Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

AT Y DYN YN Y LLEUAD.

News
Cite
Share

AT Y DYN YN Y LLEUAD. DYNA le'r wyt ti, yn ddigon tawel a digyffro, yn union gyferbyn a ffenestr fy ystafell, er ei bod hi cyn oered ag i sythu'r brain." Yn wir, yr wyt Iawer tewach dy groen na'th gorcspondydd clodwiw, onide, buasai'n brofedigaeth i ti daro matchen, a rhoddi tan yn dy bigaid ddrain, er mor anwyl y mae yn rhaid ei bod genyt erbyn hyn, os nad oes tanwydd ereill at law ar noswyl fel hon. Y mae y gwynt sychlyd, miniog, blingol ( dyria i ti air ) yn chwythu mor llidus a digofus o gylch y ty, nes y mae dyn yn teimlo mor werthfawr yw tý a than a chanig ar adeg fel hon, ac yn cael ei adgofio am eiriau Dafydd ab Gwilym, Yr wybrwynt, helynt hylaw, Agwrdd drwst a gerdda draw G wr oer ias wyd, garw ei sain .•>:i; Drud byd, heb droeu heb adain. A Uthr y w, mor aruthr y'th roed, 0 bantri wybr heb untroed, Noethid dwyn cydnithid dail, Ni'th hitia ueb, ni'th attail. Ond dyna oeddwn yn myned i ddweyd (chwedl y wraig ar ol cymmeryd sip o'r ddysgl de) fod rhyw gyfnewidiadau mawrion iawn wedi dygwydd yn hanes llenyddol ein gwlad, a hynv mewn amser hynod o fyr mewn cymhariaeth. Ac nid yn unig y mae cyfnewidiadau wedi cymmeryd lie, a hyny yn fuan iawn ar ol eu gilydd, ond y maeat bron i gyd yn arddangos cynnydd a derchafiad cyflym a diwrth- dro y genedl mewn chwaeth a gwybodaeth. Ar ol i olion diweddafygelfyddydo glera fyned i ddifancoll, daeth i fewn yr hyn a ellid ei alw yn gyfnod yr almanaciau; ac y mae wedi parhau hyd yn ddiweddar iawn, oes nad yw hyd etto heb lwyr ddarfod. Yr wyf fi yn cofio gystal a thithau amser pan yr oedd holl lyfrgell Ilawer ty yn cael ei gwneyd i fyny ( heblaw y Reibl) o swrn cryno, ond difwynedig, o almanaciau, yr hwn a gynnyddaimewn mantioli yn ol y radd o werth ceiniog y flwyddyn. Byddai clywed ambell ddyn yn siarad yn ysgolheigaidd am Apogee a Pherigee, a'r arwyddion," yn brawf uniongyrchol o adnabyddiaeth drylwyr y siaradwrd chwnnwys y Cyfaill," neu y Llyfr Bach;" ond er y cyfan, taenwyd llawer o wybodaeth fuddiol gan yr almanaciau, a bu dynion enwog yn eu cy- hoeddi, megys Sion Rhydderch, Sion Prys, a John Roberts, Caergybi. Y cyntaf i gyhoeddi almanac Cymraeg (am a wn I) oedd yr enwog a'r galluog Thomas Jones, o Lundain, yr hwn a ddechreuodd gyhoeddi ei gyfres vn 1680. Dechreuodd "cyfnod y cylchgronan," yn 0. C. 1770, pan gyhoeddwyd yn Nghaerfyrddin Yr Eurgrawn Cym- raeg," dan olygiaeth, medd awdwr galluog yn y "Traeth- odydd," y Parch. Josiah Rees, Gelligron, Morganwg. Onid yw yn resyn fod cyn lleied o wybodaeth a sou am y dyn mawr hwn ? Pwy wel yn dda i roddi i'r byd ychydig o hanes ei fywyd ? Nid yw yn ymddangos i un cylchgrawn fod yn lIwyddiannus i ddàl ei dir am amser maith nes sefydlwyd "Seren Gomer" gan y cloddfawr Josephs Harris, yn 1810. Wel, dyna oeddwn yn hal ato," mor ddiweddar mewn cymhariaeth y cymmerodd hyna *e' Dimond hanner canrif yn ol! ac etto mor wahanol yW; agwydd pethau yn awr i'r hyn oedd pan gychwynodd Gomer ei Seran. Nid wyf yn gwybod yn gymhwys plio bryd y dechreuodd "cyfnod y Newyddiaduron" yn Nghymru, ond erbyn heddyw y maent yn gorchuddio Y wlad. Y mae pob dyn o ddeall a diwylliad cyffredin erbyn heddyw yn derbyn ei newyddiadur, ac yn gryn dipyn 0 bolitician. Achos llawenydd yn ddiammheu ydyw BYDP ac ni ddylem fod heb ddiolch fod agwedd lenyddol eiri gwlad yn y dyddiau hyn mor fodilhaus ag ydyw. LInoS- oged etto y newyddiaduron a'u darllenwyr, a gofaler a01 fod cynnwys pob cyhoeddiad yn gyfryw ag i wella, goleuO, a derchafu ei ddarllenyddion. Golwg gysurus ar betbaU ydyw fod cymmaint o weinidogion yr Efengyl--dyniOnAlo egwyddor, o brofiad, ac o ddysg, yn ymgymmeryd a r gwaith o olygu a llywyddu gweithrediadau y wasg. Ond a oes dim perygl i ddynion fyned i eithafoedd gyda y NeW- yddiaduron ? Ni fynwn er dim weled llai o gyhoeddi a darllen ar y rhai hyn ond ni fynem hefyd weled fy ngbyd- wladwyr yn myned i'r naill ochr ag y mae llawer ° l Saeson wedi myned iddo, sef yw hyny, darllen Newyddiad- uron yn unig. Nid amcan y rhai hyn ydyw difodi yr angen am lyfrau a chyhoeddiadau mwy sylweddol. Wrtl1 Newyddiadur, fe welir, yr wyf yn deaU cyhoeddiad ag a fyddo yn ymdrin a gwleidiadaeth a helyntion y dydd y1) unig, neu yn benaf. Pan y mae y rhai hyn yn lluosogj mor gyflym ag y maent yn y dyddiau presenol, mae peryg i'r wet-in gael eu cymmeryd i fyny gyda dyddordeb petbaft o'r fath ar draul esgeuluso cynnyrchion o natur mwy sy'" weddol a pharhaus. Na chamsynier fv meddwl. Nid wy* yn ol i neb mewn parch i'r Newyddiaduron, fel y eyfryVi, ac yr wyf yn sicr y cynnydda y darlleniad o honynt fel f byddo gwybodaeth yn amlhau ond nid wyf yn foddloQ i un meddwl ymorphwys ac ymdawelu heb ymofyn 31Il Y wybodaeth a'r ddiwylliaeth hono nad ydyw i'w chael he; ddwfn fyfyrio cyhoeddiadau o fwy pwys, ac o ddefnyddiolde mwy parhaol. Corach o feddwl wedi'r ewbl fydd hwnw na cha ei borthi ar ddim ond cynnyrchion y Newyddiadur- on, er cygystal ydynt hwy yn eu lie priodol. Nid y*- cynnwys holl Newyddiaduron y D^wysogaeth, neu, yn"irj y deyrnas, yn ddegwm digon i achlesu a dadblygu yn iawn. Ac wrth siarad am gynnwys Newyddiadur* priodol fyddai cofio fod rhai rhanau o bob un yn fwy pwy. we sig mewn ystyr addysgiadol nag ereill. Cefeis boen lawer gwaith wrtli weled fod rhanau sylweddol a gwertbf*^ Newyddiadur yn cael eu gadael yn hollol ddisylw gan laff" eroedd. Darllenir, ac adroddir, ac ail ddarllenir yr ion bychain am dygwyddiadau dibwys mewn cymhariae megys cyfarfod ysgolion, cyngherdd, dal lleidr, darga"3^' twyll, &c., tra y mae yr erthyglau pwysig, a mwy cynre inol eu natur, yn cael eu gadael ar ol. Nid ydyw hyn eff'aith afiechyd chwaeth, yr hyn sydd yn achosi fod pet byrion, hanesyddol, o'r natur yma, yn unig yn ddyd"°!fj i'r meddwl. Darllener yr oil, ond na rodder sylw cydra i bob peth. Na fydded i neb goglais ei feddwl yn ar y wyneb, trwy ymofyn yn barhaus am ddim ond newydd-deb cyfnewidiol. Ond y mae yn rhaid i flrwyno yr ysgrifell rhag i'r bechgyn yna feddwl fy yn myned i brejethu gormod yn fy ymgom diniwed a uchelder. O! bum bron ag annghofio! A wyt p adnabod Mary Morice, Carrog, a Clericus yr ^aU Wrth fy mod yn edrych am game echdoe, cefais ,3aPyrt.^n nghanol dreinen ddu, a chanjjn ysgrifenedig arno, tes « pa un, os wyf yn ei ddeall I yn iawn, sydd yn yD0W^(j. rhywbeth a Carrog Fe alIai mai y gwynt a'i chwytn oddiyno yma, pwy wyr ? Ond rhodaf i ti gopi o honijr a fyno. Fe allai y chywet ar dy galon ei chanu basiolr Ile y tro nesaf.

LLYTHYRAU CYFEILLGAR.