Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

A PER-GANIEDYDD METHODISTIAETH…

News
Cite
Share

A PER-GANIEDYDD METHODISTIAETH SEISNlü FFAITH amlwg yn nglyn a phob di- wygiad crefyddol o bwys yw y cynyrcha y cyffroadau ysprydol hyn ysprydoliaeth enynol arbenig, yr hon rydd iaith i brofiad newydd y sawl a ddygir dan ddylanwad y diwygiad. Ysprydolir ysprydoedd etholedig i ddatgan profiad, ac i roddi iaith i ddyheadau yr Eglwys yn y cyfnodau chwyldroadol hyn, ac un o'r cyfryngau mwyaf llwyddianus i gyfifroi meddwl puraidd ac yspryd Eglwys Dduw yn mhob oes yw datgan ar lafar-gan y Psalmau a'r odlau ysprydol hyn yn eu cyfarfodydd defosiynol. Mynych y profodd ymarferiadau o'r fath yn ddechreuad cyfnod newydd yn my- wyd lJawer eglwys. Gan amlaf gwyr diwylliedig ac ysprydol yw y rhai a lwyddasant oreu i ddynodi y profiadau ysprydol cyfnodol hyn. FeUy y bu yn mhob canrif i Jawr hyd y Diwygiad Protestanaidd. Llenwid yr Almaen gan obaith wrth ganu It Emyn Luther "-0 anfarwol fii— a'r gobaith hwn oedd cnul marwol* aeth y Babaeth. Cadwodd emynau yr anfarwol Isaac Watts fywyd ys- prydol rhag lwyr ddiffoddi allan cyn toriad gwawr dyddisu gwell" y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr a Chymru. A phan y tores hwnw allan rhoed iaith i'w dafod tan yn benaf gan CHARLES WESLEY a'i frawd JOHN yn Lloegr, a chan yr ysprydol- edig BANTYCELYN yn Nghymru. Felly y bu yn nglyn a'r Diwygladau a effeithiwyd wedi hyny trwy ym. drechion MOODY a SANKE,Y, Byddin yr lachawdwriaeth a TOPREY ALEX- ANDER, ac eraill. A rhoddwyd iaith i brofiadau lawer yn ystod y Diwygiad diweddaf mewn emynau newyddion fydd mewa bri pan y tyr allan Ddi- wygiad nerthol eto. Ond a CHARLES WESLEY y mae a fynom yn awr Dethlir blwydd- gylch Ddeu-canfed dydd ei enedig- aeth yn y mis hwn gan filoedd o Drefnyddion ac eraill drwy'r byd gwareiddiedig. Ffyna ansicrwydd gyda golwg ar ddyddiad ei enedigaeth. Trwy y tan a ddigwyddodd yn Rheithiordy Epworth yn 1709, llosg- wyd gyda phobpeth arall y Cofrestrau Eglwysig. Ac yn absenoldeb un- rhyw dystysgrifau uniongyrchol i nodi y dyddiad, nid oes genym ond dyfalu o ddau neu dri dyddiad honedig yn un tebygdl. Honai Thos. Jackson, un o'i brif Fywgraffwyr, ddarfod ei eni ar y igfed o Ragfyr, i/og; a'i fod yn rhywbeth gyda thri-mis-ar- ddeg oed pan ddigwyddodd yr alanas yn Epworth. Ymddengys nad oedd CHARLES WESLEY ei hun yn hollol sicr pa un ai yn 1709 neu 1710. Mynai ei frawd enwog, JOHN nas gallasai y dyddiad fod yn ddiwedd- arach na Rhagfyr 1708, tra y mynai ei chwaer Martha mai yn 1711 ei ganed. Dadleua Mr Telford, ei fywgraffydd diweddaraf, mai yn 1707 y ganed ef, gan selio ei ddadl ar rai brawddegau sydd mewn llythyr o eiddo y Parch Samuel Wesley (hynaf) at y Due Buckingham. Ond nid ymddengys i'r ysgrifenydd fod ei gasgliad yn un diamheuol, Tueddwn i dderbyn dyddiad Thomas Jackson -sef Rhagfyr j8!ed, 1708. Pan y cofir fod hwnw yn yr old style y dyddiad presenol fyddai Rhagfyr 29ain. Hyderwn y cofir enw y gwr maw; hwn yn mhwlpudau y Tair Talaeth Cymreig y Sabbolh nesaf. Y mae ei enw yn deilwng o goffadwriaeth barchus. Yn wir, fel y sylwai un yn ddiweddar, CHARLES WESLEY ydooedd gwir ddech- reuydd Methodistiaeth, tra efe eto ond myfyriwr yn Mhrifysgol Rhydychain- Trosglwyddodd y gofal i'w frawd, galluocach at rai cyfrifon, ond yr hwn nid oedd ronyn llai selog dros yr 6 Eglwys." Nodwedd amlwg emynau CHARLES WESLEY, fel eiddo PANTVCELYN, yw eu profiad. Chwareuai danau ei delyn i bob cvwair ar raddfa p"ofiad-o ddyfn- der cri leddf yr edifeiriol dan argyboedd- iad i fyny at gywair llonaf gorfoledd yr liwn a lefai gyda hyder fod Duw yn Dad iddo yn Nghrist. Ni fa iddo ail fel Emynydd yn yr iaith Seisnig, ag eithrio Dr Isaac Wat's yn unig. Y mae amryw o'i emynau yn s!cr o fyw tra'r iaith Seisnig mewn bod. Ysgrifenodd lawer. Ac er fod yr hyn a eilw y Sais yn mannerism yn d'od i'r golwg, nid oedd dim o'i eiddo yri frwd ac anorphwysedig. Nodweddir ei gynyrchion gan bryd- ferthwch yn fynych, a chan chwaeth bur bob amser. Fel y gellid disgwyl, mewn casgliad o tua tair-cyfrol-ar-ddeg —o yn agos i chwe' mil 0 linellau-ceir cryn amrywiaeth yn eu gwerth Henyddol. Yn mhlith y gemau a ysgrifenodd, gellir nodi y ibai canlynol :—aJesrf Lover of my Soul" yr hon sydd i'w chael mewn cyfieithiad rhagorol yn y Llyfr Emynau Wesleyaidd Cymreig. Allan o amryw gyfieithiadau, ystyriwn hon yn fwy flyddlon i'r gwreiddiol mew;) pwynt 0 ysbryd ac aspri. Emyn anfarwol arall yw Hark the Herald Angels Sing." Deallwn fod hon yn ddiweddar wedi ei lledgyfieithu i'r Gymraeg. Emyn an- farwol yw yr un ar "Ymdreclz Jacob', —" Come, OThou Traveller Unknown?» Ce-r hon eto yn yr hen Lyfr Emynau, se7 "Ardderchog angel, gadarn Ior," &c. Myn rhai roddi y flaenoriaeth i hail ar ei hon emynau. Ond diau mai lesu cyfaill f'enaid cu yw yr un sydd wedi enill calon y byd crefyddol lwyraf. Bu hon yn gysur i filoedd yn mhob gwlad. Mor aruchel ei syniadau, mor bur ei chwaeth, mor ddiffyn a pherffaith ei saern'aeth Cymliellwyd WESLEY i'w chyfansoddi, ac efe un diwrnod yn eistedd wrth y ffenestr, Yn hollol ddi- symwth ehedodd aderyn bychan i fewn i'r ystafell gan lochesu yno yn ddych- rynedig. Aeth WESLEY i'r ffenestr, a gwelai hebog mawr wedi ei lwyr guro, eithr ni feiddia ddilyn yr aderyn i'r ys- tafell. Yr oedd CHARLES WESLEY yn gerddor gwych, a chododd ddau fab a ddaethant yn gerddorion o fri. Yr oedd ei wraig yn Gymraes, sef merch Yswain Gwynn, y Garth, Sir Frycheiniog. Ymbriododd a hi ddydd Sadwrn, Ebrill Sfed, 1749. Rhoddwyd hi ymaith gan ei thad, a chylymwyd hwy gan frawd y priodfab, sef JOHN WESLEY. Pregethodd yn y cylch ar hyd yr amser y bu byw. Treul- iodd lawer o amser yn y cylch hwn-yn y Garth, Talgarth, Llanfairmuallt, a Threfecca. Enillodd trwy ei emynau a'i sel le amlwg yn nghalouau penaeth- iaid Lloegr a bu yn foddion i chwyddo rhengau y Trefnyddion trwy ei gan beraidd a'i bregethau efengylaidd tra y bu fyw.. Gwr urddasol, mawrfrydig, a grasol mewn yspryd a gwirionedd yd- oedd CHARLES WESLEY. 0 0-- Boieu Sabbath diweddaf darfu i Mr John Holmes syrthio o'i sedd yn ngha- pel Sower by Bridge, a thra y cariwyd ef i'r festri, efe a fu iarw yn 69 ml. oed. j

"HEB OLLWNQ GWAED, .NID OES…

Dydd Nadolig.

IPlygain a Chanu Carolau.

Gwyl 0 Lawenydd.

Gweithredoedd 0 Drugaredd.

Gwyl y Cyfanu a'r Tangnefedd.