Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
■ i Iisj.-,
News
Cite
Share
■ i Iisj. PWNC AR Y DRYDEDD BENNOD 0 DANIEL. GAN Y PARCH. T. LEWIS, RHUMNI. UN o ragoriaethau yr oes bresennol yn Nghymru yw yr ymdrech a wneir gan weinidogion yr efengyl i ddarparu pjnciau ar wahanol destunau dyddorol at wasanaeth yr Ysgol Sabbathol. Amcan blaenaf ein hanwyl trawd Lewis oedd darparu y pwnc hwn at wasanaeth yr Ysgol yn Jer- usalem, Rhumni, a da genyin ddeall ei fod wedi cyhoeddi mwy nag oedd angen ar yr ysgol hono, a bod cyfle yo awr i ysgolion ereill i'w gael. Mae y pwnc yn rhoddi darluniad byr ond cynnwysfawr o'r Brenin Nebuchodon- osor-ei waith yn codi y ddelw fawr yn Ngwastadedd Dura-gwrthodiad y tri llanc i blygu iddi-eu cosp gan y Brenin—eu gweredigaeth gan Dduw—eu dyrchafiad yn y wladwriaeth. Y na cawn amry w o addysgiadau yn codi yn naturiol oddiwrth yr hanes. Mae y pwnc yn cynnwys 43 o holiadau ac atebion yr oil yn syml a dirodres, tra yn dwyn isylw y gwrandawwyr enaia y bennod sydd yn cynnwys prif hanes y brenin dan sylw. Am bris y pwnc -y ffordd i'w gael, &c., cvfeiriwn y datfllenydd at hys- bysiad o hono yn ein rhifyn presennol. Yr ydym yn ei gymmeradwyo yn galonog i sylw ein hysgolion.
NID YDYM TH YSTYRIED KIN HUNAIN…
News
Cite
Share
NID YDYM TH YSTYRIED KIN HUNAIN YN GTFRIFOL AM SYN- IADAU BIN GOHBBWYE. GAIR AT MR. "LLEW O'R LLAN." Syr,-Mae yn wir fod pethau yn cyfnewid gyda'r oes-rhai pethau er eu gwell, ac ereill er eu gwaeth canys mewn byd sydd yn llawri o gyfnewidiadau yr ydym yn byw. Tebygaf hefyd fod llawer o gyfnewidiadau yn perthyn i chwithau Yr ydych wedi cyfnewid llawer er pan y bum yn ymddyddan a chwi. Yr oeddech y pryd hwnw (gallem feddwl) yn oen; ond erbyn hyn yr ydych wedi cyfnewid o fod yn oen i fod yn Hew. Gresyn na fuabech wedi myned yn flaidd. Y mdden- gys i mi eich bod wedi rhoddi desgrifiad cywir o honoch eich hunan yn eich enw boneddigaidd, aef, Llew." Ymddengys oddiwrth hyn eich bod yn feddiannol ar galon, natur, creulondeb, yn nghyd a rhuadau Llewaidd; ac o ganlyniad, nidrhyfedd eich bod wedi ymgymmeryd Sgorchwyl o'r natur a gymmerasoch. Dymunaf eich hysbysu, Mr. LI., fod ugeiniau wedi clywed y dyhiryn hwnw yn cyhoeddi y Parch. D— yn y man crybwylledig heboch chwi, ac o bossibl, yn gystal ysgrifenwyr a chwithau; ond y mae eich •gwaita chwi yn ei anfon i'r SEREN yn profi mai chwi yw y "Gwas Twt," fel y dywedir. Y gwirionedd yvi hyn ni chlywsocji chwi eich hunan ddim o hono yn ei gyhoeddi; ac o ganlyniadt rhywbeth o ben i ben sydd genych yn destun eich gwawd a c dirmyg. Anwyl Syr,—Bydded hysbys i chwi, mai n'd draul diraddio cymmeriadau pobl ereill y mae i chwi gyrnaeti anrhydedd ac enwogrwydd. Os pecha dy trawd.i'th d6s ac argyhoedda ef rhv'ngot ag ef ei hun acnid eigyh°e at £ ae% mar eang ft uae» SEREN CYMRU, Ymestynwc"
YIt ERLIDIGAETH YN SIR ABERTElFI.
News
Cite
Share
boll eiddo i gyd ar d&n. Y maent eisieu i'r deiliaid gael rhyddid i addoli Ue y raycoat, ac os daw rhy w ddeiliai d lyn lie y rhai yna, byddant yn sior o roddi eu tai a'u byd- lanoedd oil ar d&n. Nid wyf yn gwybod a ydych i gael lythyr yn gyntaf. Nid ydynt yn meddwl gwneyd dirn i'ch pallls tro cyntaf, 09 na byddwch chwi yno; ond y mae yn meddwl ei lwyr ddinystrio yr ail waith. Byddant tua 120 o rifedi; ac y maent yn meddwl dial eu llid ar eich morwyn. Nid wyf yn gwybod ei henw yn iawn. Yr wyf yn meddwl mai Jane ydyw. Y maent wedi clywed fod hono yn eich annog i ddial ar eich deiliaid. Y mae hono yn sicr o fod mewn perygl mawr am ei bywyd os dint gyfle ami; gwnant eu saethu os cant eu gweled, waith, bydd ganddynt ddrylliau It phistolion. Chwi a ellwch fy nghoelio ar fy ngair yr wyf flnau yn aelod yn yreglwys er ys dros ugain mlynedd. Os eaf fi wybod pa bryd y deuant, mi a anfonaf atoch etto. Nid yw fy ngwas yn gwybod yn iawn, waith y mae ef wedi bod yn sal (claf), ac yn methu a rayned i'w cyfarfodydd yn awr. Yn wir, yr wyf yn ofni fod yn well i chwi eu gadael yn llonydd, rhag i chwi beryglu eich meddiannau a'ch bywyd. Terfynaf yn awr, gan ddymuno eich llwyddiant yn fawr. Ctlie Aeron." W. Y." Yn ddiddadl, dylid gwneyd pob ymdrech tuag at ddyfod ohyd i awdwr y llythyr dieflig yna. Haera Clericus mai gwaith Ymneillduwyr ydyw. Ond y farn fwyaf cyffiedin- ol yw, mai Eglwyswyr a'i danfonodd er mwyn pardduo yr ochr arall, ac i gynddeiriogi yr hen ferch yn fwy i'w herbyn. Wedi i champion eglwys Llanddeiniol, yn ol ei cbyf- addefiad wrth ddau fcerson cyfrifol a pharchus yn y gymmydogaeth, ddysgwyl am ddwy, tair, a phedair o flynyddoedd wcledffrwytb ar ei tlienantiaid, ond yn ofer ac yn awr," meddai, nid oes genyf dim i'w wneyd Ond—eu—hanfon—ymaith." Gydag atihawsder dirfawr y 11 farodd hi y geiriau yna. Dyfod yn aelod o'r Eglwys Wlid.<l, cofier. oedd y ffrwyth a ddysgwyliai. Ond gan nad oedd fawr o argoel am y fath ffrwyth toreithiog, dir. mynodd rhaff ei hamynedd i'r pen; a thori i lawr oedd y canyniad. Ac ar y 12fed dydd o fis Medi diweddaf, gwelsom glarop o Glerc Cyfreithiwr, o'r enw George Morice (nai, fab brawd i Mari Morice) yn marrbogaeth o dt i'w gilydd ar hyd yr ardal, gan adael,y notice to quit )n nhai y tenantiaid ditfrwyth. Hawddach i ti, ddarllen- ydd, ddychymmygu nag i mi allu darlunio yr effaitb a achOiwyd gan y weithrtd mewn Jlaner teulu hoff a pharch- us. Ac erbyn ystyried, nidi teimlad bychan chwaith i rai 0 bonynt, ydyw meddwl ymadael a'u hanneddau, lie y cawsant eu geni a'u magu-ymadael a'r aelwyd y eollodd eu rhieni duwiol gymmaint o ddagrau arni pan yn dwyn eu bachos gerbron Duw mewn gweddiau ac YUlbiliau- wrth feddwl mai oddirhwng y muriau hyny y gollyngas- ant eu hysbryd ehedeg i fynwes eu Tad—wrth adgofio am y cynghorion dwys a difrifol a gawsant ganddynt, dan deimladau annghyffredin o gythryblus, wrth orfod eu gadael yn amddifaid yn y byd profedigaethus hwnie, meddaf, wrth ystyried y pethau hyn oil, y mae yn an- mhosibl i'w plant lai na theimlo wrth feddwl ymadael o honynt. Ni ddangoswyd perffeithiach egwyddorion erlidig- aeth erioed na ciian yr hen foneddiges hon naddo, hyd y nod gan Nero a'i ganlynwyrcreulon yn Rhufain, a Mari ac ereill yn Lloegr. Ni wnaethant hwy ond detnyudio yr awdurdodau oedd ganddynt o blaid eu mympwy. Yr un modd yn union y mae Mari Morice. Y mae hithau yn gwneyd yr hyn oil sydd yn ei gaUu a phan y gwelom ddyn yn gwneyd ei oreu, y mae yn rhesymol i ni gasglu y gwnelai fwy pe gallai. Yn wir, erbyn dwys ystyried ei gweithred anfad ac ysgeler, yr ydym dan orfod i'w rhestru yn un o'r rbai mwyaf creulon a fu erioed. Y mae Mar Morice, Carog, yn gwneyd gwaeth peth na Mari Waedlyd. Dear me, yn waeth ïe, yn waeth. Dygodd yr olaf rai o'r dynion goreu a sangodd ar yr hen ddaear yma at y stanc, i'w llosgi a ffagodau, yr hyn nad yw y flaenaf wedi wDeJd. Nid iddi hi y vom diolch, ddarllenydd boff; ni feiddia wneyd hyny. Ond y <nae yn gyru Ymneillduwyr tlodion yn grwydriaid digartref ar hyd y byd-eu hym: ddifadu o holl gysuron y bywyd hwn; ie, eu newynu i farwolaeth ac y mae y llyfr Dwyfol yn dweyd yn ben- dant, mai gwell yw i'r rhai a leddir a'r cleddyf na'r rhai a ddihoenant o eisieu cnwd y maes a phe delai pob tirfeddiannydd i'r un meddwl, ae i ddilyn yr un pender- fyniad, a Mari Carog, a'i chefoogydd Clericus, byddai raid i'r trueiniaid fyned i ochrau y ffyrdd, i dyllau ac ogofeydd y mynyddoedd, i ymlochesu rhag yr ystormydd, ac yn y diwedd farw o newyn. Bool anwyl, y mae arnom rwymau fyrdd i ddiolch i'r Penllywodraethwr mawr am mai ar orsedd Carog, ac nid ar orsedd Prydain, y mae y fenyw hon yn eistedd oblegid pe felly y buasai, cawsai miloedd ar filoedd o drigolion y Deyrnas Gyfunol eu merthyru yr wythaoiau hyn. CARWR RHYDDID CRSFYDDOL.