Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

HOREB CYLCHDAITH .YSTUMTUEN.

News
Cite
Share

HOREB CYLCHDAITH YSTUMTUEN. Fel pob egIwys arall, bron, trwy Gymru benbaladr' yr ydym ninnau wedi teimlo gwres y Diwygiad yn dra nerthol yn ystod y ddau fis diweddaf. Yr oedd ein heglwys wedi bod ar hyd y blynyddoedd yn un o'r rhai mwyaf unol, boneddigaidd ac ysprydot yn y wlad, a Duw wedi ei bendithio a chymeriadau gwerth eu, hefelychu. Er hynny, yr oedd gwir angen ad; fywiad yma fel pob man arall. Disgwyliem yn weddigar am dano, ac un boreu Sul, tua chariol mis Rhagfyr, yn ddisymwth, ysprydolwyd ein cynulleidfa fechan trwy i rai or dynion ieuainc a ddycbwelwyd, yr wytbcos flaenorol yn Goginan dorri allan i waeddi ar yr Arglwydd. Gweddio a chanu y buom nes yr aeth yn orfoledd nefol. Yr un peth drachefn yn y prydnawn, aelodau ffyddlawn mewn llawer ystyr yn plygu am y tro cyntaf 1 gymeryd rhan yn gyhoeddus Yn wir y mae Yspryd JDuw wedi bod yn agos attom am wythnosau. ac ond ychydig o aelodau heb dorri allan. Mae gweithgarwch yr eglwys wedi dyblu ychydig o eglwysi sydd yn cyfranu cymmaint ar gytartaledd at y Genhadaeth Dramor, ac ni bu er's blynyddau ucheled ag ydyw eleni. Mae vn dda gennym ddeall fod dros lOp wedi eu casglu Bu ein casglyddion, sef yr bynaws Mr David Griffiths a Mr William Williams yn hynod o ymdiechgar gyda'r gwaith hwn. Nos Fercher, wythnos i'r diweddaf, cawsom seiat, dan arweiniad ein parchus weinidog, y Parch Ll A Jones, seiat nad annghofir yn hir, a bron yr holl aelodau yn bresennol, a phob un yn dweud ei brofiad, yr hyn a wnaeth Duw iddo a'i ddiolchgarwch, ei fod wedi teimlo yr hyn na theim- lodd erioed or blaen. &i benderfyniaa I wneud mwy dros achos y Brenin Mawr. Am bump o'r gtocb bob prydnawn Sul y mae cyfarfod gweddio gan y bobl ieuainc. Mae yn hyfryd gan ein calon weled cyn- nifer o'n pobl ieuainc, o ddeuddeg oed i fynny. yn ferched a bechgyn, yn dyfod ymlaea i arddel lesu Grist yn gyhoeddus. Mae gwedd newydd ar yr achos yn Horeb erbyn hyn, a newyddion tebyg sydd i'w clywed o bob lie yn y gylchdaith, a'r wlad oddi- amgylch, o ran hynny swn achub sydd i'w glywed yn mhobman, a diolch am hynny. Cerdd ymlaen nefol dan Cymer ohonnom feddiant glan.—B d-n

CENHADAETH LANCASHIRE.

GLYNDYFRDWY.

HIRAEL, BANGOR.

'/":■ CAERLLEON. ":

,GROES, LLANASA.,,'"

,CYLCHDAITH' PONTYPRIDD. ^

BETHEL, CYLiGHiDAITH LLANBEDR.

LLAX.DYSSI.'L. "'"'''

BLACK PARK vViHA,R,F, CYLCHiDAlTH…

LLUNDAIN.

TRKFOR, CAEIRGYBI.

BliRKEiNHiEAD.

CORRIS.