Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TY Y CVFFREDIN.

News
Cite
Share

TY Y CVFFREDIN. DYDD LLUN, Mawrth 26. Cymmerodd y Llefarydd ei eisteddle ychydig cyn pedwar. Cyflwynwyd deisebau, dros gyfreithloni priodasa chwaer gwraig drengedig, yn erbyn dilead y Dreth Eglwys, dros ddilead v cyfryw, &c. Ar y cynnygiad o drydydd darlleniad vsgrifpysgodfaoedd Ness a Beauly, cynnygiai Mr. Cumming Bruce, fod iddi gael ei darllen y drydedd waith chwe mis i'r dydd hwnw. Ar ol ychydig ddadleu, rhanOdd y Ty, pan gafwytf Dros y trydydd darlleniad 148 Yn erbyn 93 Mwvrif 55 1 Darllenwyd yr ysg"f y drydedd waith, a phasiwyd hi. Cadfridog Peel a gynnygiai am fod dychweliad o sefyd. liadau catrodol Prydeinig am 1860—61 o bob gradd, &c., i gael eu gosod gerbron. Mr. S. Herbert a ddywedai nad oedd ganddo wrthwyn- ebiad i'r dychweliadau, oddieithr y rhai berthynai i dros- iadau. Gorehymynwyd y dychweliad gyda gwelliant. Ar ddygiad i fvny adroddiad ffyrdd a moddion, cyfodai Mr. Horseman, a dywedai ei fod am wneyd rhai sylwadau ar wladoldeb tramor y wlad hon, yn neillduol ar y ber- thynas yn mha un y saif y Ty hwn yn y dadleuon ar gwes- tiynau o wladlywiad tramor, yn gystal tuag at ein gwein- idogion gartref, a Llywodraethau tramor ar led. Atebwyd Mr. Horsman gan Arghvydd J. Russell inewn araeth alluog. Cymmerwyd rhan yn y ddadl hefyd gan Arglwydd J. Manners, Mr. Bright, Arglwydd C. Hamilton, a Mr. Kinglake. Syr H. Willougliby a awgrymai ei bod yn ddyledswydd ar y Llywodraeth i wellau, os yn bosibl, yr annghyfartal- rwvdd yn y faeldreth. Yr oedd yn adgofio y Ty fod deis- ebau wedi eu cyflwyno-un yn neillduol o ddinas Man- ceinion, yn nodi yr annghyfiawnder mawr sydd yn yr annghyfartaledd. Syr J. Pakington a sylwai, nad oedd Canghellydd y Trysorlys etto wedi egluro yn gywir y swm a fwriadai dderbyn ar gyfrif y faeldreth, Mr. Deedes a eglurai, ei fod ef wedi pleidleisio dros leihad y dreth o 10c. i 9c. Yna cyfododd Canghellydd y Trysorlys, a gwnaeth rai sylwadau ar yr annghyfartaledd, &c. Yna cyfododd Mr. Disraeli, a gwnaeth rai sylwadau er ceisio dangos annghyfiawnder ac annoethineb ychwanegiad y faeldreth. Cyhuddai Ganghellydd y Trysorlys o arfer rhyw eiriau yn y Ty, yr hyn a wadai y Canghellydd. Dy- wedai Mr. Disraeli, os na ddywedodd hyny, iddo ddweyd rhywbeth tebyg i hyny. Ar ol llawer o ddadleu, cytunwyd a'r adroddiad yn nghylch y faeldreth. Cytunwyd ar amryw o'r penderfyniadau ereill. Cyflwynwydamryw ddeisebau yn erbyn caniatau trwydd- edi i fwvd dai i werthu gwin. Dywedai Mr. Ayrton, ei fod yn awyddus, cyn y buasid yn cynnyg ail ddarlleniad yr ysgrif, appelio at Ganghell- ydd y Trysorlys am ei ohirio. Dywedai Canghellydd y Trysorlys fod yn ddrwg ganddo ymyru a'r boneddwr anrhydeddus, ond credai ei fod yn hollol reolaidd wrth gynnyg ail ddarlleniad yr ysgrif. Cynnygiai Mr. Ayrton drachefn anerch y Ty, ond dy- wedai y Llefarydd fod Canghellydd y Trysorlys mewn meddiant o'r Ty. Wedi i Ganghellydd y Trysorlys draddodi araeth faith a galluog, cynnygiai Mr. Wyld ohiriady ddadl. (Llefau o, Na, nal). Mr. Ayrton drachefn a obeithiai y byddai i'r boneddwr anrhydeddus ganiatau i'r ddadl gael ei gohirio, hyd oni chawsid dadlu y penderfyniadau mewn pwyllgor. Yna l-liaiiwvd v Tv. nan gafwvd Dros y gohiriad 122 Yn erbyn 150 Mwyrif 28 Yn erbyn 1bO Mwyrif 28 Ar ol llawer 0 siarad a dadleu pellach, gobiriwyd y ddadl hyd ddydd Llun. Dygwyd ysgrif y faeldreth i rnwn. a darllenwyd hi y Waith gyntaf. Dygwyd ysgrif treth y papyr i mewn, a darllenwyd hi y waith gyntaf. DYDD MAWRTH, Mawrth 27. Cymmerodd y Llefarydd ei eisteddle am 4 o'r gloch. Cyflwynwyd nifer luosog o ddeisebau dros ddilead y Dreth Eglwys. Syr S. Northcote a ofynai i brif Arglwydd y Drysorfa a oedd y Llywodraeth yn bwriadu cynnyg unrhyw bleidlais y flwyddyn hon dros godi benthyg swm at amddiffynfeydd tu hwnt i'r symiau a gynnygiwyd yn y cyfrifiadau sydd yn awr ar y bwrdd ? Arglwydd Palmerston a ddywedai fod y Ty yn wybodus fod swyddogion milwrol wedi cael eu gosod i ystyried pa amddiffynfeydd ychwanegol sydd angenrheidiol at y dock- yards, a rhyw bethau ereill. Mr. Bowyer, wrth weled yr Iarll anrhydeddus yn ei le, a ddymunai ofyn gofyniad, yr hwn fe ddichon a allai efe ateb yn absenoldeb yr arglwydd anrhydeddus, ysgrifenydd amgylchiadau tramor, pa un a oedd Arglwydd Cowley wedi anfon i Lywodraeth ei Mawrhydi adysgrif o nodyn tra phwysig a anfonwyd gan ysgrifenydd Cardinalaidd y Llywodraeth, i'r Nuncio yn Paris, yr hwn oedd yn ateb i nodyn blaenorol i M. Thouvenel, a pha un a fuasai y Llywodraeth yn gosod copi o bono ar y bwrdd ? Dywedai Arglwydd Palmerston, pe buasai yr aelod an- rhydeddus wedi rhoddi rbybydd, y buasai yn dda ganddo ei ateb, ond nad oedd yn bresenol mewn sefyllfa i roi atebiad. Cadben L. Vernon a gyfodai yn unol a'r rhybydd a roddai, ac a alwai sylw y Ty at adroddiad pwyllgor y Packet a'r Telegraphic Contracts, aci gynnyg, Fod y Ty hwn, wedi ystyried yr adroddiad a'r dystiolaeth a gyf- lwynwyd gan y pwyllgor neillduol ar ammodau gwefrebol, &c., o'r farn y dylai yr ammod a wnaed ar y 26ain o Ebrill, 1859, rhwng y dirprwywyr ercyflawnuy swydd o brif ar. glwydd llyrigesol Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a'r Iwerddon, a Joseph George Churchward, gael eichyflawni. Cy mmerodd dadl boeth le ar y mater hwn, yr hon a gymmferodd i fyny braidd holl amser y Ty, ac ni fyddai o un budd i'n darllenwyr, eichlywed. Pan ranwyd y Tv, cafwvd fod- Dros y cynnygiad 117 Yn erbyn 162 Mwyrif 45 1 Darllenwyd amryw ysgrifau yr ail waith, a gohiriodd y Ty am 15 mynyd i ddau o'r gloch. DYDD MERCHER Mawrth 28. Cynnygiodd Syr J. Trelawney fod i'r Ty ymffurflo y bwyllgor ar fesur diddymiad y dreth eglwys. Wedi rhai sylwadau oddiwrth Mr. Packe yn erbyn y mesur, Cynnygiodd Mr. Newdegate fel gwelliant:-Y bydd i'r Ty hwn ymffurflo yfory yn bwyllgor i ystyried y priodoldeb o serydlu treth, yn He y dreth eglwys, yr hon sydd o hyn allan i'w diddymu, ar bob meddiannau ag y talwyd treth eglwys arnynt yn y saith mlynedd diweddaf, a bod i'r cyfry w dreth gael ei chodi gyda threth y sir yn swm penodol y bunt, a bod i'r tenant yn mhob amgylch- iftd gael hawl i dynu y swm allan o'i ardreth. Cefnogodd Mr. Cross y gwelliant. Dywedodd Mr. J. Trelawney nad oedd efe wedi gohebu dim ag un o'r ddwy blaid fawr ag oedd yn cymmeryd dyddordeb neillduol yn y cwestiwn. Yr oedd efe yn credu y gwnai ymdrafodaeth barhaus a'r pwnc fwy o niwed i'r eglwys na phasio y mesur presenol; ac ar y seiliau per- sonol byddai yn dda ganddo weled y cwestiwn wedi ei benderfynu, canys gallai sicrhau i'r Ty ei fod wedi llwyr flino ar y ddadl arno. Unig effaith y gwelliant fyddai trosglwyddo y dreth oddiwrth y tenantlad i'r tirfeddian- wyr. Gwrthwynebai Syr S. M. Peto y gwelliant. Ni wnai dim llai na llwyr diddymiad foddloni ymneillduwyr. Edrychai Mr. Watlington ar yr ymosodiad ar y dreth eglwys fel rhagarweiniad i ymosodiad ar y degwm. Nis gallai ef dderbyn y mesur na'r gwelliant, am fod yn well ganddo gynnygiad pwyllgor detholedig Ty yr Arglwyddi. Wedi i amryw siarad rhanodd y Ty, pan y cafwvd- Dros ymffurfio yn bwyllgor 222 Dros y gwelliani 49 Mwyrif 173 Yna ymffurfiodd y Ty y bwyllgor nr y mesur, a phas- iwyd ef. DYDD IAU, Mawrth 29. Ni fu un peth o bwys neillduol i'r eyhoedd gerbron heddyw. DYDD GWENER, Mawrth 30. Dywedodd Arglwydd John Russell, yn ateb i holiad Mr. E. C. Egerton, na wnaed cytundeb chwanegol rhwng y wlad hon a Ffrainc gyda golwg ar doll y nwyddau a yrid o'r wlad yma i Ffrainc. Mewn atebiad i Mr. Longfield, dywedodd Arglwydd J. Russell fod mater Sanyuan dan ystyriaeth, ac yn tynu at derfyniad. Hyd hyny, cedwid yno gant o forfilwyr Lloegr, a'r un nifer o filwyr Americaidd. Yna, wedi i draul yr amddiffynfeydd Trefedigaetho I fod dan sylw, galwodd Syr R. Peel sylw at sefyllfa Switzer- land gyda golwg ar gyssylltiad diweddar Savoy a Ffrainc. Gwnaeth Syr R. Peel araeth hirfaith ar y mater, a dywedai fod gwaith Ffrainc yn attafaslu Savoy yn gwbl groes i'r teimlad cenedlaethol, ac i'w holl wrtbdystiadau. Y mae hanesiaeth yn gwrthbrofi yr haeriad fod traddodiadau Ffraine o blaid uno Savoy. Honai efe nad oedd gan frenin Sardinia un hawl i roddi Savoy i fyny i Ffrainc. Yr oedd Ffraine wedi prynu holl newyddiaduron Savoy, ac wedi camddarlunio syniad y wlad. A oedd yn werth amser rhoddi rhyddid i Italy, ac ar yr un pryd ei gymmeryd oddiar Switzerland a Savoy ? Yr oedd efe yn galw ar y llywodraeth i wrthdystio yn y modd mwyaf pendei-fynol yn erbyn ymddygiad Ffrainc, yn enwedig gyda golwg ar y taleithiau canolog. Yna tynodd y cynnyg yn ol, a ba Mesur y Diwygiad, Treth yr Incwm, Treth y Stampiau, kc., dan sylw. DYDD SADWRN, Mawrth 31. Cyfarfu y ddau dy dydd Sadwrn, Ty yr Arglwyddi er rhoddi caniatad Breninoi i amryw ysgrifau a Thy y Cyff- redin er darllen mesur Treth yr Inewm, ac eiddo y Stamp- iau y drydedd waith. DYDD LLUN, Ebrill 2. Gosododd Argl. John Russell ohebiaeth ychwanegol ar y bwrdd gyda golwg ar achos yr Eidal, a gwnaeth rhai eg- luriadau ar y mater. Wedi dadl ar weithrediadau cy- hoeddus, ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar y ddeddf ar- drethol. DYDD MAWRTH, Ebrill 3. Nid eisteddodd y Senedd dydd Mawrth ond am ychydig amaer, ac yna a ohiriwyd dros wyliau y Pasg,—hyny yw, hyd dydd Llun wythnos i'r nesaf.

[No title]

TY YR ARGLWYDDI.