Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYNGOR WESLEYAIDD • MON AC…

News
Cite
Share

CYNGOR WESLEYAIDD • MON AC ARFON. CYFARFOD CYHOEDDUS BRWDFRYDIG. Llywyddwyd yn nghyfarfod yr hwyr gan y Parch. Ishmael Evans. Wedi myned trwy y rhanau defosiynol, dangosodd Mr. Evans mewn anerchiad bwrpasol ein dyledswydd i wneyd mwy o ddefnydd o'r Cyngor. Credai rhai, meddai ef, fod y Cyngor yn gofyn gormod o aberth, ac nad oedd yn fuddiol. Y mae gallu- oedd cryfion eraill o'n deutu-galluoedd yn cyduno i feddwl a chynllunio y modd i gario yn. mlaen sefydliadau a masnach sydd yn myned yn erbyn y da. Ai gormod ydyw i ni aberthu. er mwyn gwrthweithio y galluoedd hyn ? Yr unig beth a all brofi yn anfantais i'r Cyngor wneyd gwasanaeth. werthfawr ydyw xhagfarn ac anwybodaeth. Gan fod y Parch. R. Morgan, un o'r ddau oedd i anerch y cy- farfod yn analluog i fed yn bresenol am ei fod dan yr anwydwst, hyspysodd y Llywydd y byddai i Dr. H. Jones lenwi y bwlch. Yna galwyd ar Mr. W. S. Owen, Caergybi, i an- erch y cyfarfod ar Amodau Cynydd Cymeriad Crefyddol. Wedi sylw ar bwysigrwydd y mater a ym- <idiriedwyd iddo, aeth Mr. Owen yn mlaen. i sylwi fod y cymeriad crefyddol y ffurf uwchaf ,.ax gymeriad, ei fod yn golygu y cymeriad sydd yn gynyrch y bywyd ysprydol sydd yn y dyn. Y mae yn gymeriad cryf, a dibyna ei nerth ar nerth mewnol. Ofnai fod cymeriad crefyddol yn brin yn y wlad. Sylwodd fod i athrylith, a safle fydol eu lie, ond rhaid i gymeriad fod y prif allu. Ofnai fod pob enwad yn tueddu i roddi pwys ar bethau ail raddel; rhoddid sylw i dalent ac afhrylith, ond yr oedd yn dra sicr y darfyddai dylanwad y pregethwr fiyawdl yn y pulpud os nad oedd i'r siaradwr cymeriad cryf. Rhoddai y deng air deddf syniad ami yr hyn a gyfansoddai gymeriad per- ffaith-dyn a gyflawnai ei holl ddyledswydd tuag at Dduw a. dyn. Yna aeth yn mlaen i nodi rhai o'r amodau a barai gynydd y cymer- iad crefyddol: (1) Ein bod i weddio1. Dylid •meithrin myfyrdod ysprydol. Dengys y ped- war gorchymyn blaenaf yn y dengair deddf fod Duw yn rhoddi pwys ar y modd o'i wasan- aethu. Hawlia yr oil o'r dyn; y mae Efe yn eiddigeddus dros Ei gymeriad. Nid yw y gwe- Jedig i gael sylw o'i flaen Ef. Yr ydym mewn perygl 0 adael i ddelwau gael y flaenoriaeth ar gymeriad o hyd. Nid mewn capel, na chyf- ryngau eraill, y mae y ne-rth, ond yn Nuw ei lIun. Felly, os am i'r cymeriad crefyddol gyn. yddu, rhaid bod mewn undeb personol a'r nerth sydd a'i ffynonell ynddo Ef. Bydd wedi <darfod arnom os aiff gweddiwyr yn brin. Yr oedd yn dda ganddo fod merched i-euainc, eg- Iwys Gwynfa yn cymeryd rhan gyhoeddus mewn cyfarfodydd gweddio, ond gartref ar yr aelwyd ac yn y dirgel yr oedd yn bwysig gweddio mewn trefn i'r cymeriad crefyddol fvned ar gynydd. Golygfa ddifrifol oedd gwel- ed y dyn a arferai weddio ar ei aeiwyd roddi yr arferiad hono heibio wedi iddo; ddringo i safle uwch mewn cymdeithas: i'w gymdeithas ly a'r nefoedd waethygu wrth i'w gymdeithas a'r -(Idaear wella. Teimlai yn falch wrth feddwl fed' ei dad yn weddiwr mawr os nad oedd yn feddyliwr mawr. Gweddi oedd i fod yn nerth i'r eglwys yn gystal a'r gymeriad unigol. Dy- wedodd am wladwr aeth i weled y Tabernacl, capel y diweddar Spurgeon, wedi gweled yr adeilad eang, elywedcdd wrth ei arweinydd y buasai yn cida ganddo weled yr heating ap- paratus.' Arweiniwyd ef i ystafell fechan syml yr olwg, ac eglurwyd iddoi mai ar ei ddeulin y fan hono y sicrheid y gwres gan y pregethwr .a,lfal wol. Nis gellir dysgwyl i'r cymeriad cre- Íyddol gynyddu heb ddylanwad y gwres Dwyfol ac mewn ymdrech gvson a Duw mewn gweddi y sicrheir hyn. (2) Amod arall ydyw Ymhyf- rydiad crefyddol. Nid yw yn iawn i farnu dyn wrth yr hyn a brcffesa-y mae llawer un yn well na'i broffes. Ni ddylid barnu dyn ych- waith oddiwrth ei weithredoedd. Ond gallwn ffurfic barn gywir am ddyn oddiwrth destyn ei vnihyfrydiad. Gellir bod yn lied; sicr fod def- nydd artist' yn y bachgen a dd'efnyddia ei holl iunudau hamddenol i ymarferyd gyda'i baint box' yn nyddiau ei febyd. Dibyna ei gvnydd i raddau helaeth ar raddau ei ymhyf- .rydiad. Yr un modd gyda chymeriad crefydd- ol, rhaid ymhyfrydu yn Nuw, ac yn mhethau Duw, os ydym am ffurfio cymeriad crefyddol cryf. Rhaicl ymhyfrydu yn Ngair Duw. Nid ei ddarllen er mwyn concro mewn dadl, neu .iragon yn y Maes Llafur, neu i foddloni cyw- reinrwydd, ond yn hytrach er mwyn ymgydna- byddu a'r cymeriad sydd i fod yn batrwm i iyawb ei efengylu.' (3) Drachefn dylem gael -ein meddianu ag yspryd gwasanaeth os am sicrhau cynydd i'n cymeriad crefyddol. Wedi i ddyn gysegru ei hun i Dduw dylai fod o wasanaeth. i eraill, a bydd ei lwyddiant a'i gynydd personol i raddau helaeth yn dibynu ar ei. ymroddiad i wasanaeth. Dylid rhoddi y flaenoriaeth i'r wasanaeth bwysicaf, dylem gael -ein llywodraethu gan yspryd cenadol. Y mae cael dynion at y Gwaredwr, ffrtrfio cymeriadau cryfion, yn bwysicach na chlirio dyled capelau. "Dylem ryddhau ein gwemiciogion., a'u gwrag- -edd, i wnevd eu priodol waith yn hytrach na'u bod yn gwastraffu eu hamser a'u nherth i dalu am goed a chalch a chefig. Camgymeriad hefyd ydyw i weinidog, neu arall, wastraffu amser i windio y dyn cyfoethcig na magu cym- 11 y «eriadau. Gwaith pwysig a manteisiol i gyn- yrchiu cymeriadau crefyddol cryfion ydyw rho- ddi sylw dyladwy i'r plant a'r bobl ieuainc. Y' mae cynydd yn anmhosibl os na fydd y cymeriad wedi cvclnvvn yn iawn. Tystiai chwaer yn ddiweddar y fantais a gafodd trwy gael ei hyfforddio yn mhen. y ffordd: mewn seiat blan t' a fiaenorid gan v diweddar Mr. John Williams, Tyddyn Hwrdd. Y mae y bylchau a wnaed yn ddiweddar yn rhengoedd ein. prif weithwyr yn galw yn uchel arnom i ymgvsegTu o'r newydd i wasanaeth. Adrodd- odd Mr. Owen ddywediad o eiddo Dr. Pierce. Dinbych, ar ddydd angladd y Parch. Rowland Hughes, (nid oedd ef, Air. Owen, yn cofio Mr. Hughes, ond yr oedd ei ddarlun yn icrogi yn ei ystafell wely ac yn ysprydiaeth iddo bob am- ser). Dywedai y Dr. am kneddwr a gadwai nifer o hel-gwn, ac o honynt yr oedd un o'r enw 'Purity' a fyddai yn wastad y cyntaf yn y ras. Un diwrnocl sylwodd rhywun fod Pur- ity' yn absenol o'r helfa, a holwyd yn ei gylch, ac atebodd y boneddwr fod. Purity' wedi ei gadw yn ol er mwyn i'r cwn eraill redeg. Wrth gwrs, dull y Dr. oedd hwn o wasgu gwirionedd pv/ysig adref. Dylem oil weithio yn egniol a chyson, am mai dyma un o amod- au cynydd cymeriad, personol, a thrwy weithio byddwn yn arfer dylanwad 1 greu cymeriadau cedyrn eraill, ac yn gydweithwyr a Duw, yr Hwn sydd a'i nod terfynol mewn cynyrchu cymeriadau perffaith yn ol Ei ddelw Ef. Er na chafodd, Dr. Jones end rhybucld byr na fawr o egwyl i barotoi anerchiad, siarad- odd ar y mater a ymddiriedwyd i'r Parch. R. Morgan, sef Argyhoeddiadau Cryfion, a Ffydd- londeb iddynt, a thraddododd anerchiad tre.fn- us, galluog, a brwdfrydig; ar adegau cynhyr- fid y gynulleidfa drwyddi. Yn mhlith pethau! eraill, dywedodd y Doctor hybarch fed yn rhaid iddo deimlo ei ffordd a chymeryd pwyll, gan na feddyliodd am siarad ar y testyn. "Nid wyf heb wybod am, argyhoeddiadau," meddai, oblegyd y mae argyhoeddiadau cryf- ion yn rhwym 0- dd'od i feddwl pob dyn cy- b oedd us. Beth yw argyhcedd ? Y mae yn an. hawdcl ei ddeffiliio, gan y gwyr pawb am dano trwy brofiad. Ond hwyrach y gellir nodi rhai pethau manteisiol i'w ddeall—y mae yn syniad yn y meddwl am yr hyn sydd gywir a'r hyn sydd yn rhwymedig; nid rhyw syniad dam- weiniol neu achlysurol a feddylir, eithr syniad sydd yn cartrefu yn y meddwl, syniad cyson a stfydlog. Mewn geiriau eraill, argyhoeddiad yciyw y syniad a feddwn o'r hyn sydd wir a'r hyn sydd iawn; beth i'w feddwl, a beth i'w wneyd. Awgryma y testyn fod mwy nag un math ol argyhoeddiadau. Argyhoeddiadau ctyf- ion ydynt y rhai hyny sydd yn ffnvyth ystyr- iaeth; hwyrach y gellid eu galw yn argyhoedd- iadau gweithredol, o'u cydmaru a rhai goddef- ol Y mae deddfau y meddwl y cyfryw fel pan y mae meddyliau neillduol yn cynyg eu hunain i sylw y teimlir fod yn anmhosibl i ni wrthod eu hawdurdod. Meddylier am y syniad am f¿urf y ddaear. Yr hen syniad oedd fod, y byd yn fflat, ac mai dyma ganol-bwynt y greadig- aeth. Nid wyf fi yn rhyw hen iawn, ond yr Avyf yn cofio fel y byddai llawer o'r hen bobl mewn penbleth, ac yn methu deall, ond wrth egluro y mater a dangos mai brig y mast ydyw ] rhan gyntaf o'r llong a ddaw i'r golwg pan y dyresa at y lan, yna y bulk a phrofion eraill, goifodir dyn hyd yn nod yn erbyn ei ewyllys i roddi i fyny y syniad mai gwastad ydyw y bye, Yr un moddmewn cyfeiriadau eraill. Yr wyf wedi arfer a dyweyu mai argyhoedd- ia'l goddefol ydyw argyhoeddiad yr Yspryd Glan pan y'n hargyhoeddir o ddrygau pechod Gild daw yr argyhoeddiad gweithredol' pan y pi nderfynwn roddi pechod i fyny. Cyn i ar- gyhoeddiad fod yn un cryf rhaid iddo fod yn •■'I'y o 'assent' na 'chonsent.' Y mae yn rhaid i argyhoeddiad cryf gael cydsyniad a chyfnerthiaa yr ewyllys. Wrth gwrs, un ydyw y meddwl wedi'r cwbl, a rhaid i bob rhan o hono ('os gellir son am ei ranau) gyduno 1 wtithredu yn gyson a diysgcg cyn y daw ar- gyhoeddiadau yn rhai cryfion. Gadewch i ni nodi un o'r moddau i gynyrchu argyhoeddiad- au ciyfion. Y mae yn rhaid cael meddylgar- wch. Rhaid ymgydnabyddu a'r syniadau a did aw i's meddwl am iunrhyw fater cyn y mae yn bosibl cynyrchu argyhoeddiad cryf; gwan yr erys yr argyhceddiad cs na fydd yn seiliedig ar wybodaeth drylwyr am holl agweddau y n'.fcui y bydd genym argyhoeddiad yn ei gylch. Bydd yn fantais i ni ncdi engreifftiau. Cymer. ,er achos sobrwydd yn y wlad. Rhaid cydna- bod fod llawer o eiddilwch yn ffynu. Ni cheir argyhoeddiadau cryfion os nad ymgydnabyddir ag athroniaeth a gwyddoniaeth y pwnc, fel y mae hi yn faich ar y wladwriaeth, ac yn gor- viedtl wrth wraidd y rhan fwyaf o'r trueni a'r t'cdi sydd yn y wlad. Pe gwneid mwy o ym- drech i ddeall holl agweddau: y mater, buan y deuai yr argyhoeddiadau rnor gryfion. nes uno y wlad i roddi terfyn ar y gwarthrudd. Cy- merer gwleidyddiaeth drachefn. Cydnebydd pawb y dylicl llywodraerhu y wlad mewn cyf- lawnder. Creda pawb y dylai cydraddoldeb crefyddol a chymdeithasol gael eu hestyn i holl ddeiliaid y wlad, fel ag i wneyd y ftordd yn glir i hunan-ddyrchafiad ac anrhydedd i bob dyn. Ond prin y gellir dyweyd fod symudiad- au diweddar yn ffafriol i sylweddoli hyn. Ychydig amser yn ol sonid: mwy o lawer am passive resistance' os pasid v Mesur Addysg nag a wneir ar hyn o bryd. Beth sydd yn cyf- rii fod y wlad' wedi lliniaru yn ei bnvdfryd. edd ? Beth, hefyd, ond diffyg cryfder yn ar. gyhoeddiadau y bobl am yr egwyddor (neu y diffyg egwyddor) sydd wrth wraidd y Mesur ? Ac y mae eiddilwch yr argyhoeddiad drachefn i'w briodoli i anwybodaeth d\-bryd am. ein hawliam fel Ymneillduwyr ac fel deiliaid cyfrifol o wlad rydd. Nid wyf ar hyn o bryd yn cyfiawnhau nac yn condemnio passive resistance,' ond yr wyf yn dyweyd y dylai y wlad fesur a phwyso mater fel hyn, ac edrych yn ystyri'ol ar holl agweddau y mater cyn pasio barn na, rhoddi mynegiant iddi. Dyledswydd y wlad1 ydyw barnu beth a ddylai ymddygiad y Llywodraeth fod tuag at ei deiliaid sydd yn dal gwahanol syniadau crefyddol. Pwv bynag sydd yn dy- y 11 weyd fod' bedydd plant yn gyfystyr ag ail- enedigaeth, dylwn i, sydd yn meddu argy. hoeddiad cryf i'r gwrthwyneb, sefyll yn ddewr, hyd at ddyoddef, ie, a chael fy nhaflu i gar- char dros fy egwyddorion. Drachefn, a. oes argyhoeddiad cryf gyda golwg ar foesoldeb y wlad1 ? Ofnaf weithiau fod moesoldeb Cymiru yn myned i lawr. Ceisia. rhai ein perswadio mai peth dibwys ac ysgafn ydyw y dyhcad sydd yn y wlad am bleser, ond. nid peth ysgafn ydyw meddwl fod arferion a bregethwyd ac a weddiwyd i lawr gan ein tad-au yn codi yn ein hywyl. Pan yn cyfeirio at xai o agweddau moesoldeb y wlad peidier a'n cam-ddeall. ¡ Credwn fod dyn i fod yn greadur ba.pus—fod dyn i fwynhau ei hun yn ddeallol a chymdeith- I asol, ond prawf o wendid mewn argyhoedd- iadau ydyw y duedd a welir o'n deutu i aberthu egwyddorion tragwyddol Llyfr Duw er mwyn pleserau gweigion' ac ofer. Oni welwyd llawen- ydd yn y cymydogaethau hyn yn ddiweddar yn gwerthu egwyddor er mwyn tipyn o elw." Yna aeth Dr. Jones yn mlaen i nodi arwydd- ion neillduol o ddirywiad mewn cylchoedd ar- benig, ac yn mysg do.sparthiadau neillduol a ddaethant o fewn cylch ei sylwadaeth ef. Gwnaeth awgymiadau sarcastic' at y bobl a ddanfonwyd i gadw trefn i Bethesda, a'r modd y bu i rai o honynt gael eu cymeryd. i fyny am dori'r gyfraith trwy feddwdod, &c. Yna sylwodd gyda theimlad angerddol ar un peth a barodd laoen a thrallod dirfawr iddb)—gweled merched ieuainc a'u hymddangosiad yn barchus yn gwag-rodiana ac yn cymdeithasu a'r milwyr afreolus a fuont yn ninas Bangor. Yna ym- osodocld ar y cyrchu a welir i noddi a chefnogi theatricals' gwagsaw sydd yn llyn-oui bryd degau o bob tu i'r Fenai. Yr oedd hyawdledd y siaradwr yn cario y gynulleidfa, ac yn gwneyd rep:ortio yn anhawdd dros ben. Aeth yn mlaen i sylwi ar argyhoeddiadau mewn cy- feiriadau eraill. Paham," meddai, "y mae cymaint o wran- dawyr yn Nghymru heb fod yn. perthyn i gre- fydd, a llawer ysywaeth heb fod yn dyfod i swn yr efengyl ? Ai am na wyr dynion, beth yw eu dyledswydd a'u braint ? Nage, gwydd- ant eu dyl.edswydd, end nid yw yr argyhoedd- iad yn ddigon goleuedig, ac o "ganlyniadi yn ddigon cryf iddynt sylweddoli yr hyn a gredant sydd yn iawn. Pe ceid gwrandawyr i fyfyrio mwy ar wirioneddau yr efengyl, a chymdeithasu mwy gyda Pherson yr efengyl, y mae yn ddiauj y cryfheid eu hargyhoeddiadau, ac y byd dent yn ffvddlon iddynt, trwy dderbyn y Gwaredwr a dyfod. i rnewn i'w deyrnas. Paham y mae yr eglwys mor wan ? Nid am nad yw yn gwybod ei dyledswydd; a'i braint. Y mae, yn gwybod, ond dylai y wybodaeth fod' yn fwy trwyadl, ac end cael deffroad mewn meddylgarwch, cryfheir ei hargyhoeddiadau, a d'aw yr eglwys yn ddigon dewr i sefyll yn wrol drostynt, a daw yn allu mawr yn y byd i orchfygu pechod ac i iedaenu sancteiddrwydd yn y tir." Llithrodd gwall i mewn parthed lleoliad y Cyngor nesaf, Waeth, ar bwy mae'r bai, yn Mhorthaethwy ac nid yn Mhorthmadog y cyn- elir y nesaf yn mis Ebrill. Er colled i Borth- madog y dywedir hyn. Bu agos i ragfarn, diogi, anffyddlondeb, ac anwybodaeth o'r gallu er da a berthyn: i'r Cyngor ei ladd ychydig amser yn ol. Ond! y dystiolaeth unfrydol ar ol y diweddaf ydyw ei fod yn fwy byw nag erioed, ac yn debyg o enill nerth adnewyddol a phrofi yn allu an. mhrisiadwy yn y cylch i dafiu ysprydiaeth i'r pregethwyr a'r swyddogion, ac enyn sel anger- ddol dros lwyddiant y deyrnas. Hyderir y daw holl athrawen: Ysgolion Sul y cylch i Menai Bridge, ac y bydd i bapur y Parch. R. Rowlands, a'r ymddyddan dylynol brofi yn iachawdwriaeth i'r ysgolion y gymydogaeth. W.R.R. m

AT Y PARCH. T. WYNNE JONES,…

CYMANFA GANU UNDEBOL C:YLCHDI:ITHIAU…

BAEDDONIAETH.

BLODEUYN AR FEDD

|ER COF

Y DIWEDDAR MR. D. D. HUMPHREYS,…

YR YSGOL SUL FEL MODDION 0…