Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

Sylwer

Mr S T. Evans a'r' Ddirprwyaeth…

: o : Trysorfa Addysg Ymgeiswyr

Nodiadau Cyfundebol.

News
Cite
Share

Nodiadau Cyfundebol. [GAN Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.j Y mae Talaeth Exeter wedi pender- fynu i beidio gwahodd y Gynhadledd i i gyfartod yn y ddinas y flwyddyn nesaf oherwydd y ffaith fod Talaeth York yn bwriadu ei gwahodd yr un flwyddyn. Agorwyd Eglwys Goffadwriaethol Charles Garrett y dydd o'r blaen yn Shaftesbury gan Faeres y dref. Pre- gethodd y Parch Dinsdale T. Young ar yr achlysur. « •» < Deallwn fod y Parch David Roberts, Caerwys, wedi derbyn gwahoddiad cylchdaith Llanasa, i olynu y Parch D Meurig Jones, fel arolygwr yn Awst, ) Llongyfarchwn ein cyfaill awengar Gwilym Dyfi fel enillwyd Cadair Fardd- onol Eisteddfod Maesteg, am farwnad. Yr oedd 22 yn ymgeisio am dani. Da iawn, Gwilym Dyfi. < < < Nid oes amheuaeth yn awr na fydd y cyfarfod mawr diolchiadol yn yr Albert Hall, Llundain, yn llwyddiant mawr iawn. Ymgyrchir iddo o bob parth o'r deyrnas. < < Yr oedd yn llawen genym weled fod Mr William Hopkins, Cefntrwy, Llan- dilo, wedi ei ethol yn un o warcheidwad y tlodion dros blwyf Llandilo. Mae yn Wesleyad o'r iawn ryw. • • # Hyfrydwch genym nodi fod Miss S E Pierce, merch Mr a Mrs Pierce, Ysgol y Cyngor, Treffynnon, wedi cael ei phen- odi yn ysgolfeistres y genethod Fron- goch, Dinbych. Mae i'r ysgol hon safle bwysig gyda thua 200 o ysgolorion. Llongyfarchwn Miss Pierce ar ei phen- odiaa. < < w Agorwyd cangen yn nglyn a'r adeilad Cliff College pa un a adeiladwyd er coffadwriaeth am y diweddar Barch Thomas Champness, ddyd« Llun y Pasg. Yr oedd tua dwy fil o bersonau yn bres- enol. Agorwyd y drws gan' Mrs Dr J H Pope. Costiodd tua 6ooop. < < < < Nos Iau a Gwener y Groglith cynhal iwyd cyfarfod pregethu blynyddol capel Moriah, Helygain, ger Treffynnon, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn R Mon Hughes, Llanrhaiadr, a Thomas 0 Jones (Tryfan), Manchester. Traddodwyd y genhadwri gyda nerth ac arddeliad. < < w Er fod tua deunaw mil o gopiau y "Maes Llafur" wedi eu cyhoeddi y flwyddyn ddiweddaf, gwerthwyd hwynt allan, a siomwyd llawer am na anfonas- ant eu harchebion yn brydlon. Mae'r Maes Llafur am y flwyddyn bresenol allan o'r wasg, ac eisoes y mae llawer o filoedd copiau wedi eu harchebu. Bydd yn rhaid gwneyd brys am y cyfryw i onide, fe fydd yr holl wedi myned. < w Mae'n hyfrydwch genym wybod fod Cynadledd y Wesley Guild dyddia'r Pasg yn Sheffield, wedi bod yn un hynod o lwyddianus. Yr oedd dros 500 '0 gynrychiolwyr o bob parth o'r wlad wedi cyfarfod ynghyd yn nghapel Carver Street, un o'r pregethwyr arbenig ar yr achlysur ydoedd y Parch Trevor H Davies, a chafodd gynulleidfa fawr i'w wrando. < Cawsom y fraint unwaith eto o fwyn- hau gwasanaethau cyfarfod mawr y Pasg yn Mhendref, Treffynnon, Sadwrn, Sab- both a Llun. Y gweinidogion oeddynt y Parchn Hugh Jones, D.D., Bangor, R Lloyd Jones, Dinbych, Isaiah Jones Lytham, Hugh Evans, Llanfairfechain. Cafodd yr hen efengyl ei chyhoeddi gyda nerth ac effeithioldeb mawr. • • • • Diameu genym mai gyda llawenydd y derbynia canoedd edmygwyr Mr E L Rowlands, Liverpool House, Aberdyfi, y newydd am ei appwyntiad yn Ustus Heddwch dros Sir Feirionydd. Fe gyd- nebydd pawb sydd yn adnabod Mr. Rowlands, ei fod yn psrehenogi y cym- hwysderau gofynol er cyflawi y swydd- ogaeth anrhydeddus a phwysig hon. Y mae i'n cyfaill ein llongyfarchiadau cynesaf. J Da genym hysbysu y canoedd lawer sydd yn edrych yn mlaen am gyfrol pre- gethau y Parch Hugh Jones, D.D., y bydd allan o'r wasg ar y diwrnod hys- bysedig, sef y ISfed o'r mis hwn. Bwr- iedir anfon supply 0 gopiau i'r Cyfarfod- ydd Talaethol, yr hyn fydd yn drefniant hwylus a buddiol. Bydd y "Gobaith Cristionogol," yn un o'r llyfrau gwerth- fawrocaf a gyhoedd wyd gan awdwr Wes. leyaidd. J • » • • Da iawn genym ddeall fod y Parch George Jackson, B.A., yr hwn a aeth i Toronto am dair blynedd, fod ei iechyd wedi cryfhau yu fawr. Er ei fod yn mwynhau ei hunan yn fawr yn ei gylch newydd, eto teimla hiraeth ar adegau am yr hen wlad, ac felly bwriada dd'od drosodd am ychydig wythnosau yn Mehefin. Bwriada bregethu yn Edin- burgh, a bod yn bresenol yn y Gyn- hadledd, a dychwela i Toronto Awst 2. < « Mr E E Genner, M.A., yr hwn sydd yn myned allan i Madras yn Mehefin nesaf i'r gwaith cenhadol yn mh:ith yr Hindwiaid dysgedig, ydyw'r Wtsleyad cyntaf er John Wesley i gael ei wneyd yn Gymrawd o Goleg Rhydychain, er fod ei gyfaill, Mr F E Corle, o Goleg St John, yr hwn sydd yn barod yn gweithio ar staff y Madras Christian College, a Mr Shovelton, 0 Morton, wedi hyny, wedi cael eu gwneyd yn Gym- rodorion. < < w Yn mhlith ysgrifau yr "Eurgrawn" am fis Ebrill ceir dwy o nodwedd uwch- raddol, sef eiddo'r Parch Ishmael Evans ar "Ffeithiau yn nglyn a Bywyd Tra- gwyddol y Ddynoliaeth," a chan y Parch Evan Jones ar "Y Diwygiad Protestan- aidd," y rhai ynddynt eu hunain a wna y rhifyn yn un gwerthfawr. Wedi dar- llen o honom ysgrif Mr Jones, teimlem yn dra awyddus i argymell bobl ieuainc ein heglwysi i ddarllen yr ysgrif gref ac addysgiadol ar y Diwygiad Protestanaidd fel ag iddynt fod yn gyfarwydd yn hanes y diwygiad mwyaf yn y byd crefyddol. Da genym weled fod yn mwriad yr awdwr i barhau gyda'r gorchwyl o gyf- lenwi darllenwyr yr Eurgrawn" a hanes y diwygiad. Mae'n sicr genym y ca ei lafur cariad ei werthfawrogi gan ein pobl, y rhai sydd yn ddiolchgar i Dduw am estyn nerth a hamdden i Mr Jones i gyfranu gwybodaeth o'r fath fuddiolaf drwy y Wasg i eangach na'i gylchdaith.

Deddfwriaeth.

Bil y Diotwyr.

1 Y4 Parch Charles M. Sheldon,…

"Y Pioneer."

Hunan-Aberth.

Vstadegau Dirwestol.

• :o: Gohebiaethau. --

Family Notices

-0'0-J ! BIRKENHEAD.