Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI.—CHWEF. 6.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—CHWEF. 6. Dysgyblaeth Eglwysig. Gwnaeth yr Arglwydd Ganghellydd, mewn atebiad i Argl. Brougham, rai egluriadau gyda golwg ar yr Ysgrif ar Ddysgyblaeth Eglwysig. Wedi trin rhai materion dibwys ereill, gohiriwyd y T^. TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 6.
Yr Eisteddiad Eglwysig yn…
News
Cite
Share
Yr Eisteddiad Eglwysig yn Nghaergaint. Mr. J. G. Phillimore a ofynai a oeddid yn bwriadu can- iatau i'r Eisteddiad Eglwysig yn Nghaergaint i barbau eu heisteddfodau. Syr G. Grey a ddywedai fod y T9' yn gwybod fod yr Eisteddiad Eglwysig wedi cyfarfod mewn ufydd-dod i w9's oddiwrth y Goron ond nid oedd yn meddu gallu i wneyd canonau, heb drwydded oddiwrth y Goron. Nid oedd dim trwydded wedi ei rhoddi y flwyddyn hon, ac yr oedd ef yn tybied, na fyddai un weithred a gyflawnid ganddynt yn gyfreitblon. Y Rhyfel Persiaidd a Ckineaidd. Mewn atebiad i gwestiynau oddiwrth Mr. H. Baillie, dy- wedai Canghellydd y Trysorlys, mai y trefniant a wnaed rhwng Llywodraeth ei Mawrhydi a Chwmpeini yr India Ddwyreiniol, mewn perthynas i'r rhyfel Persiaidd ydoedd, fed y wlad hon i dalu hanner y costau. Yr oedd y llywod- raeth gartref i dalu y costau anarferol yn y rhyfel Chine. aidd, ae yr oedd y rhai liyn eisoes yn £590,693 ond yr oedd swm Uawer iawn mwy na hyny yn ddyledus oddiwrth y cwmpeini i'r llywodraeth, ac felly ni byddai raid gwneyd un taliad y flwyddyn hon. (Chwerthiniad.) Deddf Breinlen yr Ariandy. Canghellydd y Trysorlys a gynnygiai fod pwyllgor yn cael ei benodi i chwilio i weithrediad deddf Breinlen yr Ariandy yn 1844, deddf Ariandy Ysgotland a'r Iwerddon yn 1845, a hefyd mewn perthynas i'r gyfraith gyda golwg ar faueiau joint stock. Aeth dros yr acliosion a arweiaias- ant i basiad deddf 1844, a hyderai y byddai i'rT^gydsynio a'r cynnygiad heb fyned i mewn i'r ddadl ar natur arian rhedeg, yr hyn a allesid ei adael yn hawdd i bwyllgor ;or neillduol. Nid oedd am gynnyg dim cyfnewidiad yn y ter- fyniad am ledaeniad biliau y bane, sef tua £14,470,000, a chyda chymmeradwyaeth y pwyllgor, byddai efe yn barod i ddwyn ysgrif i mewn er adnewyddu y Bank Charter Act am ddeng mlynedd. Am fane yr Iwerddou, yr oedd yn cynnyg rhoddi gallu iddynt i roddi allan arian ar ddiogel- iadau i swm penodol; a chyda golwg ar Ysgotland, yr oedd wedi ysgrifenu atynt, yn gofyn a oedd ganddynt ryw welliannau i'w cynnyg, ond nid oedd etto wedi derbyn ateb- iad. Ar y pwnc o Joint Stock Banks, yr oedd vn barnu nad oedd y gyfraith yn gweithio yn foddhaol, a byddai yn dda i sylw y pwyllgor gael ei droi at y mater. Ar ol dadl faith, cydsyniwyd a'r cynnygiad, gydag ych- ydig o gyfaewidiad.
TY YR ARGLWYDDI.—"BVBP. 9.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—"BVBP. 9. Cyflwynwyd deisebion gan Tavll Shafftsbury yn erbyn y fasgnaeh mewn cysglyn (opium,) Mewn atebiad i Arglwydd Lyndhurst, gyda golwg ar osod copi o gofrestriad y llong Arrow gerbron, dywedai Iarll Clarendon, nad oedd ganddo ef un gwrthwynebiad i wneyd hyny.
TY YR AR3LWYDDI.—Chwef. 10.
News
Cite
Share
TY YR AR3LWYDDI.—Chwef. 10. Manylion Amaethyddol. Mewn atebiad i Argl. Wynford, dywedai Argl. Stanley o Alderley, nad oedd y Weinyddiaeth yn bwriadu dwyn i mewn fesur tebyg i'r un y llynedd gyda golwg ar gael manylion (statistics) amaethyddol, os na fyddai dymuniad am hyny. Llysoedd Eglwysig. Yr Arglwydd Ganghellydd a alwai sylw y Ty at awdur. durdod y Llysoedd Eglwysig, gan egluro ei fwriad gyda golwg ar awdurdod y Llysoedd Uchelfreintiol, cyfraith ys- gariad, &c. Wedi i Argl. Lyndhurst, Esgob Exeter, Argl. Campbell, ac Argl. Brougham, wneyd rhai sylvvadau, darllenwyd yr ysgrifau y waith gyntaf.
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 10.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 10. Y Cytundeb Dirgel. Mr. Disraeli a anerchai y Tk mewn perthynas i gy tun- deb dirgelaidd a wnawd rhwng Ffraine ac Awstria, drwy ba un yr oedd tiriogaethau Eidalaidd yr olaf yn cael eu diogelu iddi. Dywedai nad oedd ammheuaeth yn ei feddwl gyda golwg ar gywirdeb yr hysbysiaeth, a chrecbi fod y cytundeb wedi ei wneyd drwy gydsyniad Lloegr. Mewn atebiad, dywedai Argl. PaJmerston nad nedd y fath gytundeb yn wybodus iddo ef. Yr unig sail a allai ef briodoli i'r fath hysbysiaeth oedd, i Awstria ofyn tua'r am- ser y cyfeirir ato, os byddai iddi hi gymmeryd rhan yn y rhyfel yn erbyn Rwsia gyda Ffraine a Lloegr, ua fyddai i Ffraine gymmeryd mantais o hyny i aflonyddu ei thiriog- aethau Eidalaidd, a'r hyn y cytunodd Ffraine ac os dyg- wyddai annghydfod yn yr Eidal, y byddai y milwyr Ffrengig i gynnorthwyo Awstria i gadw mediant o'i thir- iogaethau. Gan na chymmerodd Awstria ran weithredol yn y rhyfel, ni chafodd y cytundeb ei law-nodi, ac, o gan- lyniad, nad beddoun gwerth. Wedi yr eglurhad hwn, rhoddwyd y mater heibio.
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 9.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 9. Y Dreth Eglwys. GofynaiSyrJ. Pakington, a oedd y Weinyddiaeth yn bwriadu dwyn ysgrif i mewn ar y Dreth Eglwys; a pha un a fyddai iddynt gynnyg gwelliant ar ysgrif Syr W. Clay, fel y gwnaethant llynedd ? Syr G. Grey a atebai, gan fod cymmaint o ysgrifau mewn golwg gan y Weinyddiaeth, barnai nad oedd un bwriad i ddwyn ysgrif i mewn ar y Dreth Eglwys yn yr eisteddiad presenol; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gadw yr hawl o gynnyg gwelliant ar unrhyw fesnr a ddygid gerbron gan aelodau anrhydeddus. Y Rhyfel a Phersia. Mewn atebiad i Mr. Layard, dywedai Mr. V. Smith, fod Feruk Khan, y cenadwr Persiaidd at Amherawdwr y Ffrancod, wedi derbyn cyfarwyddiadau er cyflafareddu a'r Llywodraeth Brydeinig. Tocynau Rhyddid. Syr G. Grey a geisiai genad i ddwyn ysgrif i mewn er gwella y weithred a wnawd yn 1853; ae wedi rhoddi ei resymau dros y cyfnewidiadau a fwriedid, dywedai ei fod yn credu fod y waedd a godid yn erbyn rhyddhad personau drwy docynau rhyddid, er i raddau yn gywir, yn rhoddi lliw gwaetli ar bethau nag oeddynt mewn gwirionedd. Wrth edrych dros sefyllfa y wlad am y ddwy flynedd ddi- weddaf, canty idai, er fod cynnydd yn y cyfanswm odros- eddau, etto yr oedd nifer y personau a ddygid i brawfwedi lleihau o 25,922 yn 1855 i 19,433 yn 1856, sef tua 25 y cant, er fod y meiwyr wedi eu dadgorffoli. Nid oedd y pethau hyn, yn ol ei farn ef, yn cyfiawnhau y waedd fawr a godid yn y wlad ar yr achos. Wedi i amryw ereill siarad, rhoddwyd caniatad i ddwyn yr ysgrif i mewn.
,TV Y CYFFREDIN.—CHWEF. 11.
News
Cite
Share
TV Y CYFFREDIN.—CHWEF. 11. Wedi ychydig wrthwynebiad oddiwrth Mr. Horsfall a Mr. Ewart, darllenwyd Ysgrif Gadwriaethol Dociau v Mersey yr ail waith. Darllenwyd Ysgrif Barnau Dien- yddiadau, &c., hefyd yr ail waith, wedi i'r Ty ymranu ar yr achos.
TY YR ARGLWYDDI.—CHWEF. 12.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—CHWEF. 12. Wedi dwyn ail gospedigaethau troseddwyr gerbron y
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 5.
News
Cite
Share
oedd efc yn ei fawr ammen, a'r doethineb o ganiatau idd- ynt awdurdod ar y fath diriogaethau eang, ac yr oedd efe yn ei ystyried yn warth ar y Senedd ei ganiatau cyhyd. Wedi ychydig o ymdriniaeth pellach, eydsyniwyd a'r cynnygiad.