Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
GWEIT HGARWCH Y PLANT A'R…
GWEIT HGARWCH Y PLANT A'R CHWIORYDD. Dydd Gwener a dydd Sadwrn, yr 20fed a'r 21ain o Ragfyr, y cynhaliwyd ein Sale of Work." Cymerwyd y rhan agoriadol i fyny yn gyfangwbl gan y plant. Ar oj canu y don, "0, llefara, addfwyn Icsu," adroddodd y plant "Weddi'r Arglwydd," yn cael eu harwain gan Master David Pugh. Y llyw- ydd ydoedd Master Herbert Roberts, yr hwn, yn ei anerchiad syml a chlir, a eglurodd am- can y Sale of \Vork," ac a roddodd gymer- I adwyaeth fawr i lafur cariad y chwiorydd. Yna galwodd ar Miss Doris G Jones, o Brymbo,—wyres i'r Parch Edward Roberts (M.C.)—i agor. Gwnaeth hithau ei rhan yn ddeheuig a boddhaol. Traddododd anerch- iad byr a phrydferth, yn cael ei ddilyn gyda "cheque" oddiwrth ei thad. Yna anrheg- wyd hi-gan Miss Annie Davies gyda basgei- aid o fiodau. Cynygiwyd cliolchgarwch iddi gan Master Robert Arthur Davies, yn cael ei eili-o ga.n Miss Edith Jones, ac yn cael ei gyfnerthu gan Master liughie Garner. Di- lynwyd hwy gydag anerchiadtu dyddorol gan bed war o feirdd—Miss Sally Stoker, Master Ernest Jones, Miss Polly Roberts, a Master J Simon Davies. Cynygiwyd diolch- garwch cynes i'r Llywydd gan Miss Gwladys ■Garnet ac eiliwyd gan Miss Iris Jones, a phasiodd gyda brwdfrydedd cyffredinol. Gofalvvyd am y "Xmas Tree" oedd yn addurno y lie gan Mri R A Jones a P LJoyd tHumphreys. Cyfeiliwyd gan Mr Walter Williams, a chanwyd drachefn Can Gogon- iant," allan oLyfr y Gymanfa. Mae clod trwy'r dref i'r plant am agor mor anrhyd- eddu-s, a chanmo-liaeth ddigymysg i'r chwior- ydd oil am eu gweithredoedd da. Disgwyl- ir elw da i drysorfa'r capel newydd.
PENILLION I GYNYG DIOLCHGARWCH…
PENILLION I GYNYG DIOLCHGARWCH I MISS DORIS G. JONES. 'Rwy'n cynyg diolchgarwch Gwresoca'n calon ni I'r dlos Miss Joaes, o Frym-bo, Am ei gwasanaeth hi; Yn agor yr arwerthfa Mor fedrus ac mor dda, Hi wnaeth ei gwaith mor gyflawn, A'i gwcn fel heulwen haf. Pwy fel ein boneddiges Am wneuthur pawb yn llon, A pharod eu meddyliau Trwy yr Arwerthfa hon I brynu y defnyddiau Geir yma'n hynod rad, Nid oes ei gwel-1 na'i chystal Mewn unrhyw dref na gwlad. I EILIO'R DIOLCHGARWCH. 'Rwyf inau'n codi fyny I eilio'ch cynyg ehwi; Mae ein harwres fedrus Yn haeddu parch a bri: Air ei hymddygiad gweddus Yn gwneyd ei gwaith mor fwyn, Fel boneddiges ieuanc, Yn liawn o hyfryd swyn. Pwy'n well a wna ei hagor A rhoddi pawb mewn hwyl I werthu ac i brynu Dilladau Sul a gwyl ? Defnyddiau o"r fath oreu A gwlanen dda a thew I'ch gwneyd yn glyd a chynes Ar eira oer a rhew.
DIOLCHGARWCH I'R CHWIORYDD…
DIOLCHGARWCH I'R CHWIORYDD AM EU G"\VEITHGAR\íTI-L Y mae ein chwiorydd yn cywir deilyngu Ein parch a'n hedmygedd a'n diolch i gyd Am weithio mor ddiwyd a dyfalbarhaol Er gwneyd y ddarpariaeth yn b rod mewn ipryd 'Roedd eisieu ymroddiad, a gwir ymgysegriad I z;1 0 A phwyll ac amynedd, am amser mor faith, Er gwneyd y cynlluniadau, a'u dirwyn i'r terfyn, A hynod lwyddianus y gwnaethant eu gwaith. Y chwiorydd oedd nes,af at Groes y Gwaredwr "Pan oedd Efe'n marw, dros feiau y byd Hwynthwy ydynt eto ffyddlaniaid yr eglwys Sy'n gweini'n garedig i'r Iesu o hyd Trwy weithio'n wirfoddol a phara'n wrastadol Derbyn-iwch eich gwobr yn llawen am hyn Ceweh goron y bywyd a gorphwys mewn gwynfyd 'Rol gorphen eich gyrfa a chroesi y glyn. Llangollen. RICHARD LLOYD. o
C E F N C O E D Y C Y M E…
C E F N C O E D Y C Y M E R. Cawsom gantata Cinderella aL, the Prince" ar yr 19eg cynfisol yn y Drill Hall. Trefnwyd ac arweiniwyd y datganiad gan Mr William Morris. Aeth drwy ei waith yn ganmoladwy iawn, a Miss Harries wrth, CY berdoneg. Gwnaeth hithau, fel arfer, t-j I gwaith yn ardderchog. Disgwyliwn elw I mawr oddiwrtho pan y ca.wn gyfrif wrth ed- rych ar y gynulleidfa fawr y ddwy noswaitli, sef nos Iau a nos Wener. Cadeiriwyd nos Iau gan 'Mr Thomas Havard, Merthyr, yn absenoldeb Mr E Humphreys, ironmonger, Merthyr, a nos Wener gan y Parch J H Dav- ies (B), C.C., a chofiodd y boneddigicj hyn am danom mewn modd sylwedd-i1 Caf- wyd dwy noswaith blessrus dros ben.— Stephanos.
-CAERGYBI.
CAERGYBI. Cymdeithas Lenyddol Bethel a Gwynfa.— Dan nawdd yr uchod, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaeLhol tra llwyddianus nos Iau di- weddaf yn Bethel, dan lywydaiaeth y Parch H Meirion Davies, pryd y datganwyd un- awdau gan Mrs Crispin, Miss Mary Jones, Mri J Thomas, J R Jones, ac R Gwaenys Davies deuawdau gan Miss Hannah Evans a Mr J R Jones, Mri Robert Williams a J E Jones, a Misses M C Williams a Katie Will- iams i a phedwarawd gan Mrs Crispin, Miss M C Williams, a Mri J R Jones a G Davies. Cafwyd violin solo hefyd gan Mr Griffith Roberts, ac adroddiad gan Mr Hughie Williams. Cyfeiliwyd gan' .Misses Cissie Williams a II M Jones. Llawenydd ydoedd gweled cynulliad mor luosog.—Ysg.
CAERWYS.
CAERWYS. Nos Nadolig cynhaliodd Wesleyaid y lie uchod eu cyfarfod amrywiaethol am yr ail waith, yr hwu a gerir yn mlaen dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, yr hon sydd i'w llongyfarch am y gwaith da a gyflawnir gon- ddi yn barhaus. Arweinydd y cyfarfod oedd y Parch D Roberts. Y beirniaid oeddynt :— -n Mri J Whittington, J T Edward-, T J Sim- on, ac A Lloyd trysorydd, Mr H Williams ysgrifenydd, Mr Ed Jones. A ganlyn oedd y rhaglen :—U-nawd gan Miss L Roberts am yr adroddiad goreu o Idris a Lucy," 1 M Mathews, 2 Jennie Roberts deuawd gan Mri Simon a Lloyd adrodd emyn am y goreu, 1 Jennie Roberts, 2 E Williams; unawd gan Mr E Jones dadl o ddewisiad yr ymgeisydd, 1 Johnny Roberts, 2 M Math- ews canu emyn a roddir ar y pryd, 1 Johnny Roberts, 2 J Kingsley adroddiad, "Y Seren," T H Williams, Mostyn; unawd gan Miss M Edward cydgan gan gor y capel; canu emyn i rai dan naw oed, 1 Herbert Lloyd, 2 E Williams deuawd gan Mr R Roberts a Miss L Roberts adrodd 'Yr Odyddion," 1 Johnny Roberts, 2 H Lloyd her-unawd i feibion, 1 Mr J Davies, Penycefn una-wd, Mr A Lloyd gwers ar y modulator," 1 Johnny Roberts, 2 Her- bert Lloyd cydgan, Cor Merched deu- awd, Mr T J Simon a Miss L Roberts her- unawd i ferched, 1 Miss L Roberts. fTefyd cafwyd adrodditd gan Miss E Evans, Afon- wen unawdau gan Miss M Edwards, Mr A Lloyd, a Miss L Roberts anthem gan y Cor, Pa fodd y glanha ?". Yn ystod y cyfarfod gwnaed "silver collection" at ddy- led y capel. Da genyf ddeall eu bod wedi cael casgliad rhagorol. Pasiwyd yn un- frydol bleicllais o ddiolchgarwch i'r rhai oedd wedi ymdrechu i gario hwn yn mlaen mor lwyddianus yn mhob ystyr. Yr oed'd y capel yn orlawn.—Gohebydd Ieuanc.
PENMACHNO.'•
PENMACHNO.' Bu disgwyl mawr gan y plant etc eleni am "Father Xmas." Sicr fod ei dayfocliad a'i fynediad yn ol wedi enill edmygedd llu, a llawer blwch enaint bendiih wedi ei dywallt yn ddistaw yn nghalonau y plant. Rhyw- lodd mas cyflath wedi gor.fod cilio a'i ddydd wedi machlud, ac am dymor o leiaf Father Xmas" fydd y dyn, a'i xinweddau ef fotienir yn y tir. Er Cof.—Chvvith genyf ddweyd fod yr hen bererin syml a goriest, Owen Roberts, Bryn Aber, Cwm, wedi teithio y llwybr ar hyd yr hwn ni ddvchwel. Treuliodd gyfran helaeth o'r 54 mlynedd ei oes yn selog ryfeddol, ac heb anair o gwbl .ar y wlad yr oedd yn d dine sydd o honi., a'r wlad yr ehedodd ei ysbrydidcli mor ogonsddus o orfoleddus. Os nad oedd yn gallu treiddio yn dciwfn i'r gwirionedd, gallai ei fwynhau yn odidog. Gwelais ef yn "mhorfeydd gwelltog" crei- ydd ein tir, gyda llyfr emynau yn ei law. Canu yr oedd— "Pan yn hwylio ar y cefnfor Ar rhyw nos dymhestlog ddu," a. dagrau yn rhedeg dros ei rudd a gwen o Z, foddhad ar ei wyneb. Cwsg, yr hen bererin gonest, hyd nes daw dydd prjnaedigaeth ;y corph, a beddau'r byd oil yn agoryd. Geni a Marw.—Bu Sul y Nadolig yn ddydd coffa geni a rnarw ein Ceidwad. Dau be- gynau hanes dynion yn cael eu coffhau yn Ei hanes yntau yn ogystal. Bu y Parch Ed- ward Humphreys gyda ni yn pregethu y Sul -y cyfarfod haner-blynyddol cyntaf o dan nawdd Cyrr' :-Sas y Bo'bl leuainc. Pre- gethodd ya f jf a rhagorol nos Sadwrn a'r Sul, a diweddodd y Sul gyda gweinyddiad y Sacrament o Swper yr Arglwydd, fel y gwel- wch fod yr eglwys wedi ei harvvain yn y cyfarfod pregethu i feusydd toreithiog yr efengyl—geni a maanv yr Iesu. :t Wa.fchnight-"—Diweddwvd y flwyddyu gan chwiorydd Bethania, a chyng- ^vsegredig1 yn dilyn-hebrwng yr hen 7 i'w Ibedd, a d-erbyn y newydd i'.w id 1 sain can "Dros bechadur buost a- aT y don boblogaidd Nazareth. A beth yn well ellid wneyd na llanw meddwl a chalon a geiriau tebyg i'r emyn godidog yna? Cawsom yn gadeirydd foneddwr o safle Mr H Humphries, perchenog chwiarel y Rhiwhach, gydag anerchiad ymarferol. Cof- iodd am anhebgor cadeirydd, sef trysorfa yr eglwys. Gwnaeth Ap Harri, .Bangor, ei waith fel efengylydd darluniadol tu hwnt i ganmoli-aeth geiriau. Gwledd i galon a meddwl ystyriol oedd "Y Mab Afradlon," gyda datganiad swynol Mrs Josephine Lewis o'r geiriau "Lie mae fy machgen gwyllt yn awr ?" Datganodd Mr Isaac Roberts yn deilvvng o oreuon yr esgynlawr, a Mr Pryce Davies, at chwareu yr offeryn, a ddatganodd yn wefreiddiol nes gorfod ail ganu. Watch- night ragoxol yn mhobpetli, ac elw da am y llafur o ddarparu. Marwolaeth.—Boreu Gwener, ehedodd ys- bryd y chwaer dangneieddus, weithgar, a duwiol, iMrs. T R Jones, Moss Hill, o gaeth- iwed blynyddau o gystudd. Cymerodd y cynhe-brwng le ddydd; Mawrth. Anfonaf ragor o fanylion etc. CF-1 wyd-dfi.i3jn.it.—Da jgenyf tf-od; IMr Robert Thomas, Frondeg, wedi llwyddo i enill yr wythfed dystysgrif gerddorol. Mae y cyfail1 yrn,3. yn efrydydd diwyd, a phyrth pob arhol- iad yn agor iddo o led y pen. Byddaf eto yn fuan yn cofnodi ei ymdrechion llwydd- ianus craill yn sicrhau gradd gerddorol uch- eL Da genyf hefyd hysbysu am fuddugol- ia-eth Mr Pryce Davies yn Ngholwyn Bay. ICnillodd y w-obr ar yr unawd bass allan o 19. Blwyddyn Newydd Dda i'r swyddfa a'r dar- llenwyr.—J.W.
PRESTATYN.
PRESTATYN. Mae yn dda fod dirwest yn cael He amlwg mewn gwahano-l fanau y dyddiau hyn, ond nid gormod o sylw, pan welwn fod cym.aini o grefyddwyr yn gwneyd eu goreu gynal y farnach fedd-wol i fyny. Nid wyf yn gwel'd y byddai cadw Ity tafarn yn agored i unrhyw elw i'w berchenog pe byddai i bawb o gr-e- fj'ddwyr ibeidio ei gefnogi. Brysied y dydd y byacT Ilyny yn bod. Mae yn rhaid dyweyd fod pethau yn gwella, ac fod y rhai sydd yn lhvvrymwrthodwyr eisoes yn gweithio yn ry- mus i gael hyn oddiamgylch. Mae yn debyg nad yw crefyddwyr yn meddwl eu bod yn cefnogi y fasnach trwy gymeryd glasiad yn awr .a phryd ar,all. Pe buas-ent yn ystyried y mater yn iawn, deuent i weled ar unwaith nad ydynt yn gwneyd yn iawn. Dywedant nad oes dim angen am iddynt hwy atal eu glasiad er mwyn neb. Dyna lie mae y meddwyn yn d'od yn feddwyn wrth dreio gwneyd ar ddyferyn i dori ei syched. Gall bachg-en dreio gwneyd fel ei dad, -neu y ferch fel ei mham, neu y disgybl fel ei ath- raw—rhai yn gweled eu hathraw yn y dafarn rhywbryd dydd Sadwrn heb feddwl fawr fod neb yn ei weled; ond un o ddeiliaid ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul yn ei weled a chan fod yr athraw yn cymeryd glasiad, nid yw yn ddrwg iddo yntau wneyd yr un fath i neu -weithiau y blaenor—nid yw y rhai hyn yn lan oddiwrth y pechod yma—fel maent yn euog o ddangos esiarnpl fel hon i ddeiliaid eu rhestr. Nid wyf yn dyweyd fod myned i dafarn ac yfed glasiad yn bechod. Nid clyna yw y pwnc. Nid pwnc o bechod yd. yw, ond pwnc o esiampl. Mae yn dda iawn genyf ,wel,ed fod Cyngo-r yr Eglwysi Rhydd. ion yn Mhrestatyn yn gwneyd ymdrech neill- duol i ladd nerth a gallu y fasnach feddwol, sef cael cymdei.th.as ddirwestol pertlnmol i'r undeb. Ma-e y pwyllgor yn eynwys dau o bob eglwys, set brawd a chwaer. Mae llyfr ardysti.ad i fod yn p-erthyn i bob eglwys, ac un o'r ddau gynrychiolydd i fod yn ysgrifen- ydd dirwestol yr eglwys hono, a'r ysgrifen- ydd i roi cyfrif i'r ysgrifenydd perthynol i'r undeb. Maent yn bwriadu c,3.el cyfarfod mawr-eddog yn Bethel er mwyn rhoi cych- wyhiad grymus i'r achos..Mae hyn yn sicr o fod yn help mawi i gael cychwyn yn lle- wvrchus ond eto, er cael undeb, rhaid i'r holl eglwysi yn unigol weithio, a'n dyled- swydd ni fel crefyddwyr yw rhoi pob cefnog- aeth i'r pwyllgor, a gwneyd dipyn o aberth a hunanymwadu er mwyn ôraPJ. Bydded i bob eglwys ddeffro at ei gwaith fel un gwr i weithio dros yr Hwn a roddodcl ei Hun yn aberth drosom.—loan.
SALEM, GLAN'RAFON.
SALEM, GLAN'RAFON. Cyfarfyddodd y Gymdeithas Lenyddol yn y lie uchod Rhag. 23ain, o dan lywyddiaeth Mr W Caraington Jones, Broughton Hall. Dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd R T Williams'. Adroddwya emyn gan y ibrawd Elias Edwards, ac yna aed at \\lÏth y rliaglen. Yr oedd dau bapur i gael eu darlien-y cyntaf gan y brawd E Will- iams ar "Ddyla-iwad amgylchoedd ar gy- meriad." D.angosod«i mai wrth gymeriad yr ydym yn golygu egwyddor lywodraethol calon dyn yn amiygu ei hun yn ngwe-ithred- oedd ei fywyd. Nid yw 'dyn gyda golwg ar ei gymeriad yn d'od i'r hyn ydyw ar un- waith. Y mae yn tyfu ac yn dadblygu fel y mae amgylchoedd ac anigylchiadau yn dylanw:adu arno. Yr oedd yn ba.pur gwir dda, yn cynwys llawer o beth.11 y buasivn yn caru eu nodi, on(L rhaid ymatal. Adrodd- wyd emyn gan y brawd Alfred ,H Jones, ac ynia galwyd ar y brawd John Evans i ddar- llen ei bapur ar Wil Bryan." Y mae y brawd hwn bob amser yn gymerad-wy iawn. Mawr oedd y llawenydd, oblegid nid papur gawsom, -and anerchiad. Yr oedd yn neill- duol o dda. Fe allsai gadw cynulleidfa yn fywys iawn, ond cyinhellodd piawb i ddar- llen y Ilyfr, "Rhys Lewis." Cynygiwyd diolchgarwch gwiresocaf y cyfarfod i'r brodyr am baro-toi mor neillduol o dda gan y brawd W Perkins, a chefnogwyd gan y brawd Geo Goodwin, gydag ychydig o'i banes ei hun, ac yr oedd yn cymeryd yn iawn gyda'r an- erchiad a gawsom. Oymhellwyd pawb gan y Llywyddi dd,al ar y pethau d,a a glywsom, sef dylanwad cymeriad, bod i- ni wylio bob amser tra mae'r ibyd yn cynyg y p-eth yma -t' I In a'-r peth arall d.ni. Am yr ail, er cymaint o droion chwithig a wna.ed gan Wil Bryan," fod yna wersi i'w cael odàiwrthynt. Dadganai pawb eu bod wedi cael gwledd. Adroddwyd emyn gan y brawd W II Perkins, a th-erfynw3rd .gan y brawd R Taylor.—R.W.
YSTUMTUEN.
YSTUMTUEN. Y .Gymdeithas DdiwylliadoL-Cynhaliwyd cyfarfod ar y 10fed o.Ragfyr, o dan ly wydd- iaeth y Parch D C Jones. Ar ol da.rl.len ac esbonio ychydig o'r Alacs Llafur sydd gen- ym, darllenwyd papur ar Y Gwyliau ludd- ewig" gan Miss M Daniel, B-wad rain. Caw- som grynodeb destlu o honynt. Y mae y chwaer ieuanc yn haeddu oanriioliaeth. Wedi mwynhau cyfarfod hapus iawn, teifyn- wyd drwy w.eddi gan IMr Lewis (yr ysgol- feistr). Rhagfyr 19eg, ltywyddwyd y nosan hon gan Mr J Morgan, is-lywydd. Cafwyd cyfarfod dyddorol iawn wrth okhain ac eg- luro y wers yn yr Actau. Yr oeddem yn te,inilo yn llawen o br-es-enold-eb hen gyd- ysgolorion -wedi dychwelyd adref o'r B.rif Ddinas, sef y brawd diiffuant a pharchus Mr John Hugh Griffiths, a'r rian rinweddol Miss Mary H-owells. Fl-off ydyw gweled hen wyn- ebau. Hoffach fyth canfod caiiad a ffydd- lond-eb yn p-arhau Ituag at achos Iesu Grist. Terfynwyd drwy ganu yr emyn adnabyddus, "Yn dy w.aith y mae fy my wyd," &c. Y mae y cyfarfodydd llenyddol li-efyd wedi declireu mewn bri ac yni rhagorol eleni eto. Cynhaliwyd dau yn ystod, yr wythnosau di- weddaf. Llywyddwyd y cyntaf o honynt gan y Pa.rch D C Jo-nes. Rhoddwyd gwobr gan Miss Griffiths, Ystalyfera, am ddesgrif- iad goreu o wrthrych heb ei enwi—goreu, Miss A HoweHs a.il-oreu, Mr D A Morgans. Yr oedd llawer yn rhyfeddu fod y diweddaf wedi codi cymaint o bwyntiau parthed y ger- bydres, ac ynt £ .u mor .ieuanc. Yr oedd y canu a'r adroddi-adau oil yn foddhaol iawn. Y chwiorydd fu yn casglu rhaglen mor am- TYWI01 y tro hwn ydoedd Misses Jennie Jones ac A Ho wells. Rhagfyr 18fed, cynhali:wyd cyfarfod llenyddol o dan lywyddiaeth. Mr W D Lewis (ysg-olfeistr)..Er mai deuanc ydyw y brawd, ymddangosai. fe.l hen law pur fed- rus yn y gada'r. Cawsom amryw unawdau, deuawdau, pedwarawdau, &c. Y mae y can- torion mewn hwyl dda iawn ar ddechreu y tymor. Ilyderaf na fydd i'r hin o,er yma fod yn achlysur i lesteirio dim o'r brwdfryd- edd. Ail-wysiwyd y chwaer .ieuanc dalentog .Miss 1M A Rowlands i ganu "Santa Claus is coming in the morning," a'r un modd Miss Edith Rowlands a Mr D Mason i ganu yr A.B.C. duet. Rhoddwyd gwobrwyon i'r plant am ddarllen a si,llebu. Y rhai budd- ugol oeddynt :D A Morgan, Lemuel Jones, ac A E .Williams. Rhaid dweyd gair am yr adroddiadau eto. Yr oeddynt -oil yn dda, ond cr-edaf fod D H-owells Jones ac Olwen fach" yn eithriadol felly. Ar ol rhoddi pleid-lais o ddiolchgarwch i'r ddau fra:wd, Mri Llewelyn Griffiths a David Mason, am drefnu rhaglen .mor rhagorol, ac i'r Llyw- ydd, &c., terfynwyd drwy ganu "Hen ,Vl,ad fy Nhad.au."—L.D.
NEFYN.
NEFYN. Drwg genym orfod cofnodi am farwola,eth Capt J P Jones, Tanygrai-g, yr hyn gymerodd le boreu Mercher, Rhag. 25ain. Daeth y diwedd yn sydyn ac annisgwyliadwy. Y:r oedd yn y dapel v Sabboth blaenorol, a'r cy- farfod gweddi nos iLun. Yr oedd mor llaw- en ag ericed dydd Mawrth, ond oddeum chwech o'r gloch tarawyd ef yn ",V.3e], a bu farw Y:1 dawel dr.i o'r gloch boreu Mercher, yn 65 mhvydd oed. Claddwyd ef dydd Sadwrn, pryd y gwasa.naethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch R Lewis a Mr J Meirion Williams. Gadawa briod a dwy ferch i alaru ar ei ol, gyda'r rhai y cydym- deimlir yn fawr. Tedm.lir chwi'-thdod mawr ar ei ol gan bawb yn gyffr-edinol. Yr oedd yn hynod o ffyddlon gyda'r achos.—^Goh. -0:-
Beaumaris.
Beaumaris. Cynhaliwyd y Cyfarfod Chwarterol yn Menai Bridge, Ionawr laf. Yr cedd yn brcsenol y Parchn John Kelly, R W Jones, ac E Tegla Davies. Mri Evan Thomas a Wm Roberts, goruchwylwyr y gylchdaith, yn nghyda chynrychiolae-th -dda o bob eglwys yn y gylchdaith. Penderfynwyd anfon llythyr- au o gydymdeimlad at d-euluoedd a fylchwyd gan angau yn ystod y chwarter. Pasiwyd penderfyniad yn condem-nio erchyllderau'r Congo yn unfrydol, a phenderfynwyd "L f r)- fon i'r Piif We-inidog, yr Ysgrifenydd Tram, or, a'r aelod Senedaol dros y Sir. Pasiwyd pl^dlais o ddiolch d 3'Sgrifenydd 3' capelau, Mr Wm Williams, Beaumaris, a d-yirmnwvd arno aros yn ei swydd flwyddyn arall. Pas- iwyd pleidLais o ddiolch i oruchwylwyr y gylchdaith, ac addaw^ant hwythau, ar ddy- muniad y cyfarfod, aros yn eu swydd flwy- ddyn arall. IDaethpwyd ag achos purdeb cymdedthasol ger bron gan y Parch E Tegla Davies, a phasiwyd y penderfyniad canlynol yn u.ifrydol:—"Ein bod yn galaru oher- wydd safon isel rnoes yn Mon ac Arfon fel yr arddangosir hyny mewn sefydliadau, meg- is ffair fIynyddol POTthaethwy ac eraill, ac yn dymuno ar y gwahanol enwadau gyduno mewn ymdrech i godi safon purdeb cyrn- deithasol yn mysg yr ieuenctyd." Pasiwyd i anfon y penderfyniad i Gyfarfodydd Chwar- tei A y Wesleyaid yn Mon, a Chyfarfodydd Chwarterol Bangor, Tr-egarth, a Chaernar- fon, Cyfarfodydd Chwarterol yr Annib-ynwyr a'r Bedyddwyr yn Mon ac Arfon, a Chyfar. fod MiLol y Methodistiaid Calfinaidd yn Ar. fon. Siaradwyd yn gryf ar y mater gan y Parchn John Kelly, R W Jones, ac Ishmael Evans, a Mr Evan Thomas. Croeshawyd y Parch Ishmael Evans i'r cyfarfod gan yr Arolygwr, ac esboniodd yntau gynllun y Cy- farfod Talaethol yn nglyn a'r ymdrech ar- berig a wn-eir gnnddo ef i gynoTthwyo Cron- ,Y 1, L I fa'r Genhadaeth -Gartrefol, a phasiwyd iddo bregethu a chasglu yn y gylchda.ith y Sul olaf o Ionawr a'r cyntaf yn Chwefror, a'r wythnos ganlynol. Daeth y Parch R W Jones .1 phenderfyniad y GTynhadledd yn nglyn a'r cyfarfod blaenoriaid ger bion, a dewiswyd Mr Thomas Jones, Menai Bridge, yn ysgrifenydd y cyfarfod blaenoriaid. Gwahoddwyd y Parch W Moyd Davies yn w-nfrydol i'r gylchdaith yn olynydd i'r Parch John Kelly. Penderfynwyd cynal v Cyfar. fod Chwarterol nesaf yn Menai Bridge.
Caerdydd.
Caerdydd. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y gylch- daith yn Barry Dock, Rhag. 26ain. Lly- wyddwyd gan y Parch J E Thomas. Yr o-edd y daau oruchwyliwr yn brescnol,. sef Mr J P Powell, Caerdydd, a Mr J Williams, Barry Dock, yn nghyda chYrlIychiolaeth o'r tair eglwys. Da dawn genym ddyweyd fod cynydd yn rhif yr aelodau o chwech ar y chwart-er o'r bl.aen. Da,eth y cyfr.ifon arianol yn well y tro hwn nag arfer. Penderfynwyd fod y ddau oruchwyiiwr i dd'od a chJnllun o "assessment" i'r cyfarfod nesaf. Diolch- wyd i'r ddau oruchwyiiwr am eu gwasanaeth, ac ail-etholwyd hwy. Pasiwyd fod cyfar- fod "trustees" i'w gynal yn mhob He yn y gylchdaith. Ail-etholwyd. Mr J P Powell, Caerd) del, yn ysgrifenydd capeii y gylch- daith. Cafodd y Parch J E Thomas wa- h-oddiad unfrydol y cyfarfod i aros ar y tir am ei drydedd flwyddyn, a chydsyniodd a'r gwahodddad. Cvnhelir y cyfarfod nesaf yn Nghaerydd. Terfynwyd trwy weddi gian ein gweinddog. Yna aed i breswylforl Mr .a Mrs John Williams, lie yr oedd te ardderchog wedi ei barotoi ar ein cyfer, a gwnaeth pawb ei ran wrth y bwrdd. Cynygiwyd diolch- garwch y frawdoliaeth am y crcesaw gan Mr Powell, ac; eiliwyd gan Mr J Pearce, mewn areithiau doniol. Cafwyd gair gan amryw o'r brodyr—pawb yn canmol ac yn dymuno hir oes i'r ddeuddyn hyn i wasan- aethu yr achos goreu.-S.D.
Merthyr.
Merthyr. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol cylch- daith Merthyr yn y Cefn, Rhagfyr 26ain. Cafwyd cynrychiolaeth dda o'r gwahanol eg- lwysi, ag eithrio Dowlais. Yr oedd y Parch II 0 Hughes, arolygwr y gylchdaith, yn y gadair, a'r Parch T Oliver, Cefn, fel arfer, yn gofalu am y cofnodion. Croesawyd y hrodyr i Gapel Coffa Aubrey gan y Llywydd. Pasiwyd hefyd fod y Llywydd yn anfon lly- thyrau o gydymdeimlad—un at Mr John Jar- man, Merthyr Vale, yn ei brofedigaeth, a Mrs Davies, Bedlinog, yn ei galar. Ae-th- pwyd at waith y cyfarfod yn hynod hapus. Dechreuwyd gan Mr Owen Jones, Merthyr Vale, a, diweddwyd gan y Llywydd. Yna aethpwyd i gael cwpana-id o de a barotowyd i'r dyeith-riaid gan Mrs D R Jones, Vaynor Villas; Mrs James Lloyd, grocer, a Mrs Stephen Jones. Gobeithiwn gael y cyfarfod eto yn y Cefn yn fuan. Nid ydym yn cofio ei gael yno erioed o'r blaen.-Stephanos.
Rhuthyn.
Rhuthyn. Cynhaliwyd y Cyfarfod Chwarterol yn Rhuthyn, dydd Iau, Ion. 3ydd, o dan ly- vvydd.ia-"th y Parch R Garrett Roberts. Daeth cynrychiolaeth o bob lie, ag eithrio Llandegia. E-tholwyd Mr Rogers Jones i gymeryd lie ei ewythr, Mr E Jones, Llanbedr Farm, yr hwn a luddiwyd i fod yn bresenol oherwydd afiechyd, ond da oedd gan y cy- farfod ddeall e.i fod yn gwella. Diolchwyd 1 Mr E Jones, U.H., a Mr W II Jones, y ddau oruchwyiiwr, am eu gwasanaeth ar hyd y flwyddyn, ac ail-etholwyd hwy. Diolchwyd ac ail-etholwyd Mr Hughes, Rhuthyn, yn ysgrifenydd y capeii. Rhodd. wyd isylw i'x achos yn Llandegia, a phender- fynwyd i geisio codi yr achos i fyny. ■Gwnaed trefniadau i gael olynydd i Mr Rob- erts, ac hefyd trefnwyd ar' gyfer arholiad y Maes Llafur. Penderfynwyd ar adeg cyn- haliad y gwahano.1 gyfarfodydd "trustees" yn y gylchdaith. Terfyn wyd trwy weddi gan y Llywydd. Ar dtrfyn y cyfarfod dar- parwyd te o'r "siort oreu gan Mrs Garrett Roberts, a diolchwyd yn gynes iddi am e-, charedigrwydd. Am 5-30 cynhaliwyd cyfar- fod blaenoriaid y gylchdaith. Da genym fuasai gweled ychwaneg yn bresenol. Gaed trafodaeth fuddiol ar y modd goreu i godi y Seiat i fyny yn y gylchdaith, a phasiwyd by amryw fcenderfyniadau ar y mater. Hyder- ■wn y gw^rlir ffrwyth ymarferol i'r cyfarfod. Am saith o'r gloch cynhaliwyd convention," a daeth cynulliad da yn nihyd. Sgaiadwyd gan amryw o'r brodyr, a theimhvyd yr Ar- glwydd yn agos atom. Hyderwn y bydd yna ymgysegriad o'r newydd yn ein mysg ar ddechreu y flwyddyn Cawsom gyfarfod- ydd gwir fendithiol.—Goh.