Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
Rhifyn cyfoethog o'r "Eurgrawn" yw yr un am y mis hwn. Ymddengys i ni nad oes ball gan y Golygydd am ddigonedd o ysgrifau i gyflawni ei ddar- llenwyr. Deallwn fod rhai gwerthfawr yn cael eu parotoi ar gyfer y misoedd nesaf. Da iawn. (
Cynbauaf Aagau.
Cynbauaf Aagau. Gwelir oddiwrth ein colofnau yr wythnosau hyn fod angau a'i gryman llym, yn tori ilawr ffyddioniaid yr achos ar bob Haw. Yn ddieithriad gadawsant dystiolaeth dda ar eu hoi, ac mewn llawer engraifft gwnaethpwyd bylchau nas gellir yn hawdd eu llenwi. Ond erys eu coffadwriaeth yn fendigedig., a bydd dylanwad eu bywyd bucheddol ac effaith eu llafur hunanaberthol yn par- hau yn gynysgaeth i'r eglwys am amser maith. Buasai yn dda genym allu dyweyd rhywbeth tebyg am y diweddar Ar- glwydd Penrhyn, yr hwn a gwympwyd gan yr angau nos Sul diweddaf. Trwy bricdas ei dad gydag un o ferched cyf- oethog ein gwlad, daeth i etifeddiaeth deg o haner can' mil o aceri o dir. Yn yr aceri hyn yr oedd chwareli gwerth- fawr y Penrhyn. Gydag ymdeim- lad priodol o'i gyfrifoldeb i Dduw a'i rwymedigaet") i ddynion gallasai Arglwydd PenrLya fod yn un o gymwynaswyr penaf gwlad ei fam. Ond y mae lie i ofni fod y camsyniadau a goleddai o berthynas i'w urddas fel pendefig, ei awdurdod fel meistr tir, a1i hawliau fel cyflogydd dynion, wedi chwerwi ei fywyd ef ei hun, a dinystrio cannoedd o deuluoedd. Gobeithiwn y bydd yr arglwydd presenol yn ddoethach na'i dad, ac y gwelir blynyddoedd o brysurdeb a dedwyddwch yn ardal en- wog Bethesda.
[No title]
-:0: Bydd yn dda gan ein darllenwyr ddeall fod y Parch J Scott Lidgt tt yn gwella oddiwrth yr anwydwst, a'i fod wedi ei 'ollwng i fyned i Brighton am ychydig ddyddiau o orphwys.
t . UN O'N HANQENION.
t UN O'N HANQENION. S pythefnos yn ol, cyfeiriwyd sylw ein darllenwyr at "Fanylwch.a Llwyr- edd yn y modd o gyflawni Jhwymedigaethau a dyledswyddau cyffredin a chymharol ddibwys berth- Ynant i'n cylchoedd crefyddol-yn benaf i gylch y blaenoriaid, y swydd- Ogion eglwysig, a'r gweinidogion. J Oddiar ystyriaeth o bwysigrwydd y j ^ater, fel y mae yn perthyn i gyfan- der a chryfder cymeriad personol pob 1111 sydd dan gyfrifoldeb swyddogol V11 ein cyfundeb, ac fel y mae i fesur I mor fawr yn penderfynu prydferthwch ac effeithiolrwydd ymarferol ein r Wganyddiaeth yn ei hamcanion a'i gWaith yr ydym yn teimlo awydd Cryf i ddal agweddau i'r un mater eto I' Serbron. Wrth gychwyn, dymunem lr rhai y perthyn iddynt sefyll yn Wyllog ac ystyriol uwch ben y i Cvvestivvn. Onid hwn raewn difrif | ydyw ua 0'n hangenion pwysicaf yn | y cyfnod presenol. Cael ymwared 0 r nioethusrwydd a'r difaterwch sydd Yn anwrthwynebol yn cynyrchu llacr- WYdd, diofalwch, ac anrhefn diesgus a t> chondemniol yn nghyflawniadau Svvyddogol ein cylchoedd ? 1 Ofnwn weithiau fod y llacrwydd hwn yn ymweithio i fyrddau a chyn- gorau cyhoeddus a chymdeithasol ein Swlad, ac yn bygwth effeithiolrwydd tnewngweinyddu a dal i fyny ddeddf- ^Uiu&odraethol ein teyrnas. Os yn arllen, ac yn deall arwyddion yr aittserau yn weddol. Y mae perygl tnawr i ymollyngiad cymdeithasol ein gwlad godi o ddiffyg ynni ac ymrodd- lad i wylio yn ddigon manwl, ac i Hfurio yn ddigon caled, yn nglyn a gwahanol ffurfiau ein horganyddiaeth Ce°edlaethol. T |. ^niddengys i ni fod yr ysfa am safle, a'r syniad sydd yn bod fod lft°ethau a phleserau i fod yn gydiol \\7rth safle,-hyny drachefn yn magu chwant anniwall am arian yn y ffurf o gYflog ac elw-yn difa i raddau POenus ysbryd gwasanaeth sydd yn aniodol i'n llwyddiant. Pesgir ysbryd chwareu a phleserau mor aftwl a gofalus nes y mae manylwch ac egni mewn gwaith yn cael eu Peryglu. Gwyddom fod manteision diwyll- lant wedi d'od it nerth gwell ar gyfer gwaith o wahanol nodwedd, a chys- y^tiaid i feddiant ein gwlad na fu Sanddi erioed. Ond yr ysbryd i ddefnyddio nerth, a'i gymwyso i Wrpas ymarferol, y pryderir yn ei gylch. Fe balla ysbryd i wneyd gwaith yn nghynt, yn fynych na'r tlerth gofynol i'w gyflawni. Llawen- Ycbwn wrth weled cymhwysder, yn ystyr o gryfder digonol i gyflawni ^ymedigaethau cylchoedd cym- eithasol, ond y mae'r modd y yflawnir hwy, a hyny yn unig o lffyg ymroddiad a gofal, yn peri Pryder i lawer. T • *eimlwn yn gwbl hyderus fod yna nerth. digonol yn ein cylchoedd ^ysig i gwblhau yr holl waith b awltr yn y cyfryw gylchoedd, a yn effeithiol a llwyddianus. au y gall y rhai y perthyn iddynt w schedule a threfnu listiau yn bi° a ^orP^eno^ yr athraw de'l aenor ^anw gofynion eu cylch yn 1 Wng. y mae tybio yn wahanol, ngholeuni manteision y presenol, 11 awgrymu condemniad rhy fawr yn 1 y- • eu herbyn ac arnynt. A'n pregethwyr drachefn: safant ar dir cyfaddasder a nerth, mor atebol i holl ranau eu gwaith ag y bu yr un dosbarth yn yr un cylch gogoneddus mewn unryw oes yn ein hanes. Erys y talentau, y nerth, a'r cvmhwysderau gyda ni-yn ein cysyllt- iadau eglwysig a chrefyddol. Nid oes dim dadl i fod ar hyn. Ac yr ydym yn ddiolchgar fod genym o fewn ein terfyn- au, ac yn ein meddiant, adnoddau ydynt yn amodau cyfreithlawn gwasanaeth effeithiol yn ng!yn a holl adranau yr achos. Ond y cwestiynau gyfyd yn ein meddwl, ac sydd yn peri penbleth a phryder i amrai ydynt Pa gyfrif ellir roddi am y llacrwydd anhrefnus ddaw i'r golwg mewn rhai cysylltiadau ? Beth am y diffyg eynlllln a'r aneffeithiolrwydd mewn rhanau eraill o'r gwaith ? Ni wna yr y mgais i'w wadu a'i an- wybyddu roddi atebion i'r cwestiynau- Ac ni byddai ymesgusodi trwy ddyweyd nad ydym yn ol i weithwyr Cristionogol yn mhlith enwadau eraill, er i hyny fod yn wirionedd, ddim yn atebiad boddhaol iddynt chwaith. Yn ddiolchgar cydna- byddwn fod ihai, ie, llawer yn ein plith, rod dant eu goreu i bob ihan, bychan a mawr, o'r gwaith-wthiant gydwybod i mewn i listiau a chyfrifon, fel ag i bet hau mwyaf hanfodol eu swydd, fydd yn sicrwydd o gywirdeb a threfn, a phrydlondeb. Dynion deimlant mai nid ffawd a ffitiau sydd i reoli ymweliadau bugeiliol, parotoi ar gyfer y dosbarth yn yr ysgol a'r rhestr-gyfarfod- ydd, &c. Olid rhaid addef nad yw y math uchel hwn o weithio ddim mor gyffredinol ac y buasem yn dymuno, ac yn disgwyl iddo fod. Beth sydd yn cyfrif am dano, a pha fodd y gellir ymddeffro i ragori ? Hwn ydyw y pwnc mawr y dylem oil ym- gyraedd ato. Tybed nad hwn ydyw'r cyfrif: Fod yr ymgysegriad a'r ynni ysbrydol hwnw sydd yn ofynol i reoli ac i gymhwyso nerth i'r ymarferol, yn ymollwng a llwfrhau ? Y nerth a'r cymhwysder yn aros, ond yr yspryd i'w ddefnyddio i raddau wedi pallu. A gall hynyJod wedi cymeryd lie heb i ddi- rywiad pcenus dd'od i mewn i'r cymer- iad. Dichon mai colli golwg ar bwysig- rwydd y bychan wanbaodd yr ysbryd,, fel y mae gweithiedu yn gryf mewn ambell gylch yn anymarferol, os nad yn ddibwrpas a choll amser. Ond tybed na ddylid bod yn ofalus cyn achlesu y syniad beth sydd fychan—os ydyw yn delweddu cymeriad, yn cyffwrdd Duw, ac yn anurddo rhyw agwedd ar Ei deyrnas i lygaid y byd ? Neu, efallai, afiwyddiant ymddangosiaciol mewn gwaith, neu wrthwynebiad wrth geisio ei gyflawni, ddigalonodd yr ysbryd fel y mae yn allu i ysgogi ac i symud y dyn ar lwybr dyledswydd. Ond beth, bynag sydd wedi ymyryd i wanhau'r ynni lly woflraethol hwn, rhaid ei ddeffro a'i adnewyddu, er sicrhau effeithiolrwydd cyffredinol ein cyflawn- iadau yn holl gylchoedd yr achos. Hoffem roddi arbenigrwydd ar yr ar= gyhoeddiad cryf sydd ynom, ac yn peri cysur ciyf i ni hefyd. Y mae genym nerth. Dewrder ysbryd i ymaflyd ynddo, ei gysegru yn fwy manwl, cyson, a thrwyadl mewn gwaith—pob gwaith —ydyw un o'n hangenion pwysicaf. Peidio gwneyd fydd parhau aneffeithlon* rwydd ac anhrefn mewn gwasanaeth ie y canlyniad sicr, a hyny heb fod yn mhell iawn, fydd i'r nerth wywo a cholli. Mae peidio delnyddio y dalent yn sicrwydd y cymerir hi oddi arnom. — o§o>
DIFRIFWCH.
DIFRIFWCH. UN o nodweddion mwyaf poenus ac anffortunus yr oes hon yw rhyw ysgafn- der gwag sy'n ymylu'n fynych ar ryfyg a maswedd. Nid ydym yn digwydd bod ymvsg y rhai a gymer olwg anob- eithiol ar y byd, ond nis gall neb wadu nad oes rhyw osgo gref mewn llawer cyfeiriad i gymeryd bywyd yn ysgafn, fel petai'n ddim ond tegan i chwareu a .hi. Nid ydym chwaith yn tueddu i annog neb i feithrin prudd-der Pharis- eaidd acanaturiol, ond credwn y gweddai i bawb ohonom alw ein hunain i gyfrif yn fynych, a gwylio rhag i wagedd ar- wynebol ennill yr oruchafiaeth yn ein bywyd. Wrth gwrs y mae mwy o bleser yng ngwaith Crist nag a fedd y ddaear faith, ond y mae'n bwysig cofio o hyd mai gwaith, a gwaith anodd a thra difrifol yw y gwaith y galwodd Crist ni iddo. Yn ol Crist, tynged uchel, urddasol, ac ystyr Ddwyfol iddi yw bywyd. Ymddiriedaeth a roddwyd inni gan Dduw yw bywyd, yn ol yr Efengy],—ymddiriedaeth a chyfrifol- deb yn ngl yn a hi, ymddiriedaeth y rhaid i bob un ohonom roddi cyfrif am dani yn niwedd ein dyddiau gerbion brawdle Crist.. Onid dau o'n prif ber- yglon fel gweithwyr Cristionogol yw diogi ac ysgafnder ? Ond os cyll Eg- lwys Crist yn y deyrnas hon yr ym- deimlad o ddwyster a difrifwch a chyf- rifoldeb bywyd, yna nid oes ond galan- astr yn aros cymdeithas a gwareiddiaeth. Beth bynnag arall a ddylai nodweddu dilynwyr y Gwaredwr, dylai dwyster dwfn a difrifwch mawr fod yn nodwedd- ion amlwg ynddynt yn anad dim. 0 bppeth anweddus ac anheilwng ynom, ysbryd hyf, arwynebol, cellweirus yw y mwyaf anweddus ac anheilyngaf yn ddiau. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru,y rhai sy'n cymeryd bywyd yn ddifrifol, yn byw yn wastadol gan gofio fod llygad y Barnwr arnynt, yn galaru, yn poeni oherwydd eu hanheil- yngdod eu hunain, ac oblegyd pechod a thrueni y byd drwg o'u cwmpas Onid ydym yn ami yn rhy iach ein hysbryd, yn rhy arwynebol ein teim- ladau, yn rhy hyf a chartrefol gyda'r gwaith cysegredig y danfonwyd ni gan Grist i'r byd i'w gyflawni ? Nid oes neb wedi gwneud gwaith mawr erioed dros yr Arglwydd Iesu heb lawer o boen meddwl ac o gystudd ysbryd. Y gweith wyr a wyr oreu am lawenydd a llwydd- iant yn Ei waith Ef, a$yr oreu hefyd am bangfeydd anrhaethadwy yn nyfn- deroedd eu heneidiau. Yn wyneb Dioddefiadau Crist dros bechod, yn wyneb arucheledd sancteiddrwydd, gwynfyd y nef a dychrynfeydd uflfcrn, o ofnadwyaeth a manylwch y Farn, a thynged dragwyddol eneidiau anfarwol, -oni weddai i bawb ohonom ymsobr- eiddio yn ofn Duw ? Ni bu cyfnod erioed y bu mwy o angen difrifwch yn y pulpud. A chredwn yn gryf fod arwyddion ar y cyfdn er daioni yn y cyfeiriad hwn. Y mae chwaeth y cynulleidfaoedd yn codi'n raddol, a'n syniadau am yr Efengyl a'r gwaith o'i phregethu yn dod yn fwy dyrchafedig, mi obeithiwn. Nid yw jokes dichwaeth, di-bwrpas, yn y gwaith cysegredig o bregethu'r Efengyl, ond gwybed meirw ar enaint yr apothecari, a goreu po gyntaf y delo'r cynulleidfa- oedd i'w ffieiddio. Y mae rhyw nifer o eneidiau detholedig braidd ymhob cyn-. ulleidfa a edwyn y gwael oddiwrth y gwych, a'r gau oddiwrth y gwir. Ac y mae y rhai hynny fel halen yn graddol buro y rhai sydd o'u deutu. Prudd yn wir yw clywed ambell bregeth a jokes yn gerryg milltiroedd iddi Y pethau amlycaf ynddi yw y pethau digrif, a gwneir y gweddill i fyny gan fan siarad } diwerth a di-alw-am-dano. A gwydd- om am ambell i gynulleidfa sydd a thuedd ormodol ynddi i ddisgwyl peth- au o'r fath o hyd, fel pe mai amcan pregethu'r Efengyl yw gogleisio pobl, ac nid eu hachub a'u sancteiddio. Os mai "mynegi tystiolaeth Duw" at ddynion yw pregethu, fel y syniai yr Apostol Paul, yn ddiau y pelh cyntaf a ddisgwyliem oddiwrth bawb sy'n antur- io ar y gwaith mawr a phwysig, yw difrifwch digymysg. Ac y mae yAn difrifwch i nodweddu pregethwyr y Gair y tu allan i'r pulpud. Y gwir yw, y mae'n amhosibl i neb fod yn ddifrifol wrth bregethu, os nad yw felly cyn ac ar ol pregethu. Pa sawl pregeth a ddifethwyd gan straeon isel ac amheus gan y pregethwr ar yr aelwyd wedi i'r oedfa fyn'd heibio ? Diffyg difrifwch a ddanghosir gan ymddygiad- au cellweirus a phen-ysgafn y rhai a bruffesant fod yn genhadon y Duw Goruchaf, ar aelwydydd yma ac acw, a hynny weithiau yng ngwydd pobl ieuainc, er mawr ddrwg iddynt. Tyrr yr ysgafnder a'r arwynebol- rwydd hwn allan yn ami hefyd yn y gynulleidfa. Gofid i galon pob un o ysbryd llednais a dwys yw gweled pobl yn cnoi melusion yn ystod yr oedfa, gan orweddian yn y set, ac estyn y melusion i'w genau mor ddidaro a phetai ddim byd o bwys yn myn'd ymlaen. A hynny pan y cyhoeddir geiriau bywyd tragwyddol yng nghlyboedd dynion! Nis gallwn gredu fod neb sy'n meddwl yn ddifrifol am ei enaid a mater ei fywyd tragwyddol, yn euog o fedru gwneud peth mor ysgafn ac anheilwng a phlentynaidd a hyn, tra y pregethir vr Efengyl sanctaidd yn ei glywedigaeth. Diffyg difrifwch dwfn a goleuedig yw llawer o'r twrw uchel a'r byfdra iach sydd ynglyn a'n haddoliadau cyhoeddus yn rhy fynych. Onid ydym yn ami yn J h Y loud, chwedl y Saeson ? Beth yw y dyrnu a'r cicio a tharo'r Llyfr Em- ynau a'r Beibl druain nes y byddant yn neidio, ond ymgais i wreud i fyny am ddwyster dwfn aphur? Adwaenem un brawd pybyr a falodd lawer Llyfr Em ynau yn deilchion wrth ei drin a'i droi a'i drosi a'i ddyrnu, pan yn siarad yn y Seiat ac wrth bregethu. Gweddeidd-dra distaw, glwys, a weddai inni'n wir wrth ymwneud a phethau cysegredig Ty yr Arglwydd. Nid ydym o gwbl yn erbyn porthi'r gwasanaeth,"—gobeithio nad aiff y peth byth i lawr yng Nghymru. Y mae "Amen" a Diolch cynnes, gwir, o galon llawer sant yn help gwir- ioneddol i bawb. Ond y mae cryn ragor rhwng porthi a phorthi. Ceir ambell un yn porthi'r un fath bob am- ser, prun bynnag a fydd yn teimlo ai peidio, a Fheth bynnag a fydd yn myn'd ymlaen. Peth dymunol yw gweled dynion yn teimlo cymaint o dan wirioneddau'r Efengyl fel nas gallant ymatal rhag torri allan i ddiolch a gor. foleddu. Ond y mae He i ofni fod ambell un yma ac acw yn "porthi" yn llawer rhy iach a difeddwl ar hyd yr oedfa, nes peri mwy o niwed nag o les. Yn ddiau, diffyg difrifwch sy'n cyfrif am bethau fel hyn, diffyg difrifwch dwfn a goleuedig. Yr ydym yn enwi'r pethau uchod fel arwyddion o'r diffyg hwn yn ein plith \el Eglwysi. Ac os yw Eglwys Crist yn myn'd i golli ei hurddas a'i difrifwch, yna truenusaf o'r holl bobl a fyddwn. Yr ydym yn credu'n gryf mai angen pennaf pawb ohonom, yn y pulpud ac allan o hono, yw mwy o ddifrifoldeb. Y mae cyflwr moesol ein gwlad yn galvy am hyn. Er ein bod wedi cael Diwyg- iad, y mae meddwdod, a godineb, a chelwydd, a rhagrith, ac anghyfiawnder, ac anonestrwydd yn uchel iawn eu pennau eto yn ein gwlad. Pe baem oil yn ystyried y sefyllfa tgydag wyneb di- orchudd, fe fyddai inni ymsobreiddio, gan syrthio i lawr gerbron Duw, ac wylo dros bechod y genedl. Os am ddifrifwch rhaid inni fyn'd yn amlach ac yn ddwysach at Dduw. Efe yw yr unig Un a fedr ein difrifoli. Waeth pa pa faint o dalent na dysg na dawn na hwyl a gawn, heb hyn, ofer, a gwaeth nag :ofer fydd y cwbl. Ond gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru.
Yr Etbolfraint i Ferched.
Yr Etbolfraint i Ferched. Cafwyd prawf yn y Senedd nos Wener fod y pwnc o estyn yr etholfraint i ferched yn dyfod yn nes at gael ei ben- derfynu yn eu ffafr. Sylwyd fod mwy o ddifrifoldeb yn nodweddu yr areithiau na phan ddygwyd mesur cyffelyb ger- bron o'r blaen. Eglurwyd gan y Prif- Weinidog na fabwysiadwyd y mesur gan y Weinyddiaeth am y rheswm fod gwahaniaeth barn yn ffynu yn y Cyfrin Gyngor parth ei briodoldeb. Fel aelod unigol o'r Ty, modd bynag, siaradodd Syr H. Campbell- Bannerman yn gryf o blaid egwyddor, er nad o blaid manylion, y Mesur, oherwydd ei fod yn credu mai mesur ydoedd i roddi yr etholfraint i ychydig o ferched dibriod arianol, tra yn cau allan ferched a gwragedd y dos- barth gweithiol. Rhoddai ei bleidlais, modd bynag, dros y Mesur fel datganiad o'i syniad nad yw cadw yr etholfraint oddiwrth y inerched yn beth doeth, yn beth y gellid ei gyfiawnhau, nac yn beth sydd yn iawn mewn ystyr wleidyddol. Ar ol araeth nerthol y Prif-Weinidog, diau y darllenasid y Mesur am yr ail waith pe cawsid cyfle. Yn anffodus siaradwyd y Mesur allan," a hyny gan aelod Cymreig, Mr J. D. Rees (Bwrdeis- drefi Maldwyn). Pan yn darlithio ar "Nerth arfeiiad," cofir y byddai y diweddar a'r Parchedig John Evans (Eglwysbach), yn arfer a dyweyd, wrth gyfeiro at nerth gwahanol greaduriaid, fod nerth gwraig yn ei thafod 1" Ef- allai fod hyny yn wir mewn llawer engraifit. Ond ymddengys i ni y gellid dyweyd ar ol yr hyn gymerodd le nos Wener, fod "nerth gwr yn ei dafod" hefyd Eiddil ac ystrydebol oedd y rhesymau a ddygid yn mlaen yn erbyn egwyddor y Mesur. Defnyddiwyd llawer ohonynt yn erbyn estyn yr ethol- fraint i ddynion cytfredin yn 1832 ac wedi hyny. Ond cyn sicred ag fod pwnc y merched yn un cyfiawn, dygir barn i fuddugoliaeth yn y man.