Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

[No title]

News
Cite
Share

iddi ddychwelyd i Ffrainc. Dyben ei hymweliad a'r wlad hon yw adnewyddu ei hiechyd. CATH RYFEDD.—Mae genym lawer o hanesion, ac o engtireifftiau nodedig am gyfrwysder, neu synwyroldeb cwn 9 a ebathod, a'r anwyldeb sydd ganddynt tuag at eu cartref; ac y mae yr hanesyn canlynol yn deilwng o gaei ei gofnodi yn mhlith y cyfryw. Am wirionedd yr hanesyn, ni raid i neb amniheu y gronyn lleiaf, gan fod y personau yn eithaf adnabyddus yn y dref y dygwyddodd. Yr amgylcbiadau sydd fel y canlyn :-Ar y dydd cyntaf 0 lonawr dwy flynedd yn ol, darfu i Mr. Henry Hasted, o Middlesbro-on.. Tees, anfon cwrcath deunaw mis o oedran igyfaill iddo yn Liundaiii,, gyda'r William and Jane, briglong dan ofal Capt. Judge. Ar y fordaith i fyuy, dangosodd poor tobby bob anfoddlonijwydd i'w sefyllfa, ac ymguddiai ei hun o'r golwg mor ami ag y gallai. Nid cynt, beth bynag, nag y cyr- haeddodd y llestr Llundain, a nesu o horn i ymyl y Pheenix Wharf, nag y rboddodd puss naid i'r lan, a chollwyd pob golwg arno ganddynt mwyach. Pa fodd y gwnaeth ei lwybr trwy heolydd llawn Llundain sydd ddirgelwch, ond V mae yn ymddangos iddo wneyd felly, a chychwyn d daith heb un cyfarwyddwr i'w arwain, na chyfaill i'w gysmo. Dim mwy ni chlywyd son am dano hyd y 14eg o Chwefror, pryd, er syndod i'r teulu, y gwnaeth ei ym- ddangosiad yn ei hen gartref, wedi teithio, wi th bob tebyg, -dros 200 o filltiroedd. Cafodd y creadur tlawd a gwael yr olwg dderbyniad croesawus gan ei hen gyfeillion ar ol ei daith hirfaith a newynllyd. Cymmerodd ei hen le yn y cornel wrth y tan ac er fod ei esgyrn bron trwy ei gnawd, a'i natur bron wedi darfod, yr oedd ei lygaid yn dechreu lloni wrth weled y cyfan yn ei le yn y t9. Talwyd pob sylw a charedigrwydd iddo, ond gormod gwaith oedd adnew- yddu riatur oedd wedi ei lladd a dydd Llun, yr 28ain o Chwefror, bu farw. Pa fodd y llwyddodd i deithio y fath ffordd i'w dref enedigol, a'r t9 yo mha un ei magwyd, sydd ddirgelwch. Ond dyna fel y bu. AB ARTHUR. YMVELIAD AMHERAWDWR Y FFRANCOD A LLUN- DAIN.-Prydnawn dydd lau cyn y diweddaf, taenid y gair yn Llundain fod Amherawdwr y Ffrancod ar ei daith i Lundain, gyda'r gerbydres o Portsmoth. Ymledodd y newydd fel tan gwyllt. Aeth corff mawr o heddgeidwaid i orsaf yffordd haiarn. Aeth heddgeidwaid dirgelaidd Ffrainc hefyd, a ddefnyddir yn Llundain, yno; ond yr unig- debygolrwydd o bresenoldeb yr Amherawdwr oedd dyn gyda thrwyn hir a barf-fawr. Cynnyrchodd yr ad- roddiad cryn deimlad yn Llundain am beth amser. Er hyn oil, dywedir fod yr amberawdwr yn bwriadu talu ymweliad fi Windsor cyn gynted ag y cyrhaedda yr amherodres yno. ST. GEORGEIN-THE-EAST.—Dydd Gwener, Tach, 23, mewn canlyniad i rybydd oddiwrth Esgob Llundain, sym- udwyd yr allor uchaf, y cahwyllbrenau, y croesau, a'radd- urniadau Pabaidd ereill, yn eglwys plwyf St. George-in- the-East, gan Mr. Thomas, warden hynaf yr eglwys, a gosodwyd bretbyn newydd dros.fwrdd y cymmun yn yr allor. Y mae yr allor yn awr yn ymddangos bron yn hollol fel yr oedd cyn i'r Parch. Bryan King gael meddiant o'r fywiolaeth. Rhoddwyd rhybydd hefyd i'r warden yn gwahardd i neb, oddieithr y clerigwyr a fyddo yn gwasan- aethu, i ymddangos yn yr egIwys mewn gwenwisg. Rhydd hyn attalfa ar gantorion Bryan King rhag conu yr hymnau Pabaidd mewn gwirionedd, y mae y wcrdeniaid wedi penderfynu attal y cantorion rhag cymmeryd un rhan yn y gwasanaeth. Y mae y ddau rybydd a anfonwyd gan yr esgob i'r wardeniaid 'yn ddinystr llwyr i'r holl ddefodau Puseyaidd yn Eglwys St. George in-the-East, ac yn fuddngoliaeth nodedig i Brotestaniaeth. Rhydd hyn ddigon ^o" foddlonrwydd i'r plwyfolion, fel ra chodant un terfysg mwyach. LLOPRUDDXAETH ROAD.—Dydd badwrn, Tach. 24, gwnaeth y Cyfreithiwr Cyifredinol gais yn Llys y Frenines am ymchwiliad pellach i'r amgylchiadau cyssylltiedig a marwolaeth Francis Seville Kent, yn Road. Y ffurf yn inha un y. gwnaed y caia oedd, fod i adroddiad y treng- bolydd gael ei ddiddymu, a bod i ddirprwyaeth arbeDig gael ei happwyntio i wneyd ymchwiliad manwl i'r achos. Rhoddodd y boneddwr dysgedig adroddiad byr o'r tyatiol- aethau a roddwyd o fiaen y trengholydd a honai nad oeddid wedi cydffurfie k dymuniad y rheithwyr am lawn ymchwiliad. Dywedodd y trengholydd wrth y rheithwyr mai nid eu gorchwyl hwy oedd chwilio pwy oedd wedi cyf- lawnu y weithred, ond yn unig pafodd y cyflawnwyd hi., Yr oedd hyn, meddai y Cyfreithiwr Cyffredinol, yn droseda o Ddeddf ymchwiliad trengholydd." Yn mhellach, fe wnaed yr ymchwiliad ar bapyr, yn lie ar groen, felyr. oedd y ddeddf yn cyfarwyddo; ae yr oedd y Cyfreithiwr Cyffredinol o'r farn fodhyny yn dinystrio cyfreithlondeb ymchwiliad y trengholydd. Dadleuwyd yr achos yn gyflawn, ac o'r diwedd, caniatawyd y cais, trwy yr hyny galluogir y trengholydd i ddangos, os gall, paham na ddylid gwneyd ymchwiliad peHach t'r achos. WYTHNOS o WJCDDIAD YN 1861.—Ymddengys oddi- wrth'y cyfnodolion Americaidd fod Henaduriaethau yr Eg- lwys Bresbyteraidd yn yr Unol Daleithiau wedi penrlerfynu annog eu pobl i gadw yr ail wythnos yn Ionawr, 1861- gan ddechreu ar ddydd Llun yn yr wythnos "°"07"v_ tymhor i offryinu gweddiau arbenig am dywalltia } Ysbryd Glan ar bob cnawd, er adfywio yr eglwys, ac achub y byd. Y mae enwadau ereill wedi penderfynu ma wy iadu yr un cwrs, mewn cydffurfiad A cliais y cena on y Calcutta, fel ag y byddo y symudiad yn gyffredinol y America, yn g)stal ag yn y wlad hon. CYFOETH TYWYSO& CYMB.u.—Dichon na byddyn an- nyddorol gan ein darllenwyr glywed fod Tywysog CymrU, yn armibynol ar ei fod yn etifedd i orsedd Prydain Fawr, hefyd yn un o' rrhai eyfoethocaf yn yr oes, a bod ganddo yn bre'senol saith gan mil o bunnau mewn arian, heb law ei etifeddiaeth gvnnyddol. Y mae y swm aruthrol yma wedi codi oddiwrth weddill cyllid Dugiaeth Cornwall, i'r hon y daeth efe yn etifedd yn ddioed ar olei enedigaeth, a'r hon sydd wedi chwyddo er y pryd hwnw, ac fe bery y dryaorfa hon i gynnyddu hyd nes y bydd efe, fel deiliaid ereill y frenines, yn un ar ugain mlwydd oed fel erbyn y pryd hwnw, y bydd swm yr arian fydd ganddo yn agos i filiwn o bunnau. ESGOBAETH WORCESTER.—CrybwylHr amryw enwau ag sydd yn debyg o ddilyn y diweddar Esgob Worcester. Enwir Deon Trench o Wincester fel un tebygol o gael y lie ond meddylir ei fod yn rhy efengylaiddi feddugobS.ith tra y bydd Iarll Shaftesbury yn meddu awdurdod i benodi un i'r esgobaeth. Enwir Dr. Stanley, proffeswr hanes- iaeth eglwysig yn Rbydychain; Dr. Jennie, athraw Penfro Dr. Hessey a Mr. Champneys, ficer St. Pancras; Dr. Miller, Birminghnm; a Dr. Peel, deon presenol Wor- cester. Y mae marwolaeth Esgob Worcester yn rhoddi eisteddle yn Uli^ yr Arglwydd i Dr. Waldegrave, Esgob presenol Carlisle; fel yr esgob ieuengaf ar y fainc, bydd raid i'w arglwyddiaeth ddarllen y gweddiau bob dydd yn y Ty. ARIAN Y P ASG.-Dywed y, Manchester Examiner fod John Newton, crydd, Accrington, hyd yma wedi gwrthod talu y swm a ofynir ganddo, ar y sail mai offrymau gwjr- foddol oedd arian y Pasg, ac mai trwy ddefod yn unig, ac nid trwy gyfraith, yr oeddynt yn ddyledus; ac yn ddiweddar, gwasanaethwyd ef a rhybydd oddiwrth gyf- reithiwr y clerigwyr a roddasant gyfraith arno ef, i'r pwr- pas, os na bydd iddo ef dalu y swm o lie. (arian dau Basg), o fewn deng niwrnod, yn ol gorchymyn yr ynadon, ac hefyd 10s. o gostau yr attafaelir ac y gwerthir digon o'i eiddo i'w talu. Mae Newton wedi penderfynu herio y rhybydd olal hwn trwy wrthod talu a dysgwylir y bydd iddowrthwyn- ebu attafaeliad yr eiddo sydd ganddo. Mae cymdeithas Accrington er gwrthwynebu arian y Pasg, yr hon sydd yn rhifo 2,000 o aelodau, yn benderfynol i ddefnyddio mesurau yn ddioed, os attafaelir yr eiddo, i gvnbyrfu yr holl wlad i'r dyben o Iwyr ddiddymu arian yHfasg fel peth annghy iawn a gormesol.