Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MARWOLAETH SYR CHARLES NAPIER.

News
Cite
Share

MARWOLAETH SYR CHARLES NAPIER. Bore dydd Mawrth.y 6ed o'r mis hwn, bu y llyngesydd enwog Syr Charles Napier farw yn ei balas, Merchiston Hall, Hants, yn 74 mlwydd oed. Ganwyd Syr Charles, Mawrth 7, 1786; ac ymunodd a'r llynges yn 1799j ar fwrdd y llestr Martin. Yn 1800, symudwyd ef i orsaf MSr y Canoldir. Ymaa efe a gymmerodd ran mewn amryw o fan frwydrau rhwng yr amser yma ac Awst 1808, pan y torwyd ei forddwyd gan ergyd mewn brwydr allong rhyfel Ffrengig. Y flwyddyn nesàf, efe a gynnorthwyodd i ddarostwng Martinique, ac efe oedd y cyntaf a aeth dros y muriau. Am ei wroldeb yma, ac mewn brwydr ganlynol, gwnaed ef yn gadben; efe a wasanaethodd ar y tir am dymhor byr ar ol hyn fel ^wirfoddolwr yn Yspaen. Yn 1811, yr ydym yn ei gael yn ymladd ar lenydd Sicily, ger Talinuro, bryniau yr hon a gariodd efe dan dan dinystriol, ac wedi hyny efe a gymmerodd amryw o longau y gelyiu Yn 1813, efe a wasanaethodd yn Ngogledd America, ac ennillodd ddiolchgarwch Cadben Gordon am ei gefnog- aeth yn y rhyfelgyrch yn erbyn Baltimore. Gan iddo gael ei dalu ymaith ar ddiwedd y rhyfel yn 1829, pryd yr anfonwyd ef allan ar wasanaeth arbenig i lenydd Portugal, i'r dyben o orfodi Don Miguel i adferu llongau y rhai yr oedd efe wedi eu cymmeryd yn wrthwyneb i gyfraith cen- edloedd. Wedi iddo gael eu appwyntio i lywyddu llynges Portugal yn 1833, efe a ymladdodd a llynges Don Miguel, ac ennillodd fuddugoliaeth ogoneddus i Don Pedro, am yr hyn y gwobrwyodd -yr Amherawdwr ef a'r swydd o lyngesydd llynges Portugal, a'r teitl o Is-iarll Cape St. Vincent, ac Urdd y T*r a'r Cleddyf. Parodd y driniaeth a ddyoddefodd ar ol byn yn Portugal iddo roddi ei swydd i fyny, a dychwelyd i Loegr. Yn 1839, appwyntiwyd ef yn ail mewn llywyddiaeth o dan y diweddar Lyngesydd Syr Robert Stopford. yr hwn oedd y pryd hwnw yn llywydd ar orsaf Mor y Canoldir. Yma efe a gymmerodd ran arbenig yn yr boll weithred- iadau yr lenydd Syria, ystormio Sidon, gorchfygiad Ibrahim Pasha, ger Beyrout, a gwarchae Acre, yr hon a gymmerwyd ganddo. Drwy ei ymddygiad yma, yn gystal a thrwy ei wasanaeth yn Portugal, yr oedd y Cadben Napier wedi ennill cymmeriad uchel am wrfaldeb a beidd- garwch personol. Ar ol darostwng Acre, efe a aeth yn mlaen i Alexandria, He y rhoddodd efe ei hun yn ben ar ysgwadron Lloegr, a gwnaeth delerau a Mehemet Ali. Am ei wasanaeth yn Syria a'r Aifft, efe a dderbyn- iodd dd;olchgarwch y senedd, a gwnaed ef yn K.C.B., ae anrhegwyd ef a rhan fwyaf o urddau Ilyngesol a milwraidd Ewrop. Yn y flwyddyn ganlynol, efe a ennillodd radd baner, a bu am ddwy flynedd yn Ilywyddu llynges y sianel. Yr oedd Syr Charles Napier wedi bod o'r dyddiau boreuaf yn amddiffynydd diwygiad Ilyngesol, ar yr hwn bwnc yr ysgrifenodd efe lawer o lythyran i'r newyddiad- uron. Yn 1849, cymmerwyd llywyddiaeth Uynges y sianel oddiarno ond pan dorodd y rbyfel â Rwsia allan yn 1854, yr oedd Ilais y wlad mor gryf o'i blaid fel y tueddwyd y weinyddiaeth i roddi llywyddiaeth y Baltic o dan ei ofal. Efe a adawodd lenydd LJoegr gydag ymffrost, gan ddad- gan y byddai efe yn Cronstadt yu mhen y mis. Wedi cyrhaedd i'r parthau hyny, modd bynag, efe a gafodd amddiffynfa Cronstadt yn anorchfygol; efe a ddycnj odd heb ennill un fuddugoliaeth, o bwys ond dyg" 2 llongau adref heb gael un niwed. Wedi iddo ddychwey.. i Loegr, yn Tachwedd 1855, etholwyd ef i bwrdeisdref Southwark yn lie y diweddar 'Syr Wil*10 Molesworth.

ADRODDIAD Y COFRESTRYDD '…

GWIRFODDOLIAID LLUNDAIN.

^ PRYDAIN FAWR AC ACHOS ITALI.…