Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y SEINIAU 0 LAN Y TAY.
Y SEINIAU 0 LAN Y TAY. Dywedwyd wrthym yn ddiweddar unwaith a thrachefn fod y Rhyddfrydwyr heb arwein- ydd. Ac o ran hyny, myn rhai o'n cyfeillion Toriaidd nad oea gan y Rhyddfrydwyr ddim yn y byd. Y maent, druain, heb a^weinydd, heb raglen. heb egwyddorion. heb bolisi-wel, beb "domen." Maent yn dlotaoh nag oedd Job, ao yn fwy di-gyfeillion Ond gall gwr- ach fwy na breuddydio wrth ei hewyllys. Ac yn y dyddiau diweddaf hyn ba y wraoh Dori- aidd yn cyhoeddi cryn lawer o b than wrth ei bewyllys, heb gymeryd amser hyd yn nod i'w breuddwydio. Yr wythnos ddiweddaf, fodd bynag, cafodd y wlad a'r Toriaid yn y fargen, wybod fod Syr William Harcourt yn fyw ac yn iaoh, a cbyn graffed, ao mor gyrhaeddgar ag erioed. Do, cafwyd gweled ei fod yn fyw i'w rwymedigaeth a'i gyfrif oldeb fel arweinydd ei blaid, ac mor iach ag erioad yn ei egwydd- orion Rbyddfrydol. Y mae tine iaoh ei syn- iadan yn seinio o'r ta hwnt i'r Tay yr hell ffordd i'r tu hwnt i'r Tafwys. Nis gollyngwyd yr hen egwyddorion Rhyddfrydig i golli. Nid aeth Syr William a'i ganlynwyr ar encil o'r gwersyll, nid aethant drosodd at y gelyn, ni newidiasant y credo Rhyddfrydol, ae nid ydynt yn ymddiheuro am ymano a'r Torpid." Y cyfieithiad o hyn ydyw, ni wnaeth Syr Wm. Harcoort a'i ganlynwyr mal y gwnaeth y gwir Anrhydeddus Joseph Chamberlain, y gwr, trwy ei haerllugrwydd yr wythnos o'r blaen mewn parth arall o Ysgotland, a brof- ociodd y sylwadau. A ydym ni," ebai Syr William, u y rbai a roisom y rhodd fawr o hun- anlywodraeth i'r trefedigaefchau, y rhai a welsom ganlyniadau hapus y fath ymdditied ) yn y bobl, a ydym wedi digaloui am hunan- i lywodraeth i'r lwerddon, yr hyn sydd mor ang- j enrheidiol nes y mae hyd yn nod y Llywod- 3 raeth bresenol yn myned i dreio eu llaw." A,, chyda golwg ar gwestiwn masnach y ddiod, y mae efe yn aros yr nn mor gadarn ag o'r blaen. Ao yr oedd tine y Dadgyeylltiad hefyd mor iach a chlir ag oedd modd. "Pa bryd," gofynai efe, y bo gan y blaid Ryddfrydol gywilydd o'r athrawiaeth sydd yn anadl bywyd iddi, sef ovdraddoldeb gwladol a obref- yddol ger bron y gyfraith, a'r gwadiad o bawl uorhyw gredo neilldnol o gael bleenoriaeth bramt gan y Wladwriaeth, yr hon y mae ganddi ymddinedoiaeth i bob dinesydd fel eu gilydd ?" Yr on modd y daliai efe afael yn un dyn un bleidlais," Seneddau byrach, ataliad difreiniad y gweithwyr trwy newid eu cartrefi. Ac felly befyd gyda rheoleiddiad cyhoeddna yr yagol. ion a dderbyniant arian y Llywodraeth; a'r diwygiad yn neddfaa y tir gyda golwg ar drethiant a deiliadaeth. Yn yr holl bethau hyn yr oedd Syr William Harcourt yn ffydd- Ion i'r hen egwyddorion, ao yn profi gyda'i graffder a'i byawdledd arferol fod yr arwein- ydd a'r egwyddorion a'r rhaglen Ryddfrydol fyth ar gael. Ac yr oedd efe yr un mor graff a medrus i feirniadu gweithrediadau y Llywodraetb, ac i ddynoethi ei beian, hefyd. Difyr oedd ei weled yn cydmaru yr hyn a wnaed gan Lywodraetb y mwyafrif byoban a Llywodreeth y mwyafrif mawr. Y mae peth felly yn angenrheidiol. Mae y man-Aelodau, o draa yr aelod dros Fwr- deisdrefi Maldwyn, yn cloohdar oymaiot am yr hyn a wnaeth y Llywodraeth bresenol. A pha beth wnaeth hi ? (iwaddoii yr Arglwyddi Tirol a miliwn a haner o bunan o arian y wlad; gwaddoli yr Eglwyswyr gyda chwe chan mil trwy arbed eu llogellau i gynal ei hysgolion preifat, a-gwaddoli yr Ysgolion Byrddol, rai o honynt !—ag un can mil! Do, rboisant Ad- daliad i'r gweithwyr—i lai na'u haner, oofier -OB dygwydd damwain. Eithr nis gall y Llywodraeth gael dim credyd am y gyfreith 110n, ond yn unig am yr hyn sydd ddiffygiol a beius ynddi. Y Rhydfrydwyr oedd piai egwyddor fawr y Mesur hwn; a gwnaethant eu goreu i'w gael mor gyfiawn, ac mor gyflawn ag oedd bosibl. Nid dyma y waith gyutaf i Lywodraeth Doriaidd ladrata Mesuraa Rhydd- frydig, a'a hanafu. Ond, fel yr adgofiodd Syr William Harcourt, nid yw y rhai sydd yn byw ar bolisi y blaid arall yn cael llawer o gredyd, xiao yn ei haeddu. Felly y ba gyda Duo Wellington, Syr Robert Pee), aMr Disraeli. Ac yr oedd Syr William yn dynoethi meth- iant Arglwydd Salisbury yn y Swyddfa Dramor gyda goleuni rbyfeddol o danbaid. Ond prin yr oedd aogen am hyny hefyd; oblegyd newydd fod oedd Argl. Salisbury ei buo yn gwneyd ymddiheurad am hyny. Ac nid oedd Syr W. Haroourt yn rhyfeddu ddarfod i Argl. Salisbury adael allan bob eyfeiriad at Ddeheudir Affrica o'i araeih yn ngwledd yr Arglwydd Faer. Ond yr oedd gan Syr William beth i'w ddyweyd. Gau wneyd eyfeiriad at y Pwyligor a fu yn eistedd ar achos ymgyroh Dr Jameson, ebai efe "Bu i'r Pwyllgor hwnw roddi y cerydd llymaf y gallesid ei gyhoeddi ar brif awdwr y drafodaeth. Cafwyd ef yn euog, tra yroedd efe mown safle o'r ymddiried uwchaf, o dwyllo yn fwriadol bawb yr cedd efeyn rhwy- medig o fod yn ffyddlon iddynt. Ni ddywed- odd cymaint ag un aelod o'r Pwyligor air yo erbvn y casglaid hwnw. Gyda'r syndod mwyaf, gan hvny, ie, gyda'r condemaiad cry- faf y gwrandewais yr Ysgrifenydd Trefedig- aethol yn dyweyd cad oedd dim wedi ei brofi oedd yn efieithio ar safle Mr Rhodes fel gwr o anrhyiedd." Ac yr oedd yn iechyd i galondyn ddeall fod pobl Dundee yn crio cywilydd wrth wrando y fath ddatganiad. Yr ydym yn falch ddarfod i Syr William gondemnio safon moesoldeb y Swyddfa sydd dan reolaeth Mr Joseph Chamberlain mor ddifloesgni. Y mae y seiniau o Ian y Tay yn y i oreu.
COFFADWRIAETH Y PAitCH JOHN…
COFFADWRIAETH Y PAitCH JOHN EVANS. Y mae yn amlwg iawn fod teimlad crvf yn mhlith y Cymry Wesleyaidd yn gyffred- inol dros wneyd rhywbeth yn ddioed er Coffadwriaeth am y diweddar Barchedig John Evans. Ac er mai adeiladu capel yn Mhontypridd ydyw llais y mwyafrif sydd wedi ein cyraedd ni, a dyna benderfyniad unfrydol Pwyllgor cryf a gynaliwyd rai dyddiau yn ol yn y Deheudir, y mae yn rhaid i ni ddywedyd mai nid dyna yr unig beth a ddywedir. Y mae rhai yn dadgan yn gryf y dylid adeiladu capel ar unwaith yn Mhontypridd, ond yn dal allan cyn gryfed a hyny na ddylid adaeladu hwnw y fath ag y byddai yn briodol ei alw na'i gyfrif yn Gapel Coffadwriaetkol i Mr Evans. Y mae genym ganiatad yr Hybarch Richard Roberts, Llundain, i wneyd ei syniadau ef yn nglyn a'r mater hwn yn hysbys. Ac yr ydym yn gwneyd hyn am y gwyddom fod gan Mr Roberts y parch dyfnaf i Mr Evans, a'r aw- yddfryd mwyaf am i barch teilwng gael ei roddi i'w goffadwriaeth. Y mae genym lawnder o brofion o'i gydymdeimlad cywiraf a dyfnaf a'i frodyr Cymreig, ac a'u gwaith yn y ddwy Dalaeth. Efe a ddangosodd hyny ar hyd y blynyddoedd, ac heb ymwthio nac ymyraeth. Y mae efe yn cymeryd dyddor- deb yn ein hachos heb fod ganddo whim i'w gwasanaethu wrth wneyd hyny. Yr ydym yn teimlo yn rhydd gan hyny, trwy ei gan- iatad, i ddyweyd pa fodd yr edrycha efe ar bethau yn y cysylltiad hyn. Nid oes ganddo gymaint o ddyddordeb mewn Capel Cofad- wriaethol, fel y cyfryw, ag sydd ganddo mewn cael Capel i. fod yn gartref cymwys i'r eglwys a'r gynulleidfa y bu Mr Evans yn foddion i'w casglu yn Mhontypridd. Efe a ddywed y byddai gadael iddynt fyned ar wasgar o ddiffyg cartref cymwys u yn gywil- ydd ac yn bechod." Barna Mr Roberts mai capelldiaddurn, defnyddiol—gyda'r cyfleus- derau angenrheidiol-yn cynwys lie i o dri i bedwar cant o bobl i eistedd ynddo a ddy- lai capel Pcntypridd fod. Ac y mae yn dal y dylid ei wneyd ar unwaith. Ac am Hall yn Llandrindod, efe a ystyria na ddylid cy- sylltu yr idea a'r symudiad er Coffadwriaeth Mr Evans fodd yn y byd. Gwaith ein brodyr Seisnig ydyw gwneyd darpariaeth yno. Gwelir mewn colofn arall fod y Parch Hugh Jones a Mr T. Charles Lewis yn galw ar bawb oil sydd am ymgymeryd a rhan yn y symudiad i gyfarfod yn Nghaer, ddydd Llun nesaf. Y mae Llythyr wedi ei ar- wyddo ganddynt hwy yn sicr o warantu cynulliad cynnrychioliadol a llnosog. Ac fel y dywed Mr Roberts, y mae y mater mewn dwylaw dyogel. Nid oedd fodd iddynt gychwyn yn ddoethach. Y cyfran- wyr sydd i benderfynu beth a wneir a'u cyfraniadau ac mewn ymgyngoriad y bydd dyogelwch. Nipherthyn i ni gynyg cyf- arwyddo na dysgu. Ond gallwn ddyweyd ein bod yn gobeithio, beth bynag a wneir mewn Coffadwriaeth am Mr Evans, y bydd pawb yn cytuno i sicrhau capel cymwys i Bontypridd-pa un bynag ai Coffadwr- iaethol ai peidio. Credwn mai dyna yr angenrhaid cyntaf-pena); neu beidio. Am y ddyled," neu yn hytrach yr estimate o'r draul i gario y Genadaeth yn mlaen hyd ddiwedd Awst nesaf, y mae yr achos hwnw o dan ofal Pwyllgor rheolaidd o benodiad y Gynadledd. Nid oes a fyno y symudiad er sicrhau Coffadwriaeth Mr Evans ddim a wnelo a'i waith. Y mae y ddau beth yn hollol wahanol a chredwn mai annoethineb o'r mwyaf a fyddai cynyg ymyraeth a gwaith Pwyllgor y Gynadledd yn y mater hwnw.
YMWELIAD A LLUNDAIN.
YMWELIAD A LLUNDAIN. [GAN YMWELYDD O'R WLAD.] Yn daw ar bob holi pwy ydwyf, dywedaf fy mod yn Wesleyad o Ogledd Cymra, ao ni ddy- wedaf pwy. Nid rhoddi fy hanes fy hun ydyw yramoac, ond dyweyd gair yn benaf am a welais aoa glywaie. Uychwynais i'r daith ddydd Sadwrn, Tach. 19eg. Yn ffortanns tarewais ar y Parch. J. P. Roberts, Llanrwst, yn Station Caer; ao erbyn cael oyfarch ein gilydd, a holi helynt y naill y llall, yr oedd yntau yn myned i'r brif-ddinas, a bu mor garedig ag addaw cymeryd fy ngofal yn ystod y daith. Yr oedd hyny yn ollyngdod mawr i mi, sydd yn wr cartrefol ac yn deichiwr gwael. Cefais ymgom ddifyr gydag ef ar hyd y daitb. Yr oedd yn gwmni dyddan ryfeddol. Aethnm i Lundain heb yn wybod i mi fy haD. Deallais ar Mr Roberts mai myned i Lundain i gadw cylohwyl y Wesleyaid Cymreig yn y West End yr ydoedd, a'i fod yn deall y byddai y Parch. Hugh Jones, Cadeirydd y Dalaeth, yno gydag ef. Gan fy mod i aros yn y pen hwnw i'r ddinas, gwnaethum fy meddwl i fyny i fan- teisio ar yr wyl. Ar ol cael tamaid, dywedais wrth fy lletywr am y oydgyfarfyddiad, ac am fy mwriad o drenlio fy amser i fwynhau y cyfarfod o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yr oedd yn faloh o hyny, am ei fod wedi derbyn cyichlytbyr yn nghylck yr wyl, ac yn awyddns am ei mWYD- han. Cymerodd fi i'r Gothic Hall-nid wyf yn Cwfio enw yr heol—erbyn 7-45. Yr oedd myned i addoliad mor hwyr yn gwneyd i mi deimloyn od. Nid oes genyf ddawn i ddesgrifio y lie, onide gwn,,etliwn. Beth bycag, yr oedd yno ddringo grisiau lawer i gyraedd yr ystafell,— wel, bu agos i mi ddyweyd capel, oblegid yr oedd ar yr un style a ohapel yn union. Ar ol myned i mewn gwelais amrai o'm ben gydna- bod—Mrs Woods, diacones enwog y lie; Mr David Owen, brawd y diweddar Barch. R. T, Owen, yn edrych mor siriol ag erioed Mr D. Roberts, Penybryn, Eglwysbach, gynt, yn ed- rych mor ddefosiynol a sant, ac amrai eraill. Cyn hir gwelwn y Parch. H. Jones yn hwylio at ddechreu yr odfa, ond fy nghyfaill Mr Roberts oedd i bregethu. Gwnaeth hyny yn rhagorol. Er fy mod wedi clywed llawer ar Mr Roberts ni ohlywais y bregeth hono erioed o'r blaen. Ei destyn oedd Jerem. xiv. 7-9. Yr oedd yn bregeth amserol iawn. Cymerodd gyflwr y genedl ar y pryd yn ddrych i osod allan sefyllfa bresenol crefydd, a gweddi y prcffwyd yn gyntlun o'r modd i sicrhau diwyg- iad orefyddol. Dylai Mr Roberts ei phregethu yn mhob man. Gwnaeth argraff ddwya ar fy meddwl i, a gwelwn wrth agwedd y gynulleid- fa yn gwrando ei bod yn gwneyd argraff ar bobl ieuainc y lie yn arbenig. Yr oedd y cas- gliad yn dilyn. Y Parch. Evan Jones oedd yn dyweyd gait ar y mater hwnw. Yr oedd yn edrych yn gadarn fel derwen, ond wedi gwynu cryn dipyn er pan y gwelais ef o'r blaen. Dy- wedodd gydag awdurdod fod arno eisiau pym- tJieg punt ar hugain yn ystod yr wyl. Wrth edryob ar faint y gynulleidfa gyntaf, er fod y cynulliad yn an da ar nos Sadwrn, yr oeddwn yn meddwl fod ganddo fwy -o ifydd na mi. Ond mae'n debjg ei fod yn adnabod ei bobl, ac yn siarad yn ol ei wybodaeth am danynt. Aeth yr odfa drosodd. Ond yr oedd odfa arall i ddilyn—odfa yr ymgyfarch, yr ysgwyd :dwy-, law, yr holi a'r helynt. Er fy syndod yr oedd yno amrai o'r dynion a'r merohed ieuainc yn fy ¡ adnabod inau, a chefais gryn fwyohad wrth ddeall fod llawer o honynt yn biant rhieni oedd yn adnabyddas i mi yn ngvrahanol ardaloedd Cymru. Ar y terfyn aethnm gyda'm lletywr i gael noswaitb o orphwysdra. Borea dranoeth cefais fy hun yn yrun ystafell erbyn un-ar-ddeg o'r gloch. Yr oedd hyny yn chwithig i mi hefyd oblegyd y byddaf bron yn barod i gych- wyn adref o'r odfaon yn Nghymru yo faan ar ol un-ar-ddeg. Decbrenwyd yr odfa gan Mr Roberts. Y pregethwr oedd y Parch. H. Jones. Yr oedd mater y bregeth yn un go hynod- Terfynau dylanwad gwaddi credinwyr dros frodyr dirywiedig. Fy marn ydoedd fod y ddan bregethwr fel pe yn deall en gilydd, ac wedi trefnu i bregethn yn yr un eyfeiriad. Deffro- wyd fy meddwl i'r ystyriseth ein bod yn rhy ddifater o lawer yn nghylch y rhai sydd yn ymollwnQ" i bechodau yn ein heglwysi. Daeth pregeth y ca-igliad drachefn oddiwith y Parch. H. Jones. Efelycbiad ydoedd o'r bregeth y noson flaenorol gan yr nrolygwr. Er tipyn o syndod i mi daeth y adiacones, Mrs Woods, ataf ar y diwedd i'm gwahodd d giniawa gyda hi. Boddlonodd fy Iletywr. Yn y man cefais fy hun yn un o bymtheg wrth fwrdd y wraig dda bon, no yr oedd yr arlwyaeth yn deilwng o haelfrydedd ei chalon." Cefais hamdden tra wrth y bwrdd i gael gair gydag amrai oedd yn ddieithr i mi. Yn eu plith yr oedd Paul (nid yr apostol) a'i fam, Llewelyn Morgan o Rich- mond, David Owen, ao eraill. Am dri o'r gloch yr oedd yr odfa brydnawno yn dechreu. Pregethodd Air Roberts draohefn i gynulleidfa oedd yn llenwi yr hall fechan. Er yn awr drymaidd yr oedd y bregeth yn ddyddorol a grymus ao o'r un duedd a'r breg- eth y noson flaenorol. Yr oedd tea wedi ei ddarparu yn no o ystaf- elloedd yr adeilad am ychydig o geiniogau. yr hwn a fwynhawyd gan yr oil, mi debygwD, oedd yn yr odfa. Mae trefniant o'r fath yn hanfodol mewn lie fel Llundain, gan fod y mwyafrif mawr yn byw yn rhy bell o'u cartrefi i'w oyr- haeddyd rhwng dwy odfa. Mantais arall yn nglyn a'r trefniant ydyw ei fod yn gyfleusdra i'r aelodau a'r gwrandawyr i ymgydnabyddu a'u gilydd. Edrychai pawb yn gartrefol a hapna. Dygwyddais eiscedd yn ymyl y ddi- aoones, a synais at ei haelfrydedd. Ar ol rhoddi ciniaw i bymtheg, mynodd da In am de yr holl weinidogion oedd yn bresenol- Bandith or phwyso arni weddill ei dyddiau. Nid eitbriad [ oedd y caredigrwydd hwn. G-wna ran mam i'r students Cymreig fydd yn Richmond ar hyd y blynyddau, ac y mae y bechgyn a'r genethod ieuainc sydd yn myned i fyny i Lundain yn cael lloches o dan ei chronglwyd, a'i chyfarwyddyd a'i chymorth i chwilio am leoedd, a phobpeth arall yn ol eu hamgylchiadau a'u hangen. Hi yw yr etholedig arglwyddes," Dorcas, a Lydia yr achos Cymreig yn Llundain. Dechreuwyd yr odfa hwyrol gan Mr Llewelyn Morgan, Richmond. Pregethodd Mr Roberts yn rhagorol ar y Crist digyfnewid"; ac ar lei ol Mr Jones ar "Grist yn hanfod a sylwedd y cyflwr adferedig," cafodd adeg hapus; ac yr oedd eneiniad ar yr.odfa o'i dechreu i'w diwedd. Deallwn fod y casgliad oddeutu pedair punt ar hugain o'r dechreu hyd yn hyn; ac at hyny hysbysai Mr Arolygwr ei fod wedi derbyn pum punt oddiwrth un o gyfeillion ffyddlon yr achos i chwyddo y swm uchod. Y foneddiges garedig hono ydyw Mrs Holman, yr hon sydd yn disgyn o linach yr Hughesiaid, Caergybi, ac yn parhau yn ffyddlon i'w chenedl a'i henwad, er fod rhagluniaeth wedi ei dyrchafu i leoedd uchel cymdeithas. Synais weled y cynulliad anferth oedd wedi dyfod yn nghyd i r Hall fawr erbyn hyn. Nid oedd yno lai na phum cant o bobl. Dywedai y rhai sydd yn gyfarwydd a'r lie na welsant well cynulliad erioed gyda'r Wesleyaid Cymreig yn y West End. Cefais fwynhad mawr o gael ysgwyd Haw a niferoedd o'm hen gyd- nabod,—yn eu plith yr oedd Mr a Mrs Griffiths, Bangor gynt; Mr a Mrs W. E. Davies, mab y diweddar Dr. Davies, a merch y Parch Samuel Davies (wedi dyfod yno 15 milltir o ffordd), Mr a Mrs J. Harrison Jones, Dinbych, oedd ar ym. weliad a'r biif-ddinas; ac amrai eraill nad oes gofod i'w crybwyll. Mae y llith yn rhy faith i orphen yr hanes. Rhaid gadael fy ymweliad a'r Parch Richard Roberts, a'r odfa yn City Road hyd yr wythDOS nesaf.
Advertising
EXTRAORDINARY COUGH CURE. Powell's Balsam of Aniseed-For Coughs, Powell's Balsam of Aniseed-For Colds. Powell's Balsam of Aniseed—Coughs.—Asthma. Powell's Balsam of Aniseed—Coughs.—Bronchitis. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Lung Troubles. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Night Coughs. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Inftuenza. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Relieves Instantly. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Safe and Reliable. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Established 70 years Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Refuse Imitations. Powell's Balsam of Aniseed-Coughs.-Sold by Chemists. Powell's Balsam of Aniseed-Bottles, Is .lid, 2s. 3d, & upwards S Mark—Lio Net and Mouse on Wrapper.