Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y SENEDD.

News
Cite
Share

Y SENEDD. Y MAE y Senedd yn eistedd, a siarad yn myned yn mlaen — peth doeth, a pheth heb fod felly, fel arferol. Agor- wyd y Senedd-dymor ddydd Mavvrth, wythnos i ddoe, gan y Brenin ei hun, heb i ddim annymunol ddygwydd, ond yn hytrach yr oedd pob peth yn ffafriol. Darllenwyd yr Araeth gan y Brenin ei hun, mewn llais hyglyw, fel yr oedd pawb meddir, yn clywed pob gair. Yr ydym yn prysuro i anrhydeddu y Brenin trwy adgofio ein darllenwyr mai nid ei Fawrhydi a wnaeth yr Araeth. Yn wir, y mae yn anhawdd peidio tosturio wrtho am fod rhigwm o'r fath yn cael ei galw yn Araeth y Brenin. Clywsom am hen glochydd yn Aberffraw, tua dechreu y ganrif o'r blaen, yn cynal cyfarfod canu, ac iddo ddechreu trwy ddywedyd Canwn fawl i Dduw, a go-gon-iant i ni ein hun-ain ar y ganfed Salm." Yr oedd yr offeiriad wedi troi i mewn, mewn pryd i glywed y dadganiad, ac i roddi cerydd tyner am dano. Ai nid fel yna y mae hi, Meistar ?" gofynai y clochydd, yn ddiniwaid ac nid oedd gan y Meistar" ddim i'w ddyweyd ond dadgan ei ofn fod y clochydd wedi'r cwbl yn iawn. Felly y mae y Weinyddiaeth, yn yr hyn a elwir yn Araeth y Brenin, yn gofalu am ganu gogoniant iddynt eu hunain yn mlaen pob peth arall. Rhoddir wyth o baragraffau i faterion Tramor a Thref- edigaethol a chwech o rai eraill pur fyrion, i bethau cartrefol, heb- law yr un i Foneddigion Ty y Cyff- redin parth yr amcan-gyfrifon arianol. Yr ydym yn barod i gyd-orfoleddu a'r Llywodraeth am y ddiangfa o helynt V enezuela. Ond nis gallwn ganu gogon- iant iddi am hyny, canys nis gwelsom eto ei bod wedi rhoddi rheswm da dros fyned i'r helynt hwnw ar y cychwyn. Ac yn sicr dylasai y Prifweinidog, a'i gydweinidogion y perthyna iddynt ddeall eu gilydd, nad y buasai gwell cysondeb rhwng eu traethiadau parth y dechreuad yn gysylltiol a Germani ac a'r Unol Dalaethau. Y mae y perygl i'r bobi feddwl mai tynu ar ei ddychymyg yr oedd Mr. Balfour yn Lerpwl, wedi gweled atebion a roed yn Nhy y Cyffredin ydynt yn arwain yn naturiol i gasgliadau gwahanol. Dymunol fod pob peth yn dda yn nghylch cwestiwn y cyfFindir rhyngom ag Alaska yn Ngogledd America. Gyda golwg ar y rhialtwch yn Delhi, yr rholl arian a wariwyd yno am ychydig iawn o werth, y mae yn bur anhawdd peidio a meddwl mor fynych, ac mor ddiweddar y clywsom am newyn yn yr India. Gyda golwg ary rhyfeloedd yr ydym Ynddynt ar hyn o bryd, yn Somaliland ac yn Nigeria, nid oes ond ychydig o oleuni arnynt i'w cael yn Araeth y -Brenin. Digon prin y gellir bod yn sicr I *od effaith ymweliad Mr. Chamberlain a •^eheudir Affrica mor ogoneddus ag y §allesid meddwl pe na buasid yn gwy ^od dim ond yr hyn sydd yn y paragraff s>'dd yn yr Araeth am dano. Yr ydym yn sydd yn yr Araeth am dano. Yr ydym yn gobeithio y goreu, ac yn oedi barn nes ¡ ceir gwybod mwy. Y mae y cyfeiriad sefyllfa pethau yn Ewrop yn dadgan °d "achos o bryder difrifol yn bod yn Nghylch Talaethau y Twrc. Dywedir 3711 yr Araeth fod y Brenin wedi def- nyddio ei ymdrechion goreu i wasgu ar y Sultan a'i wenidogion yr angen dioedi ^ydd am fesur ymarferol o ddiwygiadau. niae hyny yn dda, ond pa sawl gwaith gwnaed hyny o'r blaen ? A phob tro yn ofer Gobeithio y cytuna y partion yn Nghytundeb y Brenin a'u gilydd, ac b i'r Sultan wneyd rhyw et« yn wejj nag addaw. Nid yw t I addewid y Sultan yn werth llai na dim. Teimlwn fod y paragraff hwnw yn yr Araeth Freninol yn ein cymell i obeithio I y goreu. ) Tlodaidd ryfeddol yw y rhaglen ar gyfer I y tymor. Addewir mesur tir i'r Iwerddon, ac os ceir un cyfiawu a da, bydd hyny yn iawn o beth. Y mae yr addewid nesaf- diddymu Bwrdd Ysgol Llunjain-yn en- graifft o wneuthur yr hyn na ddylid ei wneuthur, ac y mae rhai pethau eraill aryr un rhestr. Ac o'r tu arall, y mae nid ych- yiig o bethau y dylesid darparu er eu gwneuthur, wedi eu gadael heb son am danynt. Yn y paragraff a roddir yn unig i Foneddigion Ty y Cyffredin dywedir, er fod yr amcan-gyfrifon wedi eu llunio gyda gofal dyladwy am gynildeb," fod angen y wlad a'r Ymerodraeth yn gwneuthur treu- lion mawr yn anocheladwy. Yr ydym yn hen gyfarwydd a "gofal dyiadwy y Tor iaid am gynildeb. Gall ein darllenwyr fyned heibio i r darn yna rhag l'W gobaith gael ei siomi, ond y mae y darn arall yn sicr. Cvnygiwyd a chefnogwyd Anerchiad Ty y Cyffredin mewn atebiad i Araeth y 1 Brenin, a rhoes hyny le i gynyg Gwelliant au ar yr Anerchiad yn dadgan cwynion oherwydd ei diffygion. Y gwyn gyntaf, a gudwyd mewn cynygiad o Welliant gar: Dr. Macnamara, am fod diffyg mor fawr o anedd-dai priodol i weithwyr. Y mae yn syn i'r mater hwnw gael ei adael allan o'r Araeth canys gwyddys fod y Brenin yn cymeryd llawer o ddyddordeb gwresog ynddo. A thebyg yw fod y LIy- j wodraeth wedi gweled ei chamgymeriad, ac, wrth weled yr arwyddion, ei bod wedi gosod Mr. Long, fel Twm Pen Domen yn y darlun gynt, i geisio troi y trychineb draw, trwy yn addaw y gwnelid rhywbeth i bwrpas cynygiad Dr. Macnamara. Rhywbeth go wan oedd yr addewid, mal yr awgrymid yn araeth Syr William Harcourt—mor wan, er ei chael y ',<tnwyd y Ty, ac y cafodd y Llywodraeth mai 39 oedd ei mwyafrif. Cwvnai Mr. Keir Hardie nad oedd dim bob! ddyweyd yn yr Araeth yn nghylch yn sydd allan o waith. A phan ranwyd y Ty ar ei wellicnt yntau yr oedd mwyafrif y Llywodraeth wedi codi un-i 40. Wedi hyny codwyd i fyny achos Cwmni o'r erwl London and Globe yr hwn a wnaeth hafog ar eiddo llawer o bobl trwy gyfrwng mantolen yr addefodd Mr Balfour ei fod yn ofni ei bod yn dwyllodrus. Ymholid sut na buasid wedi dwyn v rhai a gyfrifid yn droseddwyr o flaen eu gwell, a meddyliai llawer mai y cyfrif oedd fod gwyr mawr yn nglyn a'r busnes. Dadleuai cyfreithwyr y Llywodraeth nad oedd y trosedd yn un y gellid, yn ol y gyfraith mal y mae, ei gospi i diwedd a fu i'r Llywodraeth gael 38 o o fwyafrif. Hyd yn hyn y mae yr Anerch- iad yn parhau yn destyn dadl. Gwelliant La ddaethpwyd i ben ag ef ddydd Llun oedd un Mr. Beckett i'r perwyl nad oedd y Fyddin yn gyfaddas i angenion yr Ymerodraeth, ac nad enillwyd iddi nerth ac effeithiolrwydd cyfartal i'r cynydd diweddar yn y treulion. Yr oedd y gwelliant a'r araeth drosto yn anelu at Mr. Brodrick, a rhai o'r sylwadau yn ei darawnes ei fod yn ymwingo yn enbyd o dan y cleisiau. Nid Radical driva mo Mr. Beckett, ond Tori uniongred ac felly hefyd y Major Seely, yr hwn a gyngiodd y Gwelliant. Ac yr oedd Toriaid eraill yn siarad vr un ffordd a hwynt, fel yr oedd Mr. Brodrick—bu agos i ni ddyweyd—mewn rhyfel cartrefol. Ymddengys fod lluaws o'r Toriaid ieuainc gerilaw iddo yn y Ty y rhai a fuasent ddwy flynedd yn ol yn ymiadd hyd at waed (?) o'i blaid, nid yn unig wedi colli eu cydyrndeirnlad ag ef, ond yn gwneydl yn ysgafn o'i drallodion, ac yn chwer- thin am ben ei ofidiau. Ond yn gymaitit ag fod y dealt allan. os cwympa Mr Brod- rick y bydd i'r Llywodraeth fyned dros y clogwyn gydag ef, diau y bydd i gorff y gwrthwynebwyr feddwl, heblaw cysgu, cyn rhoddi eu pleidlais. Mal y nodasom, y ydym yn ysgrifenu cyn fod y ddadl drosod x Nid ydym yn honi gwybodaeth na deall yn nghynlluniadau y Swyddfa Rhyfel, na dim o'i chyfrinion. Ond yn mhellach nag fel rheithwyr cyffredin. Ond y mae yn deilwng o sylw ddarfod i Syr Henry Campbell Bannerman gynygIpenderfyniad pur debyg 1 r eiddo Mr. Beckett yn agos i ddwy flynedd yn ol, pan ddygodd Mr. Brodrick ei gynllun gyntaf yn mlaen. Onid yw fod Mr. Beckett yn dwyn yn mlaen gynygiad mor debyg yn bresenol, gan ddadgan ei fod yn siarad ei farn a'r teimlad cyffredin, yn mwy nag awgrymu fod y wlad yn blino ar wario arian yn ofer ?

^030 CYLCH DARLLEN |Y GWEINIDOG.

OOG PWLLHELI.