Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
DARLLENWCH COFIWCH! YST YRIWCH Os ydyoh yn dyoddef gan unrihyw afLecihyd yn tafdSdiu oddliwiitb Dddffyg Treuliad! neu vVaed Ananbur, defnyddiweh IITTIRS mm ins Meddyginiaeth Eifeithiol. Pdwb cr ei oh,>^triol, Nid JW hvtli yn sloiri, Hhyf '? riprth i r ywan, A gi i'r (-,Ifi f, A mwiTihnd bvwyd i bawb. Bitter, Gwilym Evans Y miaie miloedd: wedi cael iaclhiad. oddiwrth amryw glefydau trwiy ddeifnyddio y rEDDYGINIAETH RYFEDDOL HON Pan y mae FCC MEDDYGINIAETH ARALL WEDI METHU. Meddyginiae h Lwyadianus. Dywed MILOEDD a wellhawyd d.rwyd!d:; mai hon yw L Meddygiraaeth Oreu yr Oes. Bitters G-iiym Eva s Y mae yn gwieila Giwaedi Anmfaur, Diffyg Tteuliad, Anblwyfldieriau y Ciylllia, Llosig Cyllia, Gwiendiid Gfeuiol, Pruddlglwyf, Iseldler Yspsryd, Cl'efyd yr Ysgyfaimt, Gwondid Cjyffrieidinol, Poieri Gwaed, Dolluriaiu yr Afu, Dlitfyg Amadl, :&C.. &c. Bitters Gwiiyui Evans TYSTIOLA ErpHA U. Pennwicih, Llanigeitho. Aniwyl Syr,—Mae anityw a,elio,dali o'm teulu yn w'enniiaid .su hieeibiyd, yn enwed'ig un dill mietfohed syddr yn ihyfu i fyny, ac wedi tyfu i fyny yn da,1 iawn. Zvlae yn ddoddfof yn. fawr odddwHSh. dddffyg anadl a,r 01 yr ymdrietih leiaf winth ddilyn ei gor- chwylion. Byddiaff yn cadw Quiniine Bitters Gwilym Evans bob amser yn y ty, gan fy mod yn cael ei fod yn gwneyd mwy o les i':n plant na dim a gawsant erioed. (Parch.) D. W. TOXES. IS, Railway Street, Lewistown,, Triabarris. Anwyl Syr,—Y ma'e yn bleser gennyf eich hysbyau :fed Quiniine Biitibcrs Gwilym Evans, yngfh(yd a'r Digestive Pelarb, wedi bad: yn foididio,n i'.m gwella ar oil dioddef yn Mr Ddiffyg gan Tremliad. -Aliae caefch- iwiad fy nigalwediigaeitb mewn siop Dra- pery yni tuieddu i niwieidiio fy ieidhyd, a'm gwneud yn bruddiglwyfus and miae eich meddyigiiniaeitih yn cryfhiaiu y ayfansoddaad' a bywiogi yr vspnyid IEWJy nalg un a gy- me'ra.is o'r bllaen. Cymieffladlwyaf ef i bawib, y mate yn gaffeldiad i'r erbcickl.— Yr eriddodh, yn ffyddJaiwn, E. J. WARiEHAM. Bitterc Gwilym Evans RIJYBUDD GOCHELWCH DWYLLLWYR Edrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob abel, stamp, a phot el. Gwerthir ef mewn poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. Blycbau yn cynwys tair potel 4s. 6c., am 12s. 6c. I'w cael yn mfoob man, neu damfonir hwy Jn rhad am y prisjiau uchod yn ddiogel drwy y post oddiwrth y percbeno; jn: — m biitess imniAen&m co„ LIMITED, LLANELLY, South Wales. Sylwer Pris y GWiYLIEDYDD trwy y Post bob wythnos am chwarter ydyw Is. 8c. Am hianiner blwyddyn, 3s. 4c. Am jBwyddya, 6s. 8c. Y taliad ymlaen Haw gyda'r arobeb. Anfonir pedwar trwy y Post am ge,iniog yr un wedi talu y draul. Anfoner pob peth yn nghylch y busnes wedi ei gyfeirio fel hyn MANAGER, "GWYLIEDYiDD OFFICE, LEESWOOD, MOLD. CYFEIRIED ein Gohebwyr bob peth y dymunamt iddynt gael eu cyhoeddi fel hyn GOL YGYlDD," GWYLIEDYDD" OFFICE, LEESWOOD, MOLD. Gelliir anifon Gohebiaetlh heib ddim o natur llythyr gyda hi am ddimai am bob dwy wns ond gadael yr amlen yn agored. BYDDED hysbys nad ydym yn gyfrifol am syni.adau ein Gohebwyr. AT EIN GOHEBWYR. I'AL.E., 'Altertaiwe.—Airalll wedi eidb rhiag- fiaeniu. Trwy fodl cym&in't o'n gofod yn cael ei gvimeryd i groniclo hlane^s ymadlaiwdadl yr an- wyl friawd, J. P. Roberts, :mjetbasoim: a cliael llawrer o obelbiai&thau i mewn yr wythnos hon. Cwyna'r argraffwyr nad ydynt yn cael di- go-n o amssr gyda'r goheibiaetbau, &c., felly erfyniwn. arnoicb oil anifon yr hyn fydd gen- nydl i'w gyhoeddi erlbyn bore Llun yn mhob --i wythnos. Anawdd fydd ilhoddi i mewn adim ddaw i law ar ol hyn,ny. f GOL., GWYLIEDYDD » OFFICE. LEESWOOD, MO 1,1). AT EIN DOSBARTHWYR. TALIADAU. T.S., Skiwen; H.J., Llamfhaiadr-yn- M'oicbnanit; P.S.P., Gwaenysgor; D.T., PenygToes. Erfyniwn am dai prydlon gan b ,b ui. Ni eliir aufon vr un f^rsel i wmm ar ol Hydief yr 20fed, os "a bydd dvlnd y Ohwarter hWJl weJi ti tbalu. Dyma yw ein rheol er dechreu y flwydiyn, a theimlwn jIl. cdiolchi? .r iawn i bawb sydd v'edi ei pharchu. Gwitawd eUhriad yn lunes un neu ddau, «-st»nwyd yr amser iidynt, oad yr ydym o hyn allUn yn bender- fynol o lyni u wrth y rheol gyda phawb yn ddieithriad t:r I aibed tralfaith a thraul, cydnabyddir ta iadau yn y GWYLIEDYDD bob wythnos Nis geJlir cyrfn^boi dim deerb nir ar 01 bore Mawrth yn rhif, n yr witnnos honno. Anfoner yr arian i 'MANAGER,' GWYLIEDYDD OFFICE, LEESWOOD, MOLD. YN EISIAU—^Cyfeiriad presannol Mr E Parry, gynt o 26, Frances Street, Bargoed, Cardiff. Anfoner at M'a.niager,' GWYLIEO- YDD Office.
Family Notices
^Iriobaeatt, &,C. GEN EDI G AEITH AU. H'OGIHFIS—T!acb. 3ydd, priodi M'r Thomas ■Huigihiss, Sweitenham Row, Leeswood, ar fab. HiUGlHiEIS—^T'ach. 7fed, pÜodl Mr John Tluigbes, Gwernyglyn, Leesiwood, ar ferch. I MARWOLAETHAU. RDiBEiRTS—^Tlach." af.ed, yn Pant Teg, Tre- g:art!hi, yni 51 mlwydd oedl, y Parch John rrijoe Roberts (W). AYILiLiIAlMlS1—'Tacbi. lOfed!, yn Llys FLwtfa, Rhiyil, yn 85 mlwydd oed, y Plaroh Row- J.anldl W'illiams (A.) (Hwifa Mon).
Y Diweddar i Barch. John Price…
Y Diweddar Barch. John Price Roberts. Gan y Parch. Hugh Evans (Cynfor). Mor anhawdd yw sylweddoli fod yn rhaid cysylltu y gair "diweddar" ag enw y pregethwr melys, a'r gweinidog anwyl—John Price Roberts. Cymer- wyd ef ymaith oddi wrth ei deulu, a'i enwad, a'i genedl, mor sydyn ac annis- gwyliadwy Yr oedd ei farwolaeth yn ddyrnod anaele i ni fel enwad. Symud- wyd ef oddi wrthym mewn adeg yr oedd mor anhawdd ei hebgor. Llanwyd fy nghalon a dwfn ofid pan glywais gyntaf am ei waeledd peryglus a phan gyr- aeddcdd y newydd am ei farwolaeth, aethum yn syfrdan, ac mewn rhyw gyflwr meddyliol felly yr wyf o hyd. Er dydd ei farwolaeth, yr wyf yn rhyw ail fyw y tair blynedd diweddaf—tair blynedd a dreuliais gyd ag ef ar gylch- daith Coedpoeth. Gw-elwn fy hun gyd ag ef yn ngwahanol gyfarfodydd y gylchdaith, neu yn ei efrydfa yn siarad am bregetliu a phregethwyr, a gwahanol bethau'r achos. Ac 0 mor ddyrchafol a difyr oedd ei gwmni y pryd hwnnw. Anhawdd genyf ddygymod a'r ffaith na chaf ei gwmni byth mwy. Yr oedd ein hanwyl frawd yn meddu dynoliaeth gref, lydan, a dyrchafedig iawn. Ni wnaeth efe dro gwael a neb erioed yn unman. Os gwelai efe rywun yn gwneud tro felly, ffieidd- iai y cyfryw Yr oedd ei galon yn drwyadl ddi-ddichell a di-wenwyn. Yn ystyr uchaf y gair, gellir dweyd am dano ei fod yn ddyn gwirioneddol. At hynny yr oedd yn ddyn naturiol iawn yn mhob peth. Yr oedd yn cashau pob rhodres, a mursendod, a choegedd, a ffug-pob math o wag-ymddangosiadau, casbethau iddo ef oeddynt oil. Llawer gwaith y clywais ef yn condemnio y pethau hyn nis gallai eu goddef. Os gwelai fursendod a rhodres, byddai ei wynebpryd yn syrthio, fel arwydd o anfoddlonrwydd a gosodai ei ben i lawr, gan ddangos pa mor ddirmygus oedd y pethau aynny ganddo. Yr oedd efe yn gyfaill pur, ac anwyl a ffyddlawn. Un hawdd iawn i'w garu oedd efe. Cyfaill lion, ffyddlon di-ffug Mor bur a gemau'r barug." Dyma oedd un o'i nodweddion penaf, a dyma roddodd iddo le mor anwyl yn rnynwes ei enwad. Medrai wneud cyfeillion heb geisio rywfodd, oherwydd fod ynddo gymaint o serchogrwydd. Yr oedd JOHN PRICE ROBERTS yn gyrnaint o sant ag ydoedd o ddyn hefyd. Yr oedd yn un o feddwl ysprydol iawn. Rhoddai bwys mawr ar fywyd ysprydol uchel yn yr eglwysi ond cael hynny, credai efe y ceid pob peth arall. li Cym- deithas y saint," oedd yr eglwys iddo ef. Gofidiai lawer wrth weled rhai dynol, bydol yn yr eglwysi, heb fod mewn cydymdeimlad a chrefydd ysprydol. Beth am dano fel pregethwr ? Nid oes angen dweyd dim ar hyn. Gwyddai Cymru am dano o Gaergybi i Gaer- dydd. Profai'r galwadau mynych a gai i wasanaethu yn uchel-wyliau ei enwad, pa mor gymeradwy ydoedd. Nid oedd gennym bregethwr melysach a mwynach nag ef yn ein henwad. Nid M Mab y Daran ydoedd, ond Mab diddanwch." Dywedodd Pantycelyn, os da'r wy'n cofio, am un o hen bregethwyr tanllyd Cymru Yn y daran'r oedd e'n aros Yn y cwmwl 'r oedd ei le." Nid dyna fuasai y desgrifiad goreu o JOHN PRICE ROBERTS fel pregethwr. Pregethai ef yn wastad a bwa'r enfys am ei ben. Yr oedd rhyw felyster a swyn yn ei bregethu, ac nid oedd neb yn ein henwad yn fwy poblogaidd fel pregethwr. Derbyniodd yn helaeth o yspryd y Diwygiad-pregethodd lawer ar y Di- wygiad. Gwnaeth ei oreu i feithrin y Diwygiad, ac i droi nerthoedd y Diwygiad i fod o wasanaeth parhaol i r eglwys. Yn fuan wedi iddo seiydlu yn Nhregarth, ymwelais ag ef, ac un o'r pethau cyntaf a ddywedodd wrthyf, oedd datgan ei ddirfawr foddhad oherwydd fod pobl ieuainr eglwys Shiloh yn llawn o dan y Diwygiad ar ddechreu y gauaf presennol. Yr oedd yn "un o gynghor "-nid rhyw hoff iawn oedd efe o bwyllgorau ond pan y galwai dyledswydd arno i cistedd mewn pwyllgorau, yr oedd yn ddoeth a llygadog iawn, a gallai roddi awgrymau gwerthfawr, ac yr oedd yn drwyadl fyw i sefyllfa pethau. Bum yn ei weled droion yn arwain pethau o ddyryswch. Trwy ryw fath o reddf, gwelai lwybr i fyn'd allan o ddyryswch. Yr oedd ganddo synwyr cyffredin cryf iawn. A mser a ballai i mi son am dano fel llenor-yr oedd ganddo arddull lenyddol glir a llawn o swyn. Mae rhyw gyfaredd llenyddol yn ei gyfrol werthfawr ar HUGH PRICE HUGHES. Yn y gyfrol honno ceir y sylwadau canlynol:— Hyfryd oedd edrych arno yn gweithio, ond prudd yw adrodd am ddyfodiad y nos pryd na ddichon i'r gweithwyr goreu weithio mwy." Pan ymwelais ag ef,. yr oedd newydd osod ei study-ei weithdy -mewn trefn. Chwith meddwl fod y gweithiwr diwyd yn ei fedd Ar yr orsaf yn Mangor y gwelais ef ddiweddaf, wedi cyd-ddychwelyd o'r Cyfarfod Cyllidol yn Aberdyfi. Pan y safai ar yr orsaf, ni feddyliais ei fod ef y pryd hwnnw yn sefyll, o ran ei einioes, ar orsaf arall oedd mor agos i'r terminus. Diwrnod trwm i mi oedd y Sabboth (ddoe) yn Mangor, pan yn cofio fod J,P.' yn ei fedd yn Nglanadda gerllaw. Cysured Duw y teulu yn eu trallod, a chofiad y nefoedd am danom fel enwad, a disgyned mantell ein hanwyl frawd ar eraill sydd heddyw yn galaru ar ei ol. Terfynaf yr ysgrif frysiog hon yn y geiriau a ysgrifenodd efe ei hun am HUGH PRICE HuGHEs :—" Oedd, yn ddiau, yr oedd y nefoedd wedi rhoddi ei chalon ar gael y gweithiwr adref i'w orffwysfa." Mor wir yw'r geiriau am dano yntau erbyn hyn.
Nodiadau Cyfundebol.
Nodiadau Cyfundebol. [GAN Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.] I Da iawn, os mai cywir yr hyn a glyw- som fod symudiad yn Bethel Brymbo i gael organ i'r addoldy. Nid oes dim nad all y cyfeillion hyn ei wneyd wedi penderfynu ar fater. w < < Darllener yr ysgrif o eiddo y Parch W H Filchett, B.A., LL.D., yn y Me- thodist Times" yr wythnos ddiweddaf a'r Wesley in Literature." Cynghor- em i'n pobl ieuanc ei ddarllen yn arbenig. # « Llawenychasom wrth weled cynifer o foneddwyr Wesleyaidd wedi eu hethol yn Faerod ar hyd a lied y deyrnas. Yn ddios i Faerod crefyddol bydd hyn yn fantais i'r eglwysi. Hysbyswyd yn nghladdedigaeth bryd- nawn Sadwrn diweddaf y traddodid pregeth angladdol i'r diweddar Barch. John Price Roberts yn nghapel Shiloh, Tregarth, nos lau nesaf (heno). Gweithred dda a theilwng o ddathliad blwyddyn swyddogol ei phriod, sef Hen- adur Hugh Hughes, Maer Conwy, ydoedd gwaith y Faeres yn anrhegu Eglwys y Tabernacl a Beibl hardd. Eiddunwn iddynt hir oes. » Llongyfarchwn Mr A. B. Lloyd, gor- uchwyliwr Cylchdaith Bagillt, ar ei ail- etholiad yn "Deputy Mayor" Cyngor Trefol FAint. Ni a hyderwn y cawn weled y dydd yr ymgymera Mr Lloyd a'r Faerolaeth. Llongyfarchwn Miss Edith Jones, Compton House, Conwy, ar ei gwaith yn enill y "Senior Certificate" yn y Royal College of Music. Nid rhyfedd fod Wesleyaid Conwy yn falch ohoni, ac yn arbennig am ei gwasanaeth gyda'r Band of Hope. Yr ydym wedi canfod pan yn darllen adroddiadau y Cyfarfodydd Chwarterol fod ein llenyddiaeth perthynol i'r Llyfrfa wedi cael sylw cyffredinol. Gellir dis- gwyl y bydd ffrwyth yn dilyn. Hyder- wn mai felly y bydd. Cofier hyn yn ein Hysgolion Sabbothol ac o'n pulpudau. Gweithred feddylgar a grasol o eiddo Dr Hugh Jones, Bangor, ydoedd ei rodd o 5p. yn enw y Cyfarfod Talaethol i Mr .Brookes-Jones, yr hwn sydd wedi myned ar Gryfandir America yn genhadwr yn mhlith yr Indiaid Cochion. Yr oedd yn llawenydd o'r mwyaf gennym glywed gan ein hanwyl gyfaill o Eirianfa, fod y cyfarfodydd gweddio a'r seiadau yn dal i fyny mewn rhif a gwres- ogrwydd yn Eglwys Llanrhaiadr. Yr oedd tua deucant yn bresenol yn y seiat olaf. w • » » Un o'r gweinidogion mwyaf meddyl- gar ydyw y Parch James Chapman, Principal y Southland College, Mae wedi cyhoeddi cyfrol o allu mawr ar y testyn, The Christian Church in its Relation to the Christian Vicar of the World." Dywenydd oedd y newydd glywsom fod Mr Wm. Griffiths, Llanfairtalhaiarn wedi ei ethol yn un o Heoadwyr Cyngor Sirol Dinbych. Diau y bydd Mr Griffiths yn gaffaeliad mawr i'r Cyngor. • Yr oedd yn hyfrydwch gennym glywed fod Llawlyfr Duwinyddol y Parch Owen Evans, Bangor, yn agos yn barod. Bydd y gyfrol hon yn deilwng o'i hawdwr. » Gwelwn fod swyddogion a chyfeillion cylchdaith Gymreig Manchester yn rhai llygad-graff a darbodus, oblegyd cawn eu bod wedi anfon gwahoddiadau i'r Parchn John Felix, Lerpwl, a J Maelor Hughes i ddilyn eu gweinidog- ian presennol. < Mynegwyd wrthym y dydd o'r blaen fod gwahoddiadau wedi cael eu rhoddi i'r Parchn D Gwynfryn Jones ac R Mon Hughes" i deithio yn nghylch- daith Coedpoeth yn 1908, y naill i Wrecsam, a'r Hall i Goedpoeth. Mae'r gwahoddiadau wedi eu derbyn. « Bydd yn ofidus gan ein darllenwyr wybod fod y Parch Thomas Davies, Llanfechain, cylchdaith Llanfyllin, yn gorwedd yn glaf er's wythnosau. Mae ei achos yn un o bryder mawr i'r teulu ac i'r gylchdaith. < Deallwn fod darlith y Parch Frank Jones, Colwyn Bay, ar Fy Nhaith i Switzerland,' i agor tymhor Cymdeithas y Bobl leuainc wedi troi allan yn un llwyddiannus dros ben. Cyflawnodd y darlithydd ei waith yn ddyddorol a medrus dros ben. Cafwyd elw clir o 15p. Campus. Hysbyswyd ni y dydd o'r blaen fod Mr W Twiston Davies, U.H., Caerlleon, wedi addaw pum' cant o bunnau tuag at adgyweirio hen gapel cyssegredig John Street, Caerlleon. Mae Mr Davies yn fab i'r anfarwol Samuel Davies y cyntaf. < Clywsom fod cyfeillion Llanrhaiadr wedi d'od i'r penderfydiad o dynnu i lawr yr hen gapel ddcchreu'r flwyddyn newydd. Y gwasanaeth olaf ynddo fydd eu cyfarfod pregethu blynyddol. Diffyg cael ystafell ddigoncl i'r gynulleidfa na buasai hyn wedi cymmeryd lie yn gynt. VP ir T Dymunwn adgofio yr eglwysi oil am Sul Dirwestol—Tachwedd 26ain. Hyd- erwn y gofala bob Ysgriienydd Dirwestol am fod Llyfr Dirwestol yn cael ei gadw yn yr eglwys, a chyfleustra mynych yn cael ei roddi i gymmeryd yr ardystiad. Gwnaed pob eglwys ymdrech gonest o blaid yr achos da hwn. Mae'r eglwys mewn argyfwng pwysig gyda'r mater hwn ar hyn o bryd. Gan gofio edmygem unoldeb a hunan- ymroddiad chwiorydd dirwestol Llan- rhaiadr. Yn un nid oes ond newyddion da o lawenydd mawr yn d'od o Lanrhai- adr y dyddiau hyn. Gwneir ymdrech i dynnu y cymdeithasau cyfeillgar o'r tafarndai a'u cael i'r Neuadd Gyboeddus fel eu headquarters. Da gennym ddeall fod y symudiad wedi Ilwyddo i fesur. Gwynfyd na fyddai hyn yn cymeryd lie yn mhob llan a thref. Deallwn mai teslyn papur rhagorol a ddarllenwyd ger bron y Wesley Society yn Rhydychain (Oxford) yn y cyfarfod diweddaf gan Mr R Idwal Hopwood (mab y Parch Richard Hopwood) ydoedd 1 Methodism in Wales.' < Derbyniasom raglen Cymdeithas Ddiwylliadol Gorphwysfa,' Cefnmawr. Cynnwysa ddarpariaeth gyfoethog a chwaethus ar gyfer cyfarfodydd y tymor. Diau y bydd yn ddau gan lawer' wybod fod yr hybarch weinidog y Parch John Pierce, yn dal yn dirf ac iraidd ac yn traddodi cenadwri y Groes gyda bias ac etTeithiolrwydd. Carem hysbysu ei gyfeillion fod Mr Pierce wedi gadael Llangollen a'i fod yn awr yn trigo yn y dref a adnabyddir gennym fel Wesleyaid —" yn gryd JVJethodistiaeth Wesleyaeth Gymieig Ei gyfeiriad presennol ydyw Rev John Pierce. Wesleyan Minister, Elton House, Ruthin. Thomas Champness a John Price Roberts wedi myn'd i'r Nefoedd i dder- byn eu pronzotiõn am yr oes anfarwol Dyma ddau o'r enwau anwylaf yn y weinidogaeth. Dywedwyd mai Mr Champness ydyw The best loved man in Methodism.' Gyda'r un priodoldeb y gellir mynegi fod ein diweddar d/n hanwyl gyfaill yr un a gerid fwyaf yn y weinidogaeth Wesleyaidd Gymreig. Yr oedd y dorf anferth oedd yn ei gladdedigaeth yn tystiolaethu hynny, ac yr oedd annerchiadau coffaol gan ti frodyr gweinidogaethol yn nghapel Horeb brydnawn Sadwrn diweddaf yn cynnwys datganiadau cywir o'r brawd ymadawedig fel cyfaill cywir a ffyddlon, pregethwr grymus ac effeithiol, yn fardd da, yn emynwr melus, yn lienor gwych a difiin, ac yn awdwr o fri, ac yn ddyn sanctaidd ei yspryd. Bydd yn chwithdod mawr i Wesleyaid Cymreig fod heb John Price Roberts. Heddwch i'w Iwch. Gan y bydd adroddiad hel- aeth am gladdedigaeth Mr Roberts nid ymhelaethwn. Ond carern wneyd ychydig sylwadau ar gladdedigaeth Thomas Champness. Nid un cyffredin ydoedd nag un anghyffredin iawn. Yr oedd yn fwy tebyg i wasanaeth ddiwygiadolnag i'r un gladdedigaethol. Nid oedd nodyn o dristweh, dim arwydd o brudd-der Mewn pisyn seliedig efe a adawodd gyf- arwyddiadau ei gladdedigaeth, a chyda'r rhai hynny y cydymffurfiwyd, pa rat oeddynt mewn cydgordiad a syniadau yr oedd yn ami wedi eu mynegu. When I am gone let there be no lamen- tation. I want to be laid at rest with a song of praise." Dewisodd yr emynau yr oeddys i ganu, gyda dymuniad ar i'w ferch hynaf i arwain y canu. Yr oedd y personau ag ydoedd i gymeryd rhanati wedi eu henwi a'r flaenoriaeth i'w gyf- eillion. Y rhai oedd i siarad a gweddio a ddymunwyd arnynt i daro nodau o lawenydd a diolchgarwch. Cyflawnwyd pobpeth yn ol ei ddymuniad. Claddwyd ef yn y llecyn a ddewisodd ef ei hun, yn agos i gofadail Wycliffe, ac 0 fewn grounds yr eglwys, pa un a ddywedai fyddai ei fonument. Ni an- fonwyd gwahoddiadau i'r gladdedigaeth, er hyny yr oedd yn lluosog iawn. Yr oedd dros gant o weinidogion yn bres- enol, llawer o ba rai oeddynt yn ddyled- us iddo am eu troedigaeth. Yr oedd yn caru pregethwyr ieuainc a gwnaeth lawer erddynt. 'Roedd torf o leygwyr o wa- hanol barthau o'r wlad wedi d'od ynghyd. Cynrychiolid y Maesydd Cenhadol Ira-