Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-

News
Cite
Share

Y DULL GOREU I WEITHTWR FYW ER LLES HAT) IDDO EI HUN A'l DEULU YN YR AMSER PRESENOL A'R DYFODOL. Un o destunaii Eisteddfod Undeb YsgoWon Sabbothol y Bed- yddwyr yn Aberdar, 'Nadolig 1859. Y mae yn ddiammheu fod dpdwyddwch a llesbad yn deill- jaw i'r gweithiwr svdd yn ennill ei fara trwy "chwys ei wyneb," a hyny oddiwrth bethau tymhorol, os bydd yn bvw yn drefnus ac yn ddoeth-heb wastraffu yr hyn a ogodir dan ei law. Er fod geiriad y testun yn golygu gweitbiwr a cbanddo deulu, nid wyf yn barnu *y byddwn yn gwyro oddiwrth yr hysbysiad, wrth grybwyll rhai o'r pethau a ymddangosant i mi yn dal cyssylltiad uniongyrchol Alr sefyllfa briodasol, ag y dylai pob dyn ag sydd yn bwriadu ymrwymo mewn priodas dalu sylw neillduol iddynt. Felly rbanaf y tr;tethawd yn ddwy ddosran yn 1. Yr hyn a ymddengys i mi y dull goreu iddo fyw pan mewn sefyllfa o weddwtiod. Dan y peniad hwn ni a nodwn yn gyntaf,"y dylai pob dyn ag sydd yn bwriadu dyfod yn benteulu fod wedi ymarfer a rbyw orcbwyl o waitb, trwy yr hwo y bydd yn alluog i gynnal ei hun a'i deulu yn gysurus. Mae llawer o bobl ieuainc, fel y mae gwaethaf y modd, yn myned i'r sefyllfa briodasol heb ragfeddwl ond y peth nesaf i ddim am dani, na pha betbau fyddant y canlyniadau. Mae byny yn sicr o fod yn niweidiol iddynt rhagllaw. Ami y ceir gweithwyr yn Nghymru, ysywaeth, yn brofladol o hyn. Gresyn yw csnfod un ar yr enw gweithiwr, o'r haerllug- rwydd a'r digywilydd-dra, i gymmeryd at un o'n merched diddrwg a diniwed, gan addaw ei chynnal yn glaf ac yn iach," pan mewn gwirionedd nad ydyw erioed wedi gwybod yn brofladol pa betb yw cynnal ei hun. Ac yna wrth reswm nad oes dim i'w ddysgwyl ond tlodi a gwarth yn y pen draw Fecbgyn Cymru os ydych yn meddwl rhyw. beth am fyw yn gysurus yn y byd—ymarferwch å rhyw orchwyl o waith trwy yr hwn y gallwch gynnal eich hunain a'ch teuluoedd yn gysurus. Mynwch weled eich hunain yn feistri ar eich galwedigaethau. 2. Dylai fod yn tefydlog yn ei waith. Mae llawer o ddynion yn weithwyr da, ac yn dilyn galw- edigaethau ennillfawr; ond trwy fod yn ansefydlog yn eu goruchwylion, byddant yn bollol anaddas i fod yn benau teuluoedd. Mae llawer o fanteision yn deilliaw i ddyn wrth fod yn sefydlog yn ei waith. Ennilla ymddiriedaeth ei feistr-bydd ei gyflog yn llawn yn mhen y flwyddyn. Ond y mae o angenrheidrwydd. wrth gyfnewid ei gyflogwr, yn dyfod yn agored i gael ei droi allan pe byddai yn ddi- symmwth gyfnewidiad yn cymmeryd lie, a dichon y byddai hyny yn dygwydd pan na byddo un golwg am sefyllfa arall. Y diweddaf i mewn, y cyntafi maes." Cofier mai Y gareg sydd yn aros yn yr unman sydd yn casglu mwswgl. 3. Dylaf fod wedi arfer diwydrwydd er yn ieuanc. Y maen a dreigla ni fysygla.—Dub. Cym. 0 herwydd gwaith anhawdd iawn yw dyfod a diogyn y" ddyn diwyd. Y mae y diogyn yn un o'r creaduriaid mwya atgas yn ngbreadigiaeth Duw y mae holl natur yn siarad yn uchel yn erbyn y diogyn, ac y mae gair yr Hollalluog yn peru i ni ffieiddio diogi, a pheidio ei feithrin an amser* Y mae heolydd ein dinasoedd yn orlawn o ddynion diog; ffiaidd yw yr olwg sydd arnynt, ac ami yw y drygau a gyf. lawnir ganddynt bob dydd. Ceir gweled d y diogyn yn myned yn ddiwerth o eisieu ei gasglu, a mwy na banner ei ddefaid wedi myned yn ysglyfaeth i g\'Vo a lladron, tra yr erys ef yn dawel yn ei dy." Ceir gweled ei blant yn car- dota eu bara,-yn ddiddysg a diymgtisdd. 4. Er ei leshad, bydded sobr, ac nid yn ddiotwr. O 'r fatb gannoedd o weithwyr Cymru sydd yn byw a marw mewn tlodi o herwydd dilyn yr oferwaith o ddiota* Mae yr arferiad hwn yn haiarneiddio'r gvdwybod-yn dinystrio yr enaid, ac yn aflunio y corff. Pa faint o feibion Gwalia sydd wedi dinystrio eu hamgylchiadau -wedi bod yn offerynau i yru eu gwragedd &'u plant i fyd arall yn an- amserol, a'u cyrff eu hunain i'r bedd pan yn nghanol blodau eu dyddiau? Darfydded yr arferiad o gyfeddach a diota i ormodedd gyda brys. 5. Gwneled ei oreu i gyrhaedd gwybodaeth fuddiolpan y byddo yn ieuanc. 0 herwydd pa adeg sydd yn fwy manteisiol ? Mae e; feddwl yn ystwyth-ei gof yo dda; gan nad oes dim o'r gofalon a'r gofidiau sydd yn dyfod i gyfarfod a phenau ten- luoedd yn ei orlwytho. Y mae yn rhydd i fyned a dyfod pan y byddo yn ewyllysio, a dylai ddefnyddio yr adeg hono i ymestyn at gyrhaedd gwybodaeth, gan bwrcasu cymmaint a all fod yn gyrhaeddadwy iddo o lyfrau da a defnyddiol i'r perwyl. Os na fydd wedi cael manteision addysg cyn dechreu gweithio, cymmeradwywn ef i fyned i un o'r ysgôt. ion a gynnelir yn y nos. Mae y rhai yma i'w cael braidd yn mhob ardal o gylch y gweithfeydd a'r trefydd. Y øiae llawer o les wedi cael ei wneyd trwv offerynoliaeth y rhai hyn. 6. Dylai pob gweithiwr wneyd ei oreu i gynnilo rhy gymmaint ar ei gyflog, ac ystorio rhyw nifer o bunnoedd ir dyben o barotoi dodrefn addas i'w annedd. Gofidus yw gweled cymmaint oieuenctyd ein cymmydog- aeth sydd yn ymruthro i'r sefyllfa hon, heb ymbarotoi dimf nac hyd y nod meddwl pa fath yw y canlyniadau o gyflawno gweithred dan gymmaint byrbwylldra. Clywais un gwein- idog parchus yn dweyd nad oedd un olygfa yn fwy eyd- weddol a'i lygaid ef, na chanfod fod gan ddynion ieuainc dt wedi ei ddodrefnu yn addas i weithiwr fyw ynddo, pan yn ymrwymo mewn priodas, heb neb yo gallu gofyn ceiniog am danynt. 7. Bydded ei briodas yn ymuniad cymharm. Mae yn ddiammeu fod rhan bwysig o'i leshad a'i dcM- wyddwch yn yoiorphwys ar y pwnc hwn. Ofer yw dys- gwyl rhyw lawer o leshad i deulu gweithiwr, na di-waith, 0* na fydd yno gydgordiad. Mae llawer, yn ddiau, wedi ymuno mewn priodas, heb erioed dalu sylw i hyn, hyd ne* y bydd yn rhy ddiweddar. Os bydd y gwr yn anffyddli B i'w wraig, mae y bywyd yn sicr o fod yn fywyd o anoed. wyddwch, ac ofer y dysgwylia y wraig am leshad a ded.