr boll ddaear. Dychrynwyd llongwr yn Llundain gan lefau merch ar foddit; efe a neidiodd i'r Thames ac achubodd hi. Wedi ei dwyn i I lan, gwelodd mai ei wraig ei hun ydoedd, yr hon oedd wedi et churo gan y prif hwyl dros y bwrdd. Dywedir fod Amherawdwr Rwssia wedi gorchymyn i bolj ddeiiiaid Rwssia i ymadael o Italy, ac un ai dychwelyd adref» neu tyned i breswylio mewn rhyw Ie arall. Y mae Pwyllgor Cymdeithas Glasgow yn erbyn wedi penderfynu anfon cofeb at y Cynghor, yn erfyn arnyDt roddi adran i mewn yn Ysgrif newydd yr Heddgeidwaid, J0 gwahardd ysmocio yn yr heolydd. Y mae cymdeithasau adeiladau yn awr yn sefydliadau pwysig. Ymddengys oddiwrih adroddiad a wnaed gan Afr. Tidd Pratt fod oddeutu 2,000 o honynt mewn bodolaeth, acøad ydyw eu hariansawdd taledig yn ddim llai nag 8,000,000. Y mae Cadben M'Clintock wedi dychwelyd o'i yn Mor y Gogledd, a Gogledd America ac y mae yn rbo1iM adroddiad ffafriol am ragoraeth y Uwybr cynnygiedig i'r Pe ebyr tanlorawl, rhwng yr hen fyd a'r byd newydd. Ymddengys fod Arglwydd Seymour, mab Due Somerset, 111 gwasanaethu yn y bataliwn Brydeinig, wrth yr enw Cadbe Sarsfield, dan Garibaldi. Dywed y Morning Star and Dial" Dydd Gwene* diweddaf, cwblhawyd y cytundeb masnachol rhwng Lloegr Ffrainc, a llawnodwyd cyfundrefn dollawl Ffrainc." Dadforiwyd gwerth 5,000,000p. o yd a blawd, a pbetbatt ereill o'r un natur, o Ffrainc i'r wlad hon yn 1859. Y mae gan Meistriaid Macmillan, & Co. waith newydd y cael ei barotoi gan yr enwog Mr. Maurice, sef, Darlithoeo ar Lyfr y Dadguddiad." Y mae Cymaeithas Haelionus Garibaldi wedi anfon_ sw pellach o 500p. i'r Cadfridog Garibaldi, at waBanaeth clein°a chlwyfedigion ei iyddid. j m- Mae y llywodraeth wedi penodi Mr. Treemenheere i g'i:,1 meryd tystiolaethau, er gwybod pa un a yw yn angenrhe'c' i iabwysiadu Deddf y Gweithfeydd, gyda rhai cyfnewidiaa at weitbfeydd ysnodenau Nottingham, a rhanau eieill 0 wlad. Y mae llywodraeth Portugul wedi rhoddi gorchyroy^. swyddogion a morwyr y llynges i wisgo galar-wisgoedd a» a di wrnod er anrhydedd i'y di weddar Syr C. Napier, y* ddygai y teitl o Count St. Vincent yn marwniaeth ? naetii hono. Gelwir llong rhyfel ar ei enw, er cof aTB ei wawn yn yatod rbyfel yr annibyniaeth. 1
Y RHYFEL A CHINA.
News
Cite
Share
yn ei frys-neges; ond cawsom ar ddeall o leoedd ereill fod anhawsderau hefyd mewn cyssylltiad a chludiad a darpariaethau ar gyfer y fyddin. Yn mhen dan ddi- wrnod, fodd bynag, dychwelodd y Mrd. Parkes a Wade, wedi gwneyd darpariadau gyferbyn a lie i'r fyddin wersyllu yn Chang-Tsia-Wan, 20 milltir ya nes yn mlaen na Hooseiwoo, a phum milltir o ddinas Tung- Chow. Wedi derbyn y cynnygion yma gan y Saeson a'r Ffrancod, anfonodd Arglwydd Elgin Mr. Parkes yn ol i Tung-Chow, a chydag ef Mr. Loch, ei ysgrif- enydd cyfrinachol ef ei hunan, er darparu ar gyfer derbyniad Arglwydd Elgin; danfonodd Syr Hope Grant hefyd yr Is-filwriad Walker, er penodi lIe y gwersyll, yn ol y cytundeb a wnawd a'r awdurdodau Chiniaidd, a'r Cadfridog Thompson, er derbyn y cyn- nysgaeth a addawwyd i'n galluoedd. Ar y 18fed, yr oedd Syr Hope Grant yn dynesu tua Chang-Tsia-Wan; ond pan oedd o fewn milltir i'r ddinas hono, canfu fod y fyddin Chiniaidd yn llanw y lie, er eu bod wedi addaw encilio, er rhoddi lie iddynt hwy wersyllu. Yn ngwyneb hyn, danfonwyd Mr. Loch yn ol yn ddioed i Tung-Chow, er gorchymyn i'w gymdeith.ion ddych- welvd. Aeth dan flag of truce; ond telid cyn lleied o barch i hono, fel, yn lie dwyn Mr. Parkes yn ol, cym- merwyd ef, Cadban Brabazon, a'r Is-gadben Anderson, yn garcharorion. Gosododd y person an hyn eu hun- ain fel hyn yn nwylaw y Chiniaid ar wahoddiad yr olaf i ddwyn cvflafareddiad yn mlaen, yr hon sydd yn weithred an fad a melldigedig. Pan yr ymddygwyd fel hyn at ein swyddogion, daeth cynlluniau y Cadfridog Chiniaidd i'r golwg. Gyda tua 20,000 o wyr, tybiai y gallai lwyr ddifodi byddin fechan y cynghreiriaid, yr hon ni chynnwysai dros bedair mil o wyr. Cychwynodd ei wyr ceffylau a'i wyr traed yn lluoedd yn erbyn ein milwyr ni. Yn teimlo dros ddiogelwch y swyddogion øg oeddynt wedi eu cymmeryd yn garcharorion, tybiai Syr Hope Grant y byddai yn well peidio rhoddi gorchymyn i ymosod arnyut; ond symudwyd yr anhawsder yma yn fuan, drwy i'r Milwriad Walker-yr hwn a ganfu un o'i gymdeithion, yr hwn oedd yn swyddog Ffrengig, yn cael ei ladd, ac yn canfod mai yr un dynged a ddyg- wyddai i'n pobl ni—roddi spardyn yn ei geffyl, gan ddwyn allan ei wyr o dan dan y Chiniaid. Dechreu- oddyr ymosodiad ar bob pwynt ynawr; ac heb i ddyn gael ei ladd o'n tu ni, a dim ond 19 wedi eu clwyfo, gyrwyd galluoedd lluosog y Chiniaid yn olgan y Saeson a'r Ffrancod, gyda cholled o 600 wedi eu lladd, a 75 o gyflegrau. Cymmerodd brwydr arall Ie yn mhen dau ddiwrnod, gyda'r un canlyniadau. Ymddengys, yn ol llythyr a ysgrifenwyd ar y 26ain o Fedi, fod Mrd. Loch, Bowlby, Brabazon, Anderson, a'r Cenadwr Parkes, oil yn ddiogel, ac yn derbyn triniaeth dda yn Pekin. Y mae y fyddin yn bresenol o fewn i bum milltir i Pekin. Ymwelodd brawd yr Amherawdwr, a mandarin dradd ucbe!, a'r gwersyll un diwrnod ond ni fynai Arglwydd Elgin eu gweled hyd nes y rhoddid Mr. Parkes a'r carcharorion ereill i fyny. Dynred y Patrie fod y newyddion diweddaf o China yn byabysu fod heddwch wedi ei lawuodi yn Tchang- tchou, ger Pekin, yn nechreu Hydref. Cymmervvyd te, i'r gwerth o £ 250,000, gan y cyng. hreiriaid yn Chang-kia-wan. Newyddion o Shanghai a hysbysant fod pob peth yn dawel yno. Yr oedd y gwrtbryfelwyr ynbygwth ymosod ar Hangchan.' Cymmerodd Syr Charles Macartby lywyddiaeth Ceylon M o Hydref.