Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

ABER.

News
Cite
Share

ABER. Y Gymdeithas Ddiwylliadol a Duwinydd- ol.—Cynhaliwyd yr uchod nos Iau, Chwef. 28ain, pryd y darllenwyd papur gan y chwaer ieuanc Catherine Jane Jones ar yr adran. ibedwerydd o'r bennod gyntaf yn y Dduw- inyddiaeth Gristionogol," ar Lie a phwy- sigrwydd duwinyddiaeth, yn nghyda'i angen- rheidrwydd i ddyn fel bod deallol." Y mae y chwaer yma wedi (bod yn hynod o ffyddlon i'r gymdeithas er ei chychwyniad cyntaf. Pan ddaeth amgylchiadau ar dro, fel y daw y wennol gyda hyn o'i gwlad ei hun i'r wlad hon, am fod yr hinsawdd yn cydrhoi a'i na- tur i gael byw, felly y bu gorfod i ysgrifen- ydd y gymdeithas, sef y brawd John Celyn Jones, adael am wlad yr haul amgylchiadol ag oedd yn cydrhoi iddo gael hawl gonest at fyw drwy lafur ei ddwylaw. Y pryd hwn daeth y chwaer i lenwi ei le fel ysgri- fenyddes y gymdeithas, a ffyddlon fu yn yr oil. Arddangosodd ei pharodrwydd i syrth- io i mewi i bcnderfyniad y cyfarfod iddi wneyd papur, ond erbyn hyn bapurau, ac yn yr un bwa fe .gawsom feddwl yr awdwr parchus wedi ei grynhoi yn ddestlus ganddi. Dywed hyn ei bod wedi rhoi egwyl nid bychan at ei wneyd. Pasiwyd pleidlais o. ddiolchgarwch. y cyfarfod am dano. Ar ol y chwaer cafwyd papur gan Mr T Thomas iPrythereh ar Dduwinyddiaeth yn ei gwedd gymdeithasol, a phasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch iddo yntau. Treuliwyd noson er budd a lies yr oil o'r gymdeithas. Nos Iau, Mawrth 7fed, oedd noson neill- duol yn hanes y gymdeithas, gan ei bod yn myned yn anhwylus ac yn anmhosibl i'r aelodau dd'od yno gyda hyn. Penderfyn- wyd tynu tua'r terfyn am y tymor. Gan mai y brawd Richard Morris oedd yr ath- raw, ymgymerodd a darllen papur ar y maes oedd wedo ei gerdded gan y class," a rhoi goleuni ychwanegol ar wahanol adranau ynddo, h.y., yr adranau nad oeddynt yn glir i'r "class." Wrth ysgrifenu yr ye,hydig linellau hyn, nis gallaf ddw>eyd gorinod am bapur y brawd, er fod Mr Morris wedi ei oddiweddyd gan anwyd. Onibae am hyn, buasai wedi rhoi papur helaethach. Dyn ydyw o feddwl dwfn, pwyllog, yn gofalu ei fod bob amser ar Iwybr uniawngred Gwnaeth ei bapur ef ambell i adran yn fwy disglaer o lawer na hyd yn oed fel y mae ar lawr gan yr awdwr. Deallai mai nid newid syniad yr awdwr, ond egluro yr hyn sydd ganddo sydd ganddo yn ei lyfr godid- og, wnaeth ein brawd yn ol y dawn a rodd- wyd iddo, ac nid un dalent ydyw hono chwaith. Cafodd y gymdeithas noson er adeiladaeth yn myd y ineddwl, a phasiwyd diolchgarwch gwxesocaf y gymdeithas iddo am ei lafur yn ystod y tymor, yn ogysial a'i ffyddlondeb i'r "class." Terfynwyd y cy- farfod drwy ganu yr emyn— "Yn dy waith y mae fy mywyd, Yn dy waith y mae fy hedd." —J.T.P.

-ABERGELE.

YiSCEIFIOG.

BIRKENHEAD.

BETHEL, PENIRHIWCEIBER.

MANCHESTER.

LLANDUDNO.

LIJWYDDIANT' O'WMNI 'YíS'WiI!RIiO.

EG-REMONT.

Io fMiYNIYDD SEION, TANIYiFRON,…

Family Notices

Advertising