Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
GWYDD ELWERN.
GWYDD ELWERN. Nos Fawrth, Ton. 27, cynaliwyd ein Cym- deithas Lenyddol, o dan lywyddiaeth y Parch. J- Felix, pryd y cafwyd dan bapur: Y Diwj-g- L)):ote stanai Jad Protestanaidd, gan Mr. W. J. Phillips; a Marc, gan Mr. J. J. Phillips. Cafwyd papur- au gwir dda ac adeiladol. Siaradwyd gan am- i'r. a phasiwyd diolchgarwch gwresog i'r ddau frawd am eu gwasanaeth.—Ysg. [Y dydd yr oedd ein rhifyn diweddaraf yn cael ei ruddi yn y Wasg y daeth yr uchod i law. —-GOL.] —-GOL.]
PWLLHELI.
PWLLHELI. Y Wesley Guild.—Nos> Wener, Ion. 23, dar- llenwyd papur ar Billy Bray gan Mr. Isaac "Williams, Nefyn, yn yr hwn y cawsom amlin- elliad c Billy fel dyn, Cri.stion, a phreg.ethwr. Bu'n offeryn yn Haw Yspryd yr Arglwydd i droi llawer o uywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. Ar ol gwrandaw ar ddarllen- iad y papur, teimlem gymaint a all un dyn ym- roddedig ac o ddifrif ei wneyd o wasanaeth i'w gyd-tidynion, ac i hyrwyddo teyrnas yr Ar- glwydd Iesu Grist yn y byd. Diolchwyd; yn wresog i Mr. Williams am ei bapur gwerthfawr. Ncs Wener diweddaf treuliasom awr ddydd- orol iawn yn gwrandaw a.r y Parch. J. Lloyd Hughes, Cricieth, yn darllen papur ar Gipsy Smith. Rhoddodd Mr. Hughes hanes ei dy- Iwythj ei ddyddiau boreuol, a'i droedigaeth at yr Arglwydd. Dangosodd yn eglur i ni y gall dyn trwy benderfyniad ac ufudd-dod llawn i gymelliadau yr Yspryd Glan orchfygu anhaws- derau mawrion a dyfod yn fendith i'w oes. • Cydiiabyddwyd gwasanaeth Mr. Hughes gyda diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod.-O. [Drwg genym y bu orfod i ni gadw yr uchod. Byddai yn dda genym pe yr anfonai ein gohebydd caredig yn nghynt—cyn dydd 11 -1. Llun.—GOL.]
CYLCHDAITH LLANFAIRCAEREINION.
CYLCHDAITH LLANFAIRCAEREINION. Salem, Llanerfyl, Pontcadfan.—Cynaliwyd cyfres o gyfarfodydd diwygiadol yn y lleoedd uchod o lonawr 26 hyd Chwefror 1. Y pre- gethwr oedd y Parch. W. LI. Davies, Dinas Mawddwy. Yn anffodus yr oedd y tywydd yn bur anffafriol dd.echreu'r wy times, a pharha- odd felly bron ar ei hyd, ond yr oedd. yma bob parotoa.d posibl wedi ei wneyd er mwyn llwydd- iant hyd yn nod at siarad personol a rhai oedd yn aros yn wrandawyr, ac mewn canlyniad bu Ilwj'ddiant anarferol ar y weinidogaeth. Lla- iuriodd y pregethwr yn galed iawn, a bu ar- ddeliad ar ei \vaith. Arcsodd ugain ar ol yn ystod y cyfarfodydd yn ymofynwyr am lachaw- dv/riaeth, yn eu plith ddynion ieuainc a allant dd'od yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos. Apel- iwn at yr eglwysi, rhieni, a meistriaid, yn enwedig yr eglwysi, i wneyd eu goreu i'w cyn- orthwyo ar ddechreuad en gyrfa grefyddol. Eiddunwn i'r gweinidog ymroddgar bob llwydd- iant yn y dyfodol.—Un cedl" yno. Dolwar Marwolaeth.—Drwg genym gofnodi yr wythnos hon farwolaeth Mrs. Ann Edwards, Ty Mawr, o'r lie uchod. nu farw Chwef. 1, yn 84 ml. oed. Cafodd gystudd maith a phcenus iawn. Yr oedd hi wedi ei chaethiwo i'w chadair er's dros bymtheg' mlynedd. Yn ystod ei chystudd ymddadblygodd ei phrofiad crefyddol mewn nerth a phrydferthwch. Nod- weddid ein chwaer gan amynedd mawr, ac ym- ostyngiad boddlon i ewyllys Duw. Cadwodd ei thy yni agored bob amser i weision y Gor- uchaf. Sonia llawer o'n gweinidogion drwy'r Dalaeth am ei charedigrwydd mawr. Byddi ei lie yn wag iawn a diau gwelir Ty Mawr yn bur chwithig hebddi, canys yma yr oedd wedi cartrefu er's trigain mlynedd. Daeth tyrfa luosog yn nghyd ddydd Mercner i'w chladded- igaeth. Dangosai hyn ei bod yn uchel ei pharch yn ngolwg yr ardalwyr. (1 weinyddwyd- wrth y ty gan y Parchn. T. N. Roberts, ac A. W." Davies, Croesoswallt; ac ar lan y bedd gan. Rector y Plwyf, a'r Parch. R. T. Richards, Meifod. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Dolanog. Nawdd y nef fyddoi dros ei mheib- ion, Mr. Henry Edwards, Croesoswallt; a Mr. John Edwards, Ty Mawr; a'i mherch, Mrs. Jones, a'i hwyres, Miss Edwards, yw dy- muniad eu—Cyfaill.
BIRMINGHAM.
BIRMINGHAM. Coleg Haiidsworth.—Un o'r cyfarfodydd Tiiwyaf poblogaidd yn nglyn a'r Coleg uchod, mi a gredaf, ydyw yr wyl de flynyddol, yr hon a gyelir mewn cysylltiad a'r Genadaeth Dra- irior. Wythnosau yn flaenorol i'r cyfarfod' y mae y myfyrwyr yn myned allan, yn ddau a dau, ar bererindodau i werthu tocynau yn mhlith eu cyfeillion, ac o dy i dly yn y cylchoedd. Ac er nad ydyw gwerthu tocynau un amser yn waith dymunol iawn, eto i gyd y mae y myfyr- wyr wedi bod yn hynod lwyddianus er's blyn- vddau yn y gwaith hwnw, yn enwedig y myfyr- wvr Cymreig. Fel rheol cant dderbyniad 11a- wen a" chroesawgar yn mhlith ein cydgenedl. Y mae rhai eithriadau, fel y clywsom sibnvd; end wrth sylwi ar gynnifer o Gymry yn bresen- ol yn yr \vy1 eleni, y mae yn sicr fod y brodyr Cvmreig svdd yn y Coleg ar hyn o bryd wedi bod wrthi yn ddiwyd, ac wedi gwneyd eu gwaith yn rhaCTorol. Nis gallem lai na sylwi ar y nifer luosog o'r Annibynwyr a'r M«thodistiaid' Cyrnreig oedd vn bresenol. Ond yn ystod yr holl amser y bum yn y Coleg, ddiwrnod: 3a- wyl, ni ddygwyddais gyfarfod cymaint ag un or Wesleyaid Cymreig yn ystafelloedd y te, y Sale of Work,' y 'corridors,' nac ychwarth yn y cyfarfod. 'Nid wyf yn dyw'eyd r nad oedd yno rai; ond os oedd, y mae arnaf ofn mai ychydig oedd eu nifer. 0 bawb y Wesleyaid a ddylasai eaionogi v myfyrwyr yn eu gwaith, ac er eu cyniorthwyo i gyraedd y swm o arian yr oeddynt wedi gosod eu bryd ar ei gael. Deallaf eu bad yn dysgwyl o 400p. i 500p. fel ffrwyth eu hymdrech yn nglyn a'r cyfarfod hwn, trwy danysgrifiadau, y Sale of _Work,' a'r te parti. Nid wyf aim geisio rhoddi adroddiadl manwi r a I o'r gwahanol bethau rhagorol oedd yn ac o am- gylch y Coleg y diwrnod hwnw, sef dydd Mer- cher, lonawr 28. Agonvyd y Sale of Work' gan Mrs. Philip Whitehouse, ac fel arrfer yr oedd gofal v stall' ar rai o'r myfyrwyr, ac yr oeddynt wrth y gwaith gyda deheurwydd rhai wedi hen arfer. Yr oedd. yr ystafell bron, ar hyd yr amser yn orlawn, ac ychyclig oedd yn myned allan heb fod ganddynt rywbcth wedi ei brynu, er llonder i'r gweithwyr, ac er chwyddo y drysorfa. Yr oedd v te wedi ei drefnu mewn chvv ystafell; a bu y rhai hyn yn llawn amrai droion. Er ein bod fel Cymry yn Birmingham, ac fel gwahanol enwadau crefyddol, yn cadw gwyl de flynyddol, a, phob un yn meddwl y goreu o'u gwledd, eto i gyd nid oes neb o honom a feiddia gydmaru trefniadau ac arlwy- iaciau te parti y Coleg. Y mae te y Coleg yn ein euro- i gyd o ddigcn. Ac am ei fod mor rhagorol, a'r myfyrwyr Cymreig yn gofalu am danom gyda thocynau, dyna'r un rheswm fod cynnifer 0. Gymry bob blwycldyn yn bresenol. Diolch yn fawr i Mr. Morris a'r ddau Parry (Parry, Coedpoeth; a Parry, Caergybi, fel y bydd y Cymry yma yn eu hadnabod) am. eu crcesaw a'u gofal o'r Cymry. Tafiasant eu hystafelloedd yn agored i ni; ac at hyny yr oeddynt a'u holl egni yn dangos ac, yn ein cyfarwyddo i bob lie o ddyddordeb. Yr ydym fel Cymry o bob envrad yn cario sjmiadau, uch- el an: y tri brawd ieuanc hyn, y rhai sydd yn anrhydedd i'r ,manau a'u rlicddodd i ni, ac hefyd. yn anrhydedd i'r Cyfundeb Wesleyaidd. Y mae cyfarfodydd diwylliadol y gwahanol enwadau Cymreig y ddinas wedi bod, fel y deallaf, yn hynod lwyddianus y tymor gauaf hwn. Medda yr Annibynwyr, y Methodistiaid yn Suffolk Street, yn Hockley Hill, ac yn Small Heath gyfarfodydd llewyrchus, gyda chyfarfod- ydd eraill nosweithiau yr wythnos. Ac wrth feddwi am yr atdyniad sydd i'n pobl ieuainc i lcoedd eraill, a'r fath atda.liaa yd)-w y cyfar- fodydd hvn iddynt, yr wyf yn credu mai yn hyn yr ydym ni fel Wesleyaid yn y ddinas hon yn colli fwyaf, trwy nad oes genym. ddim yn y cyfeiriad hwn ar nosweithiau yr wythnos i'n pobl ieuainc dd'od iddynt. Y mae ar y goraf c honom eisiau rhywbeth heblaw cyfar- fodydd y Sabboth i'n cadw yn loyw, ac i fod bob amser mewn 'touch' byw a'r gwaith. Dichon. y daw drws agored cyn bo hir, fel y gallom ninau fod ar yr un tir ac enwadau eraill Cymreig y ddinas. Cyfarfod y Brythoniaid.—Cafwyd. cyfarfod' dy- ddorol a phoblogaidd nos Fawrth, Chwef. 3, J yn y Temperance Institute, piyd y cafwyd dar- lith gan Mr. John Humphreys, M.D.E., D.L.S., ar Bre.swylwyr Cyntefig Sir Benfro, gyda lan- tern illustrations.' Deallaf y bydd y Gym- deithas ar Wyl Dewi yn m.abwy.siadu y Ddraig CTcch yn lie y Geninen. Bydd rhai o honom, er hyny, yn bur hir yn gollwng ein gafael o'r (ieninen. Y mae'r elfen Seisnig yn gref yn y (fymdeithas hon. Er hyny nid yw hi erioed wedi yrnostwng i roddi y gag ar y Gymraeg. Y rhai sydd yn rhoddi lleiaf o gefnogaeth i'r Gymraeg yn y trefydd yma yn ami iawn ydynt v rhai parotaf a weled bai ar eraill am beidici gwneyd pob peth yn Gymraeg.' Cyfarfod Cymru Fydcl.—Yn eich adroddiad yr wythnos hon o gyfarfod y Gymdeithas uch- cd gadawyd. allan enw un oedd wedi cymeryd rhan, sef Mr. Griffith Jones, Spargo, yr hwn a ddatganodd Hen Brocer Bach Gloyw fy Nain,' ar y geiriau gwreiddiol. Mae y l'rocer,' testyn y gan, yn awr yn meddiant Mrs. John Davies," Llys Gwalia., merch y diweddar Capt. Griffith Jones, Nefyn, i'r hwn v cyfansoddwyd y gan ar y cyntaf. Gwnaeth Mr. R. O. Morgan yn y cyfarfod crybwylledig sylw neillduol o'r gam.—Pererin. [Y mae llythyr Pererin' mewn llaw er dydd Mawrth (wythnos i ddoe). Yr oecld yn an- mhosibl ei roddi i mewn yn ein diweddaf. Yrr oedd ein gohebydd arferol wedi rhag- flaenu gyda'r rhan a adawsom allan.—GoL.]
NEFYN.
NEFYN. Marwolaeth.—Gyda, gofid yr ydym yn hys- pysu am farwolaeth y chwaer ffyddlon, Mrs. Jane Jones, China Shop. Cymerodd yr am- gylchiad pruddaidd le foreu Mawrth, a hi yn 81 ml. oed. CaÍodd oes faith a bu yn ffyddlon i grefydd, ac i Wesleyaeth, tra yn fyw. Yn wir, gwelsom hi fwy nag unwaith yn d'od i'r capel a.'i phwysau ar ryw gyfaill. Do, daeth yn ei chystudd i Seion. Yr oedd yn. mwynhau y fraint o, gael bod gyda phobl yr Arglwydd yn addoli Duw. Hi a ddyoddefodd lawer am fisoedd, ond heb rwgnach dim yn erbyn ei Ciwaredwr. Hiraethai am gael myn'd adref. Yr oedd ei gobaith yn yr Hwn a roddodd ei Hurn yn ei lie. Gwyliwyd hi yn ei chystudd yn dyner a g.ofalus gan ei phlant, a Mrs. Pamy. Cymerodd' yr angladd le dydd Sadwrn, pryd y daeth tort o bobl i ddangos parch i'n chwaer jmadawedig, a'u cydymdeimlad a'r teulu yn eu galar. Cymerwyd y corff i'r capel, a cbynal- iwyd gwasanaeth byr, o dan lywyddiaeth y Parch. Lewis Owen, yr hwn a ddywedodd yn ei anerchiad fod mam yn Israel wedi syrthio; un oedd yn hyddysg iawn yn ei Beibl. Dar- llenodd ef drwodd 13 o weithiau. Ei hoff ran- au oedd v Salmaui a Job, a dyna oedd 'secret' mawr ei bywyd da. Terfynwyd y gwasanaeth yn y capel trwy weddi gan Mr. Isaac Will- lams. Gwelsom yn yr angladd Mr. a Mrs. Williams, Birkenhead (merch a mab-yn-nghyf- raith) Mrs. Williams, Caernarfon (chwaer) Mr. David Jones (mab), a Mrs. Parry; y Parch. R. W. Jones, I orthdinorwig, a lluaws eraill o berthynasau. Yr Arglwydd a ddydd- ano y rhai sydd yn eu galar. Cyfarfodydd Diwygiadol.—Bu yr eglwys yn ymdrechu gyda Duw am wythnos mewn gwe- ddi; a'r wythnos ddylynol cafwyd cyfres o bre- gethau gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Teimlwyd y noson gyntaf fod y gwas yn llaw ei Feistr. Yr oedd v cynulliadau yn dda bob nos—yn cynyddu o 'hyd. Cafwyd pregefhau grymus. Gwelwyd un yn aros ar ol nos Wen- er, a mawr oedd ein llawenvdd. Credwn fod llawer wedi eu. clwyfo ac yr ydym yn dysgwyl gweled eraill yn fuan yn rhoddi eu hunain I r Arglwydd. O na chawsem dywalltiad helaeth o'r Y'spryd Glan.—P.C.W. [Byddwch mor dda a gwneyd gwahaniaeth rhwng d ac dd yn .eich ysgrifau.—GOL.]
LLYSFAEN. J
LLYSFAEN. J Cyfarfodydd Dechreu y Flwyddyn.—Bu, y [ ddwy eglwys I)reifnN-d(-Iol, yr Arminaidd a'r Galfinaidd, mewn undeb a'u gilydd yn cynal agos i bythefnos o gyfarfodydd gweddioi, a'r drydedd wythnos cawsom bedair 0 bregethau grymus gan y Parchn. M. Roberts (M.C.), T. GWllym Roberts (W.), T. P. Hughes, Dyserth (M.C.), a Philip Price (W.). Terfynwyd yr ymdrech gyda seiat undebol hynod fendithiol; yn wir, cawsom gryn feaur o'r presenoldeb Dwytcl yn ystod y cyfarfodydd hyn, ac os na welwyd dychweliadau, nis gall na buont yn foddion yn llaw yr Yspryd i dyneru y caled- rwydcl a'r anystyriaeth sydd mor nodweddiadol c'n hoes ni, ac hefyd byddant yn. rhwym o fod yn gadarnhad i'r eglwysi. Dirwest.—Nos Fawrth, Ion. 27, yn addoldy y Methodistiaid. Calfinaidd, cynaliwyd cyfarfod dirwestol, o dan nawdd IIndeb Dirwestol Dos- parth Abergele. Gwasanaethwyd yn hynod effeithiol gan y Parchn. Morgan Davies (A.), J. Roberts (B.), Abergele; a T. Gwilymi Ro- berts (W.), Llanddulas. Datganwyd dwy don c Swn y Jubili, yn swynol gan barti o dan arweiniad :\1r. T. Williams, grocer. Caed ad- roddiad rhagorol, Ymson y Meddwyn, gan Mr. Evan Jones, Park Road. Llywyddwyd y cy- farfod gan Mr. H. Lloyd. Penderfynwyd. ar y terfyn ein bod i wneyd cais i adsefydlu Temi- yddiaeth Dela. unwaith eto yn yr ardal. Gwr Dyeithr.—Sabboth olaf yn lonawr breint- iwyd ni fel eglwys a gwasanaeth Mr. W. 0. Jones, Aber. Mwynhawyd el weinidogaeth gy- foethog yn fawr iawn. Y Gymdeithas Lenj-ddol.—Nos Fawrth, 3ydd o Chwefror, cydgyfarfyddodd y Gymdeithas'hon i wrandaw ar Miss Katie Evans yn darllen pa- pur rhagorol ar Chwiorydd ymadawedig yr' Achos Wesleyaidd yn Llysfaen. Yr ydym fel Gymdeithas yn ddyledus iawn i'r chwaer am y llafur mawr yr aeth icldo- i'w drefnu. Dengys y pertbyn iddi gryn fes'ur o, allu. Wrth gwrs, yr oedd yn dibynu am y rhan helaethaf o'r adgofion gan ei ixiham, sef Mrs. Elizabeth Iv. ans, Bodryfedd, hen chwaer ddoniol, a hen fani yn Israel; imedda ar gof cryf annghyffred- in felly. Agarwyd ymddyadan ar y papur gwerthfawr mewn modd doeth. gan Is-lywydd y Crymdeithas, Ylr. H. Evans; a siaradwyd yn mhellach gan y Mri. G. Hughes, R. M. Hughes, J. Williams, E. Roberts, a'n Parchua Lywydd, T (iwilym Roberts. Terfynwyd y cyfarfod rhagorol a bendigedig hwn trwy ganu, a gwe- ddiwyd gan Mr. Roberts. Y cynulliad goreu y tymor; yn wir, yr oedd yr olwg yn galonogol iawn. GcbeithiwJ1 y gellir llwyddo i anrhegu darllenwvr y GWYLIEDYDD a'r papur hwn, gyda'ch caniatad, Mri. (iol. [Bvdd yn dderbyn- iol iawn.—GOL.].—Llwyd o'r I'las.
NODION 0 LANAU'R DDYFRDWY.
NODION 0 LANAU'R DDYFRDWY. Ai y gystadleuaeth yw y feithrinfa creu. i Gerddoriaeth Gymreig' oedd testyn diadl Cym- deithas Gymreig tref Tdangollen, ncs Lun di- weddaf. Cymerwyd y gad air gan Mr. E. R. Parry, Castle Street. Arweiniwyd yn yr ochr gadarnhaol gan Mr. Pencerdd Williams; a'r ochr nacaol gan Mr. Levi Roberts. Caed dadl frwd. A ydyw gwareiddia.d yn tueddu at ychwanegu dedwyddweh dyn ? oedd testyn dadl Cymdeith- as Seion, Llangollen, nos Fercher. Mr. John Jones Davies, cadarnhaol; Mr. Hugh Garner, riacaol. Mvvviihaw_vd y ddadl yn ddirfawr. Canmoliaeth ddigymysg sydd i Gyfarfod Ys- gol cylchdaith Llangollen, yr hwn a gynaliwyd yn Seion y Sul diweddaf. Darllenwyd papur rhagorol gan Mr. J. O. Davies, Rhewl, ar Gyd- bcrthynas y Dysgybl a'r Athraw. Llywydd, Mr. E. R. Parry. Holwr, Mr. E. D. Jones. Daeth cynnrychiolaeth. dda o bob lie. Can- molir y drafodaeth ar A allai Crisit bechu ? Cododd y cwestiwn o, hanes y temtiad gan yr efengylwr Marc. Collodd Llangollen ddau gynieriad ardd-erch- go yr wythnos ddiweddaf yn mhersonau Mr. Henry Rowlands (Harri Myllin), a Mr. Will- iam Jones (Bleddyn). Brodor o Lanfyllin oedd Harri Myllin, a chlywsom ei fod o wehelyth Wesleyaidd. Vstyricl ef yn awdurdod o bwys ar Hynafiaethau. Cymreig. Yn 1873 derbyniodd lythyr oddiwrth y prif-fardd, Tennyson yn diolch iddo am ei gyfieithiad i'r Gymraeg o 'The Charge of the Light Brigade.' Ysgrifenodd la- wer i'r 'Haul,' YV Eurgrawn,' 'Y Cymru,' a'r GWYLIEDYDD. Meddai ddawn hylaw i fardd- oni. Enillodd lawryfau Eisteddfod'ol. Efe a enillodd y wobr o bum punt yn Eisteddfod Welshpool ar Hanes deuddeg o Gymry enwog. I'w ymdrechion ef yn benaf yr ydym i ddiolch am y golcfn goffadwriaethol hardd sydd yn mynwent Llansilin i'r diwedaar fardd anfar- wol, Hugh Morris, o Bont-y-Meibion. Brodor o Feddgelert oedd Bleddyn. Cydna- byddai Proffeswr Rhys, Caergrawnt, mai efe oedd yr awdurdod uwcha.f ar Hynafiant Cym- ru Yr oedd yn fwy o lenor nag o fardd. Ys- tyrir ei lyfr ar Hanes Beddgelert o werth llen- vddol nid bychan. Y mae ei gasgliad o ddiar- hebion Cymreig yn llawn dyddordeb. Teimlir chwithdod mavvr" ar ol dau mor alluog, dwy ddolen bwysig oeddynt yn cydio 'Cymru Sydd wrth '(rymi'u Fu.' Dydd iau aeth dosparth Mr. Edward Edwards, Geraint. i dynu eu, lluniau. Rhifai y dosparth wyth ar hug'ain o ferched—y class' mwyaf yn Y'sgol Sa.bbot.hol Seion. Am bedwar rhoddodd yr "athraw haelionus de campus i'r cwbl yn. y Central Temperance. Parotowyd yr arlwy gan Mrs. Morris a. Aliss K. Foulkes, ac y mae en. wau y ddwy yn gwarantu te diguro. Wedi clirio y byrddau, cyflwynodd Miss M. Foulkes a Mis« Emily M'Oirris anrheg o awrlais hardd, ar ran v dosparth, i. Mr. Edward Edwards. Cydnabyddodd yr athraw garedigrwydd y bon- eddioesau mewn geiriau tyner a serchog. Wyddoch chwi beth, Mri. Gol., y mae yna faint fynoch chwi o arian gan bob! y Capel We si a' yma. Cant gyfle iawn i'w gwano ar y capel newydd toe! Dychwelodd y Parch. Hugh Hughes_ o Lan- idloes vr wythnos hom cyn gorphen ei waith. Drwg genym ddeall nad yw' ei lechyc yn gryf iawn y dyddiau hyn, ond nid yw yr- anhwyldeb y dyoddefa oddiwrtho yn ddmi peryglus. Da genym glywed fod triarddeg wedi eu dychwelyd c dan ei weinidogaeth yn ystod yr ychydig ddyddiau y bu yn Llanidloes. Da gan bawb ar lanau'r Ddvfrdwy ddeall fed y Parch. Edward Humphreys a'i briod yn. gwella. Clywsom fod y Parch. J. Price Roberts heb bregethu, oherwydd gwaeledd, er's dau neu dri o Suliau. Nawdd Naf fo dros y ddau deulu. Da genym weled enw Robert James Williams ar man cylchdaith Llangollen fel pregethwr ar brawf. Mab ydyw i Mr. James Williams, gynt o Helygain. Y mae air hyn o bryd yn YTsgol Sirol Llangollen yn parotoi am Welsh" Matricu- latioin. Llwyddiant iddo.—Croh.
PORTHYIADOCr.
PORTHYIADOCr. Gymdeithas Lenyddol a Duwinyddol Eben- „ ezer.—Ncs Lun, Chwef. 2, o dan lywyddiaeth y Parch. J. R. Ellis, cafwyd papurau rhagorol ar (a) Isaac Jones, gan Miss Gwendoline Jones; (b) Esquimore, gan Miss Jane L. Davies. Lat- wyd ymdriniaeth ragorol ar y naill a'r llall o'r papurau gan amryw o'r aelcdau, a theimlwyci gwasanaeth y chwiorydd yn wir werthfawr.—- Ysg.
, CYLCHDAITH DOLGELLAU, &c.
CYLCHDAITH DOLGELLAU, &c. Cyfarfod Chwarterol Undeb Ysgolion.—Tro Abermaw i gynal jr c3'farfod oedd y chwarter presenol. Fel y gwyddys, y mae Abermaw yn un c leoedd pwysicaf ein Talaeth, ac felly dys- gwylid cyfarfodydd llwyddianus. Ond ni ddaeth Abermaw i fyny y tro hwn a'r safle y mae yn ei ddal. Tybed fod eglwys ac ysgoJ. Abermaw yn myned i lawr ? Tybed fod sel a brwdlrydedd at y rhan yma o waith yr Ar- glwydd yn gwanhau yn yr Abermaw ? (fyfeill- ion Abermaw, deffrowch! Dewiswch rai med- rus l'ch arvvain! Ceir digon o'r cyfryw yn eich mysg. Nid oedd ol llafur ar biant yr Abermaw y tro hwn. Nid oedd dim cl ym- drech i'w weled. Pa le yr aeth y canu. hetyd, tybed ? Dechreuwyd y cyfarfod cyntaf gan Mr. Morgan Price, Bezer, a closparrth o blant-y plant yn adrodd Salm, a Mr. Price yn gweddio. Llywyddid y cyfarfod. gan y cyfaill ieuanc ym- drechgar, Mr. Richard Bennett, Dolgellau. Rhoddodd anerchiad yn dangos sel a ffyddlon- deb at yr Ysgol Sul. Holwyd Safonau I, 11, a'r IV gan :1Jr. Richard Brown, Dolgellau. Holwr newydd, ond un y bydd galw am dano eto. Mr. Barnett a holai Dosparth I. Y mae enwi Mr. Barnett yn ddigon." Am Mr. John James, yr hwn a holai y rhai oedd yn llafurio yn hanes Josua, nid oes eisiau dyweyd dim. Gwyddys am dano trwy y gylchdaith. Wedi ychydig eiriau gan Mr. J'ones-Roberts, Harlech, terfynwyd y cyfarfod prydi-iawn,ol trwy weddi. Dechreuwyd y cyfarfod hwyroi gan Master J. Llo37d Jones, Abermaw, a Mr. John James, Dolgellau y naill yn adrodd Josua i, a'r llall yn gweddio. Llywyddai Mr. Barnett eto. Prif areithydd y cyfarfod oedd Mr. Richard: Brown, Dolgellau. Cafodd adeg hapus iawn. Dangos- ai y pwysigrwydd ar fod yr Ysgol Sul yn cael pob cynorthwy oddiar law aelodau crefyddol—- v pwysi- wyrld () dclewis athrawon cymwys: Ir rhai a gyme.rant drafferth i wneyd eu hunaia yn ddyddorol ac adeiladol i ddeiliaid eu dos- parth. Er cyraedd hyn argymellai y priodoT- deb o sefydlu closbarth athrawon i gyfarfod ar noson neillduol. Argymellai hefyd fod y Maes Llafur yr un i bob dosparth fel y byddo yr ysgol oil yn llafurio yn yr un maes. Diau pe byddai modd carie; allan ychydig o'r awgrym- iadau hyn y gwclsid gwelliant buan ar ein hys- golion. Wedi yr anerchiad rhagorol hon, ar- holodd y Parch. Cadvan Davies Ddosparth JV, Marci. Fel hyn y daeth y cyfarfod. hwyroi i derfyniad. Diau yr enyna y cyfarfod yma fwy o ffyddlondeb yn nghyfeillion caredig Aber- f maw nag a fu erioed. Bu y pwyllgor hefyd yn eistedd rhwng y cyfarfodydd. Teimlid boddhad fed gan yr ysgrifenydd gyfrif i'w roddi o bob ysgcl y tro hwn. Llawenyad oedd d-eall fod rhai o'r ysgolion yn dangos cynydd yn mhresenoldeb yr ysgolorion er y chwarter o'F blaen. Bu Cynadledd Ysgolion Sul y Dalaeth ger bron. Teimlid nad oeddys yn ddigon add- fed yn bresenol i gyflwyno dim penderfyniacl i'r Gynadledd nesaf. Er hyny awgrymwyfl amryw o bethau y credid y buasai yn fanteisiol eu newid, megys cael mwy o wahaniaeth rhwng Dos. II a III. Pasiwyd fod cyfarfod nesaf yr Undeb i fod yn y Dyffryn. Mr. Thomas Owen. Abermaw, i roddi anerchiad a Mr. Peter Williams, B.A., Dolgellau, a Mr. Jones-Ro- berts, Harlech, i roddi adolygiad, ar y Gynad- ledd yn Ngholwyn Bay. Diau y gwna cyfeill- ion caredig y Dyfiryn bob ymarech fel arfer i wneyd y cyfarfod yn llwyddianus.—Ysg.
TABERNACL, EBENEZER.
TABERNACL, EBENEZER. Cynaliodd y Ciymdeithas. Lenyddol ei chvfar- fod o dan lywyddiaeth Mr. Owen R. Jones, Erw Fair. Wedi i Mr. Llewefyn IlugheS ddechreu, cafwyd papur rhagorol gan Mis5 Annie Williams, Deiniolen Board School, aJ* Y AI odd Goreu i Drefnu Cartref y Gweithiwr- Cymerwyd rhan yn mhellach ynddo gan Mri- Isaac Jones, John Lewis, Tdewelyn Hughes, a. r Cadeirydd. Cafwyd. adroddiadau gan. AlisS IS I aggie Ellen Jones, a Mr. John, Jones, Rhiwef1* a chystadleuaeth darllen darn heb ei atalnodi ;• a gwobrwy.wyd dau yn gydradd, sef John Ro- berts, a David J-ervis. Wedi talu diolcligarwcrt i Miss Williams am ei phapur galluog, terfyn- wyd trwy ganu ton ymadawol.—C,(jh.
ABERCYNON.
ABERCYNON. Bu 'Mr. W. O. Jones, Aber, yma yn pregeth« y Sabboth diweddaf. Pregethodd dair gwai^ yn afaelgar iawn, i gynulleidfaoedd lluosow- Cafodd amser da bob tro. Nos T.un, ere a draddododd ei ddarlith h° logaidd ar Ffyliaid a Ffoledd, gyda chynier^- dwvaeth uchel o'r dechreu i'r diwedd. sora dwy eraill o ddaiiithoed'd Mr. Jones, o credwn y gellir d3'weyd am hon, Ti a rag ai'st arnynt oil.' Tra y mae ynddi ddarn chwareus a chwerthingar o angenrheldrw) n 0 eto y mae ynddi ddarnau rhagorol yn llawn addysg fuddiol i bawb. Nid oes diwedd ar> ganmoliaeth i'r ddarlith yn yr ardal hon. A bynag svdd heb glywed y ddarlith. hon, g,aUCa, fod yn sicr fod ganddynt < dreat in store. deiriwyd gan Dr. Morris, Abercynon.—'