Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
FFRAINC.
News
Cite
Share
FFRAINC. Mae holl Benciwdodau Ffrainc, gyda'r eithriad o'r Penciwdawd Bosquet, wedi eu cynnull yn Paris. Boreu dydd Mawrth, Hydref y 23ain, cymmeras- ant foreufwyd gyda'r Amnerawdwr yn St. Cloud, a threuliasant amryw oriau gydag ef wedi hyny yn y llysdy. Dywed y Constitutionel :-H Ar yr amser pan ag y mae yr ymweliad yn Warsaw yn achosi pob math o sylwadau, deallir gyda dyddordeb fod yr Amherawdwr wedi derbvn llythyr oddiwrth y Czar; a chredwn ein bod yn gywir wrth ddweyd fod y llvthyr hwnw yn egluro nad oes dim yn wrthwynebol i Ffrainc yn yr ymweliad." Mae traethodyn hynod o'r enw Cf Cynghrair a Lloegr, neu Cynghrair a Rwsia," newydd ym- y ddangos yn Paris. Yr amcan ydyw dangos fod cynghrair a Lloegr yn anmhosibl, nid yn unig 0 herwvdd y gwahaniaeth mawr sydd rhwng cym- meriad y ddwy genedl, ond hefyd 0 herwydd y troseddau lluosog a gyflawnwyd gan Loegr yn erbyn Ffrainc. Mae yn dechreu gyda brwydr Hastings, yr hon a barodd i goron Lloegr ddis- gyn ar ben un o'n dugiaid," ac y mae yn dyfod i lawr at v profion o ddrwg ewyllys Lloegr, ei gwrthwynebiad i Gamlas Suez, cyssylltiad, Savoy, &c. Ymddengys ar hyn 0 bryd nas gall milwyr Ffrainc ymadael o.Syrra yn mhen chwe mis, fel y penodwyd. Dywedir fod y Porte yn hollol anallu- og i amdd'.ffyn y Cristionogion, ond cyhuddir y milwyr Tyrcaidd o fod yn gyfranog o'r liofrudd- iaethau. Mae llyngesydd Ffrainc wedi cyrhaedd i Gaeta o Naples gyda phedair 0 longaurhyfel. Dywedir vn Paris fod yr ysgwadron i attal taubeltniad Gaeta.
RHUFAIN.
News
Cite
Share
RHUFAIN. Y mae y Ffrancod wedi cymmeryd meddiant 0 Montalto, a chymmerant feddiant o Orvieto yn ystod yr wythnos nesaf. Y mae 2,000 o wirfoddolion Italaidd Qtto yn m nbalaeth Viterbo. Ymadawodd llysgenadwr y Pab o Paris mewn canlyniad i orchymyn 0 Rufain. Y mae y Cadfridog Lamoricierei adael Rhufain gyda llawn anrhydedd. Y mae yr ymrestriad i fyddin y Pab yn parhau i fyned yn mlaen. Nid ydyw trysorfa y Pab yn wag o,arian, ac y mae y liywodraeth yn goheithio yn fawr y bydd y canlyniad o'r Gynnadledd yn Warsaw yn ffafriol iddi.
SYRIA.
News
Cite
Share
SYRIA. Y mae newyddiaduron Paris yn cyhoeddi tele- gram o Beyrout, yn mynegu fod sgwadron Lloegr 0 wedi ymadael ar yr lleg o'r mis diweddaf am y Mor Adriaidd. Yr oedd dwv o lestri Ffraiuc yn aros yu Beyrout. Dywedir fod cynhwrf yn ffynu yn Damascus, a bod bygythion wedi eu gwneyd yn erbyn y Cristionogiyn mewn canlyniad i dreth y rhyfVl. Yr oedd Fuad Pasha a chonsuliaid. Rwsia a Ffraine wedi dychwelyd gyda brys i Damascus.
DERBYNIAD Y LLENG SE1SNIG…
News
Cite
Share
DERBYNIAD Y LLENG SE1SNIG YN NAPLES. Llythyr o Naples, dyddiedig yr 16eg o'r mis diweddaf, a ddywed:—" Ddoe, glaniodd y lleng Seisnig. Cyrhaeddasai4 i'r porthladd y dydd blaenorol, ond bu raid iddynt aros y noson gyutaf ar twrdd y llestr, o herwydd nid oedd un Hetty wedi ei ddarparu iddynt Yr oedd y derbyniad a roddwyd iddynt gan y bobl bron mor frwdtrydig ag a roddwyd i long gyntaf Garibaldi ei hun. Aeth y gwarcliodlu cenedlaetholallan rwcyfaribd hwynt, gan gario baner Seisnig, gyda seindorf. Canlynwyd liwvnt gan ddeng mil o bobl, y rhai a garient sypiau o flodau yn eu dwylaw. Blaenor- id yr orymdaith gan yr heddgeidwaid. Yr oedd y geiriau, "Nid i orthrymu, nac i gael ein gorthrymu," yn ysgrifenedig ar y faner Seisnig. Cariai y lleng Sisnig faner Italaidd gyda chroes Savoy ami. Safodd yr holl orymdaith aruthrol ar ysgwar y palas breninol. Aeth y Cadfridog Turr i gyfarch y Ileng. Yna dechreuodd yr ym- daith drwy yr Orledo. Yr oedd yr holl drefyno; yr oedd yr holl ffenestri wedi eu llenwi gan fon- eddigesau, y rhai a ysgydwent eu cadachau, gan daenu blodeu, a blueddio banllefau o gymmerad- wyaeth. Canodd y cerddorion milwraidd (y rhai oeddynt wedi eu gosod yma ac acw) yr anthem genedlaethol. Aeth boneddigesau a boneddigioo, a phawb o hynodrwydd yn y dref, i (yny at y gwirfoddolion i ysgwyd llaw a hwynt, ac i amlygu diolchgarwch Italy iddynt. Yr oedd rhai bonedd- igesau yn methu dal heb wyld dagrau. Yr oedd yn amlwg fod yr olygfa yn ddyrys i'r dyoion ieuainc hyn, y rhan fwyaf o ba rai ni wyddent pa beth i'w wneyd yn ngwyneb y derbypiad croesaw- gar hwu. O'r diwedd, gwaedd:.sant hwre yn ddibaid, gan ysgwyd eu drylliau dros eu penau. Yr oedd y dret i gael ei goleuo yn y nos, ond rhwystrodd y gwlaw. Y maent i ymadael hedd- yw i'r gwersyll, lie y mae gwledd filwraidd yn eu dysgwyl hwynt, a lie y rhoddir derbyniad croes- awgar iddynt gan Garibaldi, yr hwn sydd yn fynych wedi gotyn am danynt."
NAPLES.
News
Cite
Share
NAPLES. Newyddion o'r wlad hon a hysbysant i Victor Emmanuel gyrhaedd Pescara ar yr 16eg o'r mis diweddat'. Yr oedd i ymadael yr ail foreu i Chieti, ac yna yr oedd i ymweled a Popoli a Sulmond. Derbyniwyd ei Fawrhydi gyda'r brwdfrydd mwyaf yr holl ffordd a chyflwynai yr offeiriaid eu hunain fel arweinwyr y boblogaeth. Ar ddyfodiad y gweinidog Sardiniaidd, y Marquis Villamania, i Chieti, goleuwyd yr holl dref.