Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Ynysybwl.

News
Cite
Share

Ynysybwl. « DECHREUAD A CHYNNYDD YR ACHOS YN Y LLE." [V.—PARHAD.] Ar ol cerdded am flynyddau yr wyf bellach bron ar derfyn y daith. Yn Tachwedd, 1904, teimlodd Ynysybwl ddylanwadau nerthol yr Ypsryd Glan fel llawer man yn Nghymru. Adeg yw chofio oedd hon. Nid oedd son am ddim ond y Diwygiad yn mhob cornel o'r ynys: dau a thri o'r addoldai yn llawn bob nos, ac yn ami hyd y bore bach colli gwaith, cyfarfodydd gweddi yn y gwaith ag ar ben y pyllau glo yma; y tafarnau yn myned yn wag a'r addoldai yn cael eu llanw. Swn diolch, canu, a gweddio yn mhob man bron yn shop y teiliwr, efail y gof, gweithdy y crydd, dim son am ddim ond Diwygiad, a'r leimlad a'r dylanwad yn angerddol dim eisiau gwasanaeth na gweinidog, na phregethwr cynorthwyol yr adeg hon, digon o bregethwyr yn barod bob nos hen aelodau yn codi ac yn dweyd y fath fywyd yr oeddynt wedi ei fyw yn y gorffennol, ac hyd yr adeg hon ni feddyliais fod cymeriad crefyddol yr Eglwysi mor isel. Ni fuaswn yn dych- mygu am foment fod dynion, a merched hefyd, yn euog o gyflawni y pethau yr oeddynt yn eu cyflawni yn ol eu tystiol- aeth eu hunain, ac mae honno yn sicr o fod yn gywir. Nis galiaf am foment eu hameu. Digwyddodd i mi fod yn Mhontypridd ar fore Sul yr adeg honno, ac yn d'od i'r ynys erbyn yr hwyr. y I Odfa dda yn Eglwysbach, ond ddim digon twym i'r pregethwr gael egwyl ond clywed ar y ffordd yn ol gan eneth fechan ei bod yn ymladd a'u gilydd yn nghapel y Wesleyaid, ac felly ym mhob capel arall rhedeg i ymofyn tamaid o fwyd ac yn ol drachefn. Pan yn ymyl ein haddoldy am 4 o'r gloch yr oedd y lie ar dan. Aethum i'r addoldy cyn chwech o'r gloch, ond nid i bregethu ond i wrandaw ar rai eraill yn diolch ac yn adrodd eu profiad ac yn canmol Duw am y bendithion yr oedd- ynt yn eu derbyn. Gofynodd un brawd i mi dd'od ag arwain y cyfarfod, ond nid oedd eisiau yr oedd pawb yn arwain yn eu ffordd eu hunain dan y dylanwad; ambell un wedi gwaeddi a chanu nes yr oedd wedi crygu. Torodd y cyfarfod i fyny tua 10 o'r gloch. Nid oedd ond yr un fath ym mhob addoldy trwy y lie; ambell i aelod yn myned at yr heddgeidwad ag yn dweyd ei fod wedi Iladrata. Nid wyf yn dweyd o ba addoldy yr oedd yr aelod hwnnw, ond y peth goreu iddo yw Dos ac na pecha mwyach." Nid wyf yn dweyd hyn i ddiraddio neb, ond. i ddangos mor ddy- lanwadol oedd yr Yspryd Glan yn gweithio. Bu y Parch R E Jones yma lawer gwaith heb gael dweyd yr un gair, dim lie, f taniwyd yr Eglwys pob gwahaniaeth wedi darfod, neb mewn golwg ond Efe. Bu y Parch J E Roberts yn hynod o ffyddlon ac yn siarad yn hynod o ddylanwadol yn y gwahanol addoldai, a chafodd wel'd eglwys Ynysybwl yn agos i 80 ain o rhif. Eto, nid oedd enwadaeth wedi myn'd o'r golwg yn y lie, ac mi gredaf mai yn mysg gwyr y cadachau gwynion yr oedd i'w wel'd yn fwyaf amlwg. Mi gredaf, meddai un wrthwyf, mae ein capel ni gafodd fwyaf o'r tan. Na, meddwn wrtho, wrth ei wel'd mor hunanol, mae mwy o dan wedi bod yn ambell i dalcen glo yn y Pwll o lawer. Ymwelodd Mr Evan Roberts a'r He, ond ar ol iddo ymadael y tanwyd yr eglwysi yma. Gweithiodd y Parch T C Lloyd tA) yn dda iawn yn ystod yr amser. Ambell un yn cwyno fod pethau yn araf oeri. Wel, os na oera y Diwygiad hwn ni chawn yr un arall ar ei ol; ond rhaid dweyd ei fod wedi gwneud gwaith bendigedig. Rhai oedd gwawdio heno, yn gweddio nos y fory. Ymadawodd y Parch J E Roberts yn Medi diweddaf yn nghanol y dymuniadau goreu gan bob enwad, a daeth y Parch D Morgan yn ei Ie, y gylchdaith dan ofal y Parch R E Jones. Rhaid i mi eich blino ag un llythyr eto, Mr Gol., fel, ol nodion, i'r cyfan.—I'w barhau.

----fog YR ARWEINYDD RHYDDFRYDOL.

Advertising

Nodiadau Cyfundebol.