Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODIADAU GOLYGYDDOL. --

News
Cite
Share

NODIADAU GOLYGYDDOL. Y mae yn y dref hon dy trwyddedig i werthu y ddiod sydd yn meddwi ar gyfer pob 16q o'r trigolion. Wrth gwrs, y mae lluaws mawr o'r trigolion heb fod yn cyffwrdd a hi. Rhaid gan hyny fod rhyw rai vn yfed llawer iawn i gadw i fyny gynifer a haner cant o dafarnau. Cynali- wyd y Cylarfod Trwyddedu wythnos i ddoe ac yr oedd boneddwr yn y gadair, sef Mr. S. Perks. Yr oedd dirprwyaeth gref ar ran pleidwyr Sobrvvyddyn bresenol, a chyflwynwyd cofeb i'r ustusiaid yn deisyf arnynt nid yn uniii beidio a chaniatau trwydded newydd, ond i leihau y nifer. Gosododd Mr. A. Lewis Jones, cyfreithuvr, y mater i lawr yn glir ac yn gryf, a hyny o egwyddor a chydwybod, ac nid am daliad. Yr oedd gan y daillawyr a'u tras hefyd eu twrneiod. Yr oedd un o honynt yn gwneyd cais i ddysgu logic i'r Fainc ond druain bach, gwell iddo droi ei law at rhywbeth y gwyr ryw gymaint yn ei gylch.. Honaj yn lIall fod yn "temperance reform- er cydwybodol, ac fel y cyfryw rhybuddiai y dirwestwyr i beidio gwasgu yn rhy drwm ar y tafarnwr druan, onide byddai iddynt greu gwrthdeimlad na byddent ab) ¡ i'w reoli." Beth y mae ymadrodd fel yna yn ei olygu, vs gwyddys ? Rhywbeth mwy na hyawdledd (?) y twrne? Ond er holl logic a hyawdledd y ddau gyfreithiwr dywedodd Mr. Perks: fod drwg v ddiod wedi myned mor fawr nes ei bod wedi dyfod yn angenrheidrwydd i leihau nifer y trwyddedau, yr hyn a fydda; er ataliad os nad lleihad y drwg. Penderfyniad y Fainc oedd peidio symud o honynt eu hunain tuag leihau nifer y trwyddedau nes cael gweled adroddiad Pwyllgor y Sir. Gwnaed J cais am drwydded newvdd—i'r Claremont Hydro Gwrthwynebwyd hyny gan Mr. A. Lewis Jones, ac efe a hvvddodd. Da genym fod un grocer's licence wedi ei zz. rhoddi i fyny. Nid yw y blaid sobr yn y dref ar un cyfrif yn ddigalon. Yn Mettwsycoed, Col. Wynne Finch oedd cadeirydd y Cyfarfod Trwyddedu. Wedi cael adroddiad yr heddgeidwad rho- ddes clerc yr ustusiaid lon'd ei law o bap- urau i'r Cadeirydd. Yr oedd un o honynt, meddai, oddiwrth Gymdeithas Trwydded- igion Arfon a Mon, am yr hwn y dywedai y Cadeirydd ei fod yn llythyr pur synwyrol wedi ei eirio yn dda. Ond beth oedd ystyr a chynwys y papurau eraill ? "Ymdden- gys." ebai y clerc, eu bod wedi dyfod oddiwrth organaethau dirwestol, a'u bod yn gofyn i'r Fainc i gano allan ddarpariaethau J Act newydd y Trwyddedu," Dywedodd y I Cadeirydd ei fod ef yn meddwi ei fod yn fesuro hyfdra- rather a piece of imper- tinence — i'w hanfon yno. Ac wedi hyny, efe a ddifynodd Arglwydd Raglaw y Tir yn erbyn yr arfer o ysgrifenu, neu an- fon dirprwy, at yr Ustusiaid i ofyn iddynt wneyd hyn neu y llall. Ac fel y pwynt- iodd yr Arglwydd Raglaw," |ebai efe, dy- ledswydd yr Ustusiaid yw dyfod i'r llys gyda meddwl perffaith agored, heb fod ganddynt ragfarn o blaid temperance, nac yn ei erbyn." Ac yr oedd yn rhaid iddo ddyweyd fod yr ustusiaid ar y Fainc hono bob amser yn gwneyd eu dylcdswydd, ac nad oedd eisiau dyweyd wrthynt eu dyled- swydd gan rai o'r tu allan." Prin y mae eisiau i ni ddywed dim am y darlithiwr enwog (?) hwn. Y mae ei ddarlith yn ei ddadguddio. Yr oedd cenadwri y tafarn- wyr yn II bur cynorthwyol," ac wedi ei "geirio yn dda." Ond I- piece of iinpert- tence" oedd i bobl oreu y wlad feiddio j anfon deiseb, at y Fainc. Nis gallwn weled yn yr adroddiad iddo ddarllen, na chlywed darllen, y deiseb, ac lelly nis gwyddom a oedd hi wedi ei geirio yn dda a'i peidio. Ymddengys mai y cwbl oedd aino eisiau ei wybod am y papurau eraill, wedi cael llythyr par swynol y lafannvyr oedd eu hystyr ac yr oedd hyny yn ddigon iddo i'w condemnio. Dyna y gwr a'r meddwl agored Beth buasai ei feddwl yn nghauad? Oni byddai yn dda i ryw "outsider" adgofio y Milwriaid dewr nad oedd efe yn siarad ei ddoethineb mawr mewn llys o gwbl. Nid oedd efe ar ol y cwbl amgen na chyjarfod trwyddedau. Gellid medd wI fod eisiau goleuo yr Arglwydd Raglaw hetyd yn y fargen—os oedd y doethyn o'r Bettws yn gwneyd chwareu teg ag et. Y C'.WESTTWN sydd yn myn'd a sylw neill- duol Cymru yn y dyddiaui hyn yw pa fodd i wneyd y diefnydd goreu a'r Ddeddf Addysg annghvfiawn a wtliiodd Mr. Balfour mews modd mor annghyfi,awn ar y wlad. Y mae gan Gyruru Ryddfrydol fwy o obaith am beith dai- oni allan o honi nag sydd gan breswylwyr lleoedd gwleddg Lloegr. Ondi y mae eisiau i Gymru fod yn bwyllog a doeth. Credwn i'r Gynadledd Genedlaethol a gynaliwyd ychydig yn 01 yn Nghaerdydd gychwyn, ar linellau dyogcl, a threfnu i symud yn ddceth fod y Lyngorau Sir yn deall eu gilydd, ac yn cyd- symud; yn aros heb wneyd cynllun mewn unrhyw Sir nes cael cydymgyngoriad, ac os yn bosibl, neu mor agos ag y byddai yn bosibl, i dyiiu cynllun i weithio ar gyffelyb linellau yn inhob Sir yn Nghymru. Hyny fyddai yn iawn, ac er mantais pawb. Byddai yn resyn i un- rhyw Gyngor Sir anwybyddu penderfyniad mor briodol. Ond ofnwn ei bod y diwrnod; ar ol y ffair. A'i gwir fed Cyngor Sir Dr.efaldwj'n eisoes wedi troi yn anffyddion ? Ofnwn mai gwir yw fod y Cyngor hwnw yn euog o ryw- beth tebyg i fradychiad. Gobeithio ein bod yn methu. Cynelir cyfarfod o gynnrychiolwyr i Cyngorau Cymru yr wythnos nesaf. Gobeith- 10 y gwelir ffordd i gytuno ar gynllun a gyfetyb fel iheol i bob Sir. Paham nad ellir cael un felly ? Credwn nad oes ba'm yn y byd, oddigerth y gall cymwysiadau gwahanci mewn rhai rnanylion neillduol fod yn angenrheidiol. Gyda man eithriadau posibl, yr ydym yn credu mai un cynllun cyffredinol i Gymru a ddylai fod. Gobeithio mai mal hyny y try pethau alia n. Be Mr. Balfour yn Lerpwl, siaradodd gryn haner dwsin o weithiau, ac a aeth ymaith: cafodd: Toriaid Lerpwl glod', a gwledd mewn un ystyr o leiaf, ond pa fain,t doethach a gwell yw y wlad ? Cwestiwn arall yw hwnw. Tra v bu iddo siarad cymaint, yr oedd yn rhaid iddo ddyweyd rhai pethau priodol. A buasai yn dda pe buasai y papurau sydd yn vmhyfrydu profocio teyrnasoedd eraill yn cy- meryd cyngor ganddc i 37matal. Gresyn i Mr. Balfour fod cyhyd yn rhoddi cyngor mor fudd- iol. Hwyrach y teimla Mr. Chamberlain oddi- wrth darawiad Mr. Balfour i'r post. Venezu- ela oedd un o brif faterioin y Prifweinidog. Efe a ddywedodd fod y ffrwgwd drosodd: bron iawn, ac y byddai pawb, wedi gweled yr holl bapurau, yn eydnabod fod y Llywodraeth wedi gwneyd pob peth yn iawn-wrth fyned i'r m.es.s/ mal y galwai ei getnder, Arglwydd Cranborne, ef, yn gystal ag wrth ddyfod allan o hono. Wrth gwrs, ni welwyd yr holl bapur- au etc, ac felly rhaid oedi canmol y Llywod- raeth am fyned i'r mess.' Eithr hyd y gwel- wyel hwynt yn y Llyfr Glas a gyhoeddwyd ddydd Llun nid yw yn eglur fod gan y I.lywoci- raeth hawl i ryw lawer o glod. Ond., arOiSer. Yr hyn oedd yn ddoniol iawn yn araeth. fawr Mr. Balfour oedd wedi cydnabod ein bod mewn rhvfel yn erbyn Venezuela—nad oedd fodds ei osgoi; ac eto i gyel fod Mr. Balfour yn, gor- foleddu am nad oeddym Wedi 11 add neb o'n gelvnion, na niweidio dim: ar ein heiddo. A i-ia nl,,e d' vdyw v rhod wedi troi ? Ein testyn gorfoledd o ddwy i dair blynedd yn ol oedd ein bod yn 11 add y Boeriaid ac yn dinystxio eu tai a'u meelclianau. Dylsgwyliem. am y 'weekly bag' gyclag awyddfryd, a pha fwyai a fyddai yii-ddo, rnwyaf oil oedd ein llawenhau. Ond yn. Ler- pwl yr oedd Mr. Balfour am i ni orfoleddu am nad oedd bag o gwbl. Ond yr oedd efe am i ni edrych i gyfeiriad arall tuag anialwch, Sornaliland, lie yr ofna efe y costia y rhyfel yr ydym ynddo fwy o wyr ac arian a chanlyn- iadau mwy difrifol. Eithr nid argyhoeddwyd ni fod eisiau y rhyfel yno. Dywedodd Mr. Balfour, gan gofio, un peth da: fod y Llywod- raeth mewn cyd-ddeall a'r Unol Dalaethau o ddechreuad helynt Venezuela. Y fath drugar. edd mai nid Ciwerinlywodraeth wan yw Gwer- iniaeth yr ITnol Dalaethau! Yn ydym yn ysgrifenu y llinellau hyn tra yr eir trwy y seremoni rwysgfawr o Agor f Senedd ac yr ydym yn g,obeithio y bydd pobl peth yn myned yn mlaen yn llwyddianus. All, waith y Senedd-dymor y mae ein dysgwyliadatx yn isel iawn. Os cawn ddeddfwriaeith gyfiawn a da, er budd cyffredinol, cawn beth nas gall- wn ddysgwyl am dano. Os caiff Llundain aC Iwerddon chwareu teg, er i ni fod heb un fan- tais, ni a fyddwn yn ddiolchgar. Beth. sydcTI yn Araeth v Brenin nis gwyddom, ond gwydd- om am ddigon o fat'erion gwelliant ag y gellir? ac y dylid, eu cynyg pan ddaw yr Anerchiad mewn atebiad ideli ger bron. WEDI ymchwiliad Is-bwyllgor Sir Caernar- fon i Helynt Bethesda gwnaed dau adrcddiad: un gan y mwyafrif, a'r llall gan y lleiafrif- dau. Wedi dygiad yr adroddiad ger bron ní fynai rhai o'r aelodau mo adroddiad y mwyaf- rif. Rhaid oedd i'r Cyd-bwvllgcr-bob aelod o hono—gael copi argraffedig er mwyn i bob un gael barnu drosto ei hun. Caed hyny, » chaed y cyfarfod, ac yn y cyfarfod caed ple-id- lais, a'r bleidlais gyda mwyafrif gorlethol dros adroddiad y mwyafrif. Ond: y mae gweision bychain y bobl faw.r yn dolefain yn dorcalcn- us mewn canlyniad. Credasom. o'r dechreu i fwy ganwaith, a mwy, gael ei wneyd o helynt Bethesda nag yr oedd. yr achos yn galw am dano. Ymddygiadau y gwr sy'n achos o'r cwbl sydd yn haeddu condemniad.

NODIADAY 3YFUNDEBOL.

Advertising