Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

fater, ac i deimladau didduwiaeth; tra y mae cyssylltu mater ac ysbryd a'u gilydd, yn tueddu i weithio ynom rhyw deimladau crefyddol ac hybarchus. Beth sydd yn dych- rynu y llofrudd, pan wedi cyflawnu ei gyflafan erchyll; ïe, pan y mae yn nghanol diogelwch ? Paham y mae y lirwg. weithredwr yn dychrynu wrth glywed sigliad y gangen uwch ei ben, neu rigliad y ddalen dan draed ? Y mae ar y drygionus weithiau ofn i goed y maes ei ymlid, i sibrwd yr awel ei geryddu, ac i'w gysgod ei hunan ymaflyd ynddo. Beth yw y breuddwydion dychrynedig a aflonyddant ei gwsg ? Y mae anian ei hun megys yn ein ceryddu pan allan o lwybrau rhinwedd; yn ein haddysgu pan yn cyf- lawnu ein dyledswyddau yn uniawn, ac yn tystiolaethu eu boddlonrwydd pan y byddom yn gwneuthur daioni. Beth yw yr ysbrydion, &c. ? Os ydynt yn unpeth, rhaid mai bywyd natur ydynt; ond a ydyw yn anmhosibl i fywyd dyn, wedi iddo gael ei chwythu allan yn yr anadl olaf, ym- ffurfio yn ymddangosiad ar amseroedd ac achlysuron, er dyfod i rybyddio, ceryddu, neu argymhell trigolion y ddaear ? Y mae philosophyddion wedi bod yn barnu pethau cyffelyb, ac uid ydynt etto wedi marw i gyd, pa un ai gwir ynte twymyn yr ymenydd ydyw yr achos. (I'w barhau yn y nesaf.)

Y RHIF SAITH.

Y LLYFRGELL.