Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. IJ2ir Mae genym amryw atebion a gofyniadau ar law; caiff y goreuon o honynt ymddangos yn eu tro. TINGAD.-Nid ydym yn gallu canfod yr atebai uu dyben i ni gyhoeddi eich ysgrif yn SEREN CYMRU. CW Dysgwylir i bawb a anfonant hanesion, &c., dan ffug-enwan i ni, ymddiried eu henwau priodol i'r golygyddion. *;1<* Dymunwn hysbysu y bydd i'r bennod gyntaf o waith Hamilton ar Gerddoriaeth ymddangos yn y Rhifyn nesaf. Gan y bydd hwnw yn dechreu chwarter, bydd yn gyfle da i dderbynwyr newyddion roddi eu henwau at SEREN CVMRU. AT EiN DERBYNWYH.—Gan fod chwarter o SEREN CYMRU ar ben gvdalr Rbifyn hwn, hyderwn y bydd i bawh nad ydynt wedi talu hyd yn hyn, i gwblbau a'r Dosparthwyr YN DDXOED, fel y byddont hwythau yn alluog i ateb ein gofynion. Rboddir cyfres o'r tal- iadau yn y Rhifyn nesaf, yr hyij a arbeda i ni y gost o anfon receipt am yr arian. Cymmerwn y cyfle presenol hefyd i ddiolch i'r cyfeillion liyny ag ydynt wedi rhoddi eu cefnogaeth i ni yn ein hanturiaeth- iddynt hwy, yn benaf, y mae i ni briodoli rhif pre- senol derbynwyr SEREN CYMIW. Fodd bynag, gan ein bod yn awyddus i ddechreu y chwarter nesaf gyda dim llai n& dwy fil o dderbynwyr, hyderwn na fydd iddynt laesu eu dwylaw, ond y parMat yn eu ffyddlondeb, fel y gosoder ein Cyhoeddiad uwchlaw pob perygl.
Y PYTHEFNOS.
News
Cite
Share
Y PYTHEFNOS. YMAE poM Manceinion wedi bod yn siarad tlawer am addysg, ac y mae y ddau wr mawr ac enwog hynv, Syr J. K. Shuttleworth a Syr John Packington' wedi bod gyda hw^nt, ac wedi gosod i lawr drefn y gweithrediadau Semeddol o berthynas i addysg yn yr eisteddiad presenol. Y mae yn drueni na byddai rhi- eni yn gofalu am addysg eu plant lieb ymyriad y llyw- odraeth, canys y mae addysgu y plant yn bwnemor arbenig, ac yn dtrledswydd mor orphwysedig arnynt H u gwisgo a'u porthi, ac y mae yn llawn mor rhesym- ol i alw ar y llywodraeth i'w bwydo, &e., a galw ami i'w dysgu. 5 Y mae y cabidwl (convocation) wedi bod yn eistedd, a'r ddau Dy wedi siarad llawpr am faterion eglwysig. Y mae darllen gwasanaeth y gladdedigaeth ar lan beddau dynion nad oes un gobaith am eudedwyddwch mewn byd arall, wedi derbyn condemniad cvffredinol; y mae eisieu diwygiad yn sicr yn hyn o beth, ond nid oes gallu gan y gabidwl i wneuthur un cyfnewidiad, canys y Senedd yw gweithfa deddfau yr eglwys Si- aradwyd yno liefyd am y dre.th .eglwys, yr hyn sydd fwy nag y mae gweinyddiaeth Palmerston yn feddwl wneuthur—nid yw'r weiuyddiaetli yn myaed i son siw na miw am dani. Y mae eisicu i'r Ymneillduwyr fod yn fyvv gyda'r pwnc ytnaj ac y mae iluoeddo Eglwys- wyr yn sier o fod o'u hochr. Y mae yn bryd gosod terfyn ar yr hen dreth ffrilaidd yma; canys y mae yn achosi cynlien mawr rhwng cyfeillion, ac y mae'r dytld wedi gwawrio pan y dylai cydraddoldeb crefyddol eis- tedd ar gadair pob sect—eyss'wynair pob enwad ddylai hyn fod, Nid rhyddid ond cydraddoldeb. Dymunwn iwyddiant i ysgrif Syr W. Clay, a gobeithiwn y daw 4aioni mawr o gyfarfod cyfeillion cydraddoldeb cref- I yddol, yr hwn a gynnaliwyd Chwefror 18fed, yn. y London Tavern. Mater mawr y pythefnos, modd bynag, yw mater cyllidol y deyrnas-y goden; yr hyn a ddygwyd ger- bron y Ty gan Ganghellydd y Trysorlys ar y 13egcy.. fisol; ac fel yr awgrymasom mewn rhifyn blaenorol, y mae y uaw ceiniog ag oedd y rhyfel wedi alw Jon ychwanegol o dreth y daered i gael eu tynu ymaith yn He 16c. y bunt, ni bydd ond 7c. Y mae yn addaw gostwng trethoedd y te a'r sugr hefyd, yr llyn a fydd- ai yn ysgafnhad mawr iawn i'r gweithiwr, ond yn lie y naw miliwn y mae yn addaw dynu ymaith, y mae, am dair o flynyddau, yn bwriadu mynu pumtheg miliwn o drethi ar angenrlieidiau y llafurwr y mae eisieu dysgu 0 deddfau cynnildeb yn dost iawn ar y llywodraeth. Nid rhyw ddyddordeb mawr sydd yn yr hanesion tramor. Rhyfel hyd at waed yw llais Persia. Y mae y Shah wedi cyhoeddi rhyfel satitaidd, ac wedi addaw yn ffyddlawn i'w bobl na bydd iddo roddi modfedd o fiordd i Brydain. Dywedir fod Rwsia wedi gwrth- dystio yn erbyn ein hymddygiadau cyaamedrol ni tuag at Persia, a'i bod yn bwgwth danfon ei byddinoedd i faes yr ymdrech. Hyderwn, fodd bynag, y bydd i'r cyflafareddiad aglr sydd yn awr yn myned yn inlaen i osod terfyn ar y cweryl, ac yr adsefydlir heddwch etto rhwng y ddwy wlad. Y mae llyfr mawr o fanylion amgylchiadau yr an- nymunoldeb ag sydd rhyngom a China wedi cael ei gyhoeddi, ac y mae yn amlwg ddigon fod y Chineaid wedi darnio y cytundebau, ac nas gallasai hyd y nod Mr. Cobden ei hunan fyw yn heddychol gyda chread- uriaid mor anstywallt. Y mae Canton yn faes parhaus i ymladdfeydd bychain, er nad oes niweidiau mawrion wedi eu gwneuthur yno hyd yma. Y mae Pennsylvania wedi gwaeutliur tipyn o iawn am ei hymddygiad gwarthus-yn etholiad y Llywydd, drwy ethol gwerinwr yn seneddwr; ac y mae hyn wedi cael argraff ddwfn ar y llywodsvyr. Y mae yr anrhyd- eddus Preston Brooks, yr aelod dros South Carolina, yr hwn a fu agos a lladd Mr. Sumner yn y Senedd- dy, wedi marw yn lied ddisymmwth. Nid yw amgylehiadan yr Eida) annedwydd yn gloywi dim, ac y mae rhyw faatell o drvrader yn daenedig dros y wlad. Y mae Naples yn llawn trueni, a'r bre- nin yn ofni cyllell y llofrudd bob mynyd o'i fywyd. Nid rhyfedd ei fod yn ofni; canys y mae ei ymddyg- iadau yn warthus, ac y mae rbai o'r dynion mwyaf a' goreu yn Ewrop yn dihoeni yn ei garcharau. Y mae Senedd Ffrainc, o'r fath ag ydyw, wedi cael ei hagor, ac araeth yr Amherawdwr a ddywed fod y wlad mewn Ilwyddiant. Y mae Brenm Prwsia, er a ddywed yr amherawdwr yn .ei araeth, yn un o'r rhai mwyaf dirmygedig yn Ewrop. Y mae'r oil o ymddyg- iadau Pi-wsia yn y blynydolau diweddaf yma yn ei han- addasu hi yp hollol iAr-urflo yr undeb ameanedig rhyngddi a Phrydain Ceir gweled hyn os cymmer y briodas Ie, a dangosir y casineb pan y ceisio y wein- yddiaeth hyn a hyn o waddol i'r dywysoges ieuanc ag sydd yn meddwl rhoddi ei Haw i etifedd coron Prwsia Y mae'r etifedd yn rhy diawd i gynnal a chadw gw-r.aig, ac y mae ynofnadwy fod yn rhaid i ni dalu i'w eyn- northwyoef. Y mae Adelaide, Albert, a'r holl gar- dotwyr Germanaidd yma, wedicostio digon i ni eisoes • ac addasach o lawer fyddai gadael i'r plant breninol. yma bnodi rhywun a all eu cadw. Y mae digon o foneddigion yn y wlad yma a all gynnal eu ga,raredd yn anrhydeddus, a phaham na chant hwy ddewis o bhth plant yr orsedd, fel yr ysgafnheid ychvdig ar feichiau trymion Shon Beu Tarw,