Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

'Rhen Domos.

News
Cite
Share

'Rhen Domos. VIII. Treuliwyd llawer noaon ddifyr ar aelwyd 'Rhen Domos gan yr "Hogia" tra ar eu twyli-au, ond daeth hyny ti ben fel cwrs pob peth arall. Dychwelodd Eilyn 'at ei ,waith d'r De, ac Ifor a Hywel i'r Coleg i orphen eu hefrydiaeth. Daeth pethau yn ol i'w cwrs cyffredin, ac i ganlyn hyny feddyliau prudd "Rhen Domos. Rhyw foreu 'Sadwrn yn y gwaith daeth ato yr hyn y bu yn ei ofni. Boreu gwlyb yd- oedd, a natcr drwyddi draw yn brudd a .gwelw ei igwedd; a thuag unarddeg o'r gloch y boreu hwnw dyma un o'r :is-feistrad- 9edd at 'Rhen Domos, gan ei alw o'r neilldu. "Neges bur annyinunol sydd genyf i'w hysbysu i chwi heddyw bore, Tomos Ifans," ebai'r is-feistr. M'a'e'r perchenogion wedi bod yn edrych i mewn i sefyllfa petha yn y gwaith, ac yn gweled yn wyneb codi safon -cyflog a'r Compensation Act" yma sydd ne. Iwydd ei phasio drwy y Senedd, tybiant fod yn rhaid .tynu i mewn yn xhywle i wneyd d diyny y gofynion mawr yma sydd yn codi; ac felly maoent wedi pe,riderfynu troi i ffwrdd yr lien bobl, gan eu bod yn fwy agored i ddamwain drwy eu .musgrellni; ac yn mhell- ach, ni allant .gael cymaint o waith oddiwrth- yat a'r ieuane; a gwyddoch, Tomos Ifans, nad ydych mor heinyf ac mor atebol i lafur ag y buoch. Nid ydych yn ogysta.1 dyn i'r 0 oy cwmni heddyw ag y buoch, ac mae arnaf ofn y .bydd ynrhaid i mi eich stopio. Sut by nag, mae eich enw ar y list gan Mr Driver." Siaradai yr is-feistr mewn dull swyddogol ac awdurdodol, heb faw,r o gydymdeimlad yn y golwg, ond o dan .grystyn caled yr is-feistr yr oedd yna galon nad alLai lai na theimlo dros 'Rhen Domos, druan. Aeth 'Rhen Domos yn ol at ei waith, a -chalon drom fel y plwm, a saethai ambell i ochena-id oddiyno yn awr ac edlwaith. Yr oedd ei feddwl yn brysur ar waith, ac medd. ad wrtho ei hun, "Dyddia calad ydi rhai'n i hen bobol. Wn i yn y byd mawr he wna i a Betsan anwyl. Ma geni arswyd rhag bydd .rhaid i mi a hitha fyn'd i'r Ty Mawr d dreulo'n dyddia; ac fel y gwela i betha 7rwan, ma hi yn y'n gwasgu ni yno bob -dydd, a wela i ddim diangfa i ni yn unman. Yn wir, ma hi yn ddigalon iawn, ar ol bod wrthi fel hyn ar hyd y lblynydda yn gweith- io'n galad i'r meistradoedd yma, a phrin y ces i ddigon i fyw. (Gorfod i -mi a Betsan tfdiodda llawar, a gwasgu llawar arnom y'n JlUnan i fyw fel darfu i ni, a magu y plant, ac er hyny drwg dawn fu hi amball dro. ■Ma'r pexchenogion wedi cael mwy o hona'i •na'u shiar, am hyny o gyflog ges i gynu'n nhw lawar gwaith, ac os ydw'i yn fusgrell rwan, os na fedrai weithio cystal iddyn nhw, iawn fydda iddyn nhw gym'ryd hyny fedrai roi iddyn nhw. Ma nhw wedi cael fy nhydd- ia. gora i gyd; ac am y Ty iMawr yna, hwyrach fod yno well tainad na cha i gartra, ond ma well geni fyn'd i medd na myn'd yno, a fydda'n well geni fyn'd a Betsan i'r iynwant na myn'd a hi yno. Ia, dyddia calad ydi rhiai'n i hen bobol, ar ol diodde' pwys a gwres y dydd, i'w lluchio nhw o'r aMilIdu fel rhyw hen drol a welir yn muarth amball i ffarm, wedi darfod i ddyddda." Daeth yr amser noswylio, heliodd pawb eu harfau at eu gilydd, fe ganodd corn y gwaith, ymaith a phiiwb i'w gyfeiriad ei hun—rhai i fyny i'r Cwm, eraill i lawr, & 'Rhen Domos yn eu plith. Nid oedd rhaid craffu liawar i .wei'd fod y newydd gafodd ".Rh,en Domos yn y boreu wedi effeithio yn fawr arno. P-lygai ei ben yn i'5 nag arfer, dangosai llinellau ei Avynebpryd boen medd- wI. Yr oedd ei enau wedi ei ch-tu yn dyn, ei lygaid yn synforudd, a'i aeliau mawr yn taflu eu cysgodion yn drymach dros y llyg- y .aid. Cerddai fel un o dan faich mawr. O'r diwedd cyrhaeddodd gartref. Yr oedd Betsan wedi bod ar ben y drws droion yu Edrych am dano, a phan ddaeih 'Rhen Domos i'r ty, gwelai ei llygaid craff nad oedd 'Rhen .Domos fel arfer. Gwelai fod rhywheth wedi digwydd er y boreu, ond tawedog oedd 'Rhen Domos, a cheisiai guddio ei gwyn allan o wydd Betsan. Wedi j'mgeleddu dipyn arno ei hun, eisteddodd with y bwrdd a'w bryd syml o datws a chig moch, a llaeth enwyn. Nid oedd fawr o siarad ynddo, er yr ymdrechai wneyd hyny, ond fe deimlai mai peth chwithig iawn oedd ceisio siarad; a phan y siaradai a Betsan, teimlai fod rhywbeth yn ei lais a'i ddull oedd yn ei fradychu i Betsan. Yn y man mae Betsan yn methu dal, a gofynai iddo- Be sy arnat ti heno, Tomos ? A fu dam wain yn y gwaith heddyw ?" "Naddo," meddai 'Rhen Domos. "INVel, gest ti ddiwmod calad iawn ?" "Naddo, rhwbath fel arfar," ebai 'Rhen Domos. ■Wei, be sydd arnat ti, dwad ? Wyti yn sal ? neu ynta ai mis gwael ydi hwn am. -gyflog ? Deuda rhwbath, da ti, yn lie fy anod i fel ffyrat yn hela ar dy ol di i bob gongol, a hyny heb fod dim gwell." •O'r diwedd gwerodd 'Rhen Domos nad gwaeth tori y newydd vn fuan mwy nag yn hWYT-Y mynai Betsan wybod, ei bod yn 'rhy glefar," ys dywedai 'Rhen Domos iddo gudd. ao ei galon oddiwrthi, ac hwyrach ar ol dweyd y caffai heddwch oddiwrth y croes- holi oedd fel colyriiad gwenyn iddo. Wel, mi ddida. i ti," meddai 'Rhen Domos, "ma'r peth y bum i yn i ofni er's talwm wedi d'od. Gwyddost, Betsan, fod peth a yn newid yn fawr yn y dyddia yma. Gwyddost fod yr ymdxech yn dyn rhwng y mistar a'r gweithiwr—fod y gweithiwr yn d'od i afal a mwy o'i hawlia; ond weldi, 'Betsan, ma mantas y g-welithiwr yn troi yn anfantas i'r hen bobol, am fod y mistar, ,yn wyneb i ofynion newydd, yn gofyn am rhw- bath y clywds y mistar acw yn i alw yn effishiansi.' Be di hwna dwad, fTomos ?'' Wei, mi ddida i ti gan belLad ag ydwi yn duallt. Ishio dynion cryf, hedni, 'tebol i waith." "Wel, os dyna sy arnyn nhw ishio, Tomos, mi rwyt ti cystal a'u hanar nhw, a 'does gyny'n nhw ddiim chwartar dy brofiad di." Wei, (Betsan," efoai 'Rhen Domos, "wath i ti heb shiarad fel 'na wyddost. Dwi ddim fel r'on i. Ma llafur yn dweyd arna i 'rwan, ac ma cyni a Hafur y blynydd- oedd wedi deyd i ha-n,as arna ni ill dau, Betsan, ydi'n siwr." Gwelodd Hetsan erbyn hyn nad allai fyn'd yn erbyn ei phrofi,ad ei hun. Gwyddai fod 'Rhen Domos a hithau bron ar grib olag goriwaered eu bywyd. Ac er'byn hyn yr oedd deigryn ar rudd Betsan, oanys hofiai ei phriod yn fawr." "Wel," meddai, "gorphan dy stori, Tomos." Wei, at hyn r'on .i'n d'od," ebad. D'idodd Mr Jos wrthai heddj'.w ;i fod o'n ofni y bydd .rhaid addo stopio'r hen bobol i gyd a weldi, Betsan, dyma duedd yr oes hon; ishio, rhwbath sy'n myn'd sydd ar hon, wath beth ond iddo fyn'd, er iddo wneyd y trwst mwya, gan ddychryn hanar ■gwlad, a chodi lluwch yn gymyla, ishio rhwbath i fyn'd sy arnyn nhw ishio gwneyd pobpath ar frys. Aros di, Betsan, chlwsom ni ddim yn ddiweddar am rhw deyrnas net. oedd ddyfeisiwyd gan rhwun cyn geni lesu -Grist, un oedd am gau allan y cloff, y gwan, y musgrell, a'r hen ?" "Do," meddai Betsan, "gan Mr Morris, Lerpwl." IVel, Betsan, ma foreuddwyd y dyn hwnw yn d'od i ben, weldi. Fydd na ddim lie i'r un ohonan ni yn fuan ar y ddaear yma. Aros di, iBetsan, welsom ni rhw sylw go ryfadd yn do, dro yn ol, fod rhwun yn cymall rhoi rhwbath i gysgu i'r gwan, a'r cloff, a'r hen, er i cael nhw oddiar y Sordd." "Yn wir, 'rwyt ti yn siarad yn rhyfadd iawn," ebai Betsan, lie ma dy ffydd di dwad yn 'Rhen 'F<ei.bil a Duw ? Dyna a ddwad ynte, Tomos, 'Yr Arglwydd a ddar- par,' a dyna i ti adnod arall, Mi a fum ieuanc, ac ydwyf hen; eto, ni welais y cyfiawn wedi ei ado, na'i had yn cardotT. bara.' A mi wyddost, Tomos, dydi 0 ddim wedi'n hanghofio ni eto." la, Betsan, eitha gwir, -ond rhaid i ti gofio fod dynion yn d'rysu plania Duw yn amal iawn. Rhaid i ti ddim ond edrach o dy gwmpas i wel'd hyny, wyddost. Meddwl di am y c'ledi a'r tlodi sy'n mysg llawar o honom, tra ma gan eraill fwy na digon. Dydi dynion drwy rhaid i calon hunanol yn d'rysu plania Duw." Wei, 'dwyt ti ddim yn coelio dy Feibil dwad, Tomos ?" meddai Betsan. Wei, ydw yn siwr, Betsan bach," ebai 'Rhen Domos. Ond wel'di, Betsan, ma gan Dduw rhw ddwy ffordd i weithio- gweithio ar i union, a gweithio o gwmpas. Ma dynion drwg yn mhob oes yn d'rysu y ffordd gynta, am na. ddont i mewn i blania Duw, ac oherwydd hyny ma Duw yn gorfod gweithio o gwmpas, ac ma hyny yn cymeryd mwy o amsar i Dduw gyradd i blania, ac yn tybio llawar o frwydro oalad, a gorthrwm a clx'ledi mawr, cyn gellir symud rhwystra dynion i -blaiiia Duw gael Ilwyddo. Wei'di mor hir y bu -yr hen gened.1 yn yr Aipht ar i ffordd i Gan'aan. Mi fasa nhw yn gallu myn'd mewn ychydig o wythnosa yno, medda nhw, i fwynhau grawnsypia y wlad, onibae fod dynion drwg yn d'rysu plania Duw, fel 'roedd Duw yn gorfod gweithio nhw o gwm- 9 r, pas i fyn'd a nhw i'r wlad ddeclwydd, a bu'r hen genedl mewn c'ledi mawr am ddeugain mlynedd, a'r rhai laniodd yn Nghanaan, 'roeddant yn hen bobor 'rwan. Bu farw Moses yn ngolwg y wlad, wyddost Betsan; ac ma gen ina ofn ma rhwbath fel 'na fydd fy hanas ina, .Betsan-ma marw wna inau yn ngolwg y wlad, oblegid mi glywis y pwyswr. acw yn y gwaith yn deyd y bydd blwydd-dal i hen bobol yn fuan iawn, fod y Llywodraeth yn parotoi at hyny. Ma'n debyg y byddai a thitha yn y bedd cyn hyny, lie bynag arall yr iawn ni." Paid tori dy galon, Tomos," ebai Betsan, "mi ddaw rhwbath etc, wel'di, neith 0 mo'n hanghofio wnath O ddim eto, a bu yn ddigon calad arnon ni lawar tro. 'Dwyt ti ddim yn cofio y ddamwain fawr hono, dwa'd, -Tomos, pan gest ti dori dy goes a thrybar dy ysgwydd, a William, y'n bachgen ni, wedi brifo'i 'sena. Dyna ddyddia du, Tomos, ynte ?" la'n wir, Betsan bach," ebai Tomos. A chest di ddim o'r gwaith, Tomos. 'Doedd y ddeddf 'na—be wyt ti yn i alw fo, dwad, hwnw sy'n helpu pabaI wedi brifo ag yn helpu y weddw—ia, 'doedd hono ddim mewn bod. Ma'n wir i ni gael dau ddyn o'r gwaith, un y dydd a'r llall y nos, i fod wrth erchwyn dy wely am yr wythnos gynta, 0 pan 'roeddat ti mor ddrwg, ond fu arnon ni ishio dim, naddo, Tomos; na'r plant 'ma chwaith; 'ro'dd y'n cyra'dogion ni mor glen -wrtha ni." Do, mi fuon nhw yn syndod o garedig, ond Betsan," ebai 'Rhen Domos, peth gwa- hano'l iawn ydi bod yn hen. M,a nhw yn cynefino efo hwnw, ac yn gwel'd ma cwrs naturiol peth a ydi myn'd yn hen. Cawn ni rhwbath i gael tamad rhag myn'd i'r Ty Mawr7 chwynwn i ddim. :Caem ni ddig,on i gal tamad a dipyn i dalu y rent a chadw y'n to y'n hunan uwch y'n pena, ynt& Bet- san ?" Gwelwodd wyneb Betsan pan glywodd en. wi y Ty ilawr. (I'w barhau.) -0:-

Un o Leygwyr Ffyddlonaf Talaeth…

BANGOR.

Gwespyr.

Treorci.

LLANDEBIE.

—^^ "I Fyny Bo'r Nod."I —…

PONTRHYDYGROES.

ICILFYNYDD.