Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
ETHOLIAD V CYNGHORAU SIROL.
ETHOLIAD V CYNGHORAU SIROL. ^IS gall canlyniad yr etholiadau ar un tyfrif fod yn foddhaol iawn i'r Rhydd- frydwyr. Yn mhob Sir trwy Gymru CjUvvyd y safle uchel a gyrhaeddwyd dair blynedd yn ol. Trwy Gymru oil enillvvyd 59 o Seddau gan y Ceidwadwyr. Gwir mai y Rhyddfrydwyr sydd yn y tnwyaft if eto, ond nid yw eu nerth mor fawr ag ydoedd, tra mae safle y Ceid- wadwyr wedi gwella yn ddirfawr. C'elsia rhai fychanu y ilaith hon, a dvveyd nad oes ystyr o gwbl iddi ond tredwn ni mai gwell ydyw edrych ar y Haith yn ei gwyneb, a dysgu gwers oddiwrthi ar gyfer brwydrau y dyfodol. Rhaid fod rhywbeth yn cyfrif am orcli- ygiad un blaid a buddugoliaeth y blaid ar;ill. Nis gallwn gredu am foment fod ytnru yn llai Rhyddfrydol yn awr nag ydoedd yn yr etholiad o'r blaen. Nid Ydyw wedi newid ei barn ar y pyn ciau sydd yn am'twg ar raglen y blaid %ddfrydol. Profodd yr Etholiad Vflredino!, a gymerodd le flwyddyn yn 01, fod Cymru yn iach ar bob pwnc sydd Yrl gwahanu y ddwy blaid oddiwrth eu gilydd. Yn sicr, nid yw Cymru wedi Utwid ei hegwyddorion. Rhywbeth .araii sydd yn cyfrif am ganlyniad ethol- lad y Cynghorau Sirol. Mewn rhai achosion ni choleddwyd syniadau cywir am bwysigrwydd yr | f^oliad, Ni ddaeth egwyddor i mewn ■c.w^stiwn o gwbl. Mewn etholiad seneddol ar egwyddor y rhoddir pwys, a ros egwyddor y pleidleisir. Y cwes- y w,—pa un ai Rhyddfrydwr ai ceidwadwr yw yr ymgeisydd ? Ond yn hohad y Cynghor Sirol, mewn llawer of ddywedwn yn yr oll-ni ynid dim yn nghylch egwyddor, ond n nghyich y dyn, ac i'r dyn y rhodd- Yoy bleidlais. A digwydd fel hyn yn h arhaus mewn etholiadau lleal. Dengys yn bwysig ydyw gofalu nid yn 4tn cymwys> ond am y cym- }saf yn fnJiQi) ystyr, i fod yn ymgeis J d* Nid digon ydyw cael Rhydd- rydvfr da, ond dylid hefyd gael dyn cynieradwy ganyretholwyr. Gwyddom atl1 rai seddau a gollwyd i'r Rhyddfryd- ^yr am i'r Ceidwadwyr fod yn gallach hwy yn eu dewisiad o ymgeisydd. ysger y wers ar gyfer y dyfodol. Nid perygl bychan ydyw camgymeryd erth yr wrthblaid. Dyma un o'r cam- ^'ttieriadau difrifol a wnaed yn y rhyfel a fu rhwng y wlad hon a ^eheudir Affrica. Tybiwyd fod y lg|eriaid mor ychydig, ac mor anfedrus, y gellid eu gorchfygu yn rhwydd eWn byr amser, a marchogaeth yn adugoliaethus i mewn i*w prif-ddinas; d wedi d'cd wyneb yn wyneb â hwy wyd y camgymeriad, a bu agos lddo ddarostwhg Prydain Fawr yn §olwg holl deyrnasoedd y byd. Ie, yglus i'r eithaf ydyw camgymeryd Ilerth-nerth ein hunain a nerth y gallu thwynebol. Gwnaed hyn yn nglyn ^^iadau diweddar. Tybiodd y tort^ rydwyr mewn ambell i fair eu hwy mor gryf, a'r ochr arall mor san, fel na wnaethant ymdrech gwerth ;n am dani. Tra yr oedd y Ceidwad- ^Uid e'^ro> yn cynal cyfarfodydd o ytj eu dyn, yn gwasgar papurau, ac fryderdded 0 i d^. Cysgai y Rhydd- y yr» gan freuddwydio yn braf, am ,lent ^°d eu caerfa yn ddiogel, ond dydd y frwydr gwelsant eu ^df^eriad, a heddyw galarant oher- dJGU ^^rawder. Gofaler na ddi- *r f j^yn eto. Peidier byth dibyna ^dr k g°liaethaU y gorffenol, ond b^j fr ar Syfer pob brwydr fel pe ^ae n erioed wedi ei henill. 1 ^wyddiant ladd yn gystal y diant a phrofodd llwyddiant yr etholiadau o'r blaen yn fagl mewn gor- mod o achosion yn yr etholiadau diweddar. A beth am gulni enwadol ? Sibrydir fod hwn wedi costio mwy nag un sedd i'r Rhyddfrydwyr I Culni a chenfigen enwadol ydyw melldith Cymru. An* hawdd ydyw cael na phwyllgor na chyngor heb i arliw enwadaeth fod arno. Cael dyn enwad sydd yn bwysig, beth by nag am gymhwysder. Gwyddom, fel mater o ffaith, i'r rhaib hwn gostio sedd bwysig i'r Rhyddfrydwyr yn un o'r ardaloe dd mwyaf Ymneillduol yn Nghymru. Os na cheir gwaredigaeth o wane enwadol ar un Haw, a chenfigen enwadol, ar y IIawarall, dinystrir Cymru cyn bo hir, a gwneir ni yn gyff gwawd yn ngolwg cenhedloedd eraiil. Gadawn y mater ar hyn yn awr, er y temtir ni i ymhelaethu arno. Beth fydd ymddygiad y Cynghorau Sirol tuag at y Ddeddf Addysg ? Dyna'r cwestiwn a ofynir yn awr ond nis gallwn ni weled fod ond un atebiad iddo. Lie y ceir mwyafrif o Ryddfrydwyr yn cyfansoddi cyrigor, tra yr erys y ddeddf heb ei newid, dylid ymddwyn tuag ati yn awr fel o'r blaen. Annheg i'r eithaf fyddai gwrthdystio yn erbyn deddf o dan un Weinyddiaeth, a'i gwein- yddu yn dawel o dan Weinyddiaeth arall. Nis gall cyfnewidiad mewn Gweinyddi- aeth bwth wneyd deddf ddrwg yn ddeddf dda. Ma A ddeddf mor anghySeWa o dan Weinyddiaeth Ryddfrydol ag ydoedd dan Weinyddiaeth Geidwadol, a dylai gwrth. wynebiad y cyngorau iddi fod yr un mor berulant. Cawn weled beth ddaw o'r mesur sydd yn awr oflaen y Senedd; a gobeithiwn na orffwysir nes y dygir barn i fuddugoliaeth. o§o
Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi…
Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion. DIAU na chynhaliwyd yr un Cyngor Iluosocach, pwysicach, na mwy llwydd- ianusynmhobystyr na'r un a gynhal. iwyd yr wythnos o'r blaen yn Leeds. Yr oedd bod yn bresenol ynddo yn un o'r breintiau mwyaf i unrhyw un o yspryd rhyddfrydig a chatholicaidd. Ac yn sicr, y mae y Cyngor o werth anmhrisiadwy ini fel Annghydffurfwyr y deyrnas hon. Nis gellir cael unrhyw ddirnadaeth am nerth a dylanwad Annghydffurfiaeth heb weled y Cyngor hwn yn eistedd, a chlywed y papurau a'r areithiau a draddodir ynddo, a chyfranogi o'r brwdfrydedd a gynyrchir ynddo. Nid ydym yn sicr ein bod fel Enwad yn ei bleidio i'r graddau y dylem, ac yn bendifaddeu, yr ydym fel Wesley- aid Cymreig yn dra diffygiol yn ein cefnogaeth iddo. Prawf digonol o hyn ydyw nad oedd dim ond un Gweinidog ac un Lleygwr o blith y Wesleyaid Cymraeg yn bresenol yn Leeds, a'r ddau hyny yn digwydd bod o'r un Dalaeth. Wrth geisio bwrw golwg ar ei weith- rediadau, a chyfleu yr argraffiadau a wnaeth arnom, anhawdd yw gwybod yn mha le i ddechreu nac yn mha le i ddiweddu. Gellir crybwyll, i ddechreu, am y nerth a'r dylanwad ysprydol a berthyn i'r Cynghor. Ni fyddai modd gwneuthur mwy o gamsyniad na thybio mai cyngrair politicaidd ydyw. Yn flaenaf ac yn benaf, undeb Efengylaidd ac ysprydol ydyw. Nis gellir bod yn ei awyrgylch heb weled a theimlo hyny yn bur fuan. Pwy bynag ddymuna gael ei wala 4 gwleddoedd ysprydol, aed ar bob cyfrif i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion. Yr oedd gwrando ar bregethau dynion fel y Parchn Charles Brown, J H Jowett, Trevor H Davies, a W L Watkinson, yn fwynhad ysprydol mewn gwirionedd. Tipyn yn siomedig oedd gwrando ar bregeth y Cyn-lywydd, y Parch J Scott Lidgett, yn cael ei darllen yn ei absenoldeb oherwydd afiechyd. Yr oedd yn bregeth sylweddol, ond yn hynod o ddifachau. Gofidiai pawb oherwydd absenoldeb Mr Lidgett, a rhoddid y dystiolaeth uchaf i'r gwaith a wnaeth yn ystod y flwyddyn fel Llywydd y Cyngor. Nid arbedodd ddim arno ei hun, ond bu wrthi yn egniol a dyfal yn hyrwyddo ac yn cefnogi amcanion y Cyngor. Rhoddodd y Llywydd newydd, Dr J Rendel Harris, foddlonrwydd cyffredinol yn ei anerchiad godidog. Un o'r Cyfeillion (Quakers) yw y Llywydd newydd, ac yr oedd ryw gyfriniaeth efengylaidd yn rhedeg trwy ei anerch- iad. Nid gormod yw dyweyd na thradd- odwyd rhagorach anerchiad gan yr un o Gyn-lywyddion y Cyngor. Gyda fod ei thon ysprydol yn uchel, yr oedd ryw humour tawel yn tori allan yn fynych, oedd yn ei gwneuthur yn fwy effeithiol. Yr oedd hefyd yn amddiffyniad gwir alluog i safle yr Annghydffurfwyr. Gofynai un Esgob yn mha le y mae hanes yr AnnghydHurfwyr ? Er fod ganddynt eu hanes, a hwnw yn un dyddorol iawn, eto nid oedd am roddi cymaint o bwys ar hyny. Gwneuthur eu hanes y mae yr Annghydffurfwyr, ac y mae y dyfodol yn anrhaethol bwysicach na'r gorphenol. Nid yw yn arwydd dda o gwbl fod neb yn pwyso ar y gorphenol yn ei hanes arwydd o wendid a Uesgedd yw hyny i'r dyfodol y mae yr ieuanc, yr hoenus, a'r gobeithiol bob amser yn edrych. Cyn gadael yr agweddj ysprydol a berthyn i waith y Cyngor, dylem gry- bwyll y Cymundeb a gafwyd prydnawn ddydd Iau, o dan lywyddiaeth y Parch C H Kelly. Cafwyd anerchiadau tyner a dwys gan Dr Brook, o Southport, a'r Parch J D Jones, Bournemouth. Yr oedd anerchiad ein cydwladwr poblogaidd Mr J D Jones yn nodedig o effeithiol. Ond yn anffodus, rhoddwyd Mr Aked, o Lerpwl, i siarad ar eu holau. Yr oedd ei ddull caled, eras, yn Ilefain fel dyn yn areithio ar lwyfan etholiadol, yn ei wneuthur yn un tra anmhriodol i siarad ar y fath achlysur. Ac er fod hyny wedi ymyryd ryw gymaint a thon y cyfarfod, cafwyd moddion bendithiol iawn, ac yn arwyddo yn amlwg iawn, fel y dywedai y diweddar Hugh Price Hughes, fod yr Annghydffurfwyr yn un yn Nghrist. Papur rhagorol, ar y cyfan, oedd eiddo Dr Horton ar yr Yspryd Glan yn yr Ysgrythyr ac mewn profiad." Nid oedd yn glir a boddhaol ar y gwahajiaeth personol yn y Drindod. Ar wahan i hyny, yr oedd yn bapur o nodwedd ysprydol iawn, ac yn cario dylanwad dwys iawn ar y cyfarfod. Darllenodd I Proff. Peake bapur da iawn ar Yr Hen Destament yn mywyd crefyddol y dyddiau presenol," ac y mae y ddau bapur hyn wedi eu cyhoeddi yn y Christian World Pulpit am Mawrth 13fg. Yn sicr y maent yn werth eu darl!en. Rhaid cyfeirio at rai cwestiynau pwysig eraill fu gerbron y Cyngor. Y mae y papur ddarllenodd Dr Robertson Nicholl ar Adroddiad y Commisiwn ar Ddefod- aeth yn Eglwys Loegr, a dyledswydd yr Eglwysi Rhyddion tuag ato, yn deilwng o sylw. Da genym nad oedd gan Dr Nicholl ddim cydymdeimlad a'r cynygiad eithafol ac ynfyd o beidio gwneyd dim i helpu Eglwys Loegr i buro d hun oddiwrth y lefain Pabyddol sydd yn gweithio mor amlwg ynddi. Y mae'r Eglwysi Rhyddion yn Brotestanaidd o flaen bod yn wleidyddol. Ac y mae yn anrhaethol bwysicach gweled Eglwys Loegr yn cadw ei nodwedd Brotestanaidd na'i gweled yn cael ei Dadsefydlu a'i Dadwaddoli. A chyngor doeth Dr Nichol ydyw, tra yr erys yr Eglwys mewn undeb &'r Wladwriaeth, y dylid hawlio iddi fod yn ffyddlon i'w cythun- deb a'r Wladwriaeth fel Eglwys Brotest. anaidd. Ni ddylid goddef iddi, ar un cyfrif, chwareu ei phrancrau Pabyddol, tra yn dwyn yr enw o Eglwys Brotest- anaidd, ac yn cael ei chynal gan y wlad, fel y cyfryw. Daeth y Parch J Glyn Davies, New- port, a chynygiad. o blaid Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Siaradodd yn rhagorol, gan gario y cyfarfod yn bollol gydag ef. Cefnogwyd ef gan Proff Levi, o Aberystwyth. Nid oes amheuaeth nad yw y Cyngor Cenedlaethol yn hollol ffafriol a chefnogol i Ddadgysylltiad yr Eglwys Wiadol yn Nghymru. Naturiol iawn oedd i gwestiwn Addysg gael ei ddwyn gerbron, ac yn enwedig cynygiad Mr McKenna er rhyddhau cydwybodau y Gwrthwynebwyr Goddef- ol. Eithr yr oedd gwr eithafol fel Mr Hirst Holowell yn anfoddlon arno. Ond yn ffodus, yr oedd gwr craff a phwyllog tel Mr George White, A.S., yn bresenol i gyfarwyddo y Cyngor, a chymerodd y tir yn llwyr o dan draed Hirst Holowell. Dangosodd mai nid y prawfion (tests) i' Athrawon oedd yr achos o'r gwrthwyn- ebiad goddefol, ond defnyddio y trethi i roddi addysg enwadol ac fod y prawfion i Athrawon yn bod er 1870. Ond mai ar ol i Fesur Balfour yn 1902. Ddyfod i weithrediad, y dechreuodd y gwrth- wynebiad goddefol. Ac wrth gwrs, fe gariodd ei bwyll a'i synwyr cryf y ty gydag ef. 0, nad ellid casglu y gwyr eithafol ar bob ochr i gwestiwn Addysg a'u hanfon ymaith am fordaith am bum mlynedd yna byddai cwestiwn Addysg wedi ei benderfynu yn heddychol cyn y dychwelent. Pwy bynag sydd mor ffol a thybio y gellir penderfynu cwestiwn Addysg ar linellau addysg fydol yn unig, y mae yn siomi ei hun yn ddirfawr. Pa bryd bynag y daw hyn gerbrot*, ceir gweled fod mwyafrif aruthrol yn y deyrnas y erbyn cau y Beibl allan o'r ysgolion dyddiol. I Bu cwestiwn Dirwest hefyd gerbron y Cyngor ac yr oedd yn Ilawenhau yn yr olwg ar ddeddfwriaeth Ddirwestol newydd, ac yn barod i roddi pob cefnog- aeth iddo. Pasiwyd penderfyniadau yn condemnio creulonderau y Congo, ac o blaid diddymu y Fasnach mewn Opium. Fel hyn, rhaid i'r Cynghor lefaru yn glir ac yn groew ar gwestiynau moesol a chymdeithasol. Os yw yr Eglwys Gristionogol am enill parch ac edmygedd, rhaid iddi roddi ei gwyneb fel callestryn erbyn bob math o ddrygau moesol a chymdeithasol. A pha bryd bynag y mae Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn ymyryd a chwestiynau gwleidyddol, cwestiynau ydynt, yn ddieithriad, ag y mae yn rhaid iddo gymeryd ei safle gyda golwg arnynt, neu fod yn anffydd- Ion i egwyddorion moesol. Ac y mae'r dydd wedi myned heibio am byth pan y gall unrhyw Eglwys fforddio bod yn ddistaw ar gwestiynau moesol er mwyn enill ffafr neb. Bydd y Cyngor Cenedl- aethol yr Egiwysi Rhyddion y flwyddyn hon yn un a hir gofir, ar gyfrif nid yn unig y dylanwad ysprydol a deimlwyd drwyddo, ond hefyd ar gyfrif ei ddylan- wad cryf ac iach ar gwestiynau cyhoeddus y dydd.
Nawdd-Sant ac Arweinydd Y…
Nawdd-Sant ac Arweinydd Y Gwyddelod. Digwyddodd i Wyl Badrig Sant ddisgyn ar y Sabboth eleni. Ni wnaeth hyny, modd bynag, nemawr o wahan- iaeth yn null y Gwyddelod o'i threilio. Gorymdeithiwyd heolydd yn swn sein- dyrt ac yn ngolwg baneri yn cwhwfan. Cynha!iwyd cyfarfodydd gwleidyddol, a chanwyd clodydd y Sant, er i hwnw, yn 01 pob hanes, fod yn Gymro 0 waed coch cyfan Yn Lerpwl y dewisodd Mr John Redmond, arweinydd y genedl, dreulio yr wyl, a thraddododd araeth yn Ilawn tan a hyawdledd Celtaidd ond yn cynwys ar yr un pryd Ilawer o wersi a chynghorion buddiol, yn gystal ag awgrymiadau pwysig parth sefyllfa bre- senol a rhagolygon dyfodol yr Iwerddon mewn ystyr wleidyddol. Awgrymodd Mr Redmond y gellir disgwyl i'r Llyw- odraeth roddi i'r genedl fesur helaeth o hunan-lywodraeth, nid ar ei holl am- gylchiadau, ond ar ei buddianau penaf, Datganodd ei benderfyniad ef a'i gyd- aelodau i ymladd yn gadarn dros addysg enwadol yn yr ysgolion Pabyddollhyd yn oed ar draul y Wladwriaeth. Mae'n berffaith amlwg, ysywaeth, fod y blaid Wyddelig yn benderfynol o geisio gv/neyd pawb a phobpeth yn ddaros- tyngedig i hyrwyddiant eu ffurf hwy o gretydd. Mewn gair, Pabyddiaeth yw u gwleidyddiaeth ac y mae lie i ofni o ganlyniad, mai dyddiau blin sydd yn mlaen.
0 Flaen y Senedd. øt ¡ :"^S|l…
0 Flaen y Senedd. øt ¡ "^S|l "13 Yn wyneb mordaith ystormus a hynod fygythiol y Ddirprwyaeth Eg- lwysig, diau nad allan o le oedd dwyn ei helyntion o flaen y Senedd, yn en- wedig gan fod yr un sydd wrth lyw y ddirprwyaeth wedi colli ilywodraeth dros y dwylaw, a'r dwylaw—rai ohonynt o leiaf-wedi colli ymddiried yn marn y Llywydd. Curai croes-wyntoedd y pedwar enwad yn ddidrugaredd ar y llestr, druan, ac ymddangosai pethau yn debyg iawn fel pe byddai yn rhaid taflu 1 hyw Jonah dros y bwrdd i'r mor gerwin, neu ynte adael i'r llestr fyned yn deilch- ion yn erbyn y creigiau. Yn yr srgyfwng caed cilfach a glan am enyd, ?c aeth y Llywydd ac un o'r dwylaw, yn mherson Mr S. T. Evans, o swn y storm a'r rhu i ymgynghori a'r Arglwydd Ganghellydd a Mr Lloyd George. A phan ddaethpwyd a thrybini y Ddir- prwyaeth anffodus o flaen y Senedd, ceisiodd Llywydd y Bwrdd Masnach daflu clew ar y dyfroedd cynhyrfus. Liwydd- odd Mr George, yn ddiau, i ddangos geudeb yr haeriad ei fod ef a'r Arglwydd Ganghellydd yn ymyryd a gweithred- iadau y Ddirprwyaeth Frenhinol ond amheuwn a fu ein cydwladwr enwog mor lwyddianus yn ei ymgais i gyfiawn- hau penodiad un o Farnwyr ei Fawrhydi fel Cadeirydd y Ddirprwyaeth. Gwir mai nid amcan y Comisiwn ydyw pen- derfynu cwestiwn Dadgysylltiad ond methwn weled y gall Mr George na neb arall wadu mai moddion ydyw y Ddir- prwyaeth i gyraedd yr amcan hwnw. Yn wir, cydnabyddwyd hyn gan yr aelod anhydeddus ei hun. Mater i'r Llywodraeth ac i'r Barnwr mewn cwestiwn ydyw penderfynu cysondeb neu anghysondeb y sefyllfa. Dywedir fod hyn wedi cael ei wneyd i foddlon- rwydd y Llywodraeth a'r Barnwr. Bydded felly. Eithr caniataed y rhai hyny y posibilrwydd fod y pedwar enwad yn deall telerau a safonau y, Comisiwn, a goddefer iddynt gyflwyno eu tystiolaethau yn y ffurf a farnonthwy yn oreu. Gall y ddirprwyaeth wedt hyny, os y myn, roddi ei ddedfryd ar werth y cyfryw.
Bytheiaid gwrth-Gymraoidd.
Bytheiaid gwrth-Gymraoidd. Nis gwyddom a oedd Mr D. A. Thomas yn bresenol yn Nhy'r Cyffredin yr wythnos ddiweddaf pan y bu penod- iad Mri A. T. Davies ac O. M. Edwards dan sylw. Os oedd Mr Thomas yn bresenol, carem wybod pa fodd y teimlai wrth glywed swn cyfarthiadau y byth- eiaid gwrth-Gymroaidd. Cafwyd prawf digonol nad yw ysbrydoedd Hengist a Horsa wedi llwyr ddiflanu o'r tir. Gall= esid tybio fod y Toriaid fel y cyfryw, yn codi gwrthwynebiad i waith y Llyw- odraeth yn sefydlu Adran Addysg i Gymru ond yr oedd y geiriau a ddefnyddiwyd a'r syniadau a fynegwyd ar waith y Llywodraeth yn penodi Cymry, am eu bod yn Gymry, i ofalu am yr adran, yn arddangesiad clir o'r teimlad dirmygus a goleddir am danom gan un dosbarth o ddynion. Aeth un mor bell ag aralleirio hen benill sarhaus ac enllibus, a ddefnyddid flynyddau yn ol i daflu gwatth'-iod ar ein cenedl. Ac y mae meddwl ;c y bytheiaid hyn wedi eu deifro a'u galv, r maes gan udgyrn a seinid gan Gymry annoeth, yn peri poen ac anfantais i bob un sydd yn eisio gyru'r hen wlad yn ei blaen. Ond clod ben, a chalon, a chyhyrau Mr M'Kenna, safodd fel gwron i amddiffyn y wlad a gyrnychiola, ac i gyfiawnhau y penod- iadau a wnaeth. Mae'n amlwg, ac efallai i raddau, y mae'n naturiol, y bydd yn rhaid i ni fel cenedl, ddyoddef rhyw gymaint o wawd a dirmyg, a gwrthwyn- ebiadau yn ein hymdrech i gyraedd ein delfrydau ond gydag undeb, a phwyll, a phenderfyaiad gailuogir ni i roddi taw oesol ar gyfarthiadau yr ychydig fytn- eiaid sydd ar ein gwarthaf, ac i ddangos i'r byd nad ydym eto wedi cyflawni ein cenadwri fel cenedl ac fel gwlad.