Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-CJeaedlaetliol yr Eglwysi…

News
Cite
Share

CJeaedlaetliol yr Eglwysi Illiyddion yn Leeds. :tv1:.A. 'J\T:RJT:H: 4-7. Syniadau Arweinwyr Crefyddol y Dydd BRASLUNIAU QWERTHFAWR. [Gan y Parch. E. Tegla Davies Leeds] YR AIL GYFRODDIAD. DDYDD MERC HER. Dechreuwyd eto ddydd M.ercher am naw O'r gloch. Yn gyntaf cafwyd pregeth gan y Parch Charles Brown, 'Ja o'r gwyr ieuainc a gydnebir fel yn dech- teu gwneyd enw iddo ei hun, ac yn sicr clywir am dano eto yn fuan. Ei destyn oedd loan ix, 20. Rhoddwn rai o'r syniadau draethwyd ganddo. Dywedodd y galwai'r Arglwydd iachau yn waith Duw, a gorchy- Illyna yr un gwaith i'w ddisgyblion. Teimlai Crist fod trallod p.awb yn eiddo Ef; mai ei Waith oedd, nid athronyddu poen, ond ei feddfu ac y mae gweinidogaeth yr eglwys, Meddai, i'w sylfaenu ar weinidogaeth Crist. ilachai rEf 'bobl herb gani-atad y Sanhedrim, ac yn ami o dan erledigaeth yr awdurdodau. Nid ydym ninau i ofyn caniatad i leddfu .poen. I wasanaethu y mae'r eglwys, ac nid i'w gwasanaethu. Sylwai I. Yr enynai disgyblion Crist lawer o ddy- ddordeb yn mysg dynion. Os oes egiwys .Yn bod na wyr neb am dani, rhaid fod rhyw- beth allan o le gyda'r eglwys hono. Nis -'Sail undyn draethu neges fyw oddiwrth Allu byw heb enyn Hid rhywun. Y mae'n an. Eihosibl i ni adael dynion yn llonydd a dilyn Crist yr un adeg. II- Y rhan a gymerai yr Iuddewon yn yr amgylchiad. Ceisient ddadlu'r dyn allan °i brofiad, ac eglwys y cyfnod oedd Iuddew- iaeth. Credai yr eglwys nad oedd gwellhad y tuhwnt i'w muriau hi ei hun. Y mae ysbryd y disgyblion pan ataliasant y gwr a fwriai allan gythreuliaid am na pherthynai i'w hen wad hwy yn ywlad o hyd. Gall fod symudiadau yn y byd, ysbrydoledig gan Dduw, y tu allan i gylch yr eglwys, ac y mae pob un a egyr lygad y dall ac a fwria 4 allan gythreuliaid yn weithiwr Duw. III. Tystiolaeth y gwr a gafodd ei olwg ei bun. y mae derbyn foendith yslbrydol fawr gan Dduw 'yn sicr o enyn llid. Nid peth rhad yw dcnbyn bendithion oddiar law Duw "Orld caiff yr hwn a'i deribynio gyflawn daled- 19aeth yn y fendith am yr holl ddioddef. iPeth arall yn nhystiolaeth y dyn oedd ei brofiad. Y mae'n anmhosibl dadlu .dyn allan o'r hyn a wyr. Dyna fraslun" tyllog a bras iawn o honi. Wrth gwrs, yr oedd y llyfr nodion yn bry- 81ir iawn gan nifer fawr tra y pregethai'r ■§Wr j ond codais fy mhen rywbryd, a gwelwn frawd o weinidog Wesley heb fod n-spell "Qddi'wrthyf yn ysgrifennu ei arwyddion chwarterol a'i holl egni—chwareu teg iddo Wedi terfynu'r bregeth daeth y v Parch R F Horton, M.A., D.D., mlaen i ddarllen papur ar "Yr Ysbryd Clan yn yr Ysgrythyr ac mewn profiad." Gwr Duw yw ef mewn gwirionedd, a thyn- Odd ni yn agos iawn i'r nefoedd gyda'i ddull gWYlaidd gyda phethau cys-egredig, a'i ysbryd ^Uvv"iolfrydig. Soniai yn gyntaf am yr Ys- brYd Nuw: "Nis gallwn," meddai, "chwil- 10 i mewn i natur yr Ysbryd Glan ond drwy Syrnorth yr Ysbryd Glan; ac nid oes an- awster i'w ddarganfod ond ynom ni ein unain. Hunan arall Duw yw'r Ysbryd, ac ?ld yw'n tybio gan fod Duw yn rhoi ei Hun 1 dynoliaeth yn ei Ysbryd y cyll ei Hun. ^•iddo dyn ei ysbryd ei hun ond anadla ef 1 ereill. Oni all y gweinidog. anadlu ei ysbryd ei hun i'w gynulleidfa ? Felly gyda'r sbryd Glan. Ysbryd Duw wedi ei anadlu hObpeth ydyw. Y mae cariad wrth fyn'd an bob amser yn troi arno ei hun. Y mae ddarlun o hyn yn nghariad y Tad a'r ab tragwyddol. Y mae'r ddau o bob tra- ^yddoldeb yn trosglwyddo'r naill i'r llall cariad, ac.yn cadw ei Hun. Y mae ryd dyn yn bersonol, ond nid yw'n berson tahanOL -Felly'r Ysbryd Glan. Y mae'n Sonol, ond nid yn berson gwahanol i all eraill y Drindod, ac hwyrach y dyl- fel gydag amryw athrawiaethau i > gyfnewid ychydig ar ein termau duw- ayddol. gw "^n ^atur: yvv'r greadigaeth ond y yr Ysbryd ar fater. Y mae byd ag 4^lir ddeall yn t5nbio gwaith -ysbryd 9tld ar na^ur" Creodd ef natur a chre- i a>i wailh heddyw yw d'od a'r ddau ^vvydd°rd'' GwaCith >'r Ysbryd ar feddyliau onwyr y 47 mlynedd diweddaf yw dar- ganfyddiad deddf datblygiad—darganfyddiad o ddull Duw yn gweithio. III. Mewn Dyn: Gweithia yr Ysbryd ar natur, and mewn dyn. Y gwa-haniaeth rhwng dyfodiad y byd a dyn i fod yw cre- wyd y byd gan yr Ysbryd, ond cenhedlwyd dyn ganddo, a thriga o fewn ei Ysbryd ef. Uyn yw nod amcancreadigaeth gan yr Ys- bryd, a Christ yw'r n6d yn nyfodiad dynol- iaeth i fod. Yr unig ibeth sanctaidd yn y cyfanfyd creedig yw dyn. Nis gellir sanc- teiddrwydd ond ynddo ef; a phosiblrwydd sancteiddrwydd, heb ei gyflenwi drwy ei wyr- droi, yw pechod. Defnyddia'r Ysbryd ber- sonoliaeth dyn gymaint ag a all. Defnydd- iodd bersonoliaeth Paul a Cecil Rhodes, ond gyda gwahaniaeth. Nis gall ddefnyddio mwy o honi nag a fyn dyn roi iddo, ac o hyn y cwyd y prwysigrwydd o lwyr ymostyng- iad. Rhoi'r Ysbryd oedd amcan gwaith Crist, ac yr oedd yn rhaid iddo ad-ael y byd materol a myn'd i'r ysbrydol anghyfyngedig er rhoddi ei Ysbryd i ddyn. IV. Yn yr fEglwys Nid oes dim mwy cy- feiliornus na dweyd y cyfynga'r Ysbryd ei Hun i'r eglwys. Y mae ef mewn crefyddau eraill ac yn y byd o'n hamgylch; ond y mae'r eglwys yn ganolbwynt ei weithrediad. Peidier a chysylltu'r Ysbryd a pheirianwaith yr eglwys. Y .mae'n bosibi i babau ac offeiriaid ordeiniedig ddiffodd yr Ysbryd. Yr Ysbryd a ffurfia'r eglwys, a rhydd ei fen-dith- ion yn hynod didderlbynwyneb. Rhaid i ni adenill yr offeiriadaeth freiniol eto." Dyna fraslun o'i araeth. Apeliai yn orch- fygol at y gynulleidfa, ac yn nghanol ei apel torodd i weddio, a theimLeiro fod yr Ysbryd y siaradai am dano yn disgyn yn ysgafn fel colomen ar y cyfarfod. Daethpvvyd yn nesaf at y penderfyniadau. Cynygiwyd nifer o benderfyniadau mewn dull grymus gan Mr Silas Hocking, y nofel- ydd, a chefnogwyd ef gan frawd ymfflamych- iadol ryfeddol. Caiff y gwr hwnw a ddar- genfydd ddull mwy effeithiol i hyrwyddo gwtelliantaui yn y wlad na thrwy basio pen- derfyniadau, groesaw arwr gan ddynoliaeth pan ddêl. Adran ibwysicaf y rhaglen foreu Mercher oedd yr ymdriniaeth ar Echryswaith y Congo. Siaradwyd yn gyntaf gan y Parch J H Harris, cenhadwr o'r Congo—y gwr a ddat- guddiodd y creulonderau i'r Ibyd, ac a ys- gydwa gymdeithas i'w hystyried heddyw. Yr oedd ganddo hanesion erchyll i'w hadrodd. Dyw-edai am weddw a ddaeth ato un boreu gan ddweyd fod milwyr Leopold, brenin Belgium, wedi saethu dau o'i meibion a geneth fach iddi am na ddaethant a digon o "rubber" i'r farchnad. Gwelodd eneth fach arall wedi d'r milwyr dori troed a Haw iddi i dEfwrdd; ac y mae'r milwyr yn ganibaliaid. 'B'wytant rai ar ol eu lladd. Dywedodd ei fod un diwrnod wedi casglu llwyth o ddwylaw a thraed, a myn'd a hwy at yr awdurdodau; a'r ateb a gafodd oedd nad oedd ganddynt hwy ond ufuddhau i'r gorchymyn mai yn E'wrob yr oedd y cyfrif- ol-deb. Dangosodd i ni ddau lian coch yn llawn rhesi, a ph-ob rhan yn cynrycholi dyn neu ddynes ag y torwyd eu haelodau i ffwrdd mewn un pentref. Yr oedd 185 o'r marciau hyn ar y Ili-einiau-dull y bobi o gyfrif oedd hyn. Dywedai yn mhellach fod dros dair miliwn o tbobl wedi eu lladd gan filwyr Leopold. IDaeth hen dywysog ato un diwr- nod, a llefodd arno mewn gorphwylledd: "Wr Duw, pan ewch i blith eich po-bl, dy- wedwch ein hanes i dywysogion Duw." "Chwychwi," ebai Mr Harris, "a feddyliai wrth dywysogion Duw, a t'hrosglwyddaf y neges i chwi." Bob! Cymru! dym-a hanes dechreu yr ugeinfed ganrif mewn gwlad a ly- wodraethir gan frenin Ew'ropeaidd Ar .ei ol ef, cododd Mr E D Morel. Gwr yw ef a aberthodd ei eiddo mawr ar allor rhyddid trueiniaid y Congo, gwr ag y dy- wedodd y Parch F B 'Meyer am dano, ei fod yn un o ddynion mwyaf Prydain. Pan god- odd i siarad, cododd y gynulleidfa anferth fel un gwr i'w groesawu, heb guro dwylaw na chadw swn, ond gyda pharchedigaeth dwys. iSiaradodd y gwyr hyn yn effeithiol iawn, nid am eu bod yn hyawdl, ond am eu bod eisiau argyhoeddi, ac nid dangos eu hunain. AVedi iddynt orphen, cododd y gynulleidfa anferth i fyny, a chododd pob dyn a dynes yno ei law yn arwydd ger bron Duw o lw na orphwysid nes ysgubo'r flieidd- C, beth anfad oddiar wyneb y ddaear. Yna cododd y Parch J. G. Greenhough, M.A. i siarad ar Ddirywiad Bywyd y Cartref." Hen Biwritan egwyddorol a hen ffasiwn yw ef, a dywedodd ibethau a aent i'r byw. Dy- ma rai o'i ddywediadau Y mae pobl fawr West End Llundain mor ddigartref a'r arab tlotaf ar y stryd oherwydd eu hunanoldeb mall, a thalant yn ddrud am eu pechodau yn eu hamddifadrwydd o gartref. Y mae lleihad y genedigaethau, yn mhlith y cyfoeth- ogion yn enwedig, yn siarad cyfrolau o Iyg- redigaeth. Ac y mae cynydd clybiau mer- ched yn lladd y cartref. yn gyfangwlbl. Deng- ys y gwelltyn y ffordd y rhed y ffrwd, ac y mae y dull newydd o dreulio gwyl gysegredig y N adolig mewn dawnsfeydd a chwareuon yn arwyddo llawer. Dioddefwn hefyd oddi- wrth ormod o ddifyrion, nid yn unig yn y chwareudai, ond yn yr eglwysi. Wrth gwrs, y mae eisiau lie agored ganol yr wythnos yn yr eglwysi i'r syrthiedig a digartref ond y lie goreu i bobl ieuainc i dreulio eu nos- weithiau, os oes ganddynt gartref, yw yno, ac nid unman arall. Bywy-d y cartref yw nerth a gogoniant yr holl genedl, ac os oes dirywiad ynddo dechreua oherwydd oeri o'r allor deuluaidd. Teml yw'r aelwyd gyda phob tad yn o-ffeiriad, a phob mam yn offeir- iades..Nid yw cartref di-weddi ond llety cyrfredin dros nos. Croesaw i ferch i fyw- yd cyhoeddus, ond gogoniant merch yw bod yn farm dda, a phe'r ymyrai merched lai a gwleidyddiaeth, gan gysegru eu hunain i'w cartrefi, byddai wyneb newydd ar Loegr cyn bo hir. Wedi hyn, penderfynwyd ynunfrydo1 neillduo'r Parch F B Meyer i wasanaethu'r Cyngor fel cenhadwr, ac wedi ymdrin a phwnc blwydd-dal i'r oedranus, terfynwyd cyfarfod y boreu. Y peth cyntaf y prydnawn, ar ol dewis pwyllgor am y flwyddyn n.esaf, oedd papur gan Mrs Rendel Harris ar "Wasanaeth Cy- hoeddus Merched." Yr oedd yn bapair da iawn yn ddiau i bawb a'i clywai, ond dyna oedd y gamp a chafodd gymeradwyaeth uchel pan orphenodd, yn enwedig gan y rhai o'i hamgylch ar y llwyfan. Yna daeth y Cymro pybyr, y Parch T Phillips, B-loomsbury, yn mlaen i ddarllen ei bapur ar Gristionog- aeth yn ei pherthynas a phroblemau cym- deithasol a deallol yr oes," a dywedodd: Er darganfod cyfeiriad unrhyw oes, chwilier beth y meddylia'r gwyr ieuainc o dan 25 oed am dano. Anfonais lythyrau at 300 o ddyn- ion yn Llhndain yn ddiweddar, na ddeuent i'r eglwys, i ofyn eu rheswm dros beid-io, a dau yn unig a rwystrid gan bwnc o athraw- iae,th. Yr oedd anhawsterau pawb eraill yn hiffyg crefydd ymarferol. Yr hen ofyniad yn nghylch yr lawn oedd, sut yr effeithiai ar gymeriad Duw. Heddyw'r gofyniad yw sut yr effeithia ar gymeriad dyn. Gofyniad dyn- ion ieuainc yw Beth yw ei nerth i'r bywyd ymarferol ?" Ofer yw ymdrin yn nghylch hen ysgrifau'r Hen Destament a beirniadu iaith y Newydd tra y newyna dynion am fywyd ac nis gall beirniadaeth wrthod y bywyd a fwyda enaid dyn. Nodwedd arall yr oes yw'r ymdrech am allu. Sandow yw ei nawdd sant, ond y mae perygl i al-lu droi yn greulonder. Gwelsom hyn yn ngloddest- au gwaed Mafeking, ac yn ysbryd rhyfel y w'lad heddyw. Y mae bechgyn y dinasoedd yn addoli miliwnyddion ond os am allu deuent at Grist, "dVli a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach." Nid crefydd y gormeswr yw Cristionogaeth, ond crefydd y gwan a'r m-ethedig.Nodwedd ar- all i'r oes yw ei dyhead am y delfrydol. Er gwaethaf masnach a llafur, gwelir y genedl yn dyheu am y delfrydol. Chwilio ani yr ysbrydol yw ei hanes. Y mae dynion fu'n Agnosticaidd, heddyw yn addoli, nid mor uniongred a ni hwyrach; ond a'u hwynebau ar i fyny er hyny. Y maent ar Iwybr y Groes. Y mae Duw o'n hamgylch yn mho-b man, a theimla dyn hyny. Edrycher ar haul yn miachlud ac yn gole.uo dinas Duw teifl oleuni sy'n apelio, nid at lygad, ond at enaid dyn, a chri'r enaid yw, O na ddeuai'r Rhywbeth Cyfriniol a dyeithr sydd y tu ol i'r ysblander yna i wisgo natur dyn fel y gallem ei weled. Ond ibOlbl! y mae wedi d'od,—y mae yn ein mysg. Gwir yw y credaf yn ymbreswyliad D-uw, ond dirmyg arnom fyddai'r ymlbreswyliad heb iddo droi yn ymgnawdoliad Duw yn natur dyn. Y mae problem poen yn ddyrus, ond ceir. go- leuni ami yn mhoenau Calfaria; a dirmyg ar ddyn fuasai y dioddef sy'n y byd oni bae fod Duw yn dioddef. Terfynodd mewn hwyl fawr Gymreig. Gwaeddai y gynulleidfa, a phan eisteddodd i lawr cafodd gymeradwyaeth fyddarol. Wedi'r papar cafwyd ymdrafodaeth, a chy- merocld y Parchn Frank Ballard, S F Collier, ac eraill ran ynddi. Ond yn yr hwyr y cafodd Yr Eghvys Gymraeg ei gwledd fawr. Trefnodd pwyllgor Cyngor yr Eglwysi Rhyddion iddi gael pregeth Gym- raeg, fel tal am ei chroesaw i'r cynrychiol- wyr o Gymru dydd Mawrth; ac Elfed oedd y pregethwr. Ei destyn oedd Esaiah xlii, 19. Esboniai ddallineb gwas yr Arglwydd, fel dallineb i hOlbpeth ond Duw. Desgrif- iodd ddallineb Crist i ddulliau ei oes o gyf- leu gwersi mewn modd nas gallai ond Elfed ei wneyd. Ni roddwn fraslun o'r bregeth, oherwydd goibeithiwn y caiff llawer o honoch yn Nghymru ei chlywed ganddo. Yr oedd nifer dda o ddyeithriaid yn bresenol, a rhai gwyr o fri. Gwelsom Mrs Herbert Lewis yno, a gwnaeth y peth goreu a allai ei wneyd -cofio yn dda am y drysorfa. Nos Fercher, cynhaliwyd cyfarfod haner y nos, ond oherwydd amryw resymau, heblaw yr ystyriaeth, "Gormod o bwdin," &-c., ni buom yno. Clywsom iddynt gael cyfarfod gwir ardderchog- DYDD IAU. (Dechreuwyd dydd lau eto am naw o'r gloch. Pregeth gan y Parch W. L." Watkinson, A., oedd y peth cyntaf ar y rhaglen, ac yn sicr dyma un o wleddoedd mwyaf yr wyl fawr. Ni chlywsomsiaradwr erioed a lwyddai i gyfleu cymaint o wahanol syniadau drwy ddim ond newid cywair ei lais. Yr oedd y dull y cyfleai wawdiaeth a dwyster, gorfol- edd a dirmyg, yn rhyfeddol, a da oedd gen- yml wel'd yr hen ibatriarch yn dal mor iraidd, ac er ei daldra anghyffredin, cyn sythed a'r ffinidwydd. Ei destyn oedd Isaiah xlvii, 5. Ei fater oedd Sefyllfa a hawliau arbenig yr Eglwys Gristionogol, ac wele fraslun anmher- 0 ffaith Bob tro y gwaredid Israel, o'r Aifft ac o Fabilon, yr oedd llaw frenhinol Duw yn amlwg iawn yn y gwaith, ac y mae yma war- edigaeth arall a gyrhaedda i'r holl genhedl- oedd, a hyny drwy ymyriad neillduol llaw Je'hofah. Rhaid cadw'r ffaith yn glir yn ein meddyliau mai o Dduw yn unig y mae iach- awdwriaeth, a chyn sicred ag y gwaredwyd Israel gan Jehofah, gwaredir dynoliaeth gan- ddo heddyw drwy gyfrwng y Messiah. A'r gwirionedd i ni i'w go-no yw, mai gallu mawr y gwarediad yw gwybodaeth o Dduw yn Iesu Grist, ac yn union fel mai perygl mwyaf yr Iuddewon oedd eilun-addoliaeth, dyna ber- ygl pob oes. Beth yw eilun-addoliaeth ? Gosod ail achosion yn lle'r prif achos, sef Duw. Dywedir fod y tyfiant yn niffeith- leoedd yr America mor gyfoethog fel nas gellir dweyd yn iawn o ba wreiddyn y tyf llawer planhigyn. Dyna'r sefyllfa heddyw. Dywedir fod gwaredigaeth dyn yn codi oddi- ar fil a mwy o wreiddiau. Dywed un mai i Roeg y mae ein dyled. Dywed arall mai i gelf, arall athroniaeth. Ond hawdd profi na ddaeth y galluoedd gwaredigol a ryddha ddynoliaeth o rwymau pechod ddim o Roeg. Beth bynag oedd rhinwedd Groeg, methodd a chadw gwareiddiad disgleiriaf y byd yn ei adeg heb bydru. Dywed Thywun fod y Goth wedi codi, ac mai ei amcan ef oedd gwneyd (boneddwr o hono ond y mae gwr cyfiawn yr Hen Destament a gwr sanotaidd y Newydd yn anfeidrol fwy na boneddwr. Na, ni cheir yr elfen i ail-eni dyn o'r cyfeir- iad yna, ac nid oes allu i hyny mewn celf, drama, nac athroniaeth. Dywed rhai mai nid i Wesley yr ydym yn ddyledus am ddi- wygiad y ddeunawfed ganrif, ond i-Vol- taire! Y mae hyny fel dweyd y derbynia Itali ei ffrwythlonrwydd o Vesuvius Na, lie y rhed yr afon y gwelir bywyd, ac nid oes mohono yn unman arall. Y mae sefyllfa yr eglwys yn arbenig yn uchafiaeth y datguddiad Ysgrythyrol ar wy- bodaeth oreu'r byd; ac yn fwy na dim y mae ein dyled mwyaf i'r datguddiad yn Nghrist. Dywedir fod creadur ar y ddaear yn y dyddiau gyn-t a elwid yn bron-vn- ddyn" ac i'r bron-yn-ddyn ddeffro un boreu a chael mai Adda ydoedd. Sut bynag y bu hi, rhaid fod dyrchafiad aruthrol wedi bod, a dyna'r dyrchafiad a wnaed yn y dyn anianol pan ddaeth Crist i mewn iddo. Ni wadwn wybodaeth Gristionogol yn y byd o'r tuallan i Grist. Dywedir y fflachia'r diam- wnt yn y nos am y rheswm fod pelydrau o oleuni yn wasgaredig hyd yn oed ar y nos- weithiau tywyllaf, ac fod gan y diam'wnt allu i'w casglu yn nghyd. Bu diamwntau o eneidiau lawer tro yn y byd, ond gymaint ag yw goleiu haul y dydd yn fwy na goleu'r diamwnt, y mae'r datguddiad yn Israel yn fwy na dysgeidiaeth dysgawdwyr goreu'r byd—llefarodd Duw wrth Israel lawer gwaith ac mewn llawer modd, ac o'r diwedd, yn niwed-d y dyddiau, llefarodd wrthym ni yn Ei Fab. Y mae rhamant Rwsiaidd dlos yn esbonio can yn y byd. Dywedir i dduw'r gan dd'od ar ben mynydd un dydd, ac i'r byd dd'od yno i'w wrando'n canu a'r noson hono aeth paw.b gartref gyda darn o'r gan gydag ,ef-yr afon a'i murmur, y gwynt a'i su, ond pan ddaeth dyn i wrando derbyniodd ef y gan i gyd. Daeth Ysbryd y Gan Dragwydd- 01 i'r mynydd foreu'r creacl, ac o d-ol- i dro cafodd eneidiau mawr ddarn o honi—Zoro- aster, Buddha, a Chonfucius; ond pan ddaeth Crist y cafwyd hon gylch cerddor- ia'eth y nef. Diolchwn am bob grym a'i gy- feiriad i godi'r byd ond na sonier am un gry.m arall yn ymyl Crist. Dywed hen ddiare-b ddwyreiniol, "Pan gwyd vr haul, gellir hebgor y ser," a dyna ein sefyllfa ni. Y mae sefyllfa yr eglwys yn arbenig mewn perthynas a gallu achubol. Ni wna'r deall y tro i ddyrchafu. Cri mawr yr oes hon yw am oleuni, fel pe buasai gallu anherfynol i oleuni. Desgrifia un awdwr auaf a haf yn ymladd am oruchafiaeth yn y Siberia mewn ffordd farddonol dros ben, ac er gwenau'r haul, y gauaf a orfu. Ond o'r diwedd, daeth anadl dyner o'r de, ac yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd y wlad yn newydd, a'r rhew yn tori am fil o filltiroedd. Yr anadl a greodd y diwygiad, a'r anadl sy'n anhebgorol o hyd. A'r anadl, ac nid y goleuni, gafwyd yn y Pentecost. Hoffaf y cyffyrddiad hwnw gan y Salmydd pan ddes- grifia'r eilunod Nid oes anadl ynddynt -ie, dyna'r dirgelwch, dyna fair holl eilun- od Crist yw'r gallu, am mai ei Ysbryd Ef all anadlu ar y byd. \Y'edi'r cwbl, anmhosibl cyfieu dull anghy- marol y pregethwr o gyfleu ei wirioneddau. C'urwyd dwylaw yn fyddarol ami dro yn ys- tod y bregeth—dyna ddull y Sais o borthi'r gwasanaeth Yn nesaf traddododd Dr Robertson Nicoll" golygydd y British Weekly," anerchiad ar Adroddiad y Ddirprwyaeth fu'n chwilio de- fodau Eglwys Loegr, a neges yr Eglwysi Rhyddion yn wyneb hyny," ac eglurodd yn lied gyflawn i ni waith y Ddirprwyaeth. Y peth nesaf oedd pasio penderfyniad yn nglyn a Datgysylltiad yr Eglwys yn Nghym- ru. Cynygiwyd y penderfyniad yn effeith- iol iawn gan y Parch J Glyn Davies, New- port, a chefnogwyd gan 'Mr T A Levi, Aber- ystwyth, yr un mor rymus, a phasiwyd yn unfrydol. Da oedd genym weled bechgyn Cymru yn dadlu eu hawliau mor wrol. Yna cododd y Proffeswr A. S Reake, M.A D.D., un o wyr ieuainc (blaenaf a dysgedig Pryd- ain, i ddarllen pap-ur ar "Yr Hen Desta- ment yn mywyd crefyddol y dydd." Gwan oedd ei lais, a phrin y clywid ef ar adegau. Ond cyn belled ag y clywem, dywedai mai nid camgymeriad,' fel yr haerai rhai, oedd peidio gadael yr Hen Destament i luddew- iaeth, ac ymfoddloni ein hunain ar y New- ydd. Esboniodd yr anhawsterau i'w der- byn, a dywedodd er fod Llyfr Ecclesiastes yn cyfieu syniad 'hollol gamarweiniol am fywyds y credai ef i'r eglwys fod o dan arweiniad dwyfol pan yn ei roi i m-ewn mai dangos dyn yn byw iddo ei hun heb Dduw oedd, ac y fod yr ochr arall yn gryfach wrth edrych ami yn ngoleuni 'Ecclesiastes. Nad oeddym i gymeryd pob llyfr yn yr Hen Destament ar ben ei hun; mai cyfanwaith ydoedd ac mai ffordd Duw i ddatgudio ei Hun oedd drwy hanes felly fod yn rhaid rhoi holl agweddau'r hanes hwnw i mewn iddo fod yn gyflawn..Dywedodd yn mhellach mai nid adeiladwaith ar yr Hen Destament oedd y Newydd ond tyfiant o hono, oherwydd yr oedd llyfrau yn yr Hen Destament, megis llyfr Job, Salmau, etc., na chynrychiolid hwy yn y Newydd. Pan gododd Mr. W. T. Stead i fyny i siarad ar "Gynhadledd Hedd yr Hague," cafodd dderbyniad tywysogaida. Gweddiodd am enyd ar i'r gynulleidfa beidio dweyd yr hyn na feddyliai wrth ddatgan ei hagwedd at y Gynhadledd. Dywedodd yn mysg pethau eraill, na chafwyd erioed er deebreuad amser gynhadledd a gynrychiolai ddynoliaeth gyfan hyd gynhadledd yr Hague Mehefin nesaf; mai dyma gyfarfyddiad cyn- taf dynoliaeth yn nghyd, ac o'r diwedd fod genym Lywodraeth yn Lloegr na doedd arni ofn hydwyddo achos heddwch, ac na welodd ef yn mysg holl arweinwyr y bobl yn Evvrobr neb mwy aiddgar yn y cyfeiriad hwnw na Syr Campbell-Bannerman a Syr Edward Grey. Nad oes deyrn na gwladweinydd yn Ewrob i gyd heb fod arno awydd heddwch, ac mai'r mwyaf awyddus o bawb y bu ef yn siarad a hwy oedd Ymerawdwr Germani. Awydd Mr Stead oedd cael plaid ganol i gyflafareddu rhwng y pleidiau mewn ymnf- 11 ael, i rwystro rhyfeloedd sydyn. "Dyini," mie-dd-ai, "y cynygiad am heddwch dd'od oddiwrth y Pab, arweinydd yr eglwys Gris- tionogol fwyaf yn y byd. Ysgrifenai.5 fto lawer tro, ond y m-ae wedi ei lvncu i- fyny ormod gan eglwysyddiaeth i wrando'r fnth gynygiad. Ni ddywedaf y demnir chwi os' na wnewch; ond hyn a ddywedaf, y dyid eich damnio f Anogai ni i ddai breichitu r Llywodraeth i fyny; ei bod hi yn frwdfr/d- ig i fyn'd yn mlaen. Dywedai hefyd smi nid mater i un gangen o'r eglwys oedd fod yma gyfle ardderchog i'r byd Gristionogol yno. Dylai Eglwys Loegr arwnin a'r Iwysi Rhyddion ddilyn; ond os na vvnant, rhaid i'r Eglwysi Rhyddion arwain. Yr o'edj ganddo gynllun, meddai ef, i hyrwydij hedd- wch drwy ffurfio cronfa, a chvfranu, arn bob mil o bunnau a -gyfrenir at arfu rhyfel, ;:n bunt i drysorfa heddwch. Pasiwyd y penderfyniad i gynorthwyo'r Llywodraeth, ac hefyd i neillduo'r Sul cyn y Gynhadledd yn Mehefin nesaf weddiu am ei Hwjrddiant ac i bregethu ar ei hamcuion Dewiswyd Dr John Watson (Tan Maclareni yn Llywydd Cyngor yr Egiwysi Rhyduioa am y flwyddyn nesaf. (I'w barhau ar t.d. 6.)