Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

.LLYWODRAETH FILWROL.

News
Cite
Share

.LLYWODRAETH FILWROL. YN ei araeth gampus yn Nghaerfyrddin, yr wythnos ddiweddaf, galwodd Mr Lloyd George sylw at un o effeithiau niweidiol polisi drygionus Mr. Chamber- lain, mewn perthynas a Deheudir Affrica, sydd a pherygl iddo aros yn hir yn y wlad./ Yr ydym yn cyfeirio at yr yspryd pleidiol i lywodraeth filwrol: yr yspryd fydd yn barhaus yn aflonyddu am ganoli amcan a gwaith y Llywodraeth mewn chwanegu darpariadau rhyfelgar. Gosod- odd Mr George y perygl hwn ger bron yn eglur iawn. Dywedir gan awdurdod- au milwrol uchel fod y rhyfel hwn wedi ein dysgu fod genym ry ychydig o filwyr, fod eisiau gynau ffasiwn newydd, a lluaws o bethau y bydd y rhai sydd yn dda ganddynt ryfel yn sicr o weled eu heisiau; a'r pwysigrwydd o'u cael ar frys, nes y mae lie i ofni na bydd y Llywodraeth nar Senedd yncymerydhamdden i ddim arall, yn y blynyddoedd nesaf, ond i lunio a phasio mesurau a fyddant yn gynyrch yr yspryd niweidiol hwn./ac ar yr un pryd yn gymelliad, ac, yn, gefnogaeth iddo. Y mae hyny yn goTygu ffarwel i bob symudiad diwygiadol gartref. Nid oes dim yn fwy effeithiol i fofldloni Tori- aeth, trwy adael tamlywodraeth gartref yn llonydd, na chadw y wlad yn llawn o yspryd rhyfelgar, er mwyn iddi fod yn rhy brysur,. yn gofalu am fuddianaUtyr. Ymerodraeth yn-rhywle oddiallan, i dalu I sylw t bethau mbpfychain 'a'r annghyf- iawnderau sydd eisiau eu symud yn Mhrydain a'r Iwerddon. A bydd jiyif yn golygu costau hefyd. Nid yn unig„,y; bydd raid talu treulion aruthrol y rhyfel hwn, a gwneyd i fyny am y colledion yn nglyn a'r fyddin a achosir drwyddo. Bydd raid gwneyd hyny. Pleidleisiwyd deng i miliwn ato yn barod, ond-beth yw deng miliwn Bydd y tirfeistr a'r parson druain, tlodion, mewn perygl o golli eu dognau, pan ddaw y cyfnod cyntaf i fyny. gan gymaint a fydd yr angen am arian i dalu traul y rhyfel. Eithr nid ar hyny yr erys pethau. Bydd gofynion llywod- raeth filwrol yn cynyddu yn harhaus. Bydd raid cael arian i weithio cynlluniau newyddion allan, ac i chwanegu adnoddau rhyfelgaa y Deyrnas. Os caiff Llywod- raeth filwrol awdurdod gwae y wlad. Ac un o effeithiau peryglus y rhyfel presenol fydd rhoddi esgus i fiwriaeth gymeryd meddiant lladradaidd o safle i fynu ei ffordd ei hun, tra y byddo y wlad yn ieddw ar ddiod wladgarol', Jingo. Ac nid mewn gorfod talu y costau y bydd yr unig anfantats, na'r niwaid mwyaf. Y mae llywodraeth filwrol, yr yspryd mil- wrol yn arwain i golli golwg ar iawnder, ac i ddibynu ar nerth. A phan y cyll gwlad ei gwerthfawrogiad o'r hyn sydd iawn, pan y gwneir hi yn ddall gan lwch melyn fel nas gall weled iawnderau pobl eraill, y mae ei dirywiad moesol yn sicr a pha beth sydd yn canlyn hwnw ? Bu adeg, ebai Jeremiah, na choeliasai bren- inoedd y ddaear, na holl drigoliou y byd y deuai y gwrthwynebwr a'r gelyn i mewn i byrth Jerusalem." Ond gwyddom pa I fodd y bu. Y modd i wneyd y wlad hon yn Little England," y ffordd i fod yn Littlej Englander ydyw ymddiried mewn gallu milwrol yn mhlaid polisi jannghyfiawn, ac i helpu miliwnyddion I ariangarol i foddhau eu chwant mewn I trawsfeddiant. Y mae ein bod yn anfon ein gwyr cryfion i gael eu lladd, ac eraill, i wrth y cannoedd, i ddychwelyd adref i fod yn aaafus am y gweddill o'u hoes: y mae gwneyd cynifer o wragedd yn CY weddwon, ac o blant yn amddifaid, er mwyn gwanc ariangarwyr, ac i foddhau uchelgais falch dyn diegwyddor, yn gam- wri dybryd a ni ein hunain, heblaw yn gam cywilyddus a phobl eraill y mae gan- ddynt gystal hawl i ddaear Duw ag sydd genym ninau. Y mae y ffordd hon yn sicr o fod yn oriwared a derfyna mewn Little England." oddigerth i rywbeth gyfryngu i lesteirio yr yspryd sydd. ar waith yn ceisio codi llywodraeth filwrol i awdurdod.

NODION O'R GORNEL.

SHAW STREET, LERPWL.

[No title]

l'....'" CLEMYF A CHAM.