Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYFNEWIDIADAU Y BEDYDDWYR

News
Cite
Share

CYFNEWIDIADAU Y BEDYDDWYR 0 FEWN CYMRU YN NGHYMMANFAOEDD 1860. WYTH UGAIN MLYNEDD i eleni, ar ol y gorthrymder yn nheyrnasiad y Brenin Charles, anturiodd y Bed- yddwyr drachefn i gynnal eu Cymmanfa, wedi sefydliad mesur o ryddid crefyddol yn y deyrnas, trwy gyfraith, ay ol y fath yspaid hirfaith o erlidigaeth creulon. Go- beithiwn yn ngras ein Duw da, na wel un cristion y fath etto o fewn Prydain Fawr. Yn y flwyddyn hon, 1700, cynnaliwyd y Gymmanfa yn Llanwenarth; naw o eglwysi oedd yn dechreu ail- gychwyn i'r maes ar ddiwedd yr erlidigaeth, rhai wedi digaloni, a rhai wedi darfod gallooethed y frwydr, yr hon a barhaodd dros wyth mlynedd ar ugain. Yn yr yspaid, glaniodd cannoedd o dduwiolion ar diroedd gogoniant, lie nad erlidir un o'r preswylwyr. Diolcb i'r Tad uefol fod naw o eglwysi ar gael yn niwedd yr ystorm. Edrych, gyfaill; gwel hwy, yn weinidogion a chenadon, rhai ganddynt ugeiniau o filltiroedd yn cerdded tua'r gymmanfa. Os erioed y bu y nefoedd yn wag o angylion, o'r braidd nad dyma yr adeg ag y daethant yn un fyddin fawr nefolaidd i Lanwenarth, i guardio plant yr Arglwydd. Yn y Gymmanfa bu tri ar ddeg o ofyniadau yn cael eu hystyried o barth rbeolau eglwys Crist. Can mlynedd yn awr, cynnaliwyd y Gymmanfa yn Nghilfowyr. Pregethodd Mr. Edmund Watkins, Luc 14. 23, a Mr. Benjamin Francis, Titus 2. 14. Dyma y tro cyntaf i B. Francis bregethu yn y gymmanfa. Mab oedd ef i'r enwog E.Francis. Yn Horseley yr oedd ef yn weinidog, etto parhaodd yn ffvddlon i ddod i Gymru; canys cawn ef a'i dad yn pregethu yn mhen deuddeg mlynedd ar ugain yn Ngymmanfa Bethesda, Mynwy. Dyma yr amser (1760) y penderfynwyd argraffu llythvrau y Gymmanfa cyn hyny, ysgrifenid hwy. 0, y fath drafferth a gafodd yr hen dduwiolion mewn cyferbyniad i'n ysgafn-waitli ni. Hanner can mlynedd i yn awr (1810), cynnaliwyd cymmanfeydd Cymru yn y Dolau, Abertawe, a Glyn- ceiriog. Bob un a bregethodd ynddynt wedi gadael ein byd ni! Gobeithio eu bod oil mewn gwlad well, i, .1 Lie mae ein Prynwr drud mewn gwir ogoniant, Uwch uffern ddu a'r bedd, yn cael y moliant." Yn y tair cymmanfa, traddodwyd pedair ar ugain o bregethau; ond eleni, mewn chwech cymmanfa, tra- ddodwyd pedwar ugain a saith o bregethau. Ychwanegiad Cymru y flwyddyn a nodwyd oedd 231. Caerfyrddin a Cheredigion,—Bedvddiwyd, 825 Adfer- wyd, 156; Derbyniwyd trwy lythyr, 245. Cyfanswm .1226. Diarddelwyd, 192; Marw, 167; Gollyngwyd trwy lythyr, 246 Cyfanswm, 605. Cynnydd, 621. Sir Benfro,—Bedyddiwyd, 765; Adferwyd, 153; Der- byniwyd,trwy lythyr, 165. Cyfanswm, 1083. Diarddel- wyd, 149; Marw, 146; Gollyngwyd trwy lythyr, 134. Cyfanswm, 429. Cynnydd, 654. Yr hen Gymmanfa,—Bedyddiwyd, 717 Adferwyd, 115; Derbyniwyd trwy lythyr, 57. Cyfanswm 889. Diarddel- wyd, 55; Marw, 68; Gollyngwyd trwy lythyr, 60; Cyf- answm, 183. Cynnydd, 706. Sir Forganwg,—Bedyddiwyd, 2561 Adferwyd, 638 Derbyniwyd trwy lythyr, 878. Cyfanswm, 4077. Diar- ddelwyd, 518; Marw, 208; Gollyngwyd trwy lythyr, 1131. Cyfanswm, 1857. Cynnydd, 2220. Sir Fynwy,—Bedyddiwyd, 1412 Adferwyd 336; Der. byniwyd trwy lythyr. 301. Cyfanswm, 2049. Diarddelwyd, 185; Marw, 135; Gollyngwyd trwy lythyr, 313. Cyf- answm, 633. Cynnydd, 1416. Cymmanfa Saesneg Sir Fynwy,—Bedyddiwyd, 190; Ad. ferwyd, 31 Derbyniwyd trwy lythyr, 45. Cyfanswm, 266. -1. II Diarddelwyd 24 Marw, 18 Gollyngwyd trwy lytbyr, 4 Cyfanswm, 89. Cynnydd, 177. Ver- Y Gogledd,—Bedyddiwyd, 1241; Adferwyd, 269» j, byniwyd trwy lythyr, 171. Cyfanswm, 168 -is eyf- wyd, 60 Marw, 74 Gollyngwyd trwy lythyr, 138. answm, 272. Cynnydd, 1409. 1t Cyfanswm yr ychwanegiadau eleni yw i'r oedd pedair ar hugain o eglwysi heb anfon cy.geis' Gymmanfa, ac mae o gylch pumtheg o eglwy81 nig nad ydynt aelodau yn y Gymmanfa. rrist Gweithiwn o blaid egwyddorion crefydd ein.ift^n anwyl, a hyny yn ei hysbryd nefol ei hunan, Yo U:u'r cariad. Rhaid i Iesu deyrnasu rhaid iddo feddiaB cyfanfyd. Ond mor wir a hyny, rhaid i'r egWY aU- ion a amddiffynwyd trwy erlidiau a merthyrdod g noedd o flynyddau yn ol gan y Bedyddwyr, ac 9 ,r ddiffynir ganddynt yn awr, feddiannu y byd un tir.

------