Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[Gweddi.]

News
Cite
Share

[Gweddi.] Diolch i Ti, 0 Arglwydd, yr unig wir a byw- iol Dduw, y Tad tragwyddol, am i Ti garu y byd, a rhoddi Dy unig-anedig Fab fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Diolch i Ti am i'th anwyl Fab, y Mab oedd yn Dy fynwes erioed, yn ogyfuwch a Thydi er dyddiau tragwyddoldeb,1 Dy briod l ab, ddyfod i'r byd yn ein natur ni, am iddo ddyfod trwy Dy anfoniad Di Dy Hun yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, eto heb bechod eithr fel y comdemniai bechod, ac y dinystriai yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo. Diolch am iddo Ef ddyfod yn ddyn yr un ffunud a ninau, am iddo gymeryd ein gwen- did ni fel y dygai ein doluriau, ac yr iacheid ni trwy Ei gleisiau Ef. Ganwyd i ni Geidwad, Ceidwad sydd heb fod yn neb llai na Christ yr Arglwydd. Dyma y newydd goraf yn bosibl i fyd euog a llygredig, ac o ganlyniad colledig yn mbob ystyr. Dyma destyn llawenydd mawr. Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni. Efe a ddaeth fel y caem fywyd, ac y caem ef yn helaethach—cyn helaethed a thragwyddoldeb, Efe a ddaeth fel y rhoddai allu i ni i fod yn feibion i Dduw. Y mae ein hachos yn Ei law-yn Ei galon. OArglwydd dyro gymorth i ddiolch, a dyro oleuni Dy Yspryd BaDetaidd- fel y gwelom Ei ogoniant Ef, yr ymddinedom ynddo Ef am iaehawdwriaeth, yr addolom ac y gwasanaethom Ef a'n holl galon y byddom byw iddo Ef. ac y byddo Efe i ni yn bob peth. Caniata i ni 0 Dduw, gyfranogi o'r llawenydd mawr am fod Ceidwad wedi ei eni, ac am ei fod yn Geidwad i ni: ein bod yn gad- wedig trwy ras, trwy y prynedigaeth, trwy ffydd ynddo Ef. Boed y llawenydd mawr sydd trwy gredu yn eiddo profiadol i ni. Gwrando ni, 0 Arglwydd ein Duw, yn y pethau hyn er mwyn enw oll-haeddianol Dy anwyl Fab, ein Har- glwydd lesu Grist Ein Tad, yr Hwn Wyt yn y nefoedd, Sapcteiddier Dy enw. Deled Dy deyrnas. Gwneler Dy ewyllys, megys yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninau i'n dyledwyr: Ac nac arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot Ti yw y deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

[ Oweddi,]

EGLWYSBACH.

[Emyn 8, 7 a 4]

[Carol. ]

[Rhanau o'r Gair Sanctaidd.]

tiiifttr i [.Emyn M.H.]

[Pregeth].

[Emyn 8 a 7.]

Advertising