Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Yr Y m080rliad ar y Gwersyll…

News
Cite
Share

Yr Y m080rliad ar y Gwersyll yn Tang-Kow. Yr oedd y gwersyll gwrthgloddiedig yn Tang- kow ar ffurf hanner lleuad, gyda'r ddau beu yn gorphwys ar yr afon. Yr oeddy muriau uwchlaw tair milltir o hyd, ac nis gellid amddiffyn y lIe yn briodol gyda llai nag 8,000 neu 10,000 o wyr. PenderiYllwyd fod yr ymosodiad gael ei wneyd ar y 14eg, o'r ochr ddeheu i'r mur—y Saeson ar yr ochr ddeheu i fyny yr afon, a'r Ffrancod ar yr ochr aswy i fyny at y ffOldd ac yr oeddy milwyr i fod o dan arfau am chwech o'r gloch boreu dranoeth. Wedi gwneyd pob peth yn barod, aeth y llinellyn mlaen, y cyflegrau yn gyntat. Yr oedd gan y Ffrancod ddwy gyflegrfa o reifflfagnelau, fel ag yr agorodd 42 o fagnelau eu titi ar yr amddiffynfa mewn 20 mynyd i wyth o'r gloch. Atebodd y rartariaid yn ddioed, a dangosasant eu bod yn meddu nifer mawr o fagnelau, ond eu bod yn rhai bychain. Ar ol tanio am beth amser, buont yo ddystaw am ychydig fynydau. Am hanner awr wedi wyth o'r gloch, aeth y llinell yn mlaen drachefn, ac agorodd y magnelau eu tan o fewn 400 o latheni. Yr oedd y tanio yn fawreddog o ochr y Ffrancod a ninnau, ond daeth tbagoriaeth magnelau Armstrong ar reiffl fagnelau y Ffrancod yn amlwg. Wedi dystewi y magnelau Chineaidd, gorchymynwyd i'r gwyr traed fyned yn mlaen 1 mewn i'r arnddyffynfa, a dilynwyd hwynt gan y Ffrancod. Cymmerodd yr ail adran, o dan lywyddiaeth y Cadfridog Napier, feddiant o Tang-kow.

Cymmeriad Amddiffynfeydd Taku.

Jattt5iø'tt ŒUffX'thittø't