Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
GAIR 0 DREFFYNNON..
GAIR 0 DREFFYNNON.. Mynydd Gilead.—Y Sabboth diweddaf talodd y Parch. Phillip Williams, Rhuthyn, ymweliad a'r He hwn, pryd y pregethodd deirgwaith gyda'r rhwyddineb a'r effeithioldeb hwnw sydd wedi nodweddu ei weinidogaeth ar hyd y blynydd. oedd. Yr oedd yn Uawen gan ei gyfeillion ei wei'd yn edrych mor iach ac heini. Darlith.Nos Lun diweddaf traddododd y Parch. Hugh Evans, Treffynnon, ei ddarlith ddyddorol a buddiol yn nghapel Mynydd Gilead. IJywyddwyd gan Mr. Samuel Davies, U.H., C.S. Gwnaed casgliad sylweddol ar yr achlys- ur. Diolchwyd i'r darlithydd a'r cadeirydd a,m eu gwasanaeth gymeradwy. Y Wesley Guild.-—Nos Iau cyn y diweddaf daeth cynulliad da i gyfarfod y Wesley Guild, 'i glywed darllen papurau rhagdrol gan nifer o ddynion ieuainc, sef Mri. Walter O. Davies, ar Thomas Charles; J. Milton Jones, ar James Craig; Joseph Hughes ar Y Dydd Sabboth. Nos Iau diweddaf cafwyd noson boblogaidd am y rheswm o gynaliad soiree, wedi ei godi i fyny gan y rhyw fenywaidd. Wedi mwynhau y dan- teithion rhagorol cafwyd cyfarfod amryvriaeth- ol o dan lywyddiaeth Mr. J. O. Williams, N.S. W. Bank (set maby Parch. Ph. Williams). Caf- wyd cyfarfod rhagorol.—Quilsyn.
NODION 0 LANAU'R DYFRDWY.
NODION 0 LANAU'R DYFRDWY. Deallwn i gyfeillion Llangollen wneyd elw sy- lweddol o ddarlith y Parch. Hugh Hughes ar D. L. Moody. Rhoddodd y cadeirydd Dr. Wi- lliams, Minffordd, gini tuag at Drysorfa'r capel newydd. Canmoli,r y ddarlith newydd gan bawb. Parha Cymdeithas Ddiwylliadol Llangollen yn rhyfeddol o flodeuog. Cafwyd yn ddiweddar bapurau ar Livingstone, gan J. W. Roberts; Stanley, gan H. S. Williams Isaac Jones, gan Walter Williams. Brwd iawn fu y ddadl Pa un ai swyddog am oes neu am dymor a ddylal blaenor fod. Am oes John Davies; am dymor Hugh Garner. Drwg genym ddeall fod Mr. John Jones, Ty Ceryg, wedi bod mewn enbydrwydd mawr yr wythnos o'r blaen wrth geisio croesi y mynydd o Glyridyfrdwy i Lanarmon. Amgauodd niwl dudew am dano a churid ef gan gawodydd try- mion o eira. Bu ar y mynydd wedi colli'r ffordd, o'r boreu hyd yr hwyr. Anafodd ei goes yn dost ond diangodd gyda'i einioes. Diolch. Rhoddwyd te a bara brith i blant Wesleyaid Glyndyfrdwy, ddydd Llun, Rhagfyr 16, gan Mr Robert Davies, Ffynnon Werin. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus. pryd y cymer- wyd rhan mewn adrodd, daganu, a dadleu gan blant y Band of Hope a'r bobl ieuainc. Una y Wesleyaid a'r Methoclistiaid yn Mhen- tredwr i gynal Band of Hope wythnosol. Nos Iau diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus, t 11 an wyd ein capel ni gan gynulleidfa frwdfryd- ig. Bwriedir cynal cyfarfodydd tebyg yn fisol. Mae yr holl chwarelau yn nghyffiniau Pentre- dwr a Bryneglwys wedi eu cloi gan v rhew a'r eira,. Sibrydir fod cwmni o'r America ar fedr pwrcasu y Wynnstay, a dysgwylir pethau mawr Gwisga'r achos yn Mhentredwr agweddau llew- yrchus: llawer o'n pobl a fuont ar grwydr ya chwilio am waith wedi dychwelyd. Yr wythnos hon cynaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yn Llangollen gan ysgalorion yr ysgol Gan- olraddol, Siaradai Mr. Olley y prif athraw yn ffafriol iawn am gynydd y pant mewn gwahanol fanau. Bydd yn dda genych ddeall fod mab Mr David Davies, Maes yr Ychain, Rhewl, wedi enill gwobr flaenaf yn ei form. Yr un wythnos cafwyd cyfarfod tebyg gan awdurdodau Ysgol y Bwrdd. Wedi i'r plant deithio yn fintai gref trwy y dref aethant i'r Pafllion i gael te. Yn yr hwyr rhanwyd gwobrwy- on gwerthfawr am deilyngdod mewn gwybodaeth ac am ffyddlondeb yn dyfod i'r ysgol. Prif waith y cyfarfod oedd cyflwyno oriawr arian hardd i'r bachgen ieuanc y cyfeiriasom ato yn barod sef Master Luther Garner. Ni chollodd awr o ysgol am naw mlynedd a phedwar mis. Cymerwyd rhan flaenllaw mewn dosranu y gwobrwyon gan Mr. E. R. Parry, fel un o ael- odau y Bwrdd. Anerchwyd y cyfarfod gan. y Cadeirydd (Parch. David Williams), Mr. James Williams, ac amrai ereill. Prif ddyddordeb presenol cylchdaith Cefn M wr ydyw y Bazaar gylchdeithiol a fwriedir ei chynal tuag Awst nesaf. Y mae haner yr elw i'w drosglwyddo i Johnstown tuag at leihau dy- led y capel newydd. Ca pob eglwys haner 'pro- fits' ei 'stall.' Gweithia pawb yn egniol, ac od oes neb 0 gyfeillion y gylchdaith garant gyn. orthwyo bydd yn dda gan y Parchn. Edward Jones, a Whittington Jones, gydnabod y cyfryw. Credwn fod rhagolygon dysglaer i eglwys Johns. town. Gwnaeth Pwyllgor y Capeli yn dd'oeth i estyn cynorthwy mor sylweddol iddi. Gwna Mri. Price a Powel wasanaeth anmhrisiadwy. Y Sale of Work sydd agosaf at galon cyfeillion cylchdaith Corweri. Cynelir hi yn Ngwyddel- wern y Nadolig. Y mae'r gylchdaith fechan hon wedi deffro drwyddi. Llonir y Parch. J. R. Ellis yn fawr gan wasanaeth a chydweithrediad ei gydymaith, y Parch. W. Arthur Jones, mab Druisyn. Dysgwyliwn yn aiddgar weled 'lay agent' yn Llangollen. Y mae iddo faes rhagorol. Atolwg pa le y mae ? Hyderwn Bad yw yr awdurdodau yw hepian.—Goh.
TOWYN.
TOWYN. Guild.—Cynauwyd yr uchod nOi Ian, Rjittf. 19, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Joaes, GWJn. fa. Wedi agor yn y ffordd arferol, darllenwyd papur galluog ac 111 dangoa ol Uafur gas y br&wd ffyddlom, Mr. D. O. Jones, Froudef, air Emynau Cysegredig, a'r Achos o'u Cyfa.6Oddi. Canwyd amryw o'r emynau gaa aelodau y Guild. Cafwyd noson ragorol yn rohob ystyr. Cyfarfod Nadolig.—-Y mM hwn yn ago#fca*, a dysgwylir y Parch. J. Cadvaa Davies, Aber- maw, yma i'n cynnrychioli ai fel enwad. Cy- farfod undebol y tri enwad sydd yma. Gw- beithio y ceir Ilwyddiant a bendii'i gyd"t pre- ,etb au.Cymro.
'V.,v: :.PORTHMADOG. ^ ;-…
'V.,v: PORTHMADOG. > Cymdeithas Lenyddol a Duwinyddol Eben. ezer.-Nos Lun, Rhag. 16, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Mon Hughes, cafwya dadi ar Pa un fti Rheswra ai Serch yw y Safon ddyogelaf i ddewis cydmar bywyd ? Cymerwyd ochr Rhbs- wm gan Miss Gwen P. Roberts; a Serch gan Mr. Thomas Lloyd, Tremadog. Agorwyd y naili ochr fel y llall yn hynod o ddyddorol; a chafwyd sylwadau pellach amynt gan amryw o'r aelodau. Ar y terfyn rhoddwyd y cwestiwn i bleidlais, a chafwyd y mwyatrit o ddwy bleid. lais o ochr Sexch. Talwyd y diolchgarwch gwresocaf iddynt am eu gwasanaeth.—J.H.LI.
VAN, LLANIDLOES.
VAN, LLANIDLOES. Nos Fawrth, Rhag. 10, cyfarfu ein Dosbarth DiwyLiadol; o dan lywyddiaeth y Parch. John Humphreys. Cafwyd cynulliad da. Gwaith y cyfarfod hwn oedd darllen ac esbonio. Yr oedd gofyniadau a'r atebion yn fywiog; ac olion llafur i'w weled ar bawb, yn enwedig ar y Dos. lIa III. Y mae ieuenctyd yr eglwys yn cy- meryd dyddordeb mawr yn y cyfleustra a geir yrt y cyiarfodydd hyn. Rhag. 16, cyfarfu y Dos. bartH, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Humph- reys. Gwaith neillduol y cyfarfod hwn oedd dadlu ar Enwadaeth. Agorwyd yr ochr gadarn- haol [Pa un oedd hono?—GOL.] gan Mr. John Evans yn dda iawn yna galwyd ar Mr. John Ashton, yr is-lywydd, i agor yr ochr nacaol. Gwrfaeth Mr. Ashton ychydig nodiadau yn'fyr Ac yn wir ddyddorol. Cymerwyd rhan yn y rh) ddyrnddyddan gan y br.Odyr can'-ynol -kfr:. D. Hamer, W. Morgans, J. R. Jones, a D. Jones, Post Office y nacaol, Mri. E. Davies, R. Jones, 1). T. Jones, J. Jones, ac R. Jones, Pwllyrebbl. Wedi cael vmddyddan brwd am yn agos i ddwy ltwt, terfynwyd" ycyfarfod trwy weddi gan y Llywydd.—H.T.E. [Rhaid i chwi ysgrifenu 'Gair at y Golygydd' i mewn llythyr dimai.—Got.}
" PEMBRE.
PEMBRE. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol yr Ysgol, Sul i y He uchod, Rhag. 8. Pregethwyd pregeth neillduol i'r plant yn y boreu gan y Parch. R. W. Jones. Yn y prydnawn a'r hwyr cafwyd cyfarfod arbenig i'r plant a'r bobl ieuainc i adrodd a chanu darnau cysegredig. Cafwyd Sul bendithiol;, ac eneiniad amlwg ar hyd y dydd. 'Nos Sadwrn, Rhagfyr 14, cafwyd darlith ddy- ddorol gan y Parch. T. J. Pritchard ar Ofer- goeledd. Pregethwyd y Sul a nos Lun gan Mr. Pritchard, yr hwn sydd yn hen favourite' yn Mh-mbre, ac ar yr ymweliad hwn y mae efe wedi myned yn fwy i serch y gynulleidfa nag; erioed. Byddwn yn dysgwyl cyhoeddiadi dau lyfr gan Mr. Pritchard yn ystod y flwyddyn nesaf, sef cyfieithiad o 'Higher Catechism' Dr. (Jape; a Chofiant y Parch. Owen Owen. Y mae yn bleser genym groniclo hanes Uwydd- iant un o fechgyn Pembre, sef Mr. Gwilymi Evans, mab i Mr. John Evans, goruchwyliwr gofalus cylchdaith Llanelli. Y mae Mr. Gwil- rm Evans wedi bod yn llafurio yn d'awel a di-; wyd am flynydd6edd gyda cherddoriaeth, a'r; wythnps ddiweddaf derbyniodd y newydd ei fod wedi pasio yr arholiad diweddaf am yr A.C. yn Lwyddiannus. Mr. Gwilym Evans, A.C., yw arweinydd y canu yn Mhembrfe, a gellir dy- weyd mai y cysegr sydd yn cael ffrwyth goreu gwybodaeth gerddorol Mr. Evans. Y mae efe yn bresenol yn1 mhob odfa boreu Sul, yri rrihob cyfeillach eglwysig, a chyfarfod gweddioi ar- wain y gan, yn ogystal a. dysgu y plant yn y Band of Hope mewn elfenau cerddoriaeth. Bydd ffyddlon, a phob Ilwyddiant i ti yn y dyfodol. Y mae un o ferched yr eglwys hon, sef Miss Elizabeth Hall, merch i'r diweddar Mr. David Hall, wedi dyfod i sylw yn ddiweddar fel can- tores, trwy enill amryw wobrwyon mewn eis- teddfodau. l^furfiwyd .pwyllgor yn ddiweddar o wahanol eglwysi i drefnu dau benent con- cert,' er mwyn i Miss Hall gael myned o dan gwrs pellach o ddysgyblaeth. Anfonodd y pwyllgor hi i ddechreu at Dr. Joseph Parry i gael ei farn addfed am ansawdd ei llais, vr hwn a dystiodd ei fod yn rhagorol, ac y gall gyraedd enwogrwydd mawr fel cantores. Pob Ilwydd- iant iddi.—Goh.
TABERNACL, CYLCHDAITH TREGARTH.
TABERNACL, CYLCHDAITH TREGARTH. Yr ydym ninau yn y lie uchod wedi dechreu o ddifrif gyda gwaith tymor y gauaf. Cych- wynasom Gymdeithas Lenyddol eleni eto. Y Kwyddogion ydynt:—Y Hywydd, Mr. Joseph Lewis, Marian Terrace; is-lywydd, Miss Tho- mas, Dinorwic Terrace; ysgrifenydd, Miss Williams, Rhiwlas. Agorwyd y Gymdeithas nos Lun, Rhag. 16, trwy i ni gael papur da iawn ar John Wesley a'i Amserau, gan Mr. R. Jarvis; a chafwyd ymddyddan pellach gan y Uywydd, a Mri. -Edward Parry, ac Edwin Ro- berts. Cafwyd cyfarfod o'r fath oreu. Sul Dirwest.—Rhoddwyd sylw neillduol i achos dirwest. Yn y boreu cawsom anerch- iadau yn yr ysgol-y rhan ddiweddaf o honi— gan amryw o'r bjodyr; ac adroddiadau pwr- pasol gan y plant. Cafwyd sylw ar y mater yn y prydnawn gan y Parch. Thomaa Tsfryn Hughes. Penodwyd Miss Thomas i edrych. ar 01 y Llyfr Dirwest, a hi a wnaeth waith da. Ac yn yr hwyr gwnaed sylw gan Mr. John Griniths, Rhiwlas. Y mae yma Watchnight' i fod eleni eto; ac y mae genym bob lie i gredu y bydd hi yn llwy: ddiannus, oblegyd y mae yma addewidion am rai da i'w chynal. Y mae y Parch. Thomas Hughes, Tregaarth, wedi addaw bod yn llywydd ac am roddi pregeth ar y diwedd. Ac y mae Mr. Vaughan Davies, Caernarfon, i fod yma. yn feirniad, ac i ganu, gydag amryw gyfeilllon eraill.-L.R. [Diolch i chwi am yr adroddiad, ond er mwyn pob rheswm a chydwybod, a phob peth arall sydd iawn a da yn mhedwar ban byd, yrn- rowch ati i ddysgu sillebu yn gywir. Y mae yn andros o beth na sillebwch enw ein papur, ■1? acrenw eich cylchdaith eich hun yn iawn.-— GOL.] -—
'HARLECH. '-.
HARLECH. Ymweliad y Cenadwr Talaethol.—-Dyna a fu'n destyn siarad teuluoedd y drefgastellog hon am hir ddyddiau cyn ei ddyfod, yn neillduol felly gan y llwyth Wesleyaidd o honynt. Teimlem "megys fod y dyddiau yn llithro yn rhy araf gan mor "gryf ein hawydd i'w glywed," yn dadlu dros y Meistr Mawr. Erbyn hyn rhaid rhestru ei ymweliad yn mhlith y pethau a fu, ac nid a d "aw. Dechreuodd Mr. Hughes nos Sadwrn, Rhag. 14, a llanwodd yr areithfa deirgwaith y Sabboth, wedi hyny parhaodd dros nos Ferch*r, Rhag. 18; Gwelir felly fod ei nosweithiau Cen. adol yma yn llai eu rhif na'r cyffredin yn ngwa. hanol leoedd y Dalaeth. Ond er hyny nid yn llai mewh nerth. Llefarai fel un ag awdurdod ganddo.' Fel pob dyn y mae y Cenadwr yn heneiddio, ond os yw cymdeithion yn ei hanes 'ef yn arwyddo hyny, rhaid myned tu allan i'r pulpud i'w canfod. Teihilem ei fod mor nerth- ol a hoeW ag erioed; hawliai wraridawiad y mwyaf cyndyn, a synai y d-oetll, with, ei wran- daw. Teg yw dyweyd fod y Parch. Hugh Hughes yn fwy anfynych ei vmweliadau a 'gwyr Harlech' na bron unman yn Nghymru. LIawer blwyddyn sydd wedi treiglo er pan y bu yma o'r blaen. Dywedai eihun ei fod 'uhfwy dyeithr yn Harlech na bron unman yn nghreadigaeth Duw,' fel has gall y darllenydd feddwl iddo sicrhau cynnlliadau mor fawrion ag a wna mewn parthau eraill o Gymry; er hyny, yr oedd y llanw yn codi bob nos. Fel tyst o'r tair noson olaf yr wyf yn traethu. Nos Lun nid oedd y cynulliad mor fawr, ond yn sicr yr oedd y peth angenrheidiol, sef y dylanwad ysprydol, yn aru- throl; rhaid oedd cydnabod fod y Duw Mawr yn agos. Eithr rii welwyd neb yn tori'r ddadl y noson hon, i ddylyn Duw Elias. Nos Fawrth yr oedd y gynulleidfa yn llawer mwy, er fod yr hili yn anfantetsiol. Cawsom oedfa wlithog yn wir, ac arwydd o hyny mewn gweled un chwaer yn galw am drugaredd. Hi a arosodd yn ol, a gwnaed datganiad ganddi o'i phenderfyniad iriwyach i wasaffaethu yr Hwn a'i prynodd a'i, waed ei hun.' Nos Fercher yr oedd y capel yn llawn: pob sedd wedi ei Ilenwi, a phawb yn gorfod dyweyd Nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y Nefoedd.' Ond siomiant yn nghanoly fath ddylanwad dyeithriol oedd can- fod nad oedd neb y noson hono, hyny yw i'r golwg, yn rhoddi arwydd o ufudd-dod i alwa.d yr Hwn a'n carodd m,or fawr. Ond na chwyn- wn:, dywedir 6s bydd yn bosibl, fod rhaid ei gael eto mhen blwyddynneu gynt.' Yn ddios y mae y genadaeth wedi bod yn allu mawr yma nid yn unig mewn cynhyrfu y rhai nad ynt eisoes arddelwvr yr -Arglwydd lesu, ond hefyd yn ddeffroad i'r bobl gysglvd, diafael vn eu dyledswyddau, ac yn symbyliad i'r honiadol. Hefyd prydnawn Mercher daeth nifer fawr o chwiorydd yn nghyd, a chafwyd anerchiad godi- dog, yn llawn o elfenau cymelliadol i bwrcasu yr un peth angenrheidiol, sef y rhan dda a ddewisoedd llair.'Duw bia'r clod.—D.W.
CYLCHDAITH RHUTHYN.
CYLCHDAITH RHUTHYN. RHUTHYN: Y Gymdeithas Lenyddol a Duw- inyddol.—Y mae y; Gymdeithas uchod yn myned ar gynydd mewn rhif, sel, a gweithgarwch. Yr wythnos o'r blaen cafwyd cyfarfod amrywiaeth- ol. Cadeiriwyd gan Mr. Jones, Ship House, a chafwyd gair pwrpasol ganddo ar amcan y Gym. deithas. Arweiniwyd yn bur ddeheuig gan y Parch. E. Mostyn Jones. Cymerwyd rhan gan aelodau y Gymdeithas a'r Band of Hope. Yr wythnos gan:ynol darllenwyd papur rhagorol gan Mr. Fred. Jones ar Yr Ysgol Sabbothol. Cymerodd Mr. Jones dair agweddiad arni. Fel Sefydliad, ei gwersi, ac fel moddion gras. Teg ydyw dyweyd mai Mr. Fred. Jones ydyw ysgri- fenydd y Gymdeithas, ac yn un o'r dynion ieu- ainc mwyaf parod a ffyddlon yn nglyn a phob achos yn ein heglwys yma. Hefyd, cafwyd dadl frwd, Pa un ai lhantais ai anfantais yw i'r Cym- ry gadw eu hiaith ? Cymerwyd yr ochr gadarn- haol gan Mr. J. Evans; a'r nacaol gan Mr. D. Davies. Siaradwyd gan amryw o'r aelodau ai y ddwy ochr; ac ar y terfyn cafwyd y mwyafrif o blaid y cadarnhaol. Rhag. 12, darllenwyd dau bapur rhagorol iawn ar Y parotoad goreu i ferch ieuanc ar gyfer bywyd o ddefnyddioldeb. Y naill yn Gymraeg gan: Miss Roberts a'r Hall yn Seisonaeg gari Miss Odgers. LLANFAiR Y Gymdeithas Lenyddol a Duwin- yddol.—Treuliwyd noson hynod o hapus ac addysgiadol gan aelodau y Gymdeithas uchod nos Lun, Rhag. 16. Cafwyd anerchiad agor* iadol gan y Parch. E. Mostyn Jones. Yr oedd yn dda genym weled cynifer o'r chwiorydd ieu- ainc yn bresenol, rai o honynt wedi d'od o gryn bellder o ffordd. Y mae y chwiorydd yma yn hynod am eu sel a'i ffyddlondeb gyda'r Gym- deithas. Gallwn ddyweyd am y brodyr ieuainc yr un modd, yr hyn sydd yn orawf eu bod yn cael pleser ac adeiladaeth yn y cyfarfodydd. Gwaith y noson hon oedd codi testynau o'r het, a chafwyd testynau da hefyd, megys Y Beibl, lesu Grist, Abraham, loan, Moses, Paul, Gwe- ddi, Beth yw y cynllun goreu i gael pobl ieu- ainc at eu gilydd, Daniel, Joshua, Dafydd, Rhagluniaeth, &c. Gwnaeth pawb ei ran yn ganmoladwy iawn. Yn mis Chwefror bwriedir cael cyfarfod llenyddbl, ac fod y chwiorydd ieu- ainc iymgymeryd a chael te parti i aelodau y Gymdeithas, a'r Band of Hope; a chyfarfod yn yr hwyr. Gellir dyweyd fod gan y bobl ieuainc ga:on i weithio.' Cafwyd gair ar y terfyn gan Mr. Henry Williams lay agent'), a therfynwyd trwy weddi. LLANELIDAN.-Cyfarfu aelodau y Gymdeithas o dan lywyddiaeth Mr. Henry Williams (' lay agent-, nos Fa,wrth, Rhag. 17, a daeth nifer lied dda yn nghyd, er fod y tyvnrdd yn anffafriol. Darllertwyd papur gan Mr. Tohn Lloyd, Hen- fryn, ar A oedd gan ddyn allu wylo cyn y cwymp, ai ynte pechod yw yr achos 6 hono ? Cafwyd papur rhagorol,gan Mr. Lloyd yn profi tufiwnt i ameuaeth fod jrgallu I wylo gan y dyn yn. ei greadigaeth, ond tnat dyfodiad pechod i'r bv9 sydd wedi bod yn ftchos o hono. Yr oedd Mr.'Price Williams, Ty Isa, ynbresenol, a chaf. wyd ganddo ei ochr yntau Vr ddadl, Pa un ai I rhan ai dewisiad yw priodas. Dadleuai efe mai dewisiad.ydyw, a dadleuai ei ochr yn gryf; « chafwyd ganddo lawer iawn o 'humour' nes creu cryn hwyl. Gresyn na buasai y ddwy ochr yn cael ei ddadlu yr un noson, gan y cawsid gwelI. mantais i benderfynu. Teimlai yr aelod- au y dylid cael y ddwy ochr rhyw noswaith eto, er gwneyd chwareu teg. Diolchwyd yn gynes iawn i Mr. J. L-oyd a Mr. Price Williams am eu papurau, a threuliwyd y gweddill o'r amser gyda'r 'Maes Llafur.—W.
CORRIS.
CORRIS. Cvmdeithaa Lenyddol Shiloh.-rJlla.1iwy- çy. farfod o'r uchod nos Iau, Rhag. iA, pryd y caf- wyd papur ar Mair, Mam yr lesu, gan Jrfrs. Emanuel, Tyno. Dyma y tro cyntaf y tyinor hwn i'r chwiorydd gymeryd rhan. Ond dys- gwylir llawer oddiwrthynt cyn ei ddiwedd, a gobeithio y gwnant eu gwaith mor gaomolsidwy a'r chwaer hon.—-Llew ap Gwilyna.
BWLCHGWYN.
BWLCHGWYN. Bethesda Y Gymdeithas DdtwyllmdoL—Noa" Iau, Rhag. 12, cyfarfyddodd y Gymdeithas uch- od, pryd y cafwyd anerchiad ar Ddarllen, gas y Parch. R. W. Jones, Brymoo. Mwynhaodd pawb yr anerchiadau yn fawr iawn. Dywad- wyd ychydig o eiriau pwrpasol iawn gan Mr. O. Conway Evans, yr hwn ddaeth yn gwmni i Mr. Jones. Cymerwyd y gadair gan yr Is-Lywydd, Mr. E. O. Belton, trwy fod y Parch. E. Davies yn anerch y Gymdeithas yn Coedpoeth.—Ysg.
TANYFRON.
TANYFRON. Mynydd Seion.-Parhau i weithio yn egniol y mae y Gymdeithas Lenyddol a Duwinyddol er pan y cawsom air o'r blaen yn y GWYLIED- YDD. Cawsom amryw o gyfarfodydd da a budd- iol, ac yn plith cawsom ddarlith ragorol gam y Parch. R. W. Jones ar John Wesley. Nos Fawrth, Rhag. 14, cawsom ddarlith ar y Proff- wyd o Arabia-a darlith ardderchog ydyw hon -ga.n y Parch. John Felix. Yr oedd y darlitk- ydd yn ei hwyliau goreu.—'E.J.
MANCEINION.
MANCEINION. Cymdeithas Lei^yddol a Dni^inyddol Dewi Sant a Gore Street.—CynaUwyd cyfarfod nos Lun, Rhag. 2, yn Newi Sant, pryd y cafwyd pa- pur neillduol o dda gan Miss S. J. Davies ar Ddirwest. Siaradwyd yn mhellach gan amtyw o'r aelodau, a'r Parch. R. Morgan. Diolchwyd i Miss Davies am ei phapur. Manteisiodd am- ryw o aelodau y Gymdeithaa ar y cyfleustra i ardystio Dirwest. Rhag. 9, o dan lywyddiaeth Mr. J. T. Ellis, caed dadl ar Pa un oreu 1 gyn- ulleidfa, Pregeth for, ai un hir ? Agorwyd dros bregeth hir gan Mr. Bernard Roberts; dros bregeth fer, gan Mn. N, Roberts. Cy- merwyd rhan yn y ddadl gan amryw. Rhodd- wyd y bleidlais i'r cyfarfod, a chafwyd fod y mwyafrif o blaid pregeth fer. Rhag. 16, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Morgan, darllenwyd papur cynwysfawr gan Mr. E. Price, ar Hawliau y gweithiwr yn ngoleuni y Beibl. Cymerwyd rhan yn yr ymdr&fodaeth gan Mri. Enoch Evans, J. T. Ellis, Bernard Roberts, a H. Owens. Yr oedd hon yn noson neillduol o dda. Teimlai pawb eu bod wedi eu talu yn dda am fod yu,o. Diolchwyd yn gynes i Mr. Price am ei bapur. -R.F.J. [Lleni bychain, 011 gwelwch ya dda.—GOL.] Seion Y Band of Hope,—Yn mhlith gwa- hanol adranau yr achos yn y lie hwn. teg ydyw H hysbysu fod y Gobeithlu yn dra llewyrchus y tymor hwn eto, o dan arweiniad Mri. Robert Jenkins, Owen T. Owen, Eyan, William?, a Bernard Roberts. Ymddengys ei bod ar hyn o adeg wedi rhoddi ei bryd ar gael Lantern Lled- rith i fod at eu gwasaaaeth er difyru a dyddOri y plant bach (a mawr, gobeithio, hefyd). Er mwyn cael arian i'r perwyl hwnw. rhoddodd y brodyr uchod, y noson o'r blaen, wledd o de a. bara brith i'r plant a'u cyfeillion, ar ol yr hw. y cynaliwyd cyfarfod amrywiaethol, o dan ar- weiniad Mr. David Rees, yr hwn a gyflawnodi ei waith yn drefnus, yn gystal a chyfranu ym deilwng o'r amgylchiad. Ac i goroni yr oil bu y plant yn alluog i gynal y than helaethaf o'r cyfarfod eu hunam, a hyfrydwch o'r mwyaf i bawb oedd yn bresetfiol fu canfod y fath dalent- au amrywiol a rhagorol yn meddiant gobaith y dyfodol.—Ysgrifenydd am dro.
PISGAH, CYLCHDAITH COEDPOETH.
PISGAH, CYLCHDAITH COEDPOETH. Marwolaeth Mr. Simon Davies.—Gofidus ge*- ym hysbysu am farwolaeth yr hen dad ffyddlow, Mr. Simon Davies, Brynygaer, yr hyn a gymer- odd le yn dra sydyn, ddydd Iau, Hhagfyr 12. Efe oedd yr unig un oedd yn arog o'r rhai a gychwynasant yr achos yn Pisgah yn y flwyddy* 1866. Ac o'r adeg hono hyd ddydd ei farwol- aeth llanwodd y swydd o flaenor gyda Ilwydd- iant ac anrhydedd. Bu yn ddyfal, diwyd, a. gofalus yn nghyflawniad dyledswyddau oi swydd. Profodd ei hun fel ymddiriedouwr cyn- taf y capel, ac fel trysorydd y trust, fod Uwydd- iant yr achos yn ei agwedd allanol, ya ogyartal a« ysprydol, yn agos iawn at ei galon. Dygodd fawr sel dros yr Ysgol Sabbothol holl ddyddiau ei fywyd. Llanwodd y swydd o arolygwr &m- ryw droion, a bu am flynyddoedd lawer yn ath- raw ffyddlon a doeth. Bu ei gartref am fwy na. deugain mlynedd yn llety pregethwyr yr efengyl. Byddai ef a'i anwyl briod bob amser yn falch o gyfleustra i roddi croesaw siriol a chalonog i bawb a ddelai i bregethu i Pisgah. Byddai pawb ya mwynhau caredigrwydd eyfeillioa Brynygaer. Nodweddid ein hanwyl frawd gall sirioldeb, hynawsedd, a doethineb. Hoffid ef yn fa.wr gan bawb a'i hadwaenai; arddangosodd yr eglwys ei pharch dwfn iddo, a'i hoffder tuag ato, trwy gyflwyno iddo anerchiad goreuredig hardd ryfeddol yn Mai, 1899. Nid oedd efe yø dylyn ei alwedigaeth er's peth amser bellacfe; treuliai hwyrddydd bywyd dyraunol a hapus ar bwys enillion gonest dyddiau ei nerth. Er ei fod, o henafgwr, yn gydmarol iach a heinyf, eta blinld ef gan anhwyldeb ar y galon, er hyny elai