Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

--ir gdfogb*

News
Cite
Share

ir gdfogb* ELEN JONES, GAN MISS REBECCA S. EVANS, MABUS. PENNOD IX. WEL, Phil," ebe Mrs. Watcyn wrth ei gwr, Beth wy' ti'n feddwl am y gwr ieaanc ? Gwna fe'r tro ?" "Ni wn i lai," ebe yntau, mae e'n edrych yn fachgen lied hawddgar." "A ydy e'n deall y system o hyfforddi ieuengtyd 1 Dyna'r pwnc mae llawer fel y gwyddoch, yn ddigon call a gwybodus eu hunain ond, er hyny, yn mhell o fod yn addas i ddysgu plant. Dyna Prydderch, er enghraifft." Mae'r llanc yn ieuanc; fe gymmer ddysg ondodid. Gwell i mi gytuno ag e yfory ynte ?" Yr wy'n barnu ei bod hi; dygwydd mawr y bydd i ti gael ei well e'; ni waeth i ti hwn neu arall ar brawf; fe roddwn I'r fantais o dreio iddo, beth bynag fe all ddod yn gampwr ar ei waith, 'nol i ti fod yn amyneddgar tuag ato ar y cyntaf. Mae e'n lied shy yn awr, ond fe wisg hyny ymaith gydag amser." Fel yna yr oedd Mrs. Watcyn a'i gwr yn ymddyddan yn nghylch cyflogi Hugh Owen i fod yn ysgol-feistr yn lie Prydderch, yr hwn gafodd ei droi ymaith am ei tod yn ddiymdrech yn y swydd. Angenrhaid yw i rpi, cyn myned yn mhellach, i roddi ar ddeall i'r darllenydd am rai pethau pei-thynol i amgylchiadau 'r ysgol yma. Yr oedd Mr. Watcyn wedi adeiladu ysgoldy tlws a pliryd- ferth ar derfyngyleh y tir perthynol i'r Castell, mewn man lied gyfleus i blant yr arrlal. Ymddiriedodd yr ysgol a'i ham- gylchiadau i ofal Mrs. Watcyn. Yr oedd addvsg dda yn cael ei chyfranu i bawb a ddewisai ddyfod yno, yn rhad. Yr ysgol yma oedd hobby y wraig foneddig yr oedd ei henaid fel wedi meddwi ar y drychfeddwl o addysgu'r werin mewn gwybodaethau cyfFredinol a moesol; o braidd nad oedd hi yn meddwi mai o fewn terfyngylch dylanwad ei hysgol hi, y byddai y mil blynyddau yn gwawrio. Yr oedd yn eyfi-if mai ei neges benaf hi i'r byd oedd hyfforddi mawrion ein tir, yn y modd mwyaf effeithiol, i foesoli a gwareiddio ei chydgenedl y Cymry. Yr oedd gwladgarwch brwd yn ei mynwes ei chalon mor gynhes ag eiddo'r ddurtur tuag at bawb a fyddai a gwaed coch Cymro yn rhedeg trwy ei wythienau. Pan yn dadleu ar ei phwnc mynwesol, sef dyrchafiad ac iawnderau'r gweith-iwr, byddai ei chalon fach yn ymchwyddo, ei llygaid fel yn taraw tan, a'i lleferydd yn rhymus a phwrpasol; mewn gair, nid oedd terfyn i'w gael ar ei enthusiasm, pan yn datgan caledi, an- fanteision, ac hawliau y bwthynwr. Un tro dywedai mewn brwdfrydedd, Clywch rhai yn bostio eu bod yn gyfeillion i'r Mr. hwn a'r Syr arall pw pw fy awydd penaf I yw, bod yn deilwng o'r teitl-Cyfaill y dyn tlawd." Ac mi ddwedaf i ti beth, ddarllenydd, cyfaill i bwrpas i'r dyn tlawd oedd hi hefyd. Yr oedd ganddi, mae'n wir, gyfoeth helaeth ond mwy nâ hyny, yr oedd ganddi galon anwyl i gyfranu at eu hangen- ion. Yr beda yr ysgol rad ytftsr^Wedi ei dwyn i gydnabyddiaeth a phob teulu gwreng braidd yr. y gymmydogaeth, trwy ei bod yn holi mewn perthynas i'r plant, ac ni byddai un plentyn yn absenol heb ei bod hi yn chwilio allan yr achos; ac os afiechyd, byddai iddi yn ami ymweled ag e' yn ei cherbyd, gan ddwyn yn ei basged bach, ryw friwfwyd oddiar fwrdd llwythog Castell Ifor. Yr oedd ei gwedd mewn bwthyn fel haul canol dydd, yn peru i bob peth dywynu. Yr oedd yn gweithredu yn yr oil mewn perffaith gyd- gordiad a'i gwr, pob cynllun yn cael ei osod o'i flaen ef er cael ei farn arno a'i gydsyniad. Yr oeddynt yn unol yn eu hamcanion, ond hi oedd fel yr active agent i ddwyn yr oil i ben, yntau yn mwynhau ei hun wrth edrych ar ei wraig fach fywiog yn gweithio a'i boll egni, er dwyn y gwaith bendithlawn oddiamgylch. Philip," ebe hi, yr wy'i wedi bod yn meddwi mai da fyddai i ni roi ystafell wely at wasanaeth y gwr ieuanc, iddo i gael cartref cysurus gyda ni fe all gael ei fwyd, ac eistedd yn mharlwr Mrs. Hughes, gyda'r weddw ac Elen. Bydd hyny o'r hanrier yn fwy dedwydd iddo nag yn un man yn agos, a bydd hyny yn ei galonogi i ymroi at ei waith. Rhoddwch eich barn." Yr wy' l'n cydsynio a thi yn hyny, fel yn y rhan fwyaf o bethau. Ni welais I erioed dy fath di mewn gofal parhaus am gysur pawb o gwmpas i ti; yr wy' ti fel pe tai ti am i bob un gael y manblu tynheraf i gysgu arno. Yr wyf fiyn bendithio'r dydd y cefais y fraint o roddi fy enw arnat, a'th alw, Fy eiddo.' Taw, Phil, Taw," ebe hi, "taBu ysgadenyn wy' ti, g a ddysgwyl bachu pysgodyn eog ond ni ddali di ddim y tr hwn, dwy'i ddim yn myn'd i borthi'th falchder trwy ddat ga dy rinweddau. PEN. x. Yr oedd Miss Watcyn, Miss Emily, a minnau, yn y Coleg," y ddau student wrth y bwrdd yn ysgrifenu, a'r tutor mewn cadair esmwyth yn darllen. Cododd Miss Emily ei phen yn ddisymmwth, a dywedodd, Sarah, be' ti'n feddwl am yr ysgol feistr newydd ? Mae e'n edrych fel pe byddai ei deiliwr erio'd heb glywed son am Llundain, chwaithach bod yno. Mae ei got efmor hen ffasiwn a phe byddai yn treulio allan hen ddillad ei dadcu. Yr wy' i'n&icr mai rhyw hogyn iraidd heb erio'd fod nemawr yn rhydd oddiwrth linyn ffedog ei fam yw e'. Chi allwch chwerthin, ond yr wy' I'n sicr mai te wrth ei olwg gwirion." 'Mily, 'does dim peth cywilydd arna' ti i siarad am y poor fellow fel yna ? ni fynet ti ddim iddo fod wedi ei wisgo fel rhyw deiliwr Llundain." "Ie, ond mae e' mor shy hefyd a phe byddai heb erioed wel'd mereb, chwaithach siarad a hi o'r blaen; mae e'n gwridio os gwna I ond edrych arno. Elen, sut mai e' gyda thi a Miss Hughes ? Ydy' e'n siarad peth a chi ?" Ydyw, Miss Emily, mae e'n siarad o'r goreu a Mrs, Hughes." 0, yn wir siarad a Mrs. Hughes, aie Ddim a thi ynte! Miss Nel, ni wna hyny mo'r tro," ebe hi, gan ys- gwyd ei phen yn ammheuiis." Ni 'ddwedfcs I ddim nad oedd e'n siarad a mi," ebwn innau." Naddo, mae'n wir ond Dyna, dyna," ebe Miss Watcyn, mae'n raid i'm students I roi heibio dadlu fel yna yn nghylch y rhyw arall. A ydyw'th ysgrifen yn barod, Emily Fe fydd mewn eiliad." Elen, wy' ti'n barod ?" Ydwyf, Miss." Dvro ef y naill ochr ynte, a dere i ddarUen; mae'r llyfr y fan yma." Ar ol darllen fy rhan, gollyngwyd Miss Emily a minau i fyn'd allan i yfed o'r awelon- i ialaidd, ond er ein Loll ,,gris athrylith, methasom a pherswadio Miss Watcyn i ddod gyda ni; yr oedd yn well ganddi i fyned i'r study at ei thad, i gymmeryd ei gwers mewn Groeg. Hi aeth i mewn a'r llyfr yn ei llaw; a phwy oedd yno ond Mr. Owen, yr ysgol-feistr, yn eistedd, gan yfed yn awyddus yr athron- iaeth ag oedd yn dyferu o enau Ml" Watcyn, fel "mêI o'r diliau mel." Yr oedd Mr. Watcyn yn haeddu'r teitl o athronydd. Yr oedd wedi bod, ac yn bod, yn ddiwyd yn pentyru yn ei feddwl amrywiol wybodaethau, ac yn medru eu defnyddio i'r dybenion goreu. Yr oedd ei farn, fel clorianau cywir, yn pwyso pob peth i'r llwehyn, Ei gyfeillion bob amser oeddynt yn rhai coethus eu meddyliau cymmeriadau lienyddol, prif feirdd y dywysog- aeth. Mynych yr oedd y rhai yma yn mwynhau groesaw gwresog wrth fwrdd foethus Castell Ifor. Er hyny, yr oedd yna rai yn awr ac eilwaith yn dod, ag oedd, fel Mrs. Collins a'i merch, yn cyfrif fod eyfeillach a Mr. Watcyn yn :rhoddi bwyd iddynt yn y gymmydogaeth y byddent hwy yn byw.

fioimu

Advertising