Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Yr Ysgol Sabbothol

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Yr Ysgol Sabbothol [Gan Cynonfab.] YSGRilF XVIII. Athrawon Cymwys. IPan yn siarad vn ddiweddar ag arolygwr am o Ysgolion Sabbothol ein hardal, ac yn <ei holi am heilynt yr ysgol, • dyma ei sylw :— Ein gwendid mawr ni yw diffyg: athrawon da." Ac er fod yn ein mysg luaws o ath- ffawon gwir gymwys a hollol ymroddedig i'r gwaith pwysig y maent wedi ymgymeryd ag oy "I ef, ofnwn, er hyny, .fod y diffyg y cyfeiriai ein cyfaill ato yn tin rhy gyffredi11 yn ein iiysgolion. B:wriadwn alw sylw at rai o'r prif gymhwysderau yr hoffwn i athrawon fod yil feddianol arnynt. Y mae dau amcan mawr y dylai pob athraw ei osod o'i Aaen (1) Cyflwyno gwybod aeth, ac yn (2) dad- fclygu cymeriad moesol, neu feithrin gwir grefyddolder yspryd. Ac y mae yn angen- arheidiol i'r athraw feddu ar y cymhwysderau -pen a chalon--er cyraedd yr amcan deublyg yna. iModdionJiw y cyntaf er sicrhau yr ail. (il) Cyduna pob darllenydd ystyriol fod tneddui ar wybodaeth Ysgrythyrol eang yn angenrheidiol iwneyd- unrhyw un yn athraw cymwys. Rhaid gwybod llawer o wirion- eddau a chanfod eu cydiberthynas cyn llwy- ildo i ddysgu eraill mewn un gwirionedd yn effeithiol. Felly y mae mewn modd neill- duol yn gysylltiedig ag egluro Gair DUlw. iAnhawdd ei ddeall heb ganfod ei undod or. ganaidd adadbly,giad graddol gwirionedd ynddo. Rhaid edryoh ar waharddiadau a goddefiadau yn ngoileuni yr oes y lleferid hwy. Rha.id dwyn goleu yr oll i egluro y rhan ynddo. "Adnodau yw yr esboniad goreu ar adnodau." Y mae hon yn Theol dda mewn eglurhadaeth Ysgrythyrol—dim Ond i ni gofio am ddefnyddio adnodau lefar. iwyd mewn cyfnodau diweddarach i egluro rhai lefanwyd mewn cyfnodau boreuach a llai eu gWrteithiad mioesol. Gellir defnydd- io adnodau unigol o'r Beiibl i ategu llawer syniad a ystyrir yn awr yn gyfeiliornus, a g-wneir hyny yn rhy ami o ddiffyg gwybod- aeth eang a chyflawn o Air Duw, a diffyg sylw o dyfiant graddol gwirionedd dadgudd- ledig ynddo. Ni ddeuir byth i ddeall ystyr gwananol ranau peirianwaith ar wahan i amcan peiriant fel cyfangorff. Nid yw yn fcosibl dell gwasanaeth gwahanol aelodau y fcorff dynol ond yn eu pe-rthynas a'r corff i gyd. Ac anmhosibl i neb ddeall gwahanol ranau o Air Duw. Heblaw hyny, rhaid iddo feddu cydna- byddiaeth A hanesiaeth ddwyreinol ac a idaearydd i aeth y Beibl, ac yn atbenig a'r darganfyddiadau diweddar wnaed yn Mha- lestina, Syria, a'r Aipht. Dylai wybod am safle feddyliol a chymdeithasol y parthau a'r Oesau yr ysgrifenwyd gwahanol ranau y iBeibl ynddynt. Y mae argraffiadau lIeol a oodweddion cymdeithasol rhanau Asia Leiaf a Groeg yn amlwg yn Epistolau Paul, ac anmhosibl cael dirnadaeth glir o'r drych. feddyliau gyfleir heb feddu. adnabyddiaeth o'r nodweddion hyny. Y mae gan athraw hefyd i feddu syniad ami ysforydoliaeth y Beibl. Nid yw credu fod y Beibl wedi d'od yn gyfan oddiwrth Dduw, fel fcflwch cauedig llawn o berlau, yn ddigon. Na, rhaid gofyn pa fodd y daeth, beth yw yr hanes a ddyry am dano ei hun, a faint o olion henafol a welir arno. Tyf. odd yn araf drwy oesan lawer a chyfnodau du. A dylai athraw wybod am y tyfiant hwn, a meddu syniad lied glir i'w feddwl ei hun am linell cydgyfarfyddiad y Dwyfol a'r dynol ynddo. {2) Ond er i un feddu ar wybodaeth eang o Air Duw, nid yw,ynddo ei hun yn sicrwydd am lwyddiant fel athraw. Rhaid meddu ar gymhwysder i gyflwyno y wybodaeth hon i eraill. Cynwysa hyn adnabyddiaeth i ryw fesur a deddfau y meddwl a gweithrediadau y cof. Daw egwyddorion cydnabyddedig addysgiaeth i fewn hefyd, yn nghyda'r gwa- hanol foddau adnabyddus o gyflwyno add- ysg. Os yw athraw am beidio bod yn feth- iant, nhaid iddo wybod pa fodd i drefnu a dosranu ei wers, a gwybod pa fodd i gyfleu ei chynwys yn eglur a dyddorol i'r dosbarth. Y mae ganddo, nid i arllwys gwybodaeth i feddwl y dosbarth, ond i wylio eu cynydd ac ymeangiad eu hamgyffredion, ac yn benaf ddylanwad y gwirionedd yn ffurfiad eu cy- meriad. Os yn holwr deheuig, ac yn cym- liwyso y gwirionedd yn effcithiol, bydd yn t-Jstr ar ei ddosbarth ac ar ei waith. Medr lywodraethu ei dymer yn dda; a chydag taith rasol a boneddigaidd, a gwên ar ei tvyneibpryd, efe a geidw bawb o'i gylch yn iywiog ac mewn hwyl gwaith. Rhaid geni dyn yn fardd," medd yr hen sir; ac nid anmhosibl yn yr olwg ar brinder y cymhwysderau amryfath hyn fyddai dweyd fod yn rbaid geni dyn i fod yn athraw llwyddianus ac effeithiol. Ac eto, fe all ath- raw sydd i'i gallon yn y gwaith, ac yn ym- deimlo ei bwysigrwydd, wneyd llawer drwy ymroad, a gweddi, a bendith Yspryd Duw tuag at feithrin y rhagoriaethau a enwyd fel cymhwysderau artxenig mewn athraw llwydd. ianus yn ein Hysgolion Saibbothol. Un o'r pethau mwyaf pwysig, yn ddiau, yw fod un yn cymeryd dyddordeb yn ei waith ac yn ei ddosbarth. Mown cyfeiriad at y cymhwys- derau gofynol mewn is-athraw yn Rugby, dywedai Dr Arnold, Byddai yn well genyf weithgarwch meddyliol a dyddordeb yn y gwaith nag ysgolheigiaeth uchel." Felily n-inau-Byddai genym fwy o hyder yn llwyddiant athraw, er o wybodaeth gy- fyngedig, os yn meddu "tact" i gyflwyno addysg, ac yn teimlo dyddordeb yn y gwaith, nag yn llwyddiant un o wybodaeth eangach os heb y cymhwysderau hyn. (3) Ond wedi y cyfan, y cymhwysder mwyaf arbenig yw crefyddolder yspryd; cymeriad dilychwin ac o dduwioldeb diam- heuol. Nid digon yw deall cryf, parabl rhwydd, a gwybodaeth eang o'r Ysgrythyrau. Y mae talent yn ofynol, ond y mae sel dros lwyddiant yr achos a gogoniant Duw yn angenrheidiol hefyd. Pwy all egluro medd- wl Duw yn ei ddosbarth heb yn gyntaf deim. lo y genadwri hono ar ei galon .ei hun ? Pwy fedr ddwyn tyner seiniau telyn y Gwir. ionedd Dwyfoll allan yn eu hamrywiaeth a'u cyfoeth diderfyn, heb fod ei hun mewn cyd- gordiad hapus a'r ysbrydol ac a'r pur ? Os yw crefyddolder ysbryd yn anhefbgorol i un- rhyw swydd yn yr eglwys, nid yw i un felly yn fwy nag i eiddo yr athraw yn yr Ysgol Sabbothol. Ofnwn nad digon o sylw delir i hyn yn newisiad athrawon. Os ceir talent, anwybyddir pob cymhwysder arall. Cafwyd cyn hyn ddynion dibroffes yn athrawon am- lwg, yn unig am na ddigwyddai fod yn yr ysgol hono eu cyffelyb mewn siarad a dadleu ar bwyntiau Beibilaidd. Am eu talent, nid oedd dwy farn, ond am foesoldeb eu buchedd goreu pa leiaf sonid. Bryd arall, ceir ath- rawon, er yn aelodau, na chymerent unrhyw ddyddordeb yn mhethau mwyaf ysbrydol yr eglwys, ac nad ydynt nodedig am gywirdeb eu hamcanion, ond a gymerant yn ddigon hyf ag arwain dos/barth yn mhethau mawrion Duw! Y mae y cleddyf yn ddau-finiog, ond ni thyr neb ond yr athraw; ac ni eillir disgwyl i'r tori hwnw fod o fawr lies. Yn eu cynefindra a'r Gair, cyll ei effaith arnynt, a chaledir hwy trwy dwyll pechod. Credwn fod llawer o'r ysgafnder a'r cellwair glywir mewn dosbarthiadau yn codi, yn mlaenaf, o lacrwydd ac anghrefyddolder llawer o ath- rawon. Heb feddu parch cysegredig i Air y Gwirionedd, caniateir i rydd-ymddiddan segur a diamcan lithro i mewn ac yn fuan cludir dosbarth cyfan i ffwrdd ar adenydd gwi'bfeddyHau i wlad bell. Os am hane: caru, priodi, a byw" yr hdll ardal, eleT amibell ddosbarth o'r nodwedd uchod. Cei yma gecru a chrechwenu, a Gair Duw yn -e, dwylaw! Yn nghanol ysgafnder o'r fath. oerwyd cariad llawer un, ac anafwyd IIawc: calbn yn dost. Collwyd hadau min-ffordd y weinidogaeth, ac ysigwyd yr e,gin mWYílJ gobeithiol. Cipiwyd ymaith rhai o blant yr eglwys oddiar ddrws ei thy, ac ni welwyd mo honynt! A wna pob athraw gofio fod ei weinidogaeth o'r nef i'w gweithio allan yn ofn Duiv, ? tTry mewn eylch cysegredig; y mae ei gyfrifoldeb yn fawr, a'r canlyniadau yn dragwyddol. Rhodder i ni yn ein Hysgolion Sabbothol ddynion duwiolfrydig—dynion "earnest," yn ymwneyd a Duw mewn gweddi ar ran aelod- au eu dosbarthiadau—dynion a chymeriadda fel "sounding-board," i ychwanegu a chryf- hau miwsig y gwirioneddau a leferir gan- ddynt; ac yna, ni raid i neb bryderu am lwyddiant y sefydliad, ac am ddyfodol ieu- enctyd ein cynulleidfaoedd. (I barhau.)

■MANCHESTER.

Llandudno Junction.

o Treharris

--0-Bezer (Dosbarth Abermaw).

P RE GETHWY R DYEITHR.

MARiWOLAETlH EIN HANWiYL CHWAER…

; o YNYSYBIWI,.