Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
PRIODWYD,— Tachwedd 10, yn Eglwys Clydach, gan y Parch. E. Reeg, Mr. Rees Davies,.Craigtrebanos, a Miss Anne Morgans, Primrose Row, Pontdardawe. MARWOLAETHAU. Tachwedd 16, Mr. Jenkin Williams, Fferyllydd, Pont- arda\\e. Tach. 16eg, yn 8 mlwydd oed, ar ol byr gystudd, q'r dolur gwddf, Elizabeth Rees, Boncatb, He wyresi'r diweddar Barch. J. Herring, Abcrteifi. Y LInn canlynol, claddwyd eu gwedd- illion marwol yn nghladdle Cilfowyr. Peidiwch wylo, fwyn rieni, ar ol eich blaguryn hardd, Benthyg ydoedd—Duw a'i cym'rodd i addnrno'r nefol ardd; Gwir ei fod yn ergyd caled, rhoi'r fath flodyn tlws mewn bedd, Ond, mae boreu'n dod pan gyfyd Liza fach yn hardd eigwedd. Chwithau'r Ysgol sy'n Sabbothol yn cyfarfod yn Blaenffos, ByddWch barod erbyn marw, 'fallai'r waedd ar hanner nos Collsom un o'n perlau harddaf—dwys ystyriwn hyn yn Jlu- Liza ni ddaw atom mwyach, buan ni awn ati hi. D. DAVIES.
----...-I I ymmmn Cartful…
News
Cite
Share
ymmmn Cartful HUNAN-LADDIAD.—Dydd Ma.wrth diweddaf, cynnaliwyd trBngholiad ar gortfDaniel Williams, liedrydd, o'r drefhon, gerbron J. Hughes, Ysw., yr hwn a roddodd derfyn ar ei fywyd drwy dori ei wddf ag ellyu y nos flaenorol. Barnai y rheithwyr iddo gyflawnu y weithred anfad pan allan o'i bwyll. ABERDAR.—Ymgais at lofruddiaeth.-Dydd Gwener, y 9fed cyfisol, yn mhwll glo Cwmdar, gollyngodd Sais o'r enw Thomas Badman, fandrel at un o'i gydweithwyr, Cymro o'r enw "William Stanford. Methodd y bwystfil yn ei amcan drwg o gyrhaedd y corff, ond planodd yr offeryn yn mraich ei gyd.ddyn. Trwy orchymyn Mr. Bedoe, yr arolygwr, cyrchwyd dau heddgeidwaid at y gwaith gyda brys, a chytnmerwyd y cigydd gwyneb galed i'r ddalfa. RHYL.-Goneslrwydd. Y chydig ddyddiau yn ol, collodd Mr. Robert Hughes, rnarsiandwr lleehau, Rhyl, bum nodyn arianol, ld5 yr un, ar y fiordd l'hwng Betbesda a Bangor. Cafwyd hyd i'r arian-nodau gan -\t.r ieuane, mab Mr. Hugh Evans, chwarelwr, Chwarelau Llechau y Penrhyn, gynt o Trefriw, yr hwn, yn bur onest, a hysbysodd y flaith i William Francis, Ysw., gor- uchwyliwr y chwarel, a gwnaed yr hyn oedd angenrheidiol er cael hyd i'r gwir berchenog. Rlioddodd Mr. Hughes wobr o 25s. i'r gwr ieuanc gonest. WVDDGRTJG.— Dydd Sadwrn, Tachwedd lOfed, o flaen Henry Raikes, Ysw., ac ereill, traddodwyd Evan Daniel, Evans, siopwr, o'r dref lion, i gael ei brofi yn mrawdlys nesaf sit- Fflint dan y cyhuddiad o osod tan i'w annedd yn Heol Milford, ar ddydd Sabbath, y 4ydd cyflsol, er niwyn cael arian o gymdeitlias yswiJol. Yr oedd Mr. Buckton yn erbyn, a Mr. Eyton yn amddifiyn, yr hyn a wnaeth mewn dull medrus a thra chywrain. Gosodwyd tan mewn pump a wahanol ystafelloedd, a thybir fod y golled yn cyrhaedd i tua £40. Mae y dygwyddiad wedi peru cyffro mawr trwy y dref.— Gohebydd. MARWOLAEFH lARLL CAWDOR.—Bu y boneddwr yma farw yn Sioekpole Court, Sir Benfro, ar ddydd Merchef, yr 8fed o'r mis presenol. Bu ei arglwyddiaeth yn dy- oddef am beth amser oddiwrth gilchwyrnyn (carbuncleJ ar ei fraich, ond ni feddyliwyd tod un niwed ynddo hyd yr 31ain o'r mis diweddaf, pan y trodd yn gancr ac oddiar hyoy, gwaethygodd ei arglwyddiaeth yn raddol, er fod y meddygon yn ymdrechu rhwystro y clef yd. Yr oedd ei arglwyddiaeth yn ei 70fed flwydd o'i oedran, a phercbid et yn fawr. Dilynir ef yn ei deitl a'i ystad gan ei fab, yr Is-iarll Emlyn, yr aelod Seneddol dros Sir Benfro, yr hwn a anwyd yn 1817, ac a briododd yn 1842, a merch yr Anrhyd. H. Cavendish, o'r hon y mae ganddo blant. Trwy godiad yr Is-iarll Emlyn i D^ yr Arglwvddi, bydd cyn- nrycbioliad Sir Benfro yu wag. Deallwn fod dau ym- geisydd eisoes ar y maes.
Cgfarfiibgirk
News
Cite
Share
Cgfarfiibgirk BKi>SRDDW\RR MORGANWG.—Cynnaliwyd Cyfarfod Chwar- terol y Bedyddwyr yn Twynyrodin, ar y Mawrth a'r Mercher cyntaf yn y mis hwn. Yn y Gynnadledd y dydd cyntaf, cymmerwyd y gadair gan y Parch. E. Evans, Dowlais. Yn mhlith pethau ereill, penderfynwyd,-l annghymmeradwyo Eglwys Treforis, am beidio gweinyddu dysgyblaeth ar Owen Owens, a bod y Gymladledd yn llwyr ymwrthod ag ef fel pregethwr ac aelod. Fod y Cwrdd yn hollol ymwrthod & William Bowen, fel pregethwr yn Undeb y Bedyddwyr yn Morganwg. Fod yr Ysgrifenydd i ohebu ag eglwys y Bryn- mawr, yn nghylch ymddygiad ei diweddar weinidog John Roberts. Cyfarfyddodd Pwyllgorau y Cymdeithasau Cenadol Tramor a Chartrefol er trefnu mesurau erbyn y dyfodol. Dechreuwyd yr oedfaon cyhoeddus gan y brodyr Davies, Waatitfodau Morris, Cefncoedycymmer; Davies, o Athrofa H wltfordd. Pregethwyd gan y brodyr Richards, Docks; Price,,Aberdar Roberts, Merthyr Williams, Canton; Ro- berts, Pontypridd; Hughes, Dinas; Edwards, Cendl; Lloyd, Merthyr; James, Bulah; Hughes, Maesteg; Evans, Aber- canaid, ac Evans, Dowlais. Cawsom gyfariodydd da iawn, a chynnulleidfaoedd lluosog, a phob caredigrwydd gan yr eglwys a'r gymmydogaeth. CANU CYNNULLMUFAOL.—Nos Sadwrn, Tachwedd 3ydd, traddododd Mr. T. Williams, Llansawel (Asaph Glyn Ebwy), ei Ddarlith ar y testun uchod, yn yr Assembly Rooms, Aber- dar. I ddechreu, cafwyd ton gan Gor Abernant; yna cym- merwyd v gadair gan Mr. John Evans (Cymro Du), yr hwn, wedi ychydig eiriau difyrus, a alwodd y Darlithiwr at ei orthwyl. Syiwodd Mr. Williams yn ei ddarlith fod canu cyn- nulleidfaol yn hen beth-yn hen betb mewn pedwar part; a rhoddodd i ni ddarluniad o Ganu Cynnulleidiaoi yr Hen Oruchwyliaeth. Wedi iddo ein difyru ar y pethau hyn am o ddeutu awr, cymmerodd ei anadl, a chawsom don drachefn gan Gor Abernant. Ac wedi hyny o seibiant siaradodd Asaph am tua hanner awr yn mhellach, gan roddi i ni ychydig o reolau er cael Canu Cynnulleidfaol da, a rhai annogaethau er ymestyn at y rheolau hyny. Yr oedd Mr. Williams yn deall ei bwnc; y-ddarlith yn werth ei gwrando y cynnulliad yn dda; a'r dyben yn dra rhagorol. Wedi cyflwyno diolch- garwch y cyfarfod i'r darlithiwr a'r cadeirydd, aeth -pawb i'w ffordd ei hun yn llawen. CYFARPOD CHWARTERGL CASGLU BETHRNIA, CwM- BACH.—Cynnahwyd y cwrdd hwn Sul, Tachwodd 4edd. Am 11 a 6, pregethodd y Parch. D Davies, D.D., Abertawe. Am 2, pregetiiodd y Parch. T. Nicholas, Aberaman, a B. Evans, Heolyfelin. Y r oedd y cynnulliadau drwy y dydd yn lluosog iawn; y pregethau, tel arfer, yn deiiwng o'n brodyr da a'r casgliadau yn llawn cystal a'n dysgwyliadau. Duw a lwyddo ei wirionedd.-W. HARRIS. URDDIAD GWEINIDOG.—Bydded hysbys i'r cyhoedd fod yr eglwys o Fedyddwyr, a gynuullant yngliyd yn Elim, w] Park, yn unfrydol wedi dewis y brawd ieuanc John Evans, mab i chwaer y Parch, B. Evans, ein gweinidog presenol, yr
i-. • ■ - S-\ ■■ : A. | Y…
News
Cite
Share
ddynion da, colliers ymarferol, yn isymwelwyr, a chael y nifer yn ddigonol i ymweled a phob pwll glo yn y deyrnas unwaith bob mis o bellaf. Yr ydym ni wedi gosod cynllun, er dwyn hyn oddiamgylch, o flaen amryw beirianwyr celfyddgar, ac liefyd o flaen awdur. dodau uweh, a phob un yn ein sicrhau ni fod y cyn- llun yn dda ac yn ymarferol; etto, drwy yr oil, nid oes dim yn effeithiol yn cael ei wneyd; a dichon na wneir dim heb i ryw rai callaeh a mwy dylanwadol na ni ei gymmeryd i fyny. Dywedai Dean Swift gynt, mewn cyfeiriad at auttodion lluosog ein rheilffyrdd, na fuasai dim yn cael ei wneyd i bwrpas cyn y buasai i un o'r esgobion gael eu lladd. Ai felly y mae i fod gyda y collier druan ? A raid aros i rhyw un mawt gael ei ladd mewn pwll glo cyn y bydd i'r rhai mewn awdurdod gymmeryd y pwnc i fyny? Na ato Duw.