Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TRIOEDD

News
Cite
Share

TRIOEDD ARGLWYDD ROSEBERY. Nododd Arglwydd Rosebery yn M'hlymouth, nawn Gwener, dri pheth yn hanes y Weinydd- iaeth bresenol oedd ar ffordd iddo ymddiried yiiddi. Y mae y pethau hyny yn werth i'n darllenwyr eu gwybodi a meddwl yn bur ddif- rifol uwch eu penau. Dyma mewn sylwedd oedd y trioedd Diffyg yn yr ymchwiliadl i achos ymgyrch Dr. Jameson yn y Transvaal, a adawodd argraff gyffredinol yn Ewrop fod ganddi ly-wbeth i'w gelu, yr hyn a barodd ddyr- nod nid yn unig ar .gyfeillgarwch y teyrnas1- oedd tuag atom, ond hefyd ar ein hanrhydedd cenedlaethol. Yn ail, ei bod gyda chalon ys- gafn wedi rhuthro i ryfel heb ragwelediad na pharotoad, yr hyn a ddygodd arnom, ddaros- lyngiad a choiled. Y trydydd peth oedd iddi yn 1900 apelio at y wlad ar yr hyn oedd yn hanfodol yn dwyll-honiad—math o sharp practice, nis gallasai ei alw yn ddirn, arall, yr hyn, yn hwyr neu, yn hwyrach, a wrthneidia o arigenrheidrwydd ar ei phen hi ei hun. Pan y gofynir i Arglwydd Rosebery roddi yrnddiried yn y Weinyddiaeth bresenol, rhaid iddo, ebai efe, edrych yn ol l'r mynedol. Y mae y tri- oedd hyn yn bethau i'w cadw mewn cof, ac yr ydym yn ddiolchgar i Arglwydd Rosebery hiii ei help i hyny gael ei wneuthur. Wedi i ui ddarllen ei araeth nos Wener, y teimlad cyntaf a'n meddianodd. oedd gresyndod am na buasai ei Arglwyddiaeth wedi siarad pethau fel hyn cyn yn bres,enol. Ar y llaw arall, y mae yn dda genym idd'o wneyd pryd y gwnaeth efe hyny. Beth bynag a fu y golled am na siar- adodd efe yn nghynt, yr ydym yn gobeithio y bydd i'w siarad. presenol fod yn help i'r wlad atal ei hymddiried oddiwrth y Llywodraeth an- fedrus, wastraffus, a thwyllodrus bresenol. Heb ymaros gyda'r ddau flaenaf o'r trioedd a nodwyd gan Arglwydd Roscoery, nis' gallwn aingen na meddwl yn ddifrifol uwch ben can- lyi-iiadaui poenus a pheryglus yr olaf 0 honynt -y sharp practice' trwy yr hwn y sicrhaodd y Llywodraeth ei mwyafrif a'i swydd yn 1900. Wedi iddi sicrhau ei mhwyafrif under false prciences—trwy un o*r ystrywiau mwyaf dich- ell-ddrwg a gwaradwyddus a arferwyd erioed, hi a'i defnyddiodd i wneyd deddf annghyfiawn, hyny trwy foddau mor annghyfiawn fel y mae! yn gwestiwn a allasai yr un o'r ddau Siarl ddefnyddio eu gwaeth heb betruso cryn lawer. Dynoethai Arglwydd Rosebery rai o'r modd- ati hyn, yn enwedig y rhai'tua diwedd y chwar- ell, yn bwyllog, ond gydag ymadroddion rhy- {edùol o gryfion. Dywedai, ei Arglwyddiaeth: Yr wyf yn meddwl na chafodd arweddau diweddaf y Mesur Addysg ond rhy brin y sylw a ddylasai ei gael yn y wlad. Yr cedd mor irysiog, mor aneglur, mor gyf- rin yn ei ddiwedd, fel yr wyf yn deall, mewn cyfarfod cyfrin ganol y nos, pan yr oedd haner dwsin o Arglwyddi yn ym- drechu yn ofer i wybod beth a elai yn mlaen rhwng Due Devonshire a'r ysgrif- enydd profiadol wr,th y bwrdd fel na chafodd yr Act wrth ei phasio yn derfynol y sylw a ddylesid ei roddi iddi. -Dyna bortread Arglwydd Rosebery o'r modd y pasiwyd y D deddf a elwir Deddf Addysg— Deddf i orthrymu Kglwysi Khyddion Lloegr a t'hymru, y rhai a gynwysant twy na haner eu rVrnunwyr Protestanaidd1, Deddf i godi arian a'li defnyddio heb lais y trethdalwyr; deddf i selio bargen anonest rhwng Eglwys Loegr a'r Wladwriaeth ar gost y cyhoedd, a hyn oil yn nechreu yr XX ganrif! Yr ydych yn cofio (ebai Arglwydd Rose- bery yr ystyrid y Mesur Addysg ar ei ddyg- iad yn mlaen yn annyladwy ffafriol i Eglwyg Loegr. Mai yr elai yn mlaen n.i leihaodd y ffafraeth hono. Tyfai budd- ianau Eglwys Loegr gyda'r Mesur yn feu- nyddiol. Caniateid gosod tai yr athrawon am v rhent y gellid ei gyraedd. Caniateid iddi gyfran o'r fee lie v byddai un.. Can- iatawyd iddi gyfranogiad o'r gwaddoliadau, ac yn y diwedd pan ddaeth y Mesur i, Dy yr Arglwyddi yr oedd y fargen a, wnaed rhwng yr Eglwys' a'r YVladwriaeth, yr hon yn y dechreuad a gyfrifid yn un dda iawn i'r Eglwys, wedi mwyhau llawer i fantais v Sefydliad yn nghwrs ei mynediad trwy Dy y Cyffrediii. Ac wedi. ell. ddyfodiad i Dy vr Arglwyddi meddylia,?oin .fod y cwrs Wnw wedi dyfod i'r "terfyn,_ ac yn fwy felly am nad yw yn bosibl i Dy yr Ar- glwyddi osod cyfrifoldeb ariaxiol ar y wlad. Ond er ein syndod dygodd Arch- '1' esgob Jvfrog ac Esgob Manchester welliant yn mlaen, un yr oedd ei fwriadigodi arian o'r tretlii i dalu traul wear and tear yn yr ysgoldai. Rhydd Arglwydd Rosebery hanes y drafod- aeth fudr Ihon-ystryw na ddylai y wlad, mwy nag Arglwydd Rosebery, ei hannghofio. Yr wyf yn dywedyd (ebai efe) fod yr holl drafodaeth yn un nodedig o warad- wyddus nid yn unig i'r Llywodraeth, ond i raddau hefyd i'r Senedd,ei hun. Dyna un o ganlyniadau etholiad 1900—Lly- wodraeth a fedrai gydweithredu mewn trafod- aeth nodedig o waradwyddua (' eminently dis- creditable'), gyda Senedd gyfranog i fesur o'r un gwaradwydd Yr oedd, yr afresymoldeb o hyd yn nod wneyd y cals a w.naed gan Esgob M.anceinion yn un y siaradodd' Esgob Llanelwy yn ei erbyn ac, er nas gwyddom fel mater o ffaith pa fodd y bu, yr ydym yn rhoddi iddo y credyd o fod wedi pleidleisio yn gyson a'i araeth. Ond os oedd y cais, ei hun yn un yr oedd yr Esgob Edwards1 yn ei wrthymbil am fod iddo ymddangosiad o raib o du yr eglwys y byddai yn ddrwg ganddo am dano, beth sydd) i'w ddywedyd am v modd y gwnaei y cais hwnw—' gwelliant' Esgob Manchester—yn rhan o'r Ddeddf! Bydd y gwaradwydd hwn-bydd hanes y Llywodraeth bresenol o 1895 i lawr yn flotyn du, gwrthun, yn hanes Prydain Fawr pr;iod.ol i'w rheistrti g^d'a haines dyddiau y Stuarts.

----------+-CYLCH DARLLEN…

1---ICYNGOR. WESLEYAIDD MON…

BEDDFAEN MONWYSON.

UojJ CYDNABYDDIAETH.

Soil !TALAETH DEHEUDIR CYMRU.