Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

I Y FAINC A'R BARIL.

News
Cite
Share

I Y FAINC A'R BARIL. PWY sydd heb wybod i'r Fainc a'r Baril < fod ar delerau hynod o heddycholgyda'u gilydd am lawer iawn o flynyddoedd ? Yr oedd yr awdurdod gan y Fainc, a'r dylanwad gan y Baril; a gwyddom y canlyniadau. Bu amser yr oedd bron cyn hawdded cael trwydded i werthu diod feddwol a chael penog coch. Gwir y byddai y Fainc yn dirwyo ambell un am feddwi os gwnelai dipyn o helynt yn ei fedawdod. Ond yr oedd y gwr oedd piai y Baril yn ddyogel: yn fasnachwr awdurdodedig a pharchus, a—llwydd- *anus A pha beth sydd debyg i Iwyddiant! O'r diwedd fe dynwyd y Hinyn y rhy dyn. Gwnaeth y Baril ddifrod nas gellir ei anwybyddu. Llwy- ddodd y gwallgofiaid titolaidd busneslyd ~y ffyliaid penboeth a fynent yspeilio y gweithiwr o'i haner peintyn," a chynyg ar yr anmhosibilrwydd o sobri Pobl trwy Act Seneddol, llwyddodd y fhai hyn, er gwaethaf gwawd a dirmyg, 1 ddylanwadu ar yr opiniwn cyhoeddus. Sicrhaodd prif feddygyn y deyrnas fod alcohol nid yn unig yn hollol ddiangen- *haid i'r cyfansoddiad dynol, ond yn ¡ fliweidiol a pheryglus iddo. Deffrowyd argyhoeddiadau ac egnion yr Eglwysi, ysi a theimlasant fod ganddynt nid yn unig I 1 amddiffyn eu hunain, ond i fyned allan yn erbyn yr anrheithiwr. Cymerodd y klaid Ryddfrydig y mater i fyny ond j oedd y blaid arall mor ddyledus i'r j «aril o 1874 yn mlaen, fel yr oedd yn rhaid iddi ei gydnabod a'i amddiffyn, trwy ddefnyddio pob gallu i rwystro ac atal y Rhyddfrydwyr i ddeddfu yn rnhlaid Sobrwydd. Ond y oedd y wlad wedi deffro. Ceis- *°dd Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury y«95) ei sui i gysgu gyda Dirprwyaeth *reninol i wneyd ymchwiliad i fater y gwyddai pawb am dano ac yr oedd £ ryn arogl diod ar rai a'i gwnelent 1 Jyny. Modd bynag, argyhoeddwyd Arglwydd Peel fod mawr angen am ^iwygiad, ac fod modd gwneyd Act ^eneddol a allai wneyd rhywbeth tuag Wneyd pobl yn sobr. Efe a ffurfiodd at wneyd pobl yn sobr. Efe a ffurfiodd ei argymellion, ac a roddodd ei enw ^fthynt, a gwnaeth eraill yr un modd. ^thr nid oeddynt ond y lleiafrif o'r dirprwyaeth. Gwnaeth y mwyafrif ftefyd eu hadroddiad a'u hargymellion I yr oedd hyd yn nod yn y rhai hyny ^th daioni—mwy nag a feddyliodd pyr y Baril. Cyhoeddwyd yr adrodd- ,adau a chododd pobl oreu y Deyrnas p 2[ymeradwyo adroddiad Arglwydd a chyda difrifwch a brwdfrydedd i (?. ysi am ddeddfwriaeth yn ddioedi ar ei •flellau. Ac erbyn hyn y mae Deddf eWydd mewn grym. Bu y Rhydafryd-* yn gynorthwywyr parod i Mr. ^,lt;chie i'w dwyn yn mlaen. Dywedasom I r dechreu nad yw hi cystal ag y dy- u°asem iddi fod, ond y mae hi yn aWer gwell nag y mynasai ein gwrth- >nebwyr iddi fod. Mewn gwirionedd, .^ae rhai o bobl y Baril wedi digio yn adwy. Gwelsom fod un o honynt, cyfarfod cyhoeddus, yn edliw i'r ty. ^^°draeth ei bod wedi gwneyd tro isel- ei k a y Fasnach, a hwythau wedi ^h°ddi mewn svvydd. li°^^ t)yna?"» y mae erbyn hyn well a parth perthynas y Fainc a'r Baril 0 yy na hyny, y mae gan y Fainc fvvy So^ dros y Baril nag o'r blaen. Gwel- 0* °d un twrnc yn synu fod cymaint yi)Hr yn caei ei wneyd wecli dyfodiad 1 ^ddf newydd i rym: fod yr awdurdo 1 trvvydded gan y Fainc o'r blaen, os I I barnai nad oedd ei heisiau. Ond dyna y tro cyntaf i'r twrne hwnw fod yn ddigon gonest i gydnabod hyny-wedi i bawb ei I wybod. Diolch i'n cydwladwr craff, Mr. II A. T. Davies, am gyhoeddi hyny. Eithr y mae gan yr ustusiaid gryn lawer o'r hyn a elwir "discretionary power": cryn ledred i arfer eu barn a'u—bu agos i ni ddyweyd-mympwy eu hunain. Y mae llawer iawn gan hyny yn dibynu ar pwy a pha fath rai sydd ar y Fainc, a phwy a fydd y cadeirydd. Ar rai meinciau y mae creaduriaid hunanol, sarhaus, o ddosparth y Milwriad Wynne Finch, yn llywyddu tra ar feinciau eraill y lly- wyddir gan wyr boneddigaidd a theg, ail i Mr. J. Herbert Roberts, A.S. Ar rai meinciau y mae y mwyafrif yn medèwlllawn cymaint am ddyogelwch y Baril ag am fuddiant cymdeithas. Ac ar rai eraill, ceir y mwyafrif yn gwrandaw ar leferydd cydwybod, ac angenrheidiau bywyd gwragedd a phlant. Yn yr amgylchiadau hyn rhoddir cryn le i'r twrne i arfer ei ddawn a'i haerllugrwydd —ei haerllugrwydd, pa un bynag a fydd ganddo ddawn a'i peidio. Yr ydym yn ddiolchgar i Faer Caernarfon am anwy- byddu y twrne impudent a fynai ei ymlid oddi ar y Fainc i foddio haid y dafarn. Nis gellir dysgvvyl amgen na cheir eithaf gwrthwynebiad i bob gwelliant gan y twrneiod a werthant eu dichellion a'u tafod i delyn y Baril. Ac nid yw sarhad y Milwriad Wynne Finch ond peth bychan wrth a ddyoddefwyd gii-i weithwyr o blaid rhinwedd a daioni cyn hyn. Gresyn na buasai gan y Milwriad dewr allu i anfon y dirwestwyr a fuont yn euog o'r piece of impertinence o anfon deisebau i Gyfarfod Ustusiaid Bettws-y- Coed, i garchar Caernarvon Hyny a fuasai yn iawn o beth Y fath ryfyg Dirwestwyr yn meiddio anfon cenadwri°at Fainc yr oedd y Milwriad Wynne Finch yn llywyddu arni Wedi'r cwbl, y mae y rhagolygon pres enol yn oleuach nag y buont yn nghof neb sy'n fyw. Y mae y Fainc at ei gilydd, yn Nghymru ac yn Lloegr, wedi cychwyn ar y cyfan cystal a dysgwyl. Symudiad da o eiddo Chwarter Sesiwn y Sir hon (ac eraill) oedd penodi pwyllgor i wneyd ymchwiliad cyffredinol parth rhif a chyflwr y tafarnau. Ac yn ngwyneb hyny, hwyrach mai prin y gallesid dysgwyl yn bresenol i'r Ustusiaid symud eu hunain i leihau y rhif. Un peth sydd eglur rhaid 1 bleidwyr yr opiniwn II cyhoeddus nid yn unig fod yn iach a chywir, ond hefyd yn effro a gweilhgar. Rhaid I codi y syniad cyhoeddus i gyflwr na feiddia y Fainc ffafrio'r Baril ar draul aberthu buddiant cymdeithas.

\.. M NODION O'R GORNEL.

CYNADLEDD YSGOL SrL TALAETH…

\ ^000 EIN CAXMLWYDDIANT.

'"u -\ I MARWOLAETH MRS. EVANS,…