Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
GAIR 0 DREFFYNNON.
GAIR 0 DREFFYNNON. Darlith.-O dan nawdd y Wesley Guild, tra- ddododd y Parch. J. Wesley Hughes ddarlith ddyddorol ac addysgiadol ar y testyn, Tros y don i Wlad yr Haul.' Llywyddwyd gan Mr. John Lloyd, Haulfryn. Yr oedd y cynulliad yn un lluosog, a mwynhawyd yn fawr y modd y dysgrifiai y darlithydd hanes ei fordaith a'i ymweliad a'r Canary Islands; a chynorthwy- wyd i wneyd hyny yn fwy boddhaol drwy wa- sanaeth nifer luosog o delarIuniau:, heirdd gyda'r 'limelight apparatus,' o dan gyfarwydel- yd Mr. J. Llewelyn Williams, C.D. Cyflwyn- wyd y diolchiadau arferol i'r darlithydd a'r i cadeirydd, ac hefyd i Mr. Williams' am ei wa- sanaeth.brisia.dwy gyda'r 'lantern.' Yr Eglwysi Rhyelelion.-Bob hwyr yn ystod vr f/ythnos ddiweddaf qrnaliwyel cyfarfoelydel gweddio undebol yn nghapel Heol y Capel i 1 «fyn am dywalltiael o'r Yspryd Crian ar y gwa- hanol eglwysi yn y cylchynoedd, ie, a'r byd yn gyffredinol. Dyna brif angen Cymru. Gan gofio, dyma rai o eiriau olaf y diweddar Deon Howell yn. ei anerchiad blynyddol olaf, Dalier sylw, pe gwyddwn mai hwn yw fy nghenadwri olaf i'm cydwladwyr ar hyd a lied' Cymru, cyn fy ngwysio i'r farn, a goleuni tragwyddolcleb eiso-es yn tori droswyf, dyma hi, sef mai prif angen fy ngwlad a'm cenedl anwyl ar hyn c; bryd yw—Adfywiad Ysprydol trwy dywalltiad •neillduol o'r Yspryd Glan. Nefol Jubil, Gad i'm wel'd y boreu wawr.' -Quilsyn.
NODION 0 LANAU'R DDYFRDWY.
NODION 0 LANAU'R DDYFRDWY. Nos Lun diweddaf, yn nghapel y Bedyddwyr, Llangollen, cynaliwyd cyfarfod canmlwyddol i gcifadwriaethol yr emynyddes awengar, Anne Griffiths o Ddolwar Fechan. Bernid fod dros fU yn bresenol. Llywyddid y cyfarfod gan yr Archdderwydd hybarch, Hwfa Mon. Arweinid v gerddorfa ac oddeutu chwe chant o gantor- IOn gan Mr. Pencerdd1 Williams. Datganwyd emynau Anne Griffiths ar donau cyfaddas. Caf- J wyd hwyl ryfeddol wrth ganu yr hen anthem fendigedig, Bydd rnelus gofio y cyfamod.' iraddododd Llifon anerchiad dlos, yn cynwys sylwadau ar hanes y wraig athrylithgar, yn 3i_ghyda rhaddi amlygrwydd i brif nodweddiori el barddoniaeth. Dymunai Hwfa Mon i'r gynulleidfa sefyll ar eu traed i ddatgan eu parch i'r diweddar Ddeon Howell fel Cymro aiddgar, fel pregethwr deallus, ac fel Cristion tr\-loeyw. Cododd y dorf a chanwyd gydag «neiniad yr hen eiriau adnabyddus, Bydd ri>yrdcl o ryfeddodau.' Treuliodd Dr. Hugh Tones, Cadeirydd y Dal- aeth, yr wythnos 'ddiwedd.af yn Nghorwen. 1'regethocld bob nos a'r Sul diweddaf. Rhodd- odd, fel arfer, bregethau coeth a chynwysfawr, a mwynhawyd ei weinidogaeth yn ddirfawr. Cafodd y Parch, Hugh Hughes gynulleidfa- oedd mawrion i'w wrando yntau yr un wythnos yn Nglyndyfrdwy. Parha y Cenadwr 1 bre- gethu mor gryf ag erioecl. Nos lau diwedclaf, cynaliwyd Cyfarfod Dir- yestoi yn addoldy y Methodistiaid, Penllyii, Llangollen, o dan nawdd Cymdeithas Ddir- westol y Merched. Traddododd Mrs. Ffrwcl- Wen Lewis, yn absenoldeb Ceridwen Peris, araeth danllyd, a. chanwyd yn soniarus gan ^liss Orson. Pasiwyd penderfyniad1 yn y cy- farfod Ein bod yn deisebu yr ynadon i leihau ^ifer tafarndai y dref.' E.tholwyd dirprwyaeth -1 r pwrpas, o holl weinidogion y dref ac am- ]y'»v leygwvr, yn c.ael eu harwain gan yr Arch- "diacon Wynne Jones, i ymddangos yn llys y tfWyddedau ddydd Mawrth. nesaf. Y mae yn ^idifrifol meddwl fod mev/n tref fechan fel hon, fl^b fod ond rhyw bedair mil o bohlogaeth, yn <s<os 1 ddeg ar hugain o dafarndai-ffaith ddyl- <1.1 gael y-styriaeth fwyaf dwys yr eglwysi. Dadi dair-conglog" oedd yn Nghymdeithas 9 YM "ion, Llangollen, nos Fercher diweddaf, sef, ■'wy a ddylai ein cynnrychioli ar Fyrddau a nyngorau y wlad (1) ai y C'yfoethag, (2) y! \.>'nwyrol, (3) y Crefyddol ? Arwei'niwyd v <Jdadl yn ddeheuig ?an Mri. R. A. Jones, Davi'd n;:yies, _ac R. J. Williams. Cynelir yr wythnos hon gyfres o gyfarfodvdd PJegethu undebol yn Rhosllanerchrugog. Coir ^ynulliadau anferth ac odfa.on gwlithog, a rhai _-vchweIedieion. Pregethw}'?, v Parchn. John dliams (M.C.), Lerpwl 0. L. Roberts "(O.) l.erpwl; O. Madoc Roberts, J. Price Roberts, I R. Peris Williams (A.), Gwrecsam; a Thomas Jones (M.C.),Rhostyllen. Mr. W. S. Owen, Caergybi, yw arweinydd etholedig cymanfa ganu cylchdeithiau Llan- gollen a Chefn Mawr. Mai 18 yw y dydd pen- odedig. Ofnwn mai lied araf yw y cantorion mewn parotoi ar ei chyfer. Ymddadebrwn Y mae cleiyd y tynu lluniau wedi dechreu ail yinosod ar aelodau Ysgol Sul Seion, Llan- gollen. Y mae dosparthiadau Mr. E. R. Parry a Mr. H. Garner eisoes wedi eu cymeryd, a'r wythnos hon eisteddodd dc-sparthiadau Mri. E. D. Jones a C. H. Humphreys. Gwnant groups teilwng o gael eu crcgi—ar barwydydd unrhyw drawing room. Cyferfydd y dd.au ddo'sparth nos Fercher nesaf i gael swper digymar. Y Parch. Ed. Owen, Didsbury, sydd wedi ei ddewis fel olynydd i'r Parch. W. G. Williams (;erv iGerygydruidionynMedinesa.i. Chwefror 27 y gcsodirceryg sylfaen capel Wesleyaidd Seisnig Llangollen. Dysgwylir gwasanaeth Arglwycld Faer Manceinion, y Parchn. T. J. Choate (Cadeirydd Talaeth Ler- pwl), ac S. F. Collier, Manceinion. Costia y capel hardcl 3,650p. Clywsami fod Trysorfa yr Ugeinfed Ganrif wedi addaw 500p. at y draul. Da genym ddeall fod Mri. Davies & Sons, Maesyrychain, o fewn dim a sicrhau y contract. Ceisia y Wesley aid Cymreig ddyfalu faint ty- bed a g.ant hwy gan.Bwyllgor Cymreig y Dry- sorfa Fawr at eu capel newvdd. Gan y Wes- leyaid Cymreig y mae y site' oreu yn y dref, ac 03 yw y Seison yn Llangollen yn gallu gwario swm mor anferth mewn cornel gyd- marol enciliedig, tyheel nad oil y Cymry VVes- leyaidd arfer ffvdd—ond: nid heb weithredoedd. Da genym dcleall fod cyfrif Watchnight Llan- gollen wedi ei ddarllen yr wythnos ddiweddaf, ac fod y chwiorydd wedi 8p. tuag at drysorfa y capel newydd. Gweithiodel yr 'young married ladies' yn rhagorol. Yn Eis- teddfod y Groglith. bellach yw testyn ein hym- ddyddan beunyddiol. Pe carai rhywrai gael rhestr o'r .t-eslynau, ni raid iddynt ond anfon at Air. O. V. Jones, Greenfield Terrace, neu Mr. E. D. Jones, Medical Hall, anfonir hwynt ar unwaith. Dysgwyliwn. am Eisteddfod ddi- hafal. Dylaswn fod wedi nodi fod iechyd y Parch. O. Madoc Roberts yn ymgadarnhau. Bydd eich darllenwyr oil yn llawenhau am hyny.- G oh.
GWYDDELWERN.
GWYDDELWERN. N cs Fawrth, Ion. 20, cynaliwyd ein Cym- deithas mewn modd o gyfarfod! amrywiaethol, o dan ofal Miss Bessie Jones, a Mr. ,R. E. Hughes. Llywyddwyd y cyfarfod gan ein Lly- wydd. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn :—Ad- roddwyd gan Master J. Wesley Felix yn gam- pus. Darllenwyd papurau gan Miss Bessie; Jones, ar Susannah Wesley a chan Mr. R. E. Hughes, ar y diweddar Barch. Hugh Price Hughes. Yr oedd y ddau bapur yn gryno a chynwysfawr. Datganodd parti 01 dan arwein- iad Mr. W. Owen Hughes yn swynol. Caf- wyd deuawd gan Misses Winifred a Katie Da- vies. Chwareuwyd amrai donau ar y zither harp' gan Miss Hannah R. Phillips. Cynyg- nvyd ddiolchgarwch i bawh a gymerodd ran yn y cyfarfod gan Mr. J. Phillips, ac eiliwyd gan ein his-lywydd, Mr. John Jones.—Aelod.
LLANBEDR.
LLANBEDR. Cyfarfod Dirwestol.—Cynaliwyd cyfarfod o'r natur uchod yn Soar (A.), y noson o'r blaen, mewn cysyiltiad ag Undeb Dirwestal Llanbedr a'r cylch. Y mae'r undeb hwn wedi ei ffurfio cr's blynyddau, ac eisoes wedi cyflawni gwaith da trwy gynal cyfarfodydd, cyhoeddus, &c., er iledaenu egwycldoricn dirwestol yn y rhanbarth ¡ A ppao poj.rBj^D A ppirppB^ .PBlM. 1,0 uoq Parch. J. Evans (A.), Llanybyther, yn. absenol- deb y Parch. Rhys Morgan (M.C.), Llanddewi- brefi. Anerchwyd y cyfarfod yn y modd a ganlyn Yr arferiad neweidiol o roddi diod- ydd meddwol mewn cynauafau ac arwerthiad- au cyhoeddus, gan y l'arch. T. Eli Evans (A), Cellau; Mesur Trwyddedol newydd y Llywod- raeth, gan y Parch. W. T. Ellis (W.), Llan- bedr; a Dirwest—yn gyffredinol, gan y Parch. J. Thomas (B.), Caerfyrddin. Yr oedd cynull- etclfa luosog wedi d'od yn nghyd, a th.rad"d!od- wyd anerchiadau grymus. Pasiwyd penderfyn- iad unfrydol ein bod yn apelio at yr awdurdod- au i weinyddu y ddeddf newydd yn y gymydog- aeth, ac ein bed yn ymrwymo i gynorthwyo yr heddgeidwaid yn y cyfeiriad hwn. Wedi cyf- Iwyno y diolchiadau arferol i'r cadeirydd a'r areithwy-r, terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Roderick (M.C.), ysgrifenydd yr Undeb. I Wesley Guild.—Y mae Cymdeithas y bob! ieuainc. wedi ei sefydlu yma er dech.reu y tyro- or, ac yn cyfarfod bob nos Fawrth, o dan Iv- wyddiaeth y Parch. W. T. Ellis. Swyddogion eraill y (iuild ydynt Is-lywydd, Mr. B. Jen- bns; ysgrifenydd, Mr. Emirys Morris; try- sorydd, Mr. E. Davies-jones. Darllenwyd pa- purau rhagorol ar y testynau a. ganlyn ;-Tom Ellis, gan Mr. E. Morris; Joseph, gan Mr. S. Jenkins Amcan i Fywyd, gan Mr. T. Davies Jones; Cymeriad, gan Mrs. W. T. Ellis; Iesu Grist fel Pregethwr, gan Miss A. Jenkins; Sara, gwraig Abraham, gan Miss Davies, For- est Hall. Cafwyd rhyddyrnddyddan dyddorol ac adeiladol yn nglyn a phob un o'r papurau. Da genym allu dvweydi fod y bobl ieuainc yn ffyddlon i'r cYfarfcdydd, ac y mae'n ddiameu genym y deillia budcl. mawr oddiwrthynt. Cyfarfod Adloniadol.-—Y mae y Gobeithlu yn cyfarfod bob nos Fercher, o dan ofal MB. W. T. Ellis. Nos Fercher, yr 21ain cyf., cyn- aliwyd cyfarfod llwyddianus iawn o'r natur uchod ganddynt. Cadeiriwyd ar yr achlysur gan Mr. D. N. Davies, Commerce House, a lhyflawnodd ei waith yn effeithiol, ac estvnodd rodd sylweddol tuag at y drvsorfa. Cyfeiliwyd yn fedrus iawn gan Mrs. D. Nun Davies. Datganwyd gwahanol gineuo,n gan gor y Band of Hope, a chan Mr. D. Williams, Misses A. Thomas, A. Jones, G. Jenkins, E. M. Roberts, Linda, Emily, Ethel, a Beatrice Jones. Hefyd. cafwyd adroddiadau rhagorol gan y cyfeillion canlynol, Mri. Hugh Jones a A. Lloyd Jones; y I Mrs. Ellis, Miss M. A. Jones, B. Jenkins, Lin- da, Emily, ac Ethel Jones. Darnau neillduol ar y rhaglen oecldynt: 'The Japanese Fan Drill' a 'Three Maids of Lee' ('il) full charac- ter '), gan ferched ieuainc y Gobeithlu darnau ¡ cletholedig ar y Gramaphone, gan Mr. T. Jen- kins ac unawd ar y cornet, gan Mr. E. Dav- ies-jones. Cafwyd cyfarfod llwyddianus, a phrawf o hyny yw nid yn unig ein bod wedi derbyn swm sylweddol wrth y d'rws, ond y dy muni ad cryf sydd weai ei ddatgan am gyfar- fod o'r un nodwedd yn fuan teo.—Ysg.
MEIFOD.j
MEIFOD. Marwolaelh Mr. Edward Merman.—Gyda go- ftd dwys yr ydym yn cofnodi yr uchod. Hun- odd ein hanwyl gyfaill yn yr Iesu heddyw bore, Ion. 23. Cafodd gystudd maith, ond bu farw yn ddedwvdd. Y mae ein hardal mewn galar mawr ar ei ol. Ceir ychwaneg am dano yn y Cr\VVI.I.EJ)YDD nesaf.—Taliesin.
CYLCHDAITH ABERGELE. i
CYLCHDAITH ABERGELE. Cynaliwyd cyfarfod Undeb Ysgolion y gylch- daith yn Abergele, o dan lywyddiaeth Mr. H. Evans, Llysfaen, Llywydd yr Undeb. Dech- reuwyd cyfarfod y boreu yn y dt-efn arferol gan Mr. John Davies, Abergele. Cafwyd ad- roddiadau o Job xiv, gan Mr. J. Pownall; lhan Salm cxix, gan Mr. Bradley Wynne; loan xiv, gan Mr. Ellis Hughes; Mr. J. R. Ellis yn gwrando penned o'r Holwyddorydd, ar Esgyniad Crist, gan Miss Ellis; Mr. D. C'arty Hughes yn holi; adroddiad o Rhuf. xii, gan Edith Wynne; Salm c, gan J. Owen. a Salm xix, gan Moses P. Roberts. Diwedd- wyd gan Mr. H. Williams. Dechreuwyd cy- farfed y prydnawn. gan Mr. J. Jones. Cafwyd adrcddiad o Salm vii gan Keturah Jones. FIol- vvyd pennod o'r Allwedd gan Mr, E. Ellis, ac atebwyd gan Mri. R. Roberts a W. Davies. Adroddwyd rhan o loan iii, gan E. Jones y Llywydd yn ei gwrandaw. Holwyd y plant o'r Hyfiorcldydd gan Mr. B. H. Jones. Canodd y plant o dan arweiniad Mr. Hugh Davies. Hol- wyd o'r Holwydelorydd Hanesyddol: Miss Kate Williams yn ateb yn dda iawn. Holwyd: Maes Llafur Dos. II a III gan Mr. J. R. Ellis. Diweddwyd gan Mr. Edward Ellis. Dechreu- wyd cyfarfod yr hwyr gan Mr. J. Hughes. Cafwyd adroddiad o Matthew xviii gan Mr. W. O. Jones. Holwyd Dos. I, yn y Maes Lla- fur, gan Mr. J. R. Ellis. Anerchwyd y cyfar- fod gan Mri." W. H. Jones, Salem; Henry Williams, Moriah a Th. J. Matthews, Dawn. Diweddwyd gan Mr. Evan Williams, Salem. Yn nghyfarfod y cynnrychiolwyr etholwyd Mri. Hugh Evans, Llysfaen a. Henry Williams, Moriah, yn gynnrychiolwyr i'r Gynadledd Ys- golion Sabbothol yn Nghclwyn Bay.—Y'sg.
MAENTWROG.
MAENTWROG. Rhag ofn i ddarllenwyr y (TWVLIEDYDD feddwl nad oes unrhyw symudiad yn cymeryd lie yn ein pentref tawei a phrydferth, rhoddaf ychydig c'n ha.nes yn treulio yr wythnosau cyntaf o'r fiwyddyn. Treuliwyd yr wythnos gyntaf drwy gynal cyfarfodydd gweddio. undeb- ol. Nos lau, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, cynaliwyd cyfeillach undiebol: mater, G-werth a manteision ordinh.adau'r cys- egr. Cafwyd trafodaeth fywiog a buddiol. Yr ail wythnos cafwyd cyfres o bregethau undebol. Y pregethwyr oeddynt y Parchn. W. Williams (A.), Hugh Ellis (M.C.), Mri. Wmo. Roberts T I (W.), J. R. Jones (Gerallt-A.), John Ellis (A.), ac Evan Roberts (W.). Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, ac arddeliad amlwg ar y weini- dogaeth.—Twrog.
CAERGYBI.
CAERGYBI. Y Gymdeithas Lenyddol.—Cafwyd cyfarfod, hynod o ddyddorol yr wythnos ddiweddaf yn Bethel. Darllenodd y Cadeirydd,, y Parch. R. Rowlands, bapur maith a chynwysfawr, sef Aclolygiad ar araeth Dr. Cynddylan Jones ar Dduwinyddiaeth ein Cyfundeb.' Ymdriniodd Mr. Rowlands yn feistrclgar a'r mater, er budd ac adeiladaeth y rhai oedd yn ei wrandaw. Yr oedd teimlad cryf yn mhlith y brodyr i gael argraffl1 y papur, ond cawsom ar ddeall fod y Parch. R. Llcyd Jones yn parotoi erthygl ar yr un mater i gael ei argra.ffu yn yr Eur. grawn.' Yr oedd yn ofidus genym nad oedd ond ychydig yn bresenol i wrandaw ar bapur mor gynwysfawr.—J.L.
MENAI BRIDGE.
MENAI BRIDGE. Marwolaeth Mr. Richard Jones.—Y mae'r eglwys Wesleyaidd yn y lie uchod wedi colli aelod ffyddion trwy farwolaeth Mr. Richard Jones, yr hyn a, gymerodd le yn Mona House, boreu Mercher diweddaf, ac efe yn 39 mlwydd oed. Cafodd-ein cyfaill gystudd lied faith a phoenus, vr hwn a ddyoddefodd yn wrol ac yn hollol dawel. Er yn ieuanc bu yn hynod yimtyngar gyda'r aches. Cymerai ddyddordeb mawr yn nghaniadaeth y cysiegr, a chyn ei ym- adawiad i Lundain, tua pymtheg mlynedd yn ol, efe a fyddai yn chwareu yr offeryn. yn Mhen Nebo. Bu yn dra ffyddion hefyd gyda'r Ysgol Sul, ac un o'r gweithredoedd olaf a wnaeth oedd casglu swm lied fawr tuag at dalu am offeryn i'r addoldy newydd. Chwith iawri yw genym feddwl na chawn ei gyfarfod ar y ddaear eto. Yr oedd yn gyfaill cywir, ac yn rhyfeddol o ddiabsen am bawb. Hebryngwyd ei weddill- ion marwol i fynwent Llandysilio prydnawn Sadwrn, pryd v daeth cynulliad lluosog iawn yn nghyd i dalu'r gymwynas olaf. Gwasan- aeth wyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parchn. R. Tudno Davies, W. R. Roberts, Llangefni, a David Morris, Beaumaris. Cy- sured yr Arglwvdd y teulu yn eu trallod.- Cyfaill.
I ILLWYNGWRTL.
LLWYNGWRTL. Marwolaeth Mr. William Jones.—Dydd Mawrth, Ion. 20, hunodd yr hen flaenor anwyl ac adnabyddus uchod yn dawel yn yr Iesu, ac efe wedi cyraedd yr oedran teg 0' dair a phed- war ugain mlwydd oecl. Nid oedd ein hen dad ai yn gryf er's rhai misbedd, ac yn ystod yr wyth- nosau diweddaf clafychodd a gwanhaodd yn fawr, ac er pob gofal a meelr. daeth y diwedd, a mawr yw y galar sydd ar ei ol, yn. y teulu, yn yr eglwys, ac yn y wlad. Fel 3^ gwyr llaw- er o'ch darllenwyr, un o rai rhagorol y ddaear oedd William Jones, a chwith gan lawer gweinidog trwy'r Dalaeth fydd meddwl am Dy'r Capel yn Llwyngwril heb ei gwmni dydd- an a duwiol. ef. Dros; hirfaith flynyddau bu ef yn fiaenor nid yn unig mewn enw, ond mewn yspryd ac mewn gwirionedd yn Llwyngwril, a phiiodol iawn y sylwodd y Parch. Robert Jones (D) fod yr olwg lewyrchus a dymunol sydd ar yr aches yn Llwyngwril i'w briodoli i raddau tra helaeth, o dan fendith yr Arglwydd, i'w ymrcckliad a'i ddylanwad ef. Yn ei farwolaeth ef syrchiodd tywysog yn Israel, a gadewir bwlch ar ei ol nas gall neb onu yr Hwn a'i gwnaeth ei lemvi. Dydd Gwener, y 23ain, daeth. tyrfa barchus a lluosog yn nghyd i hebrwng ei weddillio-n cy- segredig i'r man lie y gorphwys y rhai lludded- ig. Cynaliwyd gwasanaeth am un o'r glcch yn y cape'l, a gorlenwyd ef gan alarwyr ac ed- mygwyr o bell ac agos. Llywyddwyd yn ddoeth gan y Parch. Peter1 Jones, arolygwr y gylchdaith, Towyn. Wedi i'r Parch. D. Tec- wyn Evans, Aberdyfi, ddarllen a. gweddio, ac wedi ychydig eiriau pwrpasol gall yr Arolygwr, galwyd ar y Parch. Robert Jones (D), Towyn, i anerch. Mtewn teimlad dwys, talai Mr. Jones deyrnged uchel iawn o barch i'r ymadawedig, a hawdd oedd gweled fed ei eiriau yn d'od yn syth o'i galon. Pwysieisiai Mr. Jones ar y cyfuniad annghyffredin o nerth a phrydferthwch oedd yn nghymeriad yr hen sant. Yr oedd ynddo ef ailu i ddenu pobl ieuainc i weithio gyda'r achos, yr oedd 01 gwmpas y swyn sydd yn mhlith y pethau nad adnabu'r byd. Ben- dith annrhaethol, ebai Mr. Jones, i lawer eg- hvys fyddai i'w swyddogion feddu deuparth o'r gallu atdyniadol oedd yn elfen mor amlwg ac mor brydferth yn yr hen flaenor ffyddion. hwn. Tra yr oedd William Jones yn Wesleyad selog a gcleuedig, yr oedd hefyd ýh eang iawn ei yspryd, ac yn caru. llwyddiant goreu pob llwyth yn Israel ac yn mwynhau gwrando'r efengyl o bob pulpud efengylaidd. Darllenai lawer ar lenyddiaeth yr enwad, a thu allan i hyny, nes yr oedd yn wr deallus, ac, o" Isafle ef, yn ddiwylliedig. Crefydd Crist oedd ei fywyd, hi oedd ei hyfrydwch penaf bob amser. Iddi hi y bu efe byw, ac ynddi hi y bu farw, ac o hyn allan gwyn ei fyd yn dragvwydd. Wedi anerchiad cyfoethog ac effeithiol y Parch. Mr. Jones, siaradodd hen gyfaill arall i'r ymadawedig, yn dra phwrpasol, y Parch. J. C?.dva.n Davies, Abermaw. Yr oedd yn dda ganddo ei fod yn abl 1 fod yn bresenol i dalu parch i goffadwriaeth y sant William Jones. Daeth i'w adnabod gyntaf ar yr achlysur o gladciedigaeth perthynas i'w ddiweddar g3rfaill dros ugain mlynedd yn ol. Nfr' oedd wedi hyny wedi cael hyfrydwch mawr o gael ei gwmni lawer awr felus. Yr oedd William. Jones vn 'fab tangnefedd,' yn gymeriad nodedig o, bryd- ferth. Pe buasai hTW i fyn'd; vn 150 mewn oedran nid elai yn hen. Hawdd v gallai gredu iddo farw yn orfoleddus. Diolch iti, 0 angan, am fod mor dyner o: hono. Yr oedd yntau fel y genedl gynt yn gwe'l'di yr Iorddcnen yn afon fawr yn y pellder, ond wedi d'od, yn agos a dim ond gwlychu eu gwadnau, y mae yr afon yn cilio felly y bu gyctag yntau. Ar y glanau gallai fynegu, nid yw many yn ddim wedi'r cwbl—peth bach 3^dyw. Cafodd geiriau Mr. Davies argraff d'dwys iawn ar y dorf fawr. Yna cafwyd gair gan Mr. William Owen, pregethwr, Abermaw. Dywedodd Mr. Owen eiriau tyner ac effeithiol yn ystod ei anerchiad, ac argymellai ieuenctyd y cynulliad i ddylyn Crist fel y dylynodd ei hen gyfaill Ef. Un o blant y Diwygiad oedd William Jones, a phrof- iad goreu'r Diwygiad yn brofiad iddo ef, ac yr oedd tine y Diwygiad, ebai Mr. Owen, yn arcs yn ei brofiad hyd y diwedd. Nid oedd ganddo ameuaeth nad oedd William Jones yn wr Duw mewn gwirionedd. Yna siaradodd y Parch. E. V. Humphreys (M.C.) yn dra thoddedig. Dywedai iddo wel'd yr hen flaenor wythnos cyn ei farw, ac iddo sylwi wrtho mor werthfawr erbyn hyny oedd cofio iddo wne3rd ei oreu gyda'r gwaith goreu ar hyd ei oes. 'Do, diolch am hyny,' meddai }rntau'n ol, 'gwneis fy ngoreu, ond nid ar ddim a wnes i yr wyf yn pwyso heddyw, ond ar Iesu Grist yn unig Terfynwyd cyfarfod a hir gofir yn Llwyngwr- il gan y Parch. Gwilym Thomas (A.), Arthog. Darllenwyd wrth y bedd gan y Parch. Peter Jcnes, a gweddiodd1 Mr. E. L. Rowlands (Dv- ni, Aberovfi, yn deimladwy iawn. Yr oedd yr angladd yn un tra luosog. Yn mhlith eraill gwelsom yn bresenol Mr. W. Williams (North- yn), Corwen; Mr. Robert Griffith (Alaw Er- ddyn), Abermaw Mr. Wm. Lewis, pregethwr, Machynlleth, a nifer lucsog o swyddogion a blaenoriaid y gylchdaith. Gadawodd ein di- weddar dad dair o ferched i alaru ar ei ol, sef Mrs. Jones, Thackeray Street, Lerpwl (hi a'i phriod, Mr. John Jones, yn mhlith ffyddloniaid Mynydd Seion) Mrs. Owen Pugh, Ty'r Capel, Llwyngwril, hithau a'i phriod yn mhcb modd yn 'deilwng o'r hen sant hoff sydd wedi rhag- flaenu a ^Irs. Davies, Llw37,ngwril; a thri o feioion rhagorol sydd yn America. Una pawb o gyunabod eu, tad gyda'r tair chwaer a'r meib- ion i gydymdeimlo'n ddwfn a dwys a hwynt yn y dyfroedd dyfnion y maent ynddynt. Mor hyfryd yw meddwl fod }T un gerid ac a berch- HI mor fawr yn wynfydedig arno heddyw. Y boreu Sul cyn ei farw yr oedd ysgrifenydd h3Tn o eiriau wrth erchwvn ei wety yn gofyn iddo a oedd ganddo rywbeth hcffai ddyweyd. A chyda rhyw dawelwch rhyfedd, ac mewn tang- nefedd heddychol, meddai yntau, Ni ddarfum j ddim meddwl fod marw'n beth mor fach!' Siaradai yn mhellach fel pe eisoes wedi myn'd hwnt i'r lien, a dywedai mai yr un pethau oedd ganddynt yno ag oedd genym ni yn yr eglwys, ond eu bQd wedi myn'd yn mhellach. yn mlaen yno. Gwyn ei fyd! Yr oedd ei enaid wedi myn'd i'r nefoedd cyn i'r corff farw. Ac iddo ef nid oedd marw yn farwolaeth, ond yn fyw- yd a goleuni a llawenv-dd tragwyddol. Coded yr Arglwydd lawer eto yn N ghyrnru tebyg i William Jones o Lwyngwril.—-D.T.E. Fel hyn y canodd Mr. E. L. Rowlands (Dyfi) -ir ei ol Yr addfwyn William Jones, 0 gwyn dy fvd Wyt heddyw'n ddedwydd yn y Ganaan glyd I Nebo ti a ddringaist, A'r hyfryd wlad a welaist, A hon ti lwyr feddienaist, A dedwydd mwy, heb lesgedd byth na phoen, Ac ieuanc yn dragvwydd gyda'r Oen. (I'w barhau ar t.d. 6.)
ABERFFRAW.
yr efengyl i'w dy ac hid oes oclid i weinidog na phregethwr cynorthwycl a fu yn Aberffraw na wvddent am garedigrwydd Mr. Williams a'i deulu hoff. Do, gwnaeth lawer, llawer dros achos Iesu Grist, a hyny oddiar gariad at Grist. Y nos lau olaf iddo ar y ddaear dywedodd wrthyf, 'Yr wyf yn ffrindiayrwinol* hefo Iesu Grist.' Y cyfeillgarwch yna ydvw yr esboniad am ei weithgarwch diflino gyda'i achos. Oher- vydd bod ei fywyd y cyfryw, yr oeddym yn gallu proffwydo pa fath a. fyddai ei farwolaeth. < Canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd.' A thangaefeddus ydc.edd. Gellid darllen tang- nefedd ar ei wedd yn ei oriau olaf. Cafodd olwg ar y lan dawel d'rav^ pan yn yr afon. Ei eiriau diweddaf oeddynt, Yr ochr draw.' Canodd. lawer mewn hwyl: Bryniau Canaan Ddont i'r golwg yn y man.' Daethant i'r golwg; a cha.'dd, er yn fioesg, ddywedyd ei fod' yn eu gweled. Cymerodd yr angladd le ddydd Marcher, yr 2lain. Gweinyddwyd "wrth y ty gan y Parchn. R Rowlands, ac R. Garrett Roberts. Y prif alarwyr ydynt Mrs. Williams, Mri. J. R. Will- iams, Trefri; ac E. D. Williams, T'yddyn Hwrdd (meibion) Mrs. Jones, priod y Parch. David Jones, Llandudno Mrs. Jones, priod Air. T. Jones, manager N. & S. Wales Bank, Llan Ffestiniog a Miss Williams, Tyddyn Hwrdd (msrched) Mrs. Edwards, Penrhyn- halen (chwaer), a Mr. Williams, Treaserth (brawd). Dyddaned yr Arg-lwycid y teulu tra- Hodedig yn eu profedigaeth lem. Traddodir pregelh angiaddol gan. y Parch.. R. Garrett Roberts nos Fawrth, y 27ain cyf.—R.G.R. p. 'Gerwinol,' gair a ddefnyddid gan yr hen bobl mewn rhai manau yn Men. i olygu nid ilymder, eithr fel ansoddair yn. yr eithafradd ffrindia neillduol iawn, annghyffredin felly.]