Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
TRiSORFA GANMLWYDDOL Y DEHEUDIR.
TRiSORFA GANMLWYDDOL Y DEHEUDIR. Clywsom o dair cylchdaith yr wythnos sydd yn terfynu Rhag. 21, sef Merthyr, Sp. 5s. Caerdydd, 2p. 2s. a Llandeilo, lp. 12s. 6c., yn gwneyd cyfanswm ychwan- egol o 8p. 195. 6c. Yr ydym bron a rhoddi i fyny dysgwyl bellach am ddim o bwys mawr cyn terfyu yflwyddyn hon. Nid oes ond wythnos arall, ac ofnwn nad oes gan y cylchdeithiau i'w adrodd ond manion cyffredin. Yr ydym wedi clywed oddiwrth Arolygwyr pob cylchdaith bellach ond un, ac yn ddiolchgar am eu parodrwydd. Drwg genym fod llawer o'r hysbysiaeth yn dorcalonus iawn, ond nid ydym am roddi adroddiad heddyw. Mae'n debyg ei fod ddealledig bellach yn mhob man fod cas- gliad y 29ain i fod at y 100,000 diweddaf. JOHN HUMPHREYS.
------.'---'-NODION O'R GORNEL.
NODION O'R GORNEL. Nid oedd genyf, foneddigion, ddim i'w roddi, y Gwyliau yma, i fy nghymydogion hynaws Sion a Sian—dim ond dymuniadau da y 'Rhen Wraie: yma, a minau. Modd bynag i chwi, mi a aethum yno gyda'r nos o'r blaen i roddi dadganiad prydlon o'n dymuniadau goreu i'r ddau. Ond pan aethum i'r ty cefais fod Sian mewn profedig- aeth. Yr oedd Sion newydd ddod adref o'i waith, a Sian newydd gael y chweched ran -rhan derfynol- Orzel y Gweinidogion. A'r brofedigaeth oedd hyn yr oedd Sian eisiau rhoddi te i Sion, canys ni bu neb erioed mwy gofalus am ei gwr na hi. Ar y llaw arall yr oedd hi wedi agor yr Oriel, ac wedi dechreu dotio ar y lluniau, a dy- wedyd ynddi ei hnn, Dyma weinidogion Wesleyaidd Cymru Fydd am fwy chwarter y ganrif newydd." 'Doedd hi ddim wedi gweled rhai o'r gwyr ieuainc erioed ac yr oedd hi yn cymeryd dyddordeb rhyfeddol yn enweaig yn narluniau y rhai y cafodd hi adnabyddiaeth o'n henwau yn ngholofnau y GWYLIEDYDD. Ond rhaid oedd gadael yr Oriel i wneyd te i Sion. Nid am fod Sion yn cwyno, ond am fod Sian yn teimlo ei bod yn amser iddo gael ei de. Yn y cyfamser dechreuais inau ymddyddam am y Gyfrol, a chefais yn bur fuan fod Sion yn gystal a Sian yn meddwl llawer o honi "Yn wir," ebai Sion, "eidia dda iawn a ddaeth i ben Amos Huws i gyhoeddi yr Oriel. Mae'n siwr ei fod o yn Wesleyad iawn. Nobl o beth fydd cael darlun da o'n gweinidogion byw ar ddiwedd ein canri gyntaf—eidia dda oedd hi. Yr oeddwn i yn meddwl y buasai hi yn myn'd fel tan mewn tas wellt. Ac mi fum i yn synu fod Wesleyaid, mewn modd i dalu swllt fel y deuai y Rhanau allan, yn gallu bod yn dawel hebddynt. Ond y mae rhai—ryw- fath!—mi a dybiwn." Y mae yr hyn a ysgrifenodd Mr. Huw Jones am bawb a fu yn y Weinidogaeth yn ystod y gamif yn ddyddorol iawn, ac wedi ei drefnu yn hwy- lus iawn,Lfod,. gyda'r darluniau yn un gyfrol, ebai fi. Y mae yr eidia yn a hefyd, yn rhagorol," ebai Sion. wedi dechreu yfed ei de, erbyn hyn. "Mi gefais i gryn lawer o bleser wrth edrych ar luniau yr hen weinidogion, y rhai y clywais i nhad a mam yn son am danynt," ebai Sian. Dyna William Jofies, Mochdre, fel y byddai y nhad a mam yn siarad am d.mo-hen foneddwr a golwg radlon, garedig arno. Ac yr oedd y nhad yn ei ganmol fel pregethwr, ac un llwyddiannus iawn gyda chapelau—codi rhai newydd, a thalu dyledion. On'd fydd gweled eiwyneb hawddgar yn rhywbeth i blantyr oes nesaf!" |" Mi a ddeuda .i rhwi pwy arall oeddwn i yn leicio welcd yn fawr iawn," ebai Sion— "y ddau gyn-Gadeirydd sydd yn fyw: Robert Jones, a Thomas Morgan." Felly finau," ebai Sian, "er na welais i erioed mo Thomas Morgan, ond y mae yn dda genyf gael gweled ei lun. Yr oeddwn yn adnabod Robert Jones. Byddai nhaa yn dotio 'i glywed o'n darllen pennod ar ddechreu'r odfa." "A dyna William Morgan," ebai Sion, "Y mae yn werth gweled ei ddarlun o. Dywedir i mi ei fod yn hen foneddwr haelionus iawn at yr achos yn y South yna. A dyna Owen Williams, hefyd, hen Gymro iawn, yn medru pregethu cystal a neb ers talwm." Erbyn hyny yr oedd Sion wedi darfod ei de; ac aethom ein tri dros yr Oriel o'i dechreu i'w diwedd, ac yr oedd gan Sion, neu Sian, neu'r ddau rywbeth i'w ddyweyd yn ffafriol am y gweinidogiun eu hunain, ac yr oeddynt yn canmol y darluniau bod ag un, a minau yn-gwrando, ac yn cael boddhad. Bydd yr Oriel wedi ei rhwymo yn dda a ddestlus yn well, yn well, yn well gen i, na phiano. 'RHEN WR LLWYD. O.Y. Ar ol i mi ysgrifenu y Nodion uchod daeth ysgyfarnog ifanc, fawr, dew, raenus ryfeddol at ddrws fy mwthyn ac i mi yn reit siwr yr oedd hi yn dyfod. Yr oedd fy enw yn "llawn llythyr" ar label, wrthei thraed blaen,a'r un modd ar ei thraed ol rhag ofn y buasai y rhai hyny yn troi i ryw gyfeiriad arall. Yr oedd hi wedi cael siwrnai go bell, canys yr oedd prawf iddi ddyfod drwy Syswallt, ac iddi gychwyn ei thaith yn rhywle rhwng y dref hono a Rhaiadr enwog Mochnant. Ni chefais enw y boneddwr a gyfarwyddodd ei symudiadau yna, onide anfonaswn lythyr preifat ato i gyflwyno diolch goreu y 'Rhen Wraig Lwyd a minau iddo. Yr ydymyn ddiolch- gar iddo, ydym yn wir, er nas gwyddom ei ddrecsiwn. Gobeithio y caiff efe a phawb sy'n perthyn iddo Nadolig llawen a Bhvy- ddyn newydd dda. Y mae y 'Rhen Wraig yma yn medru cwcio yn iawn, ac wedi dal "yn gyntaf sgyfarnog mor dda, cawsom dameidyn hynod o flasus yn y Gornel yma, a chvmerasom ef gyda diolchgarwch.- Rh.W.Ll.
'il MARWOLAETH MRS. ROBERTS,…
'il MARWOLAETH MRS. ROBERTS, EIRIANFA, LLANRWST. Derbyniasom y newydd prudd fod y foneddiges ragorol uchod wedi myned i'w holaf hun, ddydd Sadwm diweddaf, a'i bod i gael ei chladduo dan y "drefn newydd" prydnawn ddoe (Mawrth, y 24in cyf.): wedi cynal gwasaiaeth yn Horeb am ddau o'r gloch. Nis gallwn ymhelaethu heddyw namyn nodi fod Eglwys Horeb wedi cael colled am wraig dda, ffyddlon, un a gymerai ddy- ddordeb angerddol yn llwyddiant yr achos yn ei holl ranau, ac a gyfranai tuag at hyny mewn cyngor deallus, ffyddlon- deb di ball, ac haelioni teilwng, ac wedi gwneyd y cwbl mor ddi rodres agoleuni dydd am lawer blwyddyn. Ei phlant, wedi eu gadael yn amddifaid o dad pan yn bur ieuainc. a'i galwant yn wynfy- dedig. Dysgwyliwn adroddiad llawnach ar gyfer ein nesaf. v-
Advertising
JWI4 Mae^n Wir! Dyga Miloedd 0 Ddyoddefwyr oddiwrth An- hwylderau y Gwaed a'i; Croen Dystiolaethi ddiolchgar i Deilyngdod t ¡fA. A- I I 9 HUGHES' Blood PILLS FEL MEDDYGINIAETH CYFLYM, EFFEITHIOL, A SICl Ni welais i ddim tebyg i HUGHES'S BLOOD PILLS at GLEFYDAU Y GWAED, CROEN, CYLLA, AFU, a'r ARENAU. I gywiro pob afreoleidd-dra yn natur cyfan- soddiad y Gwaed ac a all gynyrchu cynifer o'r Anhwylderau gresynol sydd yn blino pob dosbarth. • 1 A Gwnant Hyny! I Symudant bob sylwedd niweidiol a Gwen- wynig o'r Gwaed. Cyffroant a chynyrchant Egni, a Chryfhant yr holl gyfansoddiad, a Bywiocant bob rhan tu-fewnol o'r corff. Y mae profiad cyffredinol yn cadarnhau EFFEITHIAU WYDD DIGYMAR Y Gwaed Feddyginiaeth Bydenwog hon er symud a llwyr wella bob amser DIFFYG TRAUL, POEN PEN, BILIOUS- NESS, AFU DRWG, CORFFRWYMEDD, GWYNTCHWYDD, GWALL-DREULIAD dyspepsia), CLEFYDAU Y CROEN, A TARDDIADAU Y CNAWD, PENDDYNOD, ECZEMA, SCURVY, Y BLAST (Erysipelas), PILES, FITS, NERVES GWAN, ISELDER YSPRYD, ARENAU DIOGLYD, POEN CEFN (Lumbago), Y GWYNEGON (Rheu- matism), &c., &c. I FENYWOD.- Y mae HUGHES'S BLOOD PILLS y mwyaf effeithiol er symud pob achos o'r An- hwylderau sydd dueddol i'r rhyw, yn Hen ac Ieuainc. A gellir bob amser ddibynu arnynt. Treiwch Hwynt. Gwellhad sydd Sicr SYLWER.—Nid oes dim yn ddidwyll a chywir heb y Trade Mark, sef llun calon ar bob blwch fel yma. Gofynwch am HUGH BLOOD PILLS, a mynwch weled llun y galon arnynt. Gochelwch rhag cael eich twyllo. .I'll, e I- 1: I I a -li I e Ti Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is. 1-1c., 2s. 9c., 4s. 6c. Neu danfoner eu gwerth mewn P.O. neu Stamps at y gwneuthurwr- JACOB HUGHES, Manufacturing Chemist, Penarth. Ar werth yn America gan R. D. Williams, Chemist, Plymouth, Penn. GOMER'STBALMI ;7" s 'T'A' ELI AT BOB CLWYF. GOMER'S BALM a iacha Glwyfau ar y Traed, Cluniau, Pen, Gwddf, Erysipelas, Manau Llidiog a Digroenedd, Cornwydon Crawnllyd, Coesau Drwg. GOMER'S BALM a iacha Fronau a Phen Bronau Dolurus, Traed Chwysedig, Tor- iadau Allan, Crach yn Mhenau a Gwyn- ebau Plant, Llygriadau a Llosgiadau yn mhpb rhan o'r Corff. GOMER'S BALM a iacha Ddwylaw Toriadol, Llygaid ac Amrantau Dolurus, Crafu, Scurvy, Gwynegon, Cymalau Poenus, Chwyddiad, Tarwden, Malaethau, &c. Y mae GOMER'S BALM yn hynod effeith- io: at bob tnath o Glefydau allanol y Corff. Rhodder prawf arno. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is. lic. y blwch, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P.O. at y Danganfyddwr- rvlm JAOOB HUGHES. MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH. CARDIFF.
."" ... , - ' NODflfcDAF CYFUNDEDOL.
Yr wythnos ddiweddaf gosodwyd careg sylfaen yr adeilad mawreddog yr hwn a adwaenir wrth yr enw Victoria Seamen's Rest (er cof am ein diweddar Frenhines) gan Arglwydd Faer Llundain. Yr oedd yn bresenol yr Arglwydd Faeres, Uchel Sir- yddion Bell a Horace Marshall a Lad Y i Marshall. Yr oedd y cymelliad yn luosog iawn. Casglwyd ar yr achlysur dros 1,274p. Yr oedd Mr. Perks, A.S., yn bresenol a rhoddodd cheque am gan' gini. » Os nad ydyw ein darllenwyr wedi arch- ebu y Dyddiadur Wesleyaidd am 1902 eis- oes, dylent wneyd hyny ar bob cyfrif a hyny heb oedi fel na byddiddynt fod ar ol. Ni ddylai yr un swyddog fod hebddu gan fod ynddo gymaint o wybodaeth a manyl- ion Wesleyaidd. a a a at Cawsom ein ffafrio a chopi prydlon o'r Winllan. Y mae ei chynwys yn dda iawn. Yn yr Oriel ceir darlun rhagorol o Mr. John Williams, Lodwig Villa, Bangor. Ys- grif hynod ddyddorol gan y Parch, Hugh Jones ar Caledfryn a chan y Parch E. Isaac a'r "William McKinley;" a thon swynol gan y Parch. John Wesley Hughes. Y mae'r misolyn poblogaidd The Temple Magazine am y mis hwn yn Christmas number, ac yn un gwir ragorol. Yn wir, nis gall fod yn amgen tra o dan olygiaeth un o allu llenyddol Mr F. A. Atkins. Y mae ei gynwysiad yn amrywiol a chyfoeth og megis What Christmas means to the World, gan y Parch Joseph Parcher, D.D.; The Ministering Children's League, gan Countess of Meath Girls Love and a Woman's Heart, gan John Strange Win- ter ac ysgrifau eraill o deilyngdod. Yn y rhifyn hwn ceir darluniau o'r Parch. Owen Watkins, y caplan Wesleyaidd Seisonig di- weddar o Ddeheudir Aflrica a'r Parch. J. Gregory Mantle, olynydd y Parch. Mark Guy Pearse, yn St. James Hall. gyda nod- ion bywgraffiadol. Y mae'r Temple Mag- azine yn un o'r misolion goraf, pris chwe' cheiniog a chyhoeddir ef gan prin y Me- thodist Times,' sef Meistri Horace Marshall .and Son, Llundain. Neglected People of the Bible,' ydyw teiti cyfrol arall gan y Parch. Dinsdale T. Young, ar hon sydd gyhoeddedig gan Meistri Hodder and Stoughton, Llundain. Ymddengys fod y derbyniad cyfFredinol a gafodd ei gyfrol flaenorol, yr hon sydd yn ei hail argraffiad, wedi symbylu Mr. Young i anturio cyhoeddi un arall. Y mae yn cynwys un ar-bymtlieg o bregethau hynod o fresh, ac attyniadol, y rhai a ddatgudd- ,iant allu esboniad01 gyda chyfuniad o gylch eang o ddarllen. Y mae'r gyfrol yn dwyn nodau amlwg fod ei hawdwr wedi darllen ei Feibl gyda gofal a sylwgarwch neillduol. Arddangosir cryn fesur a athrylith ac arab- edd coeth. Yn mhlith y bobl esgeulusedig ceir Isaac, Laban, Simeon, Caleb, Saul, Bazillai, Obadiah, Ebed, Melech, Appolos, Onesiphonus. Cawsom fwynhad ac addysg werthfawr hon. Hyderwn na fydd Mr. Young yn hir heb anrhegu ei edmygwyr a a chyfroddiad arall. Y mae'r llyfr wedi ei argraffu a'i rhwymo yn hardd. Argymell- wn y gyfrol yn galonog. Pris tri swllt a schwe'cheiniog, 9 9t Cawsom ein hysbysu fod Esboniad y Parch. E. Berwyn Roberts, Corris, allan o'r wasg, ac y bydd yn y farchnad ddiwedd yr wythnos hon. Y mae'r gyfrol yr un plyg a'r Cambridge Bibles for Schools'" Gor- chuddir tua 200 o dudalenau. Y mae yr argraffydd, Mr. Evan Thomas, Swyddfa'r 11 Eurgrawn,' wedi gwneyd ei waith yn lan a golygus iawn. Pris yr esboniad yw deu- swllt. Anfoner archebion yn ddioed at y Parch. E. Berwyn Roberts, Brynawel, Corris, R.S.O. » » Yr wythnos ddiweddaf agorwyd Bazaar fawreddog perthynol i'r 4 Sisters of the People,' cysylltiedig a'r West London Mis- sion, gan Arglwydd Faer Llundain, in state,' gyda'r uchel swyddion. Yr oedd yr orymdiith i'r Queen's Hall yn un ysblen- ydd. Agorwyd y nodachfa gyda gweddi gan Canon Barker. Yna traddododd y Parch. Hugh Price Hughes anerchiad o groesawiad i'r ^Arglwydd Faer. Yr oedd Mr. Hughes yn edrych yn dda iawn ei iechyd. Yr oedd yn mhlith y presenolion nifer fawr o urddasolion y Brifddinas. Gwasanaethwyd wrth yr arrrywiol stalls gan bendefiesau a boneddigesau o athrylith ac urddas. Tra yr vdym yn ysgrifenu y mae'r Bazaar yn myned yn mlaen. Bydd i ni wneyd ychydig nodion arni wedi iddi dd'od i derfyniad. « Cyngorem ein darllenwyr ieuainc, ac yn wir, rhai hynach, os oes arnynt eisiau mis- olyn dyddorol, darllenadwy, a sylweddol, i gymeryd i mewn "The Young Man,' cy- hoeddedig gan Meistri Horace Marshall and Son, Temple House. Pristair ceiniog Cynwysa rifyn Ionawr nifer o ysgrifau campus wedi ei hyc^rifenu gan lenorion Wesleyaidd megys y Parch. T. G. Selby, ar The Twentieth Century Young Man; ad- olygiad y Parch. Frank Ballard, M.A., ar lyfr newydd y Parch. W. J. Davison, The Man Christ Jesus; ysgrifena Dr. R. F. Horton. ar y cwestiwn Does it matter what a Man believes ? < Memoranda Paulina Sunday Readings in St. Paul's Epistles, gan y Psrch. George Jackson, B.A., Edinburgh. Yr ydym bob amser yn falch i groesawu bob llyfr newydd oddiwrth ysgrifen dalentog Mr. Jackson. Ac y mae yn dda genym hysbysu y bydd i'r gyfrol hon fod yn deilwng o'r rhagflaen- oriaid yn mhob ystyr fel ysgrifenydd cre- fyddol o'r radd gyntaf. Mae'r ffaith fod dros ugain mil o gopiau o'i weithiau wedi eu gwerthu yn ei rhestru yn mhlith awd- uron goraf a mwyaf poblogaidd y dydd. Y mae hyn i'w ryfeddu pan y cofir mae dyn gweddol ieuanc ydyw Mr. George Jackson. Y mae y gyfrol hon yn cynwys deuddeg a deugain 0 benodau pa rai sydd wedi ym- ddangos yn ystod y flwyddynar dudalenau y Good Words. Ceiryn y penodau hyn esboniad ar rhai o'r dywediadau mwyaf yr Apostol Paul. Y mae'r pynciau yn ddeth- oledig iawn, ar ymdriniaeth ar y cyfryw yn mhob modd sydd yn awgrym a symbylu meddylgarwch. Mawr brisir y gyfrol hon gan efrydwyr Epistolau Paul. Yn wir, y mae enw Mr. Jackson yn ddigon yn ei hun i argymell y gyfrol yr hon sydd mewn diwyg ac argraff olygus a rhwymiad destlus Meistri Isbister and Co., Llundain, ydyw y cyhoeddwyr a'i phris yn 3s. 6c. Y LLYFBBBYF WESLEYAIDD.