Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD.…
CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. Yn nghyfarfod y Pwyllgor Gweitliiol, yr hwn a gynaliwyd ddydd Iau diweddaf, penderfynwyd galw sylw y wlad at Fesur y Plant, yr hwn sydd yn dyfod i rym ar y dydd cyntaf o lonawr nesaf. I Bydd yn annghyfreithion ar ol hyny i unrhyw blentyn dan 14 oed i gario diod feddwol o daf. arn, oddieithr mewn llestri wedi eu corcio a'u selio. Dymunir ar i bawb roi bob cynorthwy i'r heddgeidwaid i sicrhau fod y ddeddf hon yn cael ei chadw. Hefyd penderfynwyd galw sylw atyr anmhrio. dolder o roi diodydd meddwol fel anrhegion Nadolig, a dymunir ar i bawb sydd yn caru sobrwydd droi eu gwyneb yn erbyn yn gryf. Hyderwn nad oes eisiau ond awgrym ar y mater hwn. J J. EIDDON JONES, Ysg. -f
:ACHOS CAEiirUDDTN!
ACHOS CAEiirUDDTN! Drwg genyf orfod dyweyd mai araf iawn y mae y cyfraniadau tuag at yr achos hwn ya dyfod i law. 1 Dysgwyl pethau gwych i ddyfod, Croes i hyny maent yn d'od.' Yr unig symau a ddaethant i law er pan yr anfonais o'r blaen yw y rhai canlynol: -Cynyrch yr eglwys yn Nghaer- fyrddin, trwy law Mr. Charles Davies, 6p. Mr. William Hopkins, Llandeilo, 5s. Bydd yn dda genyf gael clywed oddiwrth eraill mor fuan ag y byddo modd. THOMAS JONES (C). Swansea.
I -''1-hrji »'v: "';' TPYSORFA…
-1 -hrji »'v: TPYSORFA YR UGEINFED GANRIF;! TALAETH Y DE. Foneddigion,—Ar ol darllen Nodiadau Golyg- yddol ar fy llythyr o'r b-aen, am y rhai yr wyf yn ddiolchgar, ac wedi hyny droi sefyllfa y Dry. sorfa uchod yn fy meddwl fwy nag unwaith, wrth weled mor araf y mae yr addewidion yn dyfod i mewn, dymunwn ddyweyd rhyw ychyd. ig o eiriau yn mhellach wrth y cylchdeithiau sydd mor bell yn ol o gyflawni eu haddunedau. Gobeithio fod y cylchdeithiau hyny yn cofio tnor dda y bu ein brodyr Seisnig yn cyfranu yn hel- aeth o'u trysorfeydd tuag at gynorthwyo ein hachosion ni yn y mynedol. Ai nid yw ein rhesymol wasanaeth i ni 'returnio y compli- ment' yn awr ? Oni byddwn fel Talaeth yn dyfod i fyny a'n hadduned yn yr ymdrech fawr hon ? Frodyr anwyl, meddyliwch ein bod mewn argyfwng pwysig iawn. Yr wyf yn ofm fod llawer o honom (nid yr oil) yn barod iawn i wneyd addunedau, ond nid mor barod i'w cyfiawni-Iawer o honom, yn enwedig gyda'r Drysorfa uchod; wedi addaw swm, a hyny yn gyhoeddus, ac i'r Arglwydd, ac hyd eto heb ei dalu. Sut y gallwn fel Talaeth, ac fel Cymry, ddysgwylcael bendith yr Arglwydd, tra y bydd. om yn ymddwyn tuag at Ei achos yn y fatk fodd. Gyda golwg ar beth a ddywedais yn fy llythyr blaenorol, o gyfranu swm sylweddol tuag- at gyraedd y Miliwn Ginis, yr wyf yn dymunv rhoddi ar ddeall mai nid tuag at gynorthwyo y rhai sydd ar ol, ond tuag at y can mil sydd heb ei haddaw, yr wyf yn anfon fy hatling. Ac mi a obeithiaf y bydd ein hysgrifenydd Talaethol, yr hwn sydd mor awyddus a neb o honom, yn agor subscription list' Talaethol yn y JGWYL- IEDYDI) tuag at gyraedd yr amcan. A gaf fi wneyd un apeliad, a hyny at bawb yn gyffre- dinol, am i ni ymwroli a gwneyd ein goreu mewn cyfranu o'r newydd, yn ogystal a chyflawni ein hen addewid, er mwyn dyfod allan yn anrhyd- eddus yn yr ymdrech fawr hon. Yr wyf gyda diwedd y nodiadau hyn yn anfon tair gini i'r Parch. John Humphreys tuag at y can mil di- weddaf.—Yr eiddoch yn gywir, WILLIAM JONES.
' SION YN A'I D AID. ; ~~~~~~~…
SION YN A'I D AID. fi. 'Nhaid! Wel, beth sydd, Sionyn bach ? Ai iawn dywedyd 'Fe ganwn'; neu ddywedais'? Nage, Sionyn. Dylai y ferf a'i henwedigaetll- ydd fod yn yr un person, ac yn yr un- rhif. Ai cywir dywedyd, neu ysgrifenu, 'Rhaid i mi ddywedyd am y cyfryw mae anmhasibl fyddai gwneuthur gwahaniaeth, canys y mae yna law- er o bethau ag y dylid eu cymeryd i ystyriaeth'? Na, Sionyn, y mae y frawddeg yn annghywir, ac heblaw hyny mewn arddull estronol. Beth sydd yn annghywir ac estronol ynddi, Imhaid ? Y mas y mat cyntaf sydd ynddi yn annghywir mai a ddylasai fod. Ac nid oes eisiau nac yntl nac ag ynddi. Seisnigaeth wrthun (yn y Gym. raeg) yw yr 'yna'—there y Seisonaeg. Ac y mae y cyfryw' sydd ynddi yn ddigon i wneyd dyn yn sal. Sut y buasech chwi yn ei hysgrifenu, 'nhaid ? Nid wyf yn sicr o hyny, Sionyn. Ond gall- esid ei hysgrifenu fel hyn: 'Rhaid i mi ddy- wedyd mai anmhosibl a fyddai eu gwahaniaethu, canys y mae llawer o bethau y dylid eu hvstyr- ied.' Eithr nis gwn am ba. bethau y saif T. cyfryw.' Dichon y dylaswn roddi am dan- yatRhaid i mi ddywedyd am danynt mai,' &c. Dywedwch, 'nhaid, a oes eisiau a er flaea fyddai ? Oes, Sionyn, y mae eisiau a yn y berthynas yna bob amser. Efe a ddywedodd nid, Eff" ddywedodd. Seis.ddull vw dyweyd fel yna. Ac a weli di y gwahaniaeth a wna a yn y cysyl't. iad yma Ni weddiwn. Ni a weddiwn. Ni awn. Ni a awn. Ni welwn. Ni a welwn. Ymgroesa, Sionyn bach, rhag cyf ryw,' agj '■yna'' mewn cysylltiadau dianghenrhaid ac an. mhriodol. Paid ag arfer berf gynorthwyol end pan y bydd ei heisiau. Gofala am roddimct a mai, ac ac ag, yn eu lleoedd eu hunain a phaid, da. th'di, ag ysgrifenu^ 'Yr oil o'r bobl ag oeddynt yn bresenol.' Ysgntena, Yr holl bobl oedd (neu oeddynt, os myni) yn bresenol,^ Diolch i chwi,nhaid. Nos dda. Nos dda, Sionyn bach.
Advertising
FREE ADVERTISING.—PROPERTIES FOR SALE or TO BE LET.—Property owners and others desirious of disposing of Property, Businesses, &c., by Private Treaty, are invited to send full particulars to the undermentioned for insertion (free of charge) in the "North Wales Property Register," which is published monthly, having an extensive circulation and being the on:y free advertising medium of its kind in the district. Intending purchasers or tenants should send for a copy of the Register, which will be forwarded post free on applica- tion to the Proprietors and Publishers, GREEN- HALGH & GEARY, Auctioneers, Valuers, and Es- tate Agents, Rhyl.
DINBYCH.
DINBYCH. Sxlem: Cymdeithas Lenyddol a Dmwinydd- »1.—Cyfarfyddodd yr uchod nos Iau, Rhaf. 12, pryd y cafwyd papurau ar Y Ddiweddar Frenin. es Victoria, gan Miss M. M. Evans, ac ar Esth- er* gan Miss Katie Williams. Yna cafwyd iiaith o resymau dros arfer y Gymraeg ar yr 8elwyd gartref, gan Mr. R. O. Jones; a darllen. wyd hanesyn dyddoro: gan Mr. Hugh Jones. Treuliwyd noswaith hynod o ddifyr, a thalwyd diolchgarwch cynes i'r cyfeillion am eu parod- rwydd a'u llafur. Cynaliwyd y Cyfarfod YlIgol yma Sabboth, y 16eg cyf., o dan nawdd yr Undeb. Yr oedd ym bresenol, Llywydd vr Undeb a chynnrychiol- aeth lawn o bob ysgol. Cafwyd cyfarfodydd hynod o adeiliadol: yr holi a'r ateb ym rhag- orol, yn enwedig gyda'r plant. Adroddwyd rhanau or Ysgrythyr gan amryw o'r chwiorydd fn hynod o dda, yn wir y chwiorydd oedd yn cymeryd y rhan flaenaf gyda'r adran hon, a'r bi odyr ieuainc yn eistedd i wr«ui<iaw arnynt.- oh. J
CRICIETH.
CRICIETH. Gymfjeithas LenyddoL-Nos Fercher di. We.ddaf cafwyd cyfarfod amrywiaethol yn y Gvmdeithas uchod, o dan arweiniad yr Is-Lrw- ydd (Mr. Hugh Jones). Wedi anerchiad gan Lywydd y Gymdeithas, cymerwyd rhan gan y cyfeiJion canlynolUnawd, gan Mrs. Thomas Sqare a bu raid iddi ail-ganu. Deuawd, gan Mri. W. H. Williams a Morgan Davies. Can, gan Mr. P. J. Bowen. Cafwyd nifer o gystad. leuaethau mewn adrodd, canu, darllen dam heb ei ata.nodi, araeth ddifyfyr, 'pencil drawing' o rhyw aelod o'r Gymdeithas, ac am ysgrifenu llythyr serCn goreu. Enillwyd gwobrwyon gan Miss Jones, Snowdon View; M'ri. William Jones, W. H. Williams, Morgan Davies, David Williams, J. Humphreys, Miss Nel: Evans, a Mr. P. J. Bowen. Treuliwyd noswaith hynod o ddyddorol, ac edrychir yn mlaen am gyfarfod cyffe yb yn fuan eto. Nos I.un j^iweddaf; cvnaliwyd Cyfarfod Dir- west yn nghapel yr Annibynwyr, o dan lywydd. iaeth y Parch. Mr. Marks (A.). Dechreuwyd gan y Pairch. John Owen, M.A. Anerchwyd y cy. farfod gan y Parchn. Mr. Marks, Owen, M.A., W. Williams (M.C.), Rhys Jones (W.), a lfr. W iLiams, Stanley Road. Yr oedd dau areith- ydd dyeithr wedi eu penodi i dd'od yma, ond fe'n siomwyd. Gobeithio na bydd i areithwyr eraill ddylyn esiampl y rhai a benodwyd i Gric- iffth. Penderfynwyd ymweled a phob ty yn y dref, er ceisio cael rhai i arwyddo yr ardystiad Mawr lwydd fyddo i'r ymdrech.—R. ap R
CAERGYBI.
CAERGYBI. C ymdeithas Lenyddol a Duwinyddol.—Cynal. iw'yd cyfarfod o'r Gymdeithas uchod nos Iau, Rhagfyr 19, v.q Ngwynia, pryd .y darllenwyd pa'- pur ar Ferch^Q y Beibl, gan Miss Jennie Jones, CaIlden House; a Dyledswydd Rhieni at eu P ant, gan Mrs. Jones, Noddfa. Siaradwyd yn wiheHach gan Mr. Griffith Jones, Llangefni gynt o Gaergybi; Mr. W. S. Owen, a Mr. John Lewis.. Y mae yn dda genyf hyspysu fod y Gymdeithas yn; dal yn ei gwres, ac yn inyned rhagddi, er fod y tywydd yn nafriol.—j. J. Fair. hurst, ysgrifenydd.
Advertising
"DELICATE, DAINTY AND DELICIOUS' is the title of HORNIMAN'S ARTISTIC ALMANACK for 1902, and Delicate, Dainty and Delicious is the flavor of HORNIMAN'S PURE TEA. Packed in handsomely decorated Canisters, containing 1 lb. and 3 lbs. of the PURE TEA. The demand is so great that purchasers should obtain their requirements early, as the supply is strictly con. fined to the Chritsmas and New Year's trade. Can be obtained at -Rhyl Williams, 34, High Street; Harrison, Wellington Road; and Evans, 62, High Street. Rhudd. Ian: John Roberts, High Street. Holywell. Edwards and Lloyd, grocers. Denbigh. Ro- berts, High Street. Llandudno: Roberts, che. mist. Colwyn Bay: Lew;s, grocer, &c Comet Stares. St. Asaph: Price, grocer. Halkyn: Jones, grocer. Newmarket: Nuttall, grocer. Blaenau Ffestiniog: Jones, chemist. Abergeie: Hannah, (^lemist.
YR IAITH GYMRAEG.I
YR IAITH GYMRAEG. I Foneddigion,—■Cefais y fraint nos Fercher di- weddaf o wrandaw anerchiad, neu dddrlith, yn wir, yn Nghymdeithas Dduwinyddol a. LIenydd. ol Brunswick, gan Mr. Robert Jones (Gwespyr), Holborn Villa, ar Die Aberdaron. Nid wyf am gynyg rhoddi crynodeb o'r ddarlith; gwnaiff rhywun arall hyny, o bosibl. Ond y pwyntiau pwysicaf oedd gan Mr. Jones oedd dysgu gwersi i'r bobl ieuainc gorchfygu anhawsderau i gyr- aedd un nod arbenig. Nod fawr y gwrthddrych dan aylw oedd dysgu ieithoedd; a llwyddodd" mae yn ymddengys, i ddyfod i adnabyddiaeth ag amryw. Ond er iddo gyraedd y llwyddiant mawr hwnw, yr oedd yn well ganddo y Gym. raeg na'r un iaith arall: iaith ei fam a'i genedl. Onid ydyw hyn yn peri i ni deimlo yn swil wrth feddwl am lanau moroedd Gogledd Cymru, er i chwi wrandaw pregeth Gymraeg ar y Sul, y boreu a'r hwyr, pan yn dyfod allan o'r addoldy, How do you do ? What a splendid sermon we had this morning,' a glywir, yn union, nesein bod yn teimlo braidd yn ansicr ai mewn capel Cymraeg y buom ynddo; neu ai breuddwyd ydyw y cyf an. Gwn ei bod ychydig yn anhawdd cadw y Gymraeg yn y lleoedd hyn rhagor mewn I:eoedd gwledig; ond pan yr ydys yn clywed rhieni yn siarad Saesonaeg gyda'u plant yn yr ysgol, ac ar yr heol, yr ydym yn cael esboniad Lawn paham y mae plant ein trefydd mor Seis. nigaidd. Gwnaeth Mr. Jones sylwadau cryfion laws yn y cyfeiriad yma. Yr wyf yn teimlo yn ddiolcligar i Mr. Janes am ei anerchiad a'r peth oedd yn fy nharo i yn arbenig oedd hynodrwydd Die Aberdaron yn meddu llaweroedd o ieithoedd, a'i fod yn caru yr hen, iaith Gymraeg yn well na'r cwbl. Yr wyf 4 yn teimlo fod y bobl sydd yn siarad Seis. onaeg yn ein capelau Cymraeg, mai gwell iddynt fyned at y Seison yn Le bod yn rwystr i Gym. raeg. Nid oes eisiau colli amser i brofi hwn, y mae clywed plant einpregethWYIt yn siarad dim ond Seisonaeg yn barhaus yn ddigon i fer. wi gwaed Cymro fel fi. Gwyn fyd na fuasai mwy o fath Die Aberdaron yn ein capelau Cym- raeg; nid fel ag y mae hi yn awr: mwy o Seisonaeg nag o Gymraeg. Rbyw Ddic Sion Dafyddiaeth yn barhaus. Da chwi, gadewch i ni wneyd ein goreu o blaid ein hiaith ein hunain, ac 1 beidio bod mor wasaidd i'r Sais sydd heb iaith ei hunan—dim ond cymysgedd, pryd y mae ein hiaith mi mor gyfoethog. Ac mae amryw, megys Mr. Darling. ton, ac eraill, o ddynion call yn teimlo mwy o ddyddordeb yn ein hiaith na lIawer sydd yn cymeryd arnynt fod yn Gymry.—Yr eiddoch, &c., AELOD.
YR ARLYWYDD ROOSEVELT. -
YR ARLYWYDD ROOSEVELT. Y mae gan y Drych' air da i Arlywydd he-, wydd yr Unol Dalaethau, ac ategir ei olygiadau mewn amrai sylwadau ar ei Genadwri yn v rhif. yn am y 12fed cyfisol. Sylwir arno fel gwr gwreiddiol ac annibynol; a chanmolir ti syl- wadau coffadwiaetho1 am Mr. William McKin. ley. Tueddwn i wneyd y difyniad canlynol am Mr. Roosevelt ac Anarchiaeth:- Edrychai yr Arlywydd yn ei Genadwri ar yr anarchydd fel cynyrch ei ddrwg anian ei hun- nid dim o fewn cymdeithas. Y mae gwreiddyn anarchiaeth yn ei yspryd nwydgam ef ei hun. Nid afreolaeth cymdeithas a'i gwnaeth, oblegyd cred yr anarchydd mewn afreolaeth. Y maeyn erbyn pob ffurf ar lywodraeth. Pe y gosodid ef yjj mharadwys byddai yn anfoddog ac yn anar- Byddai yn anarchydd yn mhob lie., oddigerth y lie hwnw y cai efe ei ffordd ei hun. Ni chaiff hyny hyd yn nod yn uffern, obleeyd y mae yno rcolaeth a ryw fath. Y mae yr Ar- lywydd yn llygad ei le.pan y dywed na ddylai P°K^n°gant,erai]1 a'u i lofruddio eu cyd-ddynion fwynhau eu rhyddid. Felly cy- meradwya i'r (Tydgyngorfa droi ei sylw manwl a gofalus at lunio moddion i gyfarfod a'r drwg gwaethaf hwn n fewn cymdeithas. Dyma. yn ddiau, y ffurf h-qf felldigedig ar deyrnfradwr. .ae,th- Cymeraawya efe, hefyd, ddeddf gyfiawn, ddwy ochrog i gadw anarchiaid ymfudent yma. allan. yn ogystal a thaflu yn ol i'w gwledydd eu ftunam yr anarchiaid geir yma. Y bobl nad ydynt yn addas i ddyfod yma ni ddylid eoddef iddynt aros yma, ar ol cyraedd yma, neu eu gem yma. J 'Dr^ch^—rljWjdd fd 'cano1 wr' dywed 7 N odwedd wertbfawt o etddo yr Arlywydd yn ei ireeadwri yw y tir diochrog ac anmhleidiol a Pwnc Nid yw yn gogwyddo at gyfalaf na llafur; nid yw yn ochri i'r goludo? yn fwy na'r tlawd; y nod y mae yn ymgyfeirio ati yw cyfiawnder a thegweh". Y mae hwn fel rneiaii aur yn treiddio drwy y cyfan. Cyfyd hon yr Arlywydd i barch ac yrnddiriedaeth y cyhoedd yn fwy na dim. Dyma yr egwyddor benaf niewni llywiawdwr; vmddyga fel gwr canol. Y mae yn feddianol ar allu i ganfod yr hyn sydd yn deg, ac ar bendertyniad a gwroldeb i sefyj dros yr hyn y mae yn gredu. Yr eg. wyddor fawr a'r dyben mawr penaf o flaen ei lygadyw lies y bob! yn gyffredinol. Yn ei olwg ef, nid oes neb yn y wlad ar gyfrif ei rym a'i olud a bawl i ddiystyru hawl y bobl. Yn ei sylwadau yn cymeradwyo gwella deddf rheol- eiddio trafodaeth y rheilffyrdd, dywed mai gwas y bobl yw pob cwmni rheilffordd, ac felly, nid rneistr. Y mae hyn yn wertn ei wasgu at bob grym a golud, pa un ai yn gorfforaeth ai cJym. blaid y gwelir ef, sef mai gwas yw, ac folly, dan rwymedigaeth i ymgadw rhag niweidio budd. ianau y werin. Yn ngwyneb grymusder a dys- gleirdeb cyfalaf, er cymaint ei haerllugrwydd a'i eofndra; Yn ei sylwadau ar y Corfforaethau a'r Cymbleidiau, ni chela ei argyhoeddiad fod drygau difrifol a gwirioneddol' yn ng,lyn a kwy, a chymeradwya y Gydgyngorfa i droi ei goygon at ddyfeisio trefn i atal i'r galluoedd cyfalafol (annghyfnfol hyn o'r braidd) i sathru ar a diystyru hawliau y werin. Y bobl fe' y cynnrychiolir hwy yn y Senedd, y Gydgyngorfa, a.c vn y Gadair Arlywyddol, vw y meistr a'r rheilffyrdd, y corfforiaeihau. ^"clymbleidiau ac felly yn y blaen yw y gweision." Diolch am r Daniel hwn 1 goffau y pethan hyn a phwyseisio eu gwirionedd oddiar sedd mor aruchel, yn awr pan y mae cyfalaf a golud wedi agoa myned i goelio mai hyvy yw perchenogion y Weriniaeth, Diolch am y bregeth odidog, rymus, unwynebog hon oddiar fynydd yr Ar-ywyddiaeth. Y mae y Genadwri yn gyfran o ad-daliad Roosevelt am ymddiriedaeth y bobl ynddo. Fel Is-Arlywydd yr etholwyd ef, ond rhydd efe fesur Arlywydd- iaeth helaeth yn ol i'r bobl. Nid yw ei Gena- dwri oad ernes o wasanaeth gwerthfawr i ddyfod.
RHAI C VESTIYNAU 0 BWYS. -----
RHAI C VESTIYNAU 0 BWYS. Foneddigion,—Y mae ar fy meddwl i ofyn cwestiwn. Yr wyf ya ymwybodol o'n peryg] ar yr un pryd. Y cwestiwn ydyw, a oes Y" peidio fod genym orraod o gyfarfodydd? Fy meddwl ydyw ar nosweithiau gwaith. Tybed nad oes perygl i'r rhai pwysicaf gael eu hesgeu- luso? Y mae y cyfarfod gweddio neu y bre- geth i'r, noi waith, a'r rhestr yn fwy pwysig na'r Gymdeithas Lenyddol. Ond pa un o hon- ynt yw Rlwyaf poblogaidd. Os bydd dadi ar ryw fater, a hwnw yn un digon difudd, bydd y Gymdeithaa yn. Uawn. Ond sut y bydd y rhestr? Suty bydd y cwrdd gweddi? A pheth arall .sydd o bwys ei ystyried ydyw y cwestiwn a ydyw y fath rifedi o gyfarfodydd noson waith yn peidio niweidio cartref? A ydyw y Gym- deithas, a'r Wesley Guild, yn peidio gwneyd yr aelwyd yn ddiflas? Y mae y Band of Hope yn gwneyd lies, y mae yn ddigon posibl, ond etc i gyd, faint o blant y Band of Hope sydd yn yr odfa neu'r cyfarfod gweddio nos waith? Faint o honynt fydd gyda'u tad neu eu mham yn yn y class? Ie, yn wir, faint yn y moddion bio- reu Sul? Nid wyf yn dyweyd dim yn erbyn Band of Hope as cewch arweinwyr cymwys. Ond faint o rai felly sydd? Mi.a wn nad oes gan bawb fantais ar yr aelwya. Eto i fyd y lie y mae aelwyd ni ddylid ei hyspeilio. Credaf fod yn ein gwlad gannoedd lawer mwy effeithioi gartref. Gellid rhoi hyny o lenyddiaeth, heb son am dduwinyddiaeth, sydd mewn Uawer o'r cymdeithasau hyn mewn lie bychan iawn. By- ddaf yn darllen eu hanes yn elch colofnau, ac yn ami yn gresynu. Y maent y-nwellna gadael i'r ieuenctyd i fyned i'r dafarn. Ond y mae genyf ofn, a dyweyd yn ddiragfarn, fod eu gwerth moddion diwylliadol yn bur fychan. Gwn fy mod yn anturio. Ond eto, tybed nad yw yr hyn a ddywedais yn deilwng o ystyriaeth.-Yr eiddoch, &c., NLD-PI-BRYDEFT
-.'-_._-----I LLITH IF AN…
LLITH IF AN IF ANC. Foneddigion,—Y mae yn ddrwg genyf i och. wyn heddyw yn erbyn rhai hen grefyddwyr. Coeliwch fi, nid yw hyny yn waith pleserus genyf mewn un modd. Ond beth sydd i'w wneyd pan yr ydym niy. bobl ieuainc yn cael anfantais a pheiygl oddiwrth hen grefyddwyr. Y mae y gwyn yn fy mynwes er's hir amser, ond wedi darllen Anerchiad rhagorol y Parch. T. Jones-Humphreys yn y GWYLIEDYDD am heddyw penderfynais ei dadlwytho, os gwelwch yn dda. Gadewch i mi wneyd difyniad o Anerchiad Mr. Jones.Humphreys. Rhoddodd Crist orchy- myn pendant i hi gyfranogi o'r Ordinhad hon (sef yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd). Gwnewch hyn er coffa am danaf.' Felly dylem gyfranogi o'r Cymun Sanctaidd am fod gorchy- myn Crist yn hawlio hyny. Y mae peidio a gwneyd yn anufudd-dod gwirfoddol i'r Hwn yr ydym fwyaf dyledus iddo o bawb." Yn awr, os caniateir fod yr hyn a ddywedir uchod gan Mr. Humphreys yn wirionedd, yr wyf yn gwy- obd am rai sydd yn proffesu crefydd er's blyny. ddau lawer, mor ddefosiynol a'r Phariesaid o'r sect fany:af, ac yn udganu eu rhinweddau ar benau yr heolydd, yn rhoddi aoufudd-dod gwir. foddol i'r Hwn y maent yn fwyaf dyledus iddo 0 bawb'! Ac y mae y rhai hyn yn Wesleyaid, yn caru yr achos, ac yn awyddus am ei lwydd- iant! Y mae gan rai o honynt resymau dros fod yn anufudd i Grist! Ond beth yw dvlan. wad y rhai hyn, y bob: hyn ydynt yn caru yr achos mor fawr, ac yn hiraethu cymaint am ei j lwyddiant, ar yr ieuenctyd yn yr Eglwysi ? Yn 01 fy nheimlad i y maent yn gwneyd niwaid mawr. Os nad ydynt am ufuddhau i Iesu Grist yn yr hyn y mae Mr. Jones-Humphreys yn ei alw Ei orchymyn pendant,' yn mha le y maent yn cae: sail i alw eu hunain yn Gristionogion ? Yr wyf fi fel un yn dra diolchgar i Mr. Jones- Humphreys am gyhoeddi ei anerchiad amserol. —'Yr eiddoch, &c., IFAN FANC.
Advertising
I j' PREMIER" OYOLES SPECIAUTY-MtEMCAt. TU BE. Premier in i»*me andprgmior ia notation er«r »ince Cycleg prn- Hwunfactured. ■■■ WORKs-L-coynnTity. 't T
PISGAH, CYLCHDAITH COEDPOETH.
oddiamgylch yn feunyddiol, a mynychai yn gy. lion bob moddion o ras. Bu yn y capel dair jwaith Sabboth, Rhagfyr 1, a'r 110s Sabboth hwnw y clywodd efe y bregeth olaf yr ochr hya i'r bedd, a hono gan ei fab, Mr. D. Davies (yr hwn ar fyr rybudd a gymerodd le brawd arall oherwydd afiechyd). Dyddorol meddwl erbyn hyn mai ei fab a glywodd efe yn pregethu ddi- weddaf; ac mai mater ei bregeth olaf glywyd ganddo oedd Sicrwydd yr adfyfodiad, seiliedig ar 2 Thess. iv, 14. Cychwynodd i'r capel pryd. Hawn Sabboth blaenorol i'r dvdd Iau y bu farw, ond gorchfygwyd ef ar haner-y ffordd gan erwia- deb y gwynt, a throdd yn ol i'w gartref yn. hyn. od. o sioniedig. Teimlai yn dda ddydd ei far. wolaeth. Arferai ei fab, wrth fyned i'r offia, alw heibio gyda'r GWYLIEDYDD iddo i'w ddar- lien gwnaeth hyny y dydd Iau crybwyl:edig, fel arfer, ond ychydig a feddyliodd efe y pryd Itvmw mai dyna'r olwg ddivreddaf gaffai arno yti fyw. Ond felly y bu, oblegyd wyth o'r gloch y noswaith hono, pan yn sefyU wrfh ddrws y ty nesaf svrthiodd ein hanwyl frawd i lawr. Cludwyd ef i'w dy ei hun, ond ni ddy- wedodd air mwyach. Ehedodd ei yspryd yn ddisymwyth fel hyn. i bresenoldeb ei Geidwad. Achos ei farwolaeth oedd gwendid y galon. Bnasai yn 78 mlwydd oed Sadwrn, Rhagfyr 21. Dydd Mawrth, yr 17eg o Ragfyr, hebryngwyd ei weddillion i gladdfa y Brake. Daeth tyifa fawr i'r angladd, yr hyn brofai yn eglur fod iddo le dwfn iawn yn serchiadau yr arda'wyr. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan Arolygwr y gylchdaith, a'r Parchn. R. Hopwood, Cacrwys; R. W. Jones, Brymbo; Edward Davies, Bwlch. gwyn; ac H. T. Sidwell, B.A. (gweinidog y Wesleyaid Seisnig, Moss). Analluogwyd y Parch. J. Felix i fod yn bresenol gan ei fod yn gwasanaethu yn angladd blaenor anwyl arall o eglwys Rehoboth, Coedpoeth. Cysured yr Ar- glwydd y weddw oedranus, a' unig fab, Mr. D. Davies, pregethwr cynorthwyol cymeradwy iaw. 7«'y gylchdaith hon.—Goh.