Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

ir %tltogi.

News
Cite
Share

ir %tltogi. ELEN JONES. GAN MISS REBECCA S. EVANS, MABUS. TEN. XXIV. Tra yr oeddwn un prydnawn yn eistedd yn y parIwr bach yn 'gwinio, daeth Mrs. Hughes i mewn, eisteddodd yn fy ymjl, gan roddi ei special ar ei thrwvn, a gwau ei hosaa, Dechreuodd siarad gan ddweyd, "Wel Elen, 'merch I, r'w'i fel hen famgu i ti, welwch thwi, am hyny dwed 'nawr wrtho I beth sydd genyt ti yn erbyn priodi â William John Mae e'n facbgen bach nice ymbeidus; mae e?n siwr o wneyd gwr da i bwy bynag gaiff e a bydd yn siwr o fod yn getr- neg ei wala hef) d, welwch chi. Mae hyny getyno beth, merch i, alia I weyd. Ai am nad wyt ti ddim yn foddlon i fyn'd i'r felin i fyw gyda'r lion fobol wy' ti'n pallu a myn'd gydag e' ? Os fel 'na mae'n bod, fe gymmer e' d9 rywls arall i ti, welwch chi; ond r'w'i 'n meddwl nad oes rhaid i neb ofni priodi mewn at hen fobol y felin, welwch chi, Mae'r hen wraig, druan fach, yn eithafgwanaidd lawer tro. mae eisieu rhyw un yno i ofalu ar ol y pethau sydd yno; welwch chi. 'Nawr dwed." Beth i chwi am i 11 ddweyd, Mrs. Hughes fach ?" gan edrych hytraeh yn shy, a gwridio. Dwed, beth sydd gyda thi yn erbyn priodi a William John r" "Mae gen i lawer iawn, Mrs. Hughes. fach, yn erbyn ei briodi e' 'nawr." Wei, a 'wy' ti 'u bwriadu ei gym>yd e' rhyw bryd ?" gan edrych yn graff arno dros ei spectol. Gan wenu ami, atebais, na wn I wir, a gymra I e* byth ai peidio." Ie, gwenu wy'ti, merch I; ond cofiadi, mater pwysig yw y priodi yma; ond ddei di o'r fan hono etto, merch 1. Beth mae'r hen ddiareb yn dweyd ? "Difal gnoe a do'r y gareg," oni te ? 'Roeddwn I 'r un fath a ti, welwch chi, o bontu Thomas Hughes, y druan anwyl ag e'; ond ni ches i ddim llonydd ganddo, ac fe ddaeth a mi i'r hwylo'r diwedd, ac ni fu neb erioed yn byw yn fwy hapus, welwch chi, na mi a Thorpas Hughes, yr hen wan tirion i mi oedd e', gan sychu deigryn a ddyferodd o'i llygaid mwynaidd; "a thyna fel fyddi di a William John etto, welwch chi; ond pa'm na roi di air o gysur iddo 'nawr ? Os oes rhaid iddo aros ronyn i ti, fe wna hyny mi w'ranta bydd yn well 'dag e' wneyd hyny na phriodi neb arall. Gwna a fyuofc ti, fe sy ar dy ran di, welwch chi; am hyny, paid a bod yn gas wrtho 'nawr; bydd yn ddrwg genit am hyny ar ol hyn, dy fod ti wedi peru cymmaint o ofid iddo druan Wnes I ddim gofid am fynyd iddo erioed o'm bodd." 'Rwy't wedi bod yn profi ei amynedd o' rai troion 'rw'i'n meddwl; ond g wna di fawr neu fach o hono, fe, a neb arall, sydd ar dy ran di, di alli fentro ar hyny, welwch chi." Dw'i ddim yn credu byny ogwbl, Mrs. Hughes; am. ser a ddengys." Ie, merch I, mae hyny'n wir." Newidiwyd yr ymadrodd ar hyn; ond cawsom ni ein ghdael yn yr un man ag oeddem o'r biaen ;—Mrs. Hughes fawr callach o'i holi, a finau yr un inor sicr fy mhender- fyniad yn nghylch ieuo a'm eyfaill William John ond yr oedd dullwedd ei s arad hi wedi tafiu goleuni ar yr achos, o fod William John yn arter y fath daerni di-ildio tuag ataf; yr oedd yn dra amlwg ei bod hi wedi argraffu yn ddwfn at ei feddwl yr hen ddiareb ag oedd hi mor hoffo nodi, sef, mai dyfal gnoc a dora y gareg."

CY N N A D LED 1) Y CRYDDION.