Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RhaZleii y Llywodraeth.

News
Cite
Share

RhaZleii y Llywodraeth. NATURIOL ydyw i sylw mawr gael ei foddi y dyddiau hyn i Gynhadledd Cynrychiolwyr y Trefedigaethau a agorwyd gan y PRIF WEINIDOG yn Llundain ddydd Llun diweddaf. Ni fynem ar un cyfrif ddiystyru y cyfarfyddiad, ac nid ydym i'r mesur Heiaf yn anghymeradwyo y croesaw a roddir i'r cynrychiolwyr. I'r Rwrthwyneb, teimlwn yn llawen o'i herwydd, yn enwedig y derbyniad cynes a roddwyd i'r Boeriad dewr a gwladgar, y Cadfridog BOTRA. Gwyddom nad oedd pob un o'r cyn- rychiolwyr yn iach yn y ffydd gyda golwg ar y Fasnach Rydd, a bod disgyblion CHAMBERLAIN yn ceisio gwneyd defnydd o hyny i'r amcan o ail godi y cri yn mhlaid diffyn-doll- aeth. Ond gan fod y Llywodraeth $ydd yn awr mewn awdurdod wedi ei thynghedu gan y wlad i barhau i gadw pob porth sydd yn y deyrnas yn agored i dderbyn nwyddau pob cenedl yn ddiwahaniaeth,nid ydym yn ofni i ymweliad prif weinidogion y trefedigaethau beri unrhyw niwed i ni yny cyfeiriad hwn. Ac ar y Haw arall, os bydd eu cyd-gynulliad yn fantais i ddwyn y trefedigaethau i ddeall eu Rilydd yn well, heb sarnu ar egwydd- Orion Masnach Rydd, bydd cynhaliad Y Gynhadledd wedi cyrhaedd pwrpas da. Ond at fater sydd yn perthyn i ni yn y wlad hon yn unig y carem alw sylw neillduol heddyw. Ymdrech fcnnoeth a hollol ofer fyddai ceisio celu y ffaith fod rhaglen y Llywod- taeth am y tymor presenol a'r tymor ftesaf yn peri mesur mawr o bryder i luaws o'i chefnogwyr mwyaf aiddgar. Nid ydym o gwbl yn credu fod mwy- afrif etholwyr y wlad hon wedi newid eu barn er's pan yr ysgubwyd ymaith kywodraeth lwgr BALFOUR gan lanw tnawr yr Etholiad Cyffredinol diw- eddaf. Ac nid ydym yn credu fod RhYddfrydwyr y wlad o gwbl yn ëLtnheuffyddlondeb BANNERMAN a'i gyd-weinidogion i'w haddewidion Parthed diwygiadau cymdeithasol, ar bwys pa rai y gosodwyd hwy mewn aWdurdod. Ond rhaid cydnabod fod y cwrs a ddilynir ganddynt er cyflawni yr addewidion hyny yn peri i rai o'u Pleidwyr deimlo yn dra. phryderus, ac i eraill deimlo yn siomedig i'r tithaf. Nid oes neb a amheua nad rhan o'r gwaith y disgwylid i'r Weinyddiaeth YlUgymeryd ag ef yn uniongyrchol Ivedi iddi gymeryd awenau y Llyw- odraeth i'w dwylaw ydoedd dadwneyd eddfwriaeth y Toriaid ym mhlaid y asnach feddwol, a chyfyngu i fesur e*aeth iawn ar rwysg y fasnach d'nystriol hono. Yr oedd argym- hellion Dirprwyaeth Arglwydd PEEL tUa chwe' blynedd yn ol, a'rsymudiad Sychwynwyd dan nawdd ei Ar- S ^yddiaeth yn fuan ol hyny, wedi ^arn gyhoeddus sref y111 Vn ^eddfu yn y cyfeiriad hwn. j ^an wedi i'r Weinyddiaeth dd'od rkodHU1?od tua Phymtheg mis yn ol> ia j cr°dd y PRIF WEINIDOG dderbyn- Wadori°eSaWus 1 ddirprwyaeth ddylan- diwv anfonwyd ato argymell y adda adau hyny i w sylw ffafriol» ac Pend^* yn. y modd mwyaf ddiatrL y Sweithredid o'u hoi yn &• Ond aeth y senedd-dymor cyntaf heibio heb i'r achos pwysig hwn gael ei ddwyn ger bron y Senedd, a'r un modd yr ail dymor. Rhoddwyd He iddo yn Araeth y BRENIN yn nechreu y Senedd-dymur presenol, ond yn ystod yr wythnosau diweddaf y mae adroddiadau wedi eu taenu fod y Llywodraeth yn methu gweled eu llwybr yn glir i gym- eryd y mater mewn Haw y flwyddyn hon. Disgwyliwn weled datganiad ar ran y Llywodraeth nad oes sail i ddarogan- iadau o'r fath. Ond ysywaeth yr ydym l wedi ein siomi. Nid oes newyddiadur ffyddlonach i'r Weinyddiaeth, ac i achos sobrwydd na'r Daily News," ac yn ol barn y papur pwysig hwnw ni ddygir mesur trwyddedol ger bron y Ty yn ystod y tymor presenol, ac ofna y Gol. ygydd y bydd raid i Etholiad Cyffredinol gymeryd He cyn y cymerir y mater hwn i ystyriaeth gan y Senedd. [Yn ein rhifyn nesaf ceisiwn alw sylw pellach at y mater pwysig hwn, ac at ein siom o herwydd oediad mesur Dad- gysylltiad yr Eglwys yn Nghymru].

Ynadon a Tbafarnwyr.

Plaid Llafur a'r Dduwinyddiaeth…

-:0=--Marwolaeth Sydyn Chwaer…

: o: YR ATHRAW A'I WAITH.