Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

RHYDDID CYDWYBOD CARROG.

News
Cite
Share

RHYDDID CYDWYBOD CARROG. Gwnawd darganfyddiad hynod, 0 bwys i'r bydyssawd, pa ddydd, Gan Clericus a'i feistres, Beth ydyw cydwybod rydd. Esbonir y darganfyddiad Gan ddeiliaid Llanddeiniol mwy, Wrth grwydro ar led heb eu ffermydd, Neu Amenu yn eglwys y plwy Dyn gonest heb ei fferm, Neu spaniel efo llwynog, Yn dweyd eu pader yn eglwys y plwy', Yw rhyddid cydwybod Carrog. Ha! Ha I Cydwybod rydd i Carrog. Rhyw nos breuddwydiai Cleric, Fod Satan 'n ymrithio 'n y ply', 'I Gan erchi "newid dy grefydd, Neu fforffetiar boll ddegwm i mi." 0 Sir 'be Cleric, I'm willing I newid fy nghrefydd, or more, ( Ond anwyl yw'm cylla a'm cefen,) You know, Sir, I have done so before." Y Lady efo'i chath, I A Cleric yn ei gassog, Yn rhifo'r ystlumod yn eglwys y plwy', ° Yw rhyddid cydwybod Carrog. Hwre! Cydwybod rydd i Carrog I Daeth gwrach-y-rhibyn, meddant, » I 'mgomio efo'r santes flydd, Gan ddweyd, R'ych at eich dewis, 'Rwyln caru cydwybod rydd, Rbowch fyny 'ch t^ a'ch cyfoeth, Neu gorweddwch 'n yr afon trwy'r nos, Unwaith yr wythnos o leiaf, Gan gadw eich hunan yn glos." ■ Rheumatics a'r afon a rhew A'r lady ddim yn foddog I A Cleric yn mwmian yn eglwysy plwy', Am ryddid cydwybod Carrog! 'Tis co-old I Cydwybod rydd i Carrog I Breuddwydais i Cleric dderbyn — Gorchymyn o'r eglwys wen, Yn union i gasglu'r gwenolAid, Neu sefyll am fis ar ei ben "Roedcl at ei ewyllys i ddewis,' Ac felly heb le bod yn gas, 'Nol canon rhyddid cydwybod, Dan gamwedd a wnant un gras. Y wenol b'le gebyst mae ? Cleric, a'i ben ar y fawnog, Yn rhegu'n ofnatsan hen eglwys y plwy', A rhyddid eydwybod Carrog! Too bad! Cydwybod rydd i Carrog! Yr eiddot tan y tro nesaf, YR HEN HELIWB.

YIt ERLIDIGAETH YN SIR ABERTElFI.