Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Pa beth oedd i'w wneyd ? Efe a deithiodd lawer o filltir- oedd i ymofyn gwaith ond yn hollol aflwyddiannus. Ei blant bychain a lefent am fara, oblegid yr oeddynt yn gor- fod byw ar ennill bychan eu mam, yr hwn nid oedd ond ychydig iaws; ond yr hyn a ofidiai John yn benaf ydoedd, ei anallu i dalu y rhent. Gwnelai hyn yn gysson pan yn gwcithio; ae yr oedd y meistr, yr hwn nid oedd mewn aragylcliiadau da ei hun, yn bygwth gafaelu yn yr ychydig ddodrefn oedd ganddo yn ei dy, os nad allai ddod o hyd i't arian. Gan i John fethu, gosododd ei fygythiad mewn gweithrediad y Llun canlynol. Edrychai John ar yr ychydig ddodrefn a feddai yn cael eu cludo ymaith gyda chalon drom, a llygaid llawn o ddagrau ond nid oedd un gofid yn gyfartal i'r un a, deimlai wrth ei gweled yn cym- meryd ymaith ei Feibl. Taer ddymunodd arnynt adael hwnw ond ni wnaeth perchen y ty un sylw o'i gais, yn mhellach na dweyd wrtho, y dylai fod yn ddiolchgar ei fod yn cael aros yn y ty, ac mai oddiar yr ystyriaeth ei fod wedi arfer talu y rhent yn gysson o'r blaen, yr oedd yn cael hyi.y o ffafr; a bod yn well iddo fed yn ddystaw, a myned i edrych am arian, onide mai gadael y ty fyddai y petli nesaf. Er fod hyn yn cael ei ddweyd mewn llais ac iaith drahaus ac arglwyddaidd, ymdrechodd John fod yh dawel, ac anfonodd weddi at Dduw, am gynnorthwy yn ei gyfyng- der. Nid hir y bu yr Arglwydd cyn gwrandaw gweddi y dyn tlawd, oblegid yr oedd ychydig o dai i gael ei hadeil- adu yn y gymmydogaeth, a eliafodd John ei gyflogi gyda'r blaenaf, i weithio arnynt. Tnvy ei ddiwydrwydd, a'i ym- ddygiad uniawn, daeth yn dra buan yn feistr arno ei hun, ac ni chollodd ddim amser cyn talu ei ddyled. Er ei hoU gynnildeb, bu gryn amser cyn dod yn hollol rydd, a mawr oedd ei lawenydd pan gafodd ei hun yn ddyn diddvied. Ei ymdrecli nesaf ydoedd pwrcasu Beibl, canys efeaddywedai, Gallwn wneyd yn wellhebymborth ilr coj-ff, nag heb ddim i'r enaid." Yn ganlynol, wedi iddo gynnilio ychydig o geiniogau, efe a aeth i faelfa lie gwerthid Uyfraa ail-law, i bwrcasu Beibl. Gwedi liysbysu ei neges, tynodd y masg- nachwr hen Feibl i lawr oddiar yr astyllen, yr liwn oedd wedi bod yn un da iawn un diwrnod, ond yn bresenol, yn lied larpiog a chan ei fod yn isel-bris, pwrcasodd John ef, ac yr oedd yn IIawen ganddo gael Beibl o ryw fath. Y noson hono, eisteddodd yn hir yn ei d$i'w ddarllen. Pan ar ei roddi heibio, canfyddodd fod dwy ddalen ar ei ddechreu wedi eu cludio wrth eu gilydd. Wedi iddo gym- meryd gryn drafferth, llwyddodd i'w hagor, a mawr oedd ei syndod wrth ganfod nifer o nodau ariand^, yn cyrhaedd y cyfanswm o £40, yn syrthio i'r llawr. Ar y ddalen, yr oedd yn ysgrifenedig y geiriau canlynol:—" Yr oeddwn bob amser yn cael fy nghyfrif yn ddyn hynod, ac ym-' ddengys hyn yn hynod. Yr wyfnewydd wneyd fy ewyllys, ac heb ddim yn neillduol i wneyd a'r jE40 hyn gan hyny, mi a'u cludiaf o fewn fy hen Feibl, ac a'i danfonaf i lyfr- werthwr llyfrau ail-law oblegid pwy bynag a fyddo yn ddigon tlawd i brynu hwn, ac yn ddigon duwiol i fod a'i angen arno, ystyriwyf ei fod yn deilwng o'u cael. Cym- mer hwynt, fy nghyd-gristion mae i ti roesaw calon." Mae yn annichonadwy darlunio teimladaa John ar yr am- gylchiad hwn. Efe a fendithiodd yr hen foneddwr hynod i'i holl galon, a rhoddodd ddioleh i'r Arglwydd am ei ddaioni prydlawn iddo ef a'i deulu angenus, ac ni fu eisieu arno tra fu byw. Mae yr hanesyn hwn yn darawiadol i eiriau y Salmydd, Ni welais I y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara." Cyf. ALIQUIS.

[No title]

NA FYDD BYW I TI DY HUN.