Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HANSSION GARTEEFOL.

News
Cite
Share

wyd darlith gan W. J., Ysw., Llwynygroes, ar Yd Rawn, &c. Cynnygiwyd, a chariwyd, ar fod i Mr. Rees Evans, Llanvaughan, i draddodi darlith y tro nesaf, ar Driniaeth Gwartheg a Lloi. Cafwyd cyfarfod adeiladol a buddiol dros ben.-Ap SIENCYN. TARW TEW.—Gwerthodd Mr. John Jenkins, Rhydy- benau, Llanfihangel-Ystrad, darw yn ffair Capel St. Silin, ar y 7fed o'r mis hwn, am £ 20. Dyma siampl go lew i amaethwyr, onite ?—AMAETHON. TRISANT, CEREDIGION.-Ar y 9fed cyflsol, ymgasglodd tyrfa anarferol i wrandaw ar y Parch. D. Davies, Peny- morfa, yn traddodi ei ddarlith gampus ar y llyfr a elwir, Y dyn ieuanc oddicartref." Y r elw i fyned at wasanaeth ysgol ddyddiol y lie. Yr oedd y ddarlith yn llawn o'r blodau mwyaf prydferth, wedi eu cyssylltu a'u gilydd yn y modd mwyaf destine a chelfyddgar, fel yr ymddangosent fel afalau aur mnc gwaith arian cerfiedig." Mae Mr. Davies yn ail i Mip Spurgeon am gasglu cynnulleidfa i'w wrandaw, a chasgp arian at wahanol achosion ac y mae 61 llafur anarferol Ar ei holl ddarlithoedd.—GWRANDAWWR. DOWLAIS.—Anrheg i blwyj Merthyr.—Yn ddiweddar darfu i ddynes anmhriod o'r lie hwn roddi genedigaeth i dri o fechgyn, pa rai sydd yn dyfod yn y blaen yn llwyddian- hus. Dywedir mai dyma y seithfed plentyn y mae y ddynes hiliogaidd hon wedi anrhegu plwyf Merthyr a hwynt, a hyny ar dri genedigtieth. DOWLAIS.— Tan.—Y mae yn ffaith nad oes nemawr o drefydd yn cael eu cylchynu a chymmaint o'r hylif echrys- lawn, ond gwasanaethgar uchod, a'r dref hon. Y mae yn rhyfeddod genym, pan y byddom yn cymmeryd ein taith hwyrol i ben un o'r bryniau cylchynol, na fuasai yr holl dyrau dirfawr o dan a welir o'n cwmpas yn rhuthro i ymun- iad &'u gilydd, ac yn ysu y cwbl i ddifodiant. Ond er bod ein hanneddau yn cael eu cylchynu, ac yn drigfan i gym. maint o'r hylif hwnw, nid oes ond yehydig wedi myned yn aberth iddo, er cof genym ac fe ychwanegir y rhyfeddod with ystyried nad oes cymmaint ag un dwfr-beiriant yn y dref hon, nac yn un o'r trefydd cymmydogaethol. Diau na ddylai hyn fod yn ddisylw gap, awdurdodau ac y mae yr amgylchiad canlynol yn gal^K&i hyny. Aeth dyn o'r enw Henry Jones, yn nghyd aToriod, allan o'u han- nedd nos Lun diweddaf, gan adael tri o blant bychain yn eu gorweddfa. Yn fuan tynwyd sylw y cymmydogion at dan oedd yn gweithio allan trwy y ffenestr, a thrwy ym- drech, arbedwyd bywydau y rhai bychain ond fe aeth llawer o feddiannau yn aberth i gynddaredd yr elfen ddinystriol. CWRDD CHWARTER DOSPARTH CANOL DYFED.—Ar ddyddiau Mawrth a Mercher, y lOfed a'r lleg o'r mis preseno], cynnaliwyd cwrdd chwarter y dosparth hwn yn Nhreletert. Ar yr aclilysur, gweinyddodd y brodyr can- lynol:—Rees, Philips, a Jones, Hwlffordd W. Reynolds, Felinganol; J. Jenkins, Trefdraeth; D. W. Charles, Bryntroedgam Jones, Abertawe; a S. Rees, Bula. Cawd pregethau da, cynnulleidfa luosog, a chasgliad rhagorol at ein cenadiaeth artrefol.-GwRANDA WWR. FELINFOEL.—Nos Fawrth, y 3ydd cyfisol, yn addoldy y Bedyddwyr yn y lie uchod, traddododd y Parch. H. W. Hughes, Lerpwl, ei ddarlith gampus ar Ymdaith yr Israeliaid o'r Aifft i Ganaan." Erbyn 7 o'r gloch, er syndod i lawer, yr oedd tua mil o bersonau wedi ym gyn- null yn nghyd, ac mewn ychydig amser wedi hyny, yr oedd y capel, er ei helaethrwydd, yn orlawn o ddynion awyddus am wybodaeth. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. W. Hughes, Bethel, Llanelli; ac wedi dyferu rhai brawddegau cynnwysfawr, galwodd ar ei gefnder, sef y parchus ddarlithydd, i anerch y gwyddfodolion. Gan fod gallu a medrusrwydd Mr. Hughes mor hysbys i'r cyhoedd, ni anturiaf ar hyn o bryd i roddi un desgrifiad o'i gamp- waith ysplenydd. Eglurid y ddarlith a darlunleni a llin- eion (maps and diagrams), pa rai sydd yn adlewyrchu canmoliaeth nid bychan i Mr. Hughes am y dull destlus a ehelfyddydgar yr oedd wedi eu dwyn oddiamgylch. Cynnygiwyd ac eiliwyd awgrymiadau y cyfarfod hwn gan y Parchedigion M. Evans, J. Rees, J. D. Thomas, a J. R Morgan (Lleurwg). Canodd cfir y capel amryw ddnau tarawiadol dros ben, ac yna, yn ei sain soniarus, dych- welwyd gartref wedi cael gwledd ddymunol i'r meddwl.- W. GEORGE. FELINFOEL.—C^ogjfliwyd cyfarfod Misol dosparth de- heuol swydd Gaedp5|jlin yn y lie hwn ar ddyddiau Mawrth a Merche|y ^Ofe)fiL^'r lleg a'r mis presenol. Nos Fawrth, am 7, darllenOfld a gweddiodd y Brawd D. Morrit, Llandyfaen a phregethodd y Brodyr D. Morris, a J. Reynolds, Cydweli. Dydd Mercher, am 10i, dar- llenodd a gweddiodd y Brawd E. Davies, Horeb; a phre- gethodd y Brodyr J. Williams, Llangendeyrn; W. Hughes Glanym6r a B. Thomas, Penrhiwgoch. Am 2, dar- lien odd a gweddiodd y Brawd J. Thomas, Bryn (A.); a phregethodd y Brodyr J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a M. Evans, Llwynheady. Am 7, darllenodd a gweddiodd y Brawd T. Jones, Llwynhendy a phregethodd y Brodyr D. Jones, Llangenech; a J. Rees, Pontlliw. Mae yn ddy- wenydd genym hysbysu, i ni gael eyfarfodydd hynod o ddymunol, a gwir obeithiwn y bydd iddynt barhau felly yn eu cylchdro yn ol Haw; ac y gwel yr Arglwydd yu dda i goroni ymdrechien ei weision a llwyddiant mawr.— W. GEORGE. MERTHYR TYDFIL.—Lledr fasgnach.—Mewn canlyn- iad i gyfarfod a gynnaliwyd yn ddiweddar gan fasgnach- wyr esgidiau, ymddangosodd hysbys-leni yn 1fenestri maelfaoedd y cyfryw, yn galw sylw y cyhoedd at godiad marchnad y crwyn a'r lledr, yr olaf tua chant a hanner yn y cant, a'r blaenaf bum cant yn y cant, yn marchnad Merthyr wrth yr hyn a fuont., yn nghyd a'r angenrheid- rwydd oedd arnynt, yn groeViV dymuniadau, i godi yn mbris yr esgidiau. Yr oeddynt, meddynt, wedi oedi yn hir i ddysgwyl a fuasai terfyniad y rhyfel yn effeithio i ddwyn y farchnad i'r raddfa gyffredin, ond nid felly y bit. CYMBEITHAS DDIRWESTOL AC ARIANOL MYNYD6- BACH A CHAERSALEM NEWYDD.—Mae y gymdeithas hon yn beth newydd ar y ddaear ni chlywwyd o' r blaen am ei bath. Plentyn newydd eni yw ond os bydd iddo gael tipyn o ofal a sylw y nurse, gall fod o wasanaeth pwys- ig cyn hir. Mae pob rhan (share) yn dairpunt, i gael ei thalu drwy bum swlIt y mis a'r arian i gael eu gosod ya yr ariandy hyd ddiwedd y flwyddyn, ar enwau pedwar o ymddiriedolwyr. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd i bob un gael ei arian gyda'r llog, heb fod dim dimai wedi ei thalu ganddo am eu cadw, chwaethach pump neu chwech swllt. Nid oea neb yn cael eu talu am eu gwasanaeth yn y gym- deithas hon, ond teimla pawb yn ddedwydd i gael gwneyd rhywbeth er lies eu cyd-ddynion. Swyddogion y gym- deithas ydynt,-y Parch. J. Daniel, Mynyddbacb, yn ga- deirydd; Mr. D. R. Davies, Treboeth, yn ysgrifenydd; Mr. Wm. Williams, Tirdeunaw, yn drysorydd y Pàrch. Thos. Thomas, Glandwr, y Parch. E. Jacobs, Abertawy, a Mr. John Humphreys, Treforris, a Mr. Thos. Morgan,, Tirdeunaw, yn ymddiriedolwyr. Nos Lun, Chwcf. 9, cyn- naliwyd y cyfarfod cyntaf, pryd y traddodwyd darlithiau bywiog a phwrpasol gan Mr. Thomas, Mr. Jacobs, a Mr. Daniel, i glywedigaeth tyrfa luosog o wrandawwyr siriol yn Nghaersalem Newydd.-Derbyniwyd y swmo j620. Nifer y personau a dalasant oedd 58. Anwyl ddirwestwyr, yn mhob man drwy Gymru benbaladr, gwisgwch nerth bydd ar nos y cyfarfodydd uchod ddarlitbiau gan berson- au galluog. Colled fawr i'r gymmydogaeth hon oedd colli Mathetes. 0, Mathetes anwyl, mae arnaf hiraeth yn awr ar dy ol. Gobeithio fod dy heddweh fel yr afon. Gwnaethost lawer o dda yma, er i bedwar carnolion wneyd niwed i sobrwydd ar ol dy symud. Terfynaf, gyda dwcyd- Ar fyr prvsuro'r boreu Na fyddo'r meddwi cas, Na'r bobol yn gwastraffu Eu harian gyda bias Y gwr a'r wraig fo'n tynn At sobrwydd drwy eu hoeSj A'r bachgen, gydalr eneth, Fo'n cofio am y Groes,"—CYMRO,