Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

PLAID SOBRWYDD.

News
Cite
Share

PLAID SOBRWYDD. SYLWASOM yn ein rhifyn diweddaf fod y rhai sydd o hlaidsobrwydd yn crynhoi eu galluoedd mewn parotoad at ymdrech i gael arogrymau adroddiad Arglwydd Peel, a'r lleiafrif o'r Dirprwywyr, wedi eu corffori yn Ddeddf y wlad. Rhoddasom grynodeb o'r awgrymiadau hyn yn ein colofnau arweiniol dair wythnos i heddyw, gyda dadganiad o'n gobaith y byddai i'r Cymdeithasau Dirwestol, a phob Dirwestwr ymuno mewn ymdrech i sicrhau deddfwriacth ar eu llinellau. Mal y dywedasom wythnos i heddyw, nid yw yr hyn a argymellir yn dyfod i fyny a'r hyn a fuasai yn dda genym. Ondyrydym yn sicr yn ein meddwl mai y peth goreu a ellir ei wneuthur yn y sefyllfa ac yn ol yr amgylch- iadau yr ydym ynddynt yw cydweithio yn egniol i geisio eu cael ar y Deddf-lyfr. Acy mae yn dda genym fod Syr Henry Campbell. Bannerman wedi nid yn unig siarad 0 blaid awgrymau Arglwydd Peel, ond yn mhellach na hynjr wedi cymell pawb sydd o blaid sob- rwydd i'w mabwysiadu, yn y presenol, a sefyll yn bybyr o'n plaid. Y mae yn dda genym weled ddarfod i Syr Henry wneuthur hyn am fwy nag un rheswm. Yn un peth, am fod y cwestiwn yn cael dal gafael ynddo. Parodd gorchfygiad y blaid Ryddfrydol yn 1895 ddigalondid-wel, a dychryn. Ofnai nid ychydig o Ryddfrydwyr nad oedd rhoddi achos Sobrwydd ar eu rhaglen amgen na denu ymosodiad a gorchfygiad, a bu hyny' yn ddadl dros adael y mater yn llonydd. A phe buasai y Rhyddfrydwyr yn ei adael felly gobaith gwan iawn a fuasai yn ymwared o le arall. Hawdd ydyw siarad am i'r Toriaid gymeryd rhan yn y cwestiwn, a pheidio son am blaid yn nglyn ag ef. Ie, hawdd siarad. ond gellir bod yn ddigon sicr na wna y Tor- iaid ddim ag ef oddi-eithr iddynt wneyd hyny oddiar y cymelliad iselwael a alwodd Disraeli gynt" to dish the Whigs." Addaw- odd Mr Balfour yn 1895 ddiwygiad, ond yn mha le y mae y cyflawniad ? Penodwyd Dirprwyaeth i ymchwilio i'r mater nid er mwyn gwybod mwy yn ei gylch, ond er mwyn ei roddi o'r neilldu. Cafwyd adrodd- iad y mwyafrif o'r Dirprwywyr yn pleidio dal gafasl mewn braint-fuddiant, ie, me wn creu y cyfryw. Er fod yn adroddiad y mwyafrif rai pethau a allant ymddangos fel diwygiadau, y mae yn nghlyn a hwynt fachau manteisiol i'r rhai jydd yn meddwl mwyaf am fuddianau breintiol na dim arall afael yr Ysgrifenydd Cartrefol, meddai efe yn swper y darllawyr, yn gweled fod adrodd- iapau y Dirprwywyr yn galw am brysuro i ddeddfwriaethu. Nis gallwn fod yn sicr pa mor bell y traethai Syr Mathew Ridley syn- iadau ei blaid, neu ei syniadau ei hun mewn cysylltiadau gwahanol, Modd bynag y mae pobpeth yn ein hargyhoeddi nas gellir dys gwyl Mesur gwirioneddol o blaid Sobrwydd oni bydd i'r blaid Ryddfrydig ei gymeryd i fyny gyda phenderfyniad ac egni. Qnd y mae y ffaith fod yr Arweinydd Rhyddfrydol wedi galw y Dirwestwyr i gymeryd i fyny argymellion Arglwydd Peel, ac fod cynnifer o wyr da yr edrychir arnynt fel cynnrych- iolwyr yr achos Dirwestol wedi ateb yr alwad, yn rhoddi seiliau lied gedyrn i obaith erbyn hyn. Yr hyn sydd yn peri digalondid yw y rhyfel annghyfiawn y mynodd y blaid sydd yn erbyn cynildeb a diwygiad, y blaid sydd bob amser yn edrych ar vested interest dos- barth yn bwysicach na chynawnder i bawb, arwain y wlad iddo. Y mae y rhyfel hwn, ac yn enwedig wedi iddo droi allan mal y g\\ aeth, wedi troi y cysgod ar idiwygiadau cai udfol yn ei ol, y mae genym ofn, lawer o raddau, Er hyny nid yw achos Sobrwydd, na diwygiadau eraill i gael eu gadael i golli o'r golwg. Yr ydym yn hyderus y dygir Mesur i'r Senedd ar linellau adroddiad Arglwydd Peel y gyfleusdra cyntaf, ac y caiff efe bob cefnogaeth gan Ddirwestwyr Cymru, ac na bydd y Wesleyaid Cymreig yn 01 i neb pwy bynag. Y mae genym eisiau i'n holl bobl fod yn barod mor fuan ag y clywir sain yr udgorn bloedd.

BOD YN GRISTIONOGION.I (

NODION O'R GORNEL.

GAIR 0 DREFFYNNON.