Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

AT OLYGYDD SEREN CYMRU.

News
Cite
Share

AT OLYGYDD SEREN CYMRU. ANWYL A PHARCHUS SYR,—Y mae wedi dygwydd i'n rhan deirgwaith o'r blaen i wneyd sylwadau ar y llythyron cymmeradwyol yma a roddir i Zechariah Thomas, ac a arwyddir yn dywyllodrus dros yr eglwys yn y He hwn. Yn y Seren am Awst 17eg, dangoswyd genym y twyll oedd mewn cyssylltiad a'r llythyr yn y SEREN cyn hj ny yna hwy a aethant i'r Auckland Herald, gan feddwl twyllo y Saeson yn y parthau hyn mewn perthynas i wir gymmeriad y dyn hwn. Darfu i ni drachefn ddangoe y twyll, a'r modd y maent yn gweithredu gyda chreiydd yn yr eglwys hon a chan na ddarfu i ni ond gosod ffeithiau anatebadwy, a gwirioneddau didroiyn ol, o flaen y eyhoedd; y canlyniad yw, yr edrychir arno gan bawb, trwy y wlad hon, ond yr ycliydig sydd yn ei bleidio yn ei ddrwg, fel dyn bollol anaddas i fod mewn cyssylltiad a chrefydd, chwaethacb i feddwl am bregethu. Yn awr, dyma lythyr etto yn y SEREN, ac y mae yn dwyn i'n cofyr hen ddiareb hono, Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid beth bynag, y mae cyfiawnder yn galw arnom i wneyd ychydig sylwadau arno. Gofynwyd gan un yma, pan ddaeth Zechariah yma gyntaf, pa beth oedd y rheswm na cbafodd ei ordeinio yn weinidog yn Nghymru ? A'r ateb gafwyd oedd, fod dyn o'r un enw ag ef wedi gwneyd rhyw ddrwg mewn cyssyllt- iad a rhyw gasgliad arianol yn y gogledd, ac fod gwein- idogion Cymru am gael gafael yn y dyn hwnw cyn ei ordeinio ef. Buom yn hir iawn heb wybod dim am y casgliad hwn, hyd nes y dangoswyd i ni. amlen Seren Gomer am Mehefin, 1857, pryd ein argyhoeddwyd mai hwn oedd y dyn. Gwadodd Zechariah hyn, ac aetha'r Greal am Mawrth, 1859, i d9 Mr. Wm. Davies, 27. Queen St., ac aeth i'w lw yno na wyddai am un casgliad ond yr un sydd a son am dano yn tud. 73 o'r rhifyn hwnw, tuag at Bodffari; ac yn SEREN CYMRU cyn y ddiweddaf, dyma gyfaddefiad yn nghylch y casgliad at Niwburch, Sir Fon. Dyma, anwyl darllenydd, i ti anwiredd a tliwyll, yn y gwadu a'r cyfaddef drachefn, gan y dyn hwn. Ond, meddant, rhoddwn gopi o'r receipt wedi ei dyddio July 16, 1857, wedi ci lawnodi gan H. Williams a G. Roberts, Tyst, E. Davies a phaham yn enw pob synwyr na baent yn gosod y receipt i mewn wedi hyn ? Na, na, digon tebyg nad oes yr un i'w chael, a dyna yr E. Davies yn dyst yn July 16, 1857, ac yn Awst 13, 1860, yn mhen 3 blynedd ai ol hyny, ysgrifena fel y canlyn I consulted your friends," &c. Pa eisieu gwneyd hyn, os oedd ef yn dyst o'r blaen ? Gwybydd hyn, Zechariah, nad oes eisieu eli Uygaid arnom i dy weled yn dy liw priodol. Etto, ddarllenydd, dyna ISfed penderfyniad cymmanfa Llanuwchlyn, yn yr bwn yr hysbysir nad oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr, a rhoddir pob Eglwys ar ei gocheliad rhag ei godi fel pregethwr hyd nes y profo ei hun yn well Cristion. Yn y GREAL am fis Gorphenaf, 1859, tud. 161, ymddangosodd hanes y Gymmanfa uchod, ae hefyd yn y DRYCH, tud. 78 yn y dau yna y mae y penderfyniad uchod yn argraffedig. Dosparthiry GREAL gan Zechariah Thomas, a'r Drych gan J. Davies; a chyn iddynt roddi y llyfrau i'r Derbynwyr, torwyd allan y tudalenau oedd yn cynwys y penderfyniad hwn o eiddo cymmanfa gyfan o o weinidogion a chenhadau yr Eglwysi mewn perthynas i'r dyn hwn. Beth a feddyli, anwyl ddarllenydd, am bethau o'r fath? Y mae yn beryglus eu gosod i drafod llyfrau y cyhoedd ar unrhyw achos beth bynag. Os nad oedd dim yn nghymmeriad y dyn, pa achos oedd i'r gymmanfa dra. ferthu yn ei gylch; ac os oedd y gweinidogion yn gwneyd ar fai, pa eisieu oedd tori y dail allan o'r llyfrau? Y mae genym ni fwy-o ymddiried yn y Gweinidogion oedd yn y gymmanfa hon, pa rai sydd yn anrhydedd i'r Cyfenwad Bedyddiedig, nag sydd genym i Zechariah Thomas. Dyna y casgliad ganddo tuag at y capel yn £72. 4s. 4c.; gwnaeth hyn drwy drefydd Yorkshire, mewn llai na saith wythnos: ac o hyna yr oedd ei dreuliadau ef yn cyrhaedd y swm o £ 32., heblaw ei gyflog yn yr eglwys hon, ac aid oes modd cael ganddo fanylion y casgliad. Dyna 40 punt at y capel; a dros 40 iddo ef ei hun. Y mae yn eithaf amlwg fod y dyn hwn yn cael digrifwch neillduol wrth gasglu at ddyled capeli purion peth, ond iddo roddl cyfrif i'r cyhoedd o'i arian. Gyda golwg ar y llythyr o Runcorn, rhaid i ni gyfaddef ei fod yn ddernyn rhyfedd iawn. Y mae wedi ei ddyddio y 23 o Rhag., 1858, ac yn dyfod yma yn Mai, 1859. Dyna lythyr gollyngdod i Zechariah o Runcorn i'r eglwys hon chwe mis cyn bod neb yma yn gwybod fod y fath un mewn bodolaethj! Rhyfedd iawn yw hyn, onide ? Ac yn y fan hoB ymddengys y Parch. Moses Roberts yn gysson ïw rhyt- eddu. Dyma ei eiriau :—" It was impossible for him to bring a letter, because there was NO Quarterly meetings held then." Ond y mae D. Roberts, Pontypwl, yn dweyd, That be collected a trifle, and delivered it to the quar- terly meeting Y mae yma fwy o logic nag a fedrwn ni ei ddeall. Un yn dweyd fod llythyr i'w gael, a'rnesafiddo fethu ei gael am nad oedd cyfarfodydd chwarterol; a'r Hall yn tystio fod cyrddau chwarterol. Os yw hyn yn gysson, gwarchod ni rhag y fath gyssondeb Etto, gyda golwg ar gymmeradwyaeth y Gwyddel hwnw, nid ydym yn ei gyfrif yn ddim a chyda golwg ar arwyddo llythyr dros yr eglwys, nid oes yma nemawr neb yn gwybod dim am dano Hyo ar air a chvdwvbod. Thos. Morgans, Simon John, William Morgan, Charles Smith, Walter Griffiths, William Davies, Evan Price, Roger Smith, John Evans.

0 BERTHYNAS I GASGLU Y PARCH.…