Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
'Rhen Domos.
'Rhen Domos. VIII. Treuliwyd llawer noaon ddifyr ar aelwyd 'Rhen Domos gan yr "Hogia" tra ar eu twyli-au, ond daeth hyny ti ben fel cwrs pob peth arall. Dychwelodd Eilyn 'at ei ,waith d'r De, ac Ifor a Hywel i'r Coleg i orphen eu hefrydiaeth. Daeth pethau yn ol i'w cwrs cyffredin, ac i ganlyn hyny feddyliau prudd "Rhen Domos. Rhyw foreu 'Sadwrn yn y gwaith daeth ato yr hyn y bu yn ei ofni. Boreu gwlyb yd- oedd, a natcr drwyddi draw yn brudd a .gwelw ei igwedd; a thuag unarddeg o'r gloch y boreu hwnw dyma un o'r :is-feistrad- 9edd at 'Rhen Domos, gan ei alw o'r neilldu. "Neges bur annyinunol sydd genyf i'w hysbysu i chwi heddyw bore, Tomos Ifans," ebai'r is-feistr. M'a'e'r perchenogion wedi bod yn edrych i mewn i sefyllfa petha yn y gwaith, ac yn gweled yn wyneb codi safon -cyflog a'r Compensation Act" yma sydd ne. Iwydd ei phasio drwy y Senedd, tybiant fod yn rhaid .tynu i mewn yn xhywle i wneyd d diyny y gofynion mawr yma sydd yn codi; ac felly maoent wedi pe,riderfynu troi i ffwrdd yr lien bobl, gan eu bod yn fwy agored i ddamwain drwy eu .musgrellni; ac yn mhell- ach, ni allant .gael cymaint o waith oddiwrth- yat a'r ieuane; a gwyddoch, Tomos Ifans, nad ydych mor heinyf ac mor atebol i lafur ag y buoch. Nid ydych yn ogysta.1 dyn i'r 0 oy cwmni heddyw ag y buoch, ac mae arnaf ofn y .bydd ynrhaid i mi eich stopio. Sut by nag, mae eich enw ar y list gan Mr Driver." Siaradai yr is-feistr mewn dull swyddogol ac awdurdodol, heb faw,r o gydymdeimlad yn y golwg, ond o dan .grystyn caled yr is-feistr yr oedd yna galon nad alLai lai na theimlo dros 'Rhen Domos, druan. Aeth 'Rhen Domos yn ol at ei waith, a -chalon drom fel y plwm, a saethai ambell i ochena-id oddiyno yn awr ac edlwaith. Yr oedd ei feddwl yn brysur ar waith, ac medd. ad wrtho ei hun, "Dyddia calad ydi rhai'n i hen bobol. Wn i yn y byd mawr he wna i a Betsan anwyl. Ma geni arswyd rhag bydd .rhaid i mi a hitha fyn'd i'r Ty Mawr d dreulo'n dyddia; ac fel y gwela i betha 7rwan, ma hi yn y'n gwasgu ni yno bob -dydd, a wela i ddim diangfa i ni yn unman. Yn wir, ma hi yn ddigalon iawn, ar ol bod wrthi fel hyn ar hyd y lblynydda yn gweith- io'n galad i'r meistradoedd yma, a phrin y ces i ddigon i fyw. (Gorfod i -mi a Betsan tfdiodda llawar, a gwasgu llawar arnom y'n JlUnan i fyw fel darfu i ni, a magu y plant, ac er hyny drwg dawn fu hi amball dro. ■Ma'r pexchenogion wedi cael mwy o hona'i •na'u shiar, am hyny o gyflog ges i gynu'n nhw lawar gwaith, ac os ydw'i yn fusgrell rwan, os na fedrai weithio cystal iddyn nhw, iawn fydda iddyn nhw gym'ryd hyny fedrai roi iddyn nhw. Ma nhw wedi cael fy nhydd- ia. gora i gyd; ac am y Ty iMawr yna, hwyrach fod yno well tainad na cha i gartra, ond ma well geni fyn'd i medd na myn'd yno, a fydda'n well geni fyn'd a Betsan i'r iynwant na myn'd a hi yno. Ia, dyddia calad ydi rhiai'n i hen bobol, ar ol diodde' pwys a gwres y dydd, i'w lluchio nhw o'r aMilIdu fel rhyw hen drol a welir yn muarth amball i ffarm, wedi darfod i ddyddda." Daeth yr amser noswylio, heliodd pawb eu harfau at eu gilydd, fe ganodd corn y gwaith, ymaith a phiiwb i'w gyfeiriad ei hun—rhai i fyny i'r Cwm, eraill i lawr, & 'Rhen Domos yn eu plith. Nid oedd rhaid craffu liawar i .wei'd fod y newydd gafodd ".Rh,en Domos yn y boreu wedi effeithio yn fawr arno. P-lygai ei ben yn i'5 nag arfer, dangosai llinellau ei Avynebpryd boen medd- wI. Yr oedd ei enau wedi ei ch-tu yn dyn, ei lygaid yn synforudd, a'i aeliau mawr yn taflu eu cysgodion yn drymach dros y llyg- y .aid. Cerddai fel un o dan faich mawr. O'r diwedd cyrhaeddodd gartref. Yr oedd Betsan wedi bod ar ben y drws droion yu Edrych am dano, a phan ddaeih 'Rhen Domos i'r ty, gwelai ei llygaid craff nad oedd 'Rhen .Domos fel arfer. Gwelai fod rhywheth wedi digwydd er y boreu, ond tawedog oedd 'Rhen Domos, a cheisiai guddio ei gwyn allan o wydd Betsan. Wedi j'mgeleddu dipyn arno ei hun, eisteddodd with y bwrdd a'w bryd syml o datws a chig moch, a llaeth enwyn. Nid oedd fawr o siarad ynddo, er yr ymdrechai wneyd hyny, ond fe deimlai mai peth chwithig iawn oedd ceisio siarad; a phan y siaradai a Betsan, teimlai fod rhywbeth yn ei lais a'i ddull oedd yn ei fradychu i Betsan. Yn y man mae Betsan yn methu dal, a gofynai iddo- Be sy arnat ti heno, Tomos ? A fu dam wain yn y gwaith heddyw ?" "Naddo," meddai 'Rhen Domos. "INVel, gest ti ddiwmod calad iawn ?" "Naddo, rhwbath fel arfar," ebai 'Rhen Domos. ■Wei, be sydd arnat ti, dwad ? Wyti yn sal ? neu ynta ai mis gwael ydi hwn am. -gyflog ? Deuda rhwbath, da ti, yn lie fy anod i fel ffyrat yn hela ar dy ol di i bob gongol, a hyny heb fod dim gwell." •O'r diwedd gwerodd 'Rhen Domos nad gwaeth tori y newydd vn fuan mwy nag yn hWYT-Y mynai Betsan wybod, ei bod yn 'rhy glefar," ys dywedai 'Rhen Domos iddo gudd. ao ei galon oddiwrthi, ac hwyrach ar ol dweyd y caffai heddwch oddiwrth y croes- holi oedd fel colyriiad gwenyn iddo. Wel, mi ddida. i ti," meddai 'Rhen Domos, "ma'r peth y bum i yn i ofni er's talwm wedi d'od. Gwyddost, Betsan, fod peth a yn newid yn fawr yn y dyddia yma. Gwyddost fod yr ymdxech yn dyn rhwng y mistar a'r gweithiwr—fod y gweithiwr yn d'od i afal a mwy o'i hawlia; ond weldi, 'Betsan, ma mantas y g-welithiwr yn troi yn anfantas i'r hen bobol, am fod y mistar, ,yn wyneb i ofynion newydd, yn gofyn am rhw- bath y clywds y mistar acw yn i alw yn effishiansi.' Be di hwna dwad, fTomos ?'' Wei, mi ddida i ti gan belLad ag ydwi yn duallt. Ishio dynion cryf, hedni, 'tebol i waith." "Wel, os dyna sy arnyn nhw ishio, Tomos, mi rwyt ti cystal a'u hanar nhw, a 'does gyny'n nhw ddiim chwartar dy brofiad di." Wei, (Betsan," efoai 'Rhen Domos, "wath i ti heb shiarad fel 'na wyddost. Dwi ddim fel r'on i. Ma llafur yn dweyd arna i 'rwan, ac ma cyni a Hafur y blynydd- oedd wedi deyd i ha-n,as arna ni ill dau, Betsan, ydi'n siwr." Gwelodd Hetsan erbyn hyn nad allai fyn'd yn erbyn ei phrofi,ad ei hun. Gwyddai fod 'Rhen Domos a hithau bron ar grib olag goriwaered eu bywyd. Ac er'byn hyn yr oedd deigryn ar rudd Betsan, oanys hofiai ei phriod yn fawr." "Wel," meddai, "gorphan dy stori, Tomos." Wei, at hyn r'on .i'n d'od," ebad. D'idodd Mr Jos wrthai heddj'.w ;i fod o'n ofni y bydd .rhaid addo stopio'r hen bobol i gyd a weldi, Betsan, dyma duedd yr oes hon; ishio, rhwbath sy'n myn'd sydd ar hon, wath beth ond iddo fyn'd, er iddo wneyd y trwst mwya, gan ddychryn hanar ■gwlad, a chodi lluwch yn gymyla, ishio rhwbath i fyn'd sy arnyn nhw ishio gwneyd pobpath ar frys. Aros di, Betsan, chlwsom ni ddim yn ddiweddar am rhw deyrnas net. oedd ddyfeisiwyd gan rhwun cyn geni lesu -Grist, un oedd am gau allan y cloff, y gwan, y musgrell, a'r hen ?" "Do," meddai Betsan, "gan Mr Morris, Lerpwl." IVel, Betsan, ma foreuddwyd y dyn hwnw yn d'od i ben, weldi. Fydd na ddim lie i'r un ohonan ni yn fuan ar y ddaear yma. Aros di, iBetsan, welsom ni rhw sylw go ryfadd yn do, dro yn ol, fod rhwun yn cymall rhoi rhwbath i gysgu i'r gwan, a'r cloff, a'r hen, er i cael nhw oddiar y Sordd." "Yn wir, 'rwyt ti yn siarad yn rhyfadd iawn," ebai Betsan, lie ma dy ffydd di dwad yn 'Rhen 'F<ei.bil a Duw ? Dyna a ddwad ynte, Tomos, 'Yr Arglwydd a ddar- par,' a dyna i ti adnod arall, Mi a fum ieuanc, ac ydwyf hen; eto, ni welais y cyfiawn wedi ei ado, na'i had yn cardotT. bara.' A mi wyddost, Tomos, dydi 0 ddim wedi'n hanghofio ni eto." la, Betsan, eitha gwir, -ond rhaid i ti gofio fod dynion yn d'rysu plania Duw yn amal iawn. Rhaid i ti ddim ond edrach o dy gwmpas i wel'd hyny, wyddost. Meddwl di am y c'ledi a'r tlodi sy'n mysg llawar o honom, tra ma gan eraill fwy na digon. Dydi dynion drwy rhaid i calon hunanol yn d'rysu plania Duw." Wei, 'dwyt ti ddim yn coelio dy Feibil dwad, Tomos ?" meddai Betsan. Wei, ydw yn siwr, Betsan bach," ebai 'Rhen Domos. Ond wel'di, Betsan, ma gan Dduw rhw ddwy ffordd i weithio- gweithio ar i union, a gweithio o gwmpas. Ma dynion drwg yn mhob oes yn d'rysu y ffordd gynta, am na. ddont i mewn i blania Duw, ac oherwydd hyny ma Duw yn gorfod gweithio o gwmpas, ac ma hyny yn cymeryd mwy o amsar i Dduw gyradd i blania, ac yn tybio llawar o frwydro oalad, a gorthrwm a clx'ledi mawr, cyn gellir symud rhwystra dynion i -blaiiia Duw gael Ilwyddo. Wei'di mor hir y bu -yr hen gened.1 yn yr Aipht ar i ffordd i Gan'aan. Mi fasa nhw yn gallu myn'd mewn ychydig o wythnosa yno, medda nhw, i fwynhau grawnsypia y wlad, onibae fod dynion drwg yn d'rysu plania Duw, fel 'roedd Duw yn gorfod gweithio nhw o gwm- 9 r, pas i fyn'd a nhw i'r wlad ddeclwydd, a bu'r hen genedl mewn c'ledi mawr am ddeugain mlynedd, a'r rhai laniodd yn Nghanaan, 'roeddant yn hen bobor 'rwan. Bu farw Moses yn ngolwg y wlad, wyddost Betsan; ac ma gen ina ofn ma rhwbath fel 'na fydd fy hanas ina, .Betsan-ma marw wna inau yn ngolwg y wlad, oblegid mi glywis y pwyswr. acw yn y gwaith yn deyd y bydd blwydd-dal i hen bobol yn fuan iawn, fod y Llywodraeth yn parotoi at hyny. Ma'n debyg y byddai a thitha yn y bedd cyn hyny, lie bynag arall yr iawn ni." Paid tori dy galon, Tomos," ebai Betsan, "mi ddaw rhwbath etc, wel'di, neith 0 mo'n hanghofio wnath O ddim eto, a bu yn ddigon calad arnon ni lawar tro. 'Dwyt ti ddim yn cofio y ddamwain fawr hono, dwa'd, -Tomos, pan gest ti dori dy goes a thrybar dy ysgwydd, a William, y'n bachgen ni, wedi brifo'i 'sena. Dyna ddyddia du, Tomos, ynte ?" la'n wir, Betsan bach," ebai Tomos. A chest di ddim o'r gwaith, Tomos. 'Doedd y ddeddf 'na—be wyt ti yn i alw fo, dwad, hwnw sy'n helpu pabaI wedi brifo ag yn helpu y weddw—ia, 'doedd hono ddim mewn bod. Ma'n wir i ni gael dau ddyn o'r gwaith, un y dydd a'r llall y nos, i fod wrth erchwyn dy wely am yr wythnos gynta, 0 pan 'roeddat ti mor ddrwg, ond fu arnon ni ishio dim, naddo, Tomos; na'r plant 'ma chwaith; 'ro'dd y'n cyra'dogion ni mor glen -wrtha ni." Do, mi fuon nhw yn syndod o garedig, ond Betsan," ebai 'Rhen Domos, peth gwa- hano'l iawn ydi bod yn hen. M,a nhw yn cynefino efo hwnw, ac yn gwel'd ma cwrs naturiol peth a ydi myn'd yn hen. Cawn ni rhwbath i gael tamad rhag myn'd i'r Ty Mawr7 chwynwn i ddim. :Caem ni ddig,on i gal tamad a dipyn i dalu y rent a chadw y'n to y'n hunan uwch y'n pena, ynt& Bet- san ?" Gwelwodd wyneb Betsan pan glywodd en. wi y Ty ilawr. (I'w barhau.) -0:-
Un o Leygwyr Ffyddlonaf Talaeth…
Un o Leygwyr Ffyddlonaf Talaeth y De. Y DIWEDDAR MR. ISAAC LLOYD, BORTH. Chwith meddwl fod xhaid croniclo am iarw yr hen frawd cryf, gwridgoch, Mr Isaac Lloyd. Cymerodd hyny le boreu Llun, Rhagfyr 30ain, ar ol 'bod am yn agos i fis mawn sefyllfa ibjon yn anymwybodol, ac yn ei 76 mlwydd oed. Cafodd ei gyfan- soddiad .cadarn ergydion trymion iawn yn ystod y misoedd diweddaf, ac anmharent ych- ydig ar ei synwyrau corphorol, os nad rhyw fymrya hefyd ar ei alluo-edd meddyliol ar adegau. Er wedi myn'd yn gloff a musgrell iawn, mynai lusgo i'r -capel. Yr o-edd pawb yn falch o'i weled yn yr hen gadair freich- iau dan y pwlpud, ond gwlychid gruddiau ami i un wrthweloed hen frawd cryf, llygad- fyw, .wedi myn'd dipyn yn synllyd wrth nesu at ymyl y lan, fel pe bae disgleirder y car- tref nefol yn rhy lachar iddo wrth syllu yn mlaea at gopaon pur.wyn y bryniau pell1; Bu yn flaenor am flynyddoedd meithion. Cadwodd ei gymeriad yn ddilychwin. Yr oedd rhyw awdurdod o'i gwmpas nad oes neb yn ei feddu ond dyn Duw. Meddai ar uchelgais i fod yn ddefnyddiol yn eglwys Grist, a galluoedd meddyliol uwchben y cyff. rediu. Er yn meddu ar ewyllys gref, eto ar adegau gellid ei gyhuddo efallai o fyr- bwylldra, gan faint ei eiddigeddi dros lwydd- iant yr achos a'i onestrwydd unionsyth wrth drafod pob cwestiwn. Fel pob cymeriad dwfn, nid yn hawdd oedd ei symud wedi iddo wneyd ei feddwl i fyny. Ni 'bu yn erio-ed yn ddyfnach yn serchiadau yr ardal. Yr oedd yn arweinydd seiat deheuig, a siaradai bob amser yn chwaethus a dyddorol. Un o noclweddion amlycaf ei garictor ydoedd "humour." Yr oedd gryn swm o'r chwar- eus ynddo hyd i'r diwedd bron. Torai gwen •brydferth nes crychu ei wyneb llydan, braf, wrth siarad am rhyw dro trwstan o'i eiddo. Soniai am' farw yn y misoedd diweddaf fel un yn penderfynu gadael y fro am wlad arall yn hollol ddigyffro. Mi byddai i wedi myn'd yn union." Fyddai i ddim yn hir eto." Efallai," meddai yn yr Ysgol Sul wrth ei ddosbarth, "y byddai i wedi myn'd cyn cyraedd y ty," a gwenai yn iachus fel pe byddai ofn i neb gwyno iddo. Gofalodd roi ei ddeg iswllt arferol at y chwarter o'r neilldu yn mhell cyn croesi'r glyn, a threfn- odd bobpeth yn ei ddull pendant ei hun go- gyfer a'i angladd. Bu Mr ;Lloyd yn "circuit steward" am flynyddoedd lawer, a mynychodd y Cyfar- fodydd Talaethol mor ffyddlon a neb. Ni fynai o gwbl fod yn y swydd wedi iddo fethu teithio i'r Districts. Collodd y Dalaeth un o'r lleygwyr ffyddlonaf yn ei. farwolaeth, yr eglwys yma flaenor mewn gwiriooedd, a'r wlad gymeriad Gristionogo.1 teilwng i'w efel- ychu, ac un edmygid gan bawb a'i had- waenai. Yr oedd ei angladd yn dangos pa mor barchus oedd gan 'bawb, yr hwn gymerodd Ie dydd Iau. Nid yn ami y gwelir un gy- maint yn yr ardaloedd hyn. Yr cedd yn- ddo amryw weinidogion a lleygwyr yn per- thyn i'r gwahanol enwadan yn mhell ac yn agos. Cymerwyd rhan wrth y drws gan y Parch D Egwys Jones, ac wrth lan y bedd gan y Parchn J Cadvan Davies a J D Jones, Tre'rddol. Coded yr Arglwydd eto rhywun tebyg i lenwi'r ;bwlch mawr yn yr eglwys hon ac yn y gylchdaith. Gorr. -0: o
BANGOR.
BANGOR. CymdeÜhas Gristionogol a Chyffredinol.- Cynhaliwyd cyfarfodydd crefyddol dan nawdd y gymdeithas uchod yn ysgoldy St Paul's, dydd Nadolig, pryd y cafwyd cyfar- fodydd gwlithog, a Duw yn amlwg yn y lie. I'r arhai sydd yn meddwl fod gwres y Di- wygiad wedi diffoddi, byddai yn llawenydd genym weled y cyfryw yn rhoddi eu presen- oldeib yn y cyfarfodydd uchod. Yn y cy- farfod cyntaf, am 10-30, yr oedd yr yst-fell yn llawn am 2-30 yr oedd yn orlawn; am 6 o'r gloch cafwyd cyfarfod-gwedcl-io a phre- geth gan Mr William Richards, Bangor, i gynulleidfa fawr. Yn sicr yr oedd Duw yn y lie. Nos Wener, cynhaliwyd seiat, a rhoddwyd cyfle i'r dychweledigion ddyweyd hanes eu dychweliad at Dduw. Yr oedd yr ystafell yn orlawn. Arweiniwyd y cyfarfod gan Mr Humphreys, trysorydd y gymdeithas. .Y -Eurgyn. oy
Gwespyr.
Gwespyr. 0 Rhagfyr 15fed, cynhaliwyd iCyfarfod Ysgol yn y lie uchod, o dan nawdd yr Undeb Ys- golion, ac o dan lywyddiaeth Mr J B Tho. mas, ysgolfeistr, Gwespyr. I ddechreu cyfarfod y prydnawn cafwyd adroddiad gan Mary Evans o'.r Emyn 905, a gweddiwyd gan Mr 0 AVilliams, o eglwys Penyffordd. Cat. wyd adroddiadau .gan 'Laura W'iIIiams, Wm John 'Parry, Clarice Jones, S E Parry, Em- rys Evans, Hilda Griffiths, Uuddug Evans, Miss Mary Roberts, Thomas Evans, Mrs R Roberts, Tudor Griffiths, Mina Evans, Blod- wen Williams, James Elder, ac Isaac Parry. Holwyd Dos. I yn Hanes Iesu Grist gan frawd o .Ffynnongroyw, a chafwyd atebion da iawn. Holwyd Dos. II yn y burned ben- od o'r Allwedd ga.n Mr D Jones, o Ffynnon- groyw. Holwyd .Dos, III mewn penod o'r Egwyddorydd gan Mr Richard Jones, Peny- ffordd, a holwyd y xxii o'r Holwyddorydd Duwinyddol gan Mr Thomas Jones, Ffyn- nongroyw. ,Cawsom haner awr gyda'r ben- od gyffredinol, sef y vii yn Llyfr yr Actau, a chafwyd hwyl dda. Rhaid dyweyd fotl y cyfarfod .hwn yn un o'r rha.i goraf—dim bwlch o'r dechreu i'r diwedd. Dylai y brodyr yn Ngwespyr fod yn ddiolchgar iawn i'r rhai gyme,rasant drafferth i ddysgu y plant i adrodd ac i ganu .mor rhagorol, sef Mri Thorn-as Williams ac Alun Nicholson. Cawsom hefyd unawd gan Mr A NicLolson yn effeithiol iawn, a. dylem ddiolch hefyd ar fbob cyfrif i Miss Griffiths am gyfeilio mor ddeheuig. Yr oedd yno y fath gyflawnder o waith wedi ei barotoi fel nad oedd He i'r areithwyr.-R.E.
Treorci.
Treorci. n Dydd Sul, Rhag. 15fed, cynhaliwyd Cyfar- fod Ysgolion Undebol y gylchdaith yn y lie uchod, dan lywyddiaeth Mr John Oliver, Ystrad Rhondda. Da-eth cynrychiolaeth o bob ysgol, ag eithrio ysgol Penygraig. Yn y boreu, adroddwyd Salm xxiv i ddechreu gan Master Leonard Edwards, a gweddiwyd gan Mr W Hughes, Treherbert. Pwnc y cyfarfod oedd holi yr ysgol yn Actau viii. Yr oedd yr holwr undebol, Mr D 11 Miles, yn abseno.1, ond .anfonodd at yr ysgrifenydd dranoeth lythyr yn rhoddi eglurhad am ei absenolde-b, isef aliechyd sydyn yn y teuiu. Arholwyd yr ysgol gan Mr John Morgan, Treorci, yr hwn hefyd a gyflawnoddy swydd o ysgifenydd am y dydd. Ag ystyried yr amgylchiadau fe gafwyd, cyfarfod da iawn, yn cael ei nodwedd u gydag ateJbiQn parod. Terfynwyd trwy weddi gan Mr John Morgan, Ton-Pentre. Am ddau o'.r gloch, -adroddwyd Salm viii gan Master D J Morgan, a gweddiwyd gan Mr R 'Williams, Tonypandy. Wedi cael anerchiad gan y Llywydd, awd trwy y rhag- Z, len a ganlyn :-Adroddiadau gan Misses M Kenrick, Gwladys Jones, Jane Jones, Ellen Ann Hughes, Maggie Ann Thomas, Mary A Rowlands, 'Masters D R Jones a Ben Will- ,iams; canwyd gan Misses Maggie A Thorn. as, B M Kenrick, Lizzie A Parry, Master Willie Edwards, a dosbarth Mr Lewis Ed- wards. Yn ystod y cyfarfod holwyd y Dos. 1. yn Hanes Iesu "Grist gan Mr Rees Will- iams, a chafwyd amser da iawn. Am chwech yn yr hwyr, cafwyd areithiau Thagorol gan rai o wahanol Ysgolion Sul y gylchdaith, yn nghyda chaneuon gan ysgol- orion Calfa.ria, fel y canlyn: -Areithiau gan Mri R Williams, Tonypandy; D Roberts, Clydach Vale; D Williams, Ton-Pentre; Sam Davies, Ystrad Rhondda; W Hughes, Treherbert. Cafwyd adroddiad da gan Mr R J Meredith, Treorci, a chanwyd yn felus gan Misses Mary E Jone, Sarah A Edwards, S T Jones, a Mr John D Jones. Clywir fod yr areithiau y tro yma y rhai goreu a glywyd mewn cyfarfod ysgolion er's llawer dydd, a chredir fod y rhai oedd wedi cael y fraint o fod yn bresenol drwy'r dydd yn teimlo eu bod wedi cael mwynhad mawr. Gobeith'.o mai i fyny y cwyd y llanw.—Goh o o
LLANDEBIE.
LLANDEBIE. Cynhaliwyd y cyngherdd glynyddol yn y lie uchod nos Nadolig ar raddfa eangach nag arfer. Sicrhawyd gwasanaeth soprano a tenor oedd wedi cael cc Royal honours "—y ddau yn perthju i'r c6r mawr o Lanelli, yr hwn a gafodd yr anrhydedd o ganu o flaen Iorwerth VII yn /Windsor Palace ychydig amser yn ol. Caniatewch, Mri Gol., i'w henwau le ar dudalen y GWYLIEDYDD. Soprano, Miss Elizabeth Hall, Pentre, o'r "Royal Welsh Ladies' Choir"; contralto, Miss Agnes Thomas, Ammanford; tenor, Mr W T Rees (Eos Dulais), Pontardulms; bass, Mr Morgan Griffiths, Golden Grove; elocutionist, Miss (Maud Evans, Llandebtd; cyfeilyddes, Miss Ethel M WillJams, A.L.C.M., Llandeilo. Cade-irydd, Mr G Dybie Thomas, Swansea. Datganwyd yn rhagorol gan Miss Hall, nes gorfu iddi ail ganu bob tro. Dyma'r tro cyntaf iddi ym- ddangos ar lwyfan cyngherdd yn yr ardal hon. Brysied yma eta yw dyxnuniad llawer. Gwnaeth eraill eu gw,aith ,i foddlonrwydd.' Cafwyd llori'd y capel o wrandawyr ac elw -ylweddol.—H.E.T.
—^^ "I Fyny Bo'r Nod."I —…
—^ "I Fyny Bo'r Nod." — ri Dyna ydyw arwyddair yr oes mewa ystvr fydol; am fyn'd ar i fyny mewn clod, mewn cyfoeth, ac mewn dylanwad. Ond er hyny, y mae llawer o honom yn gorfod byw ar y gw,astad,edd ac yn y pantiau, a the sty n lla- wenydd i mi ydyw gweled ambell un o deulu y gwaelodion yn prysur fyn'd ar i fyny. Nid ydyw ond fel doe genyf gofio fy hen gyfaill, Mr G S Owen, Newtown, yn eistedd ar fainc y crydd, yn ddigon cyffredin ei alluoedd i bob ymddangosiad, ac i mi ychydig o obaith oedd iddo am ddyrchafu yn llawer uwch na'r orsedd hono, oherwydd prinder man. 1 ,teision addysg. Nis gallein ddngwyl iddo gael myn'd yn aelod o'r fyddin, nag ych- waith .gael cynyg ar fyn'd yn bolisman, oher- wydd yr oedd yn -perthyn yn rhy agos i'r dyn hwnw ddringodd i ben y goeden. Ond, os oedd defnyddiau y dyn oddiallan yn brin, yr oedd y dyn oddimewn yn .meddu ar ddi- gon o adnoddau pendcrfyniad a beiddgarwch i ymosod ar- anhawsderau bywyd gydag yni; ac erbyn heddyw, y mae wedi llwyddo, i raddau pell iawn. Ychydig fisoedd yn ol yr oedd ,Cw-mni y "Pearl Life Assurance" yn ei anrhegu a darlun hardd o hono ei hun, ac anercliiad o dano, am ragori mewti llafur a llwyddiant o dan y cwmni fel "superin- tendent" yn nistrict Newtown. Heddyw eto, gwelwn fod y dynion sydd yn gweithio, o dano yn y "district" yn ei anrhegu ag oriawr aur ysblenydd, a'r enw yn gerfiedig. ami. Dengys hyn mai nid dyn i'r cwmni. yn tmig ydyw, ond ei fod yn ffafrddyn gan y bobl he.fyd. Ar noson y cyflwyniad,, a.nrhegodd yntau ei ddynion a svvper ar- dderchog yn Newtown, pryd y cafwyd am., ser dedwydd mewn anerchiad.c.u a chanu. (w.rth gwrs, efe o.edd yn "cadw yr amser"), ac nid oedd modd cael cyfarfod o'r fath heb. i'r awen fod yn bresenol. Dyma 61 ei thraed yn cerdded o amgylch y bwrdd: — "Yn awr, ar derfyn blwyddyn, Mi geisiaf nyddu can, Os na fydd yn foddhaol, "We!, teflvvch hi i'r tan A chofiwch nad wyf brydydd, Ac hefyd nad wyf Sais, Er hyny, canaf heno Heb grygni ar fy llais. Mae yma orchwyi ddedwydd, A thestyn wrth fy modd— Anrhegu G S Owen Ag oriawr aur yn rhodd Pe cawn fy ffordd fy hunan, Fe roddwn i'r hen wag Ddau getyn, a dwy bibell, A deunaw pwys o shag Mae ganddo bend-erfyn-iad Orchfyga wawd a sen .Pe troai'r 'byd i'w erbyn t Ni lithrai fotwm pren Nid oina stormydd bywyd, •Er iddynt godi llwch,— Defnyddia anhawsderau I ddringo i fyny'n uwch. I fyny, Owen anwyl, I y Yr eloch heb udim swn; Daw'r 1 boys i gyd rhyw ejvvyl Hyd atoch mewn balloon' But let me tell you kindly That carriage I don't like,' 'Ond cofiwch mi ddilynaf Bob llathen .ar fy mike." Gwelwn fod dynion wrth fyn'd i fynv "vrii codi awydd mewn eraill am eu dilyn. WeJ,. dywedwn niniau Amen, "I fyny, Owen an" wyl." Nid oes un a warafuna—i ti Fwynhau teg orphwysfa A charI dodam ddefod dda Urdd awenfeirdd v Wynfa. HEN GYVAILI, -010-
PONTRHYDYGROES.
PONTRHYDYGROES. Gwyl y Nadolig.—Cyfarfod Pregethu.— Yn ol ein harfer er's blynyddau tellach, treuliwyd y Nadolig eleni eto trwy gynal cyfarfod pregetiiu yn y lle. Cafwyd i'a g.wasanaethu eleni y Parch W J Arter, Tiry- dail, sef ein hen weinidog. Cafwyd lJÍll Rafriol ar hyd y dydd, a chynulleidfaoedd lluosog iawn. Pregethodd Mr Arter am haner awr wedi deg yn Saesneg, ac am ddau a chwech yn Gymraeg. Cafwyd ganddo bregethau grymus, y rhai a draddodid gyda nerth acarddelirld. Cafwyd gwledd mewn gwirionedd, a'r Iesu yn benaf ynddi. Tyst- iolaeth pawb a glywsant Mr Arter ydyw y bydd yn fuan yn rheng flaenaf cewri ein henwad.-Goh.
ICILFYNYDD.
CILFYNYDD. 'Cymdeithas Ddiwylliadol.—Cafwyd cyfar- fod rhagorol yn nglyn a'r gymdeithas, prycf y cawsom y pleser o wrandaw ar Mrs Lewis" Oaklands, yn darllen papur ar Anrhyd- eddu dy dad a'th fam." Yr oedd yn bapar dyddorol iawn. Hefyd cafwyd caneuon ar. dderchog gan ein hanwyi frodyr, Mri R D Jones a D Wood, a chafwyd "march" ar yr organ gan Mr D J Evans, ein horganydd medrus. Llywydd wyd gan Mr E Hughes. —Ysgrifenydd.