Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ANWIREDD A GWAED. ! ,,'

News
Cite
Share

ANWIREDD A GWAED. YN mhlith llawer iawn o bethau pwysig a tbra theilwng o ystyriaeth a ddywed- wyd gan Mr Samuel Smith, A.S., yn ei araeth gynwysfawr a chlir yn Mhenardd- lag wythnos i heno, nid oedd dim yn bwysicach na difrijolach na'r cyfeiriad a wnaeth efe at y ffajth gyffrous o ddiryw- iad amlwg, y blynyddoedd diweddaf hyn, yn syniad moesol a chydwybodolrwydd y wlad. "Yr ydym wedi syrthio yn ol," ebai Mr Smith, "oddiwrth faner ddyrch- afedig cyfiawnder yr hon y ceisiodd Mr Gladstone am gyhyd o amser ei chadw i fyny yn ein hymwneyd a chenedloedd Tramor." Y mae hyn yn rhy wir i'w wadu, yn rhy eglur i'w brofi. A pha ryfedd nid Mr Gladstone, na neb o gyff- elyb feddwl iddo, sydd wrth y llyw! Yr t oedd gan y baril a'r botel gymaint i'w wneyd a rhoddi y Weinyddiaeth bresenol mewn swydd ac nid yn y dafarn y ceir egwyddorion pur ac aruchel, nid yn y darllawdy y cymellir ac y meithrinir cyd- wybodolrwydd gonest a dwfn. Addefwyd yn gyhoeddus gan rai o wyr y ddiod mai eu masnach ydyw eu politics. Ac yn hyny y maent yn onest, ond nid yn adrodd newydd i neb sydd a'u llygaid yn eu penau. Ac wythnos i heddyw addef- odd Arglwydd George Hamilton, y gwr y mae agoriad ein llywodraeth yn yr India wrth ei wregys, mai polisi y Wein- yddiaeth ydyw dyogelu buddianau ei ffrindiau. Yr oedd hyn hefyd yn hysbys i bawb a dalasant sylw i weithrediadau y Weinyddiaeth ers dwy flynedd, er nad oedd neb hwyrach yn dysgwyl i aelod o'r Weinyddiaeth gydnabod hyny yn gy- hoeddus: Meddyliasom yn gyntaf, pan ddarllenasom hyn, am yr hen air, Gan y gwirion ceir y gwir." Eithr wedi ail feddwl yr ydym yn credu nas gallwn briodoli yr addefiad i wiriondeb—i ddi- niweidrwydd yr Arglwydd hwn. Ym- i ddengys yn debycach ei fod yn ddeilliadol o'i haerllugrwydd yn yr ymdeimlad fod gan y Weinyddiaeth saithugain o fwyafrif yn Nhy y Cyffredin, a ffyniant y syniad fod gallu yn gyfystyr ag iawn. Wedi i'r wlad roddi Arglwydd Salisbury wrth y tlyw nis gellir dysgwyl i don gwleidydd- iaeth fod yn uchel. Oni cheir dyn geir- wir wrth y llyw beth sydd ond dirywiad i'w ddysgwyl ? Dangosodd y Prif-wein- idog yn achos Cyprus ugain mlynedd yn ol nad oes ymddiried i'w air. Ac y mae y wlad yn gorfod dyoddef oherwydd y camwedd hyd heddyw; ac mewn rhan iiawr oherwydd hyny bu gwaed yr Ar- meniaid yn mwydo daear eu gwlad er's mwy na dwy flynedd. Yr oedd Arglwydd Salisbury yn benaf yn un o'r chwe' prif allu oeddynt yn cyfansoddi '• Cydgord Ewrop ond nid oedd gan y Galluoedd eraill ymddiried ynddo, nis gallasent am- gen na'i ddrwg-dybio. Gwyddai a theimlai Arglwydd Salisbury hyny, ac o'r herwydd gwelwyd ef yn bygwth, yn cymell, ac yna yn tynu yn ol drachefn a thrachefn, a'r Twrc yn cael ei ffordd, a Chrete yn cael ei gadael yn yr helbul, a Thessaly yn ei chyni, a Phrydain heb ddylanwad na pharch. Ac nid yw Arglwydd Salisbury yn gwella dim. Yr ydys yn cofio y modd y gwrthododd efe i'r Wesleyaid gael tir am arian i adeiladu capel arno yn Hat- field, ac am y modd y ceisiodd efe "ddianc o honi" y pryd hwnw. Yr un moddau oedd ganddo i geisio dianc o honi yn agwyneb y cyhuddiadau o'i ddiofalwch am wir fuddianau Prydain yn Tunis, yn Slam, a Madagascar. Nid oedd ryfedd i un newyddiadur ddyweyd ei bod yn an- hawdd cael geiriau i roddi darluniad cywir, ac ar yr un pryd yn ddidramgwydd, o'r modd yr ymwna Arglwydd Salisbury gyda ffeithiau adnabyddus. Da fod pobl eraill yn cofio yr hanes a'r amgylchiadau. Ychydig fisoedd yn ol yr oedd y miliwn- ydd Cecil Rhodes yn cael ei ddal, ac yn gorfod cyfaddef ei fod yn euog o arfer twyll ac o draethu celwydd. Ond yn fuan wedi hyny yr oedd Mr Joseph Chamberlain yn cyhoeddi nad oedd efe wedi ystaenio ei an- rhydedd! Nid yw celwydd a thwyll, a hyny mewn cysylltiadau a allasent yn hawdd arwain i ryfel yn Ewrop, yn ystaenio cymer- iad yn ol moeseg Mr Chamberlain Ac mewn canlyniad y mae y wasg Doriaidd yn molianu Mr Rhodes fel un o adeiladwyr yr Ymerodraeth. Nid yw ei "gamgymeriadau" (?) i'w cofio-y mae y Seison yn eu madd- eu wrth feddwl am ei hunanymwadiad (?) yn pocedu ei filiynau! Y mae polisi y Weinyddiaeth, mal y dywedodd Mr Samuel Smith yn Mhenarddlag, yn warthus i'r eithaf ac y mae y ddrwg-dybiaeth fwyaf anhyfryd yn gorphwys ar y Swyddfa Dref- edigol. Ac, fel y mae yn hysbys, y mae yr anwir. edd y mae y Weinyddiaeth yn euog o hono wedi arwain i dywallt gwaed lawer ar der- ynau Gogledd-Orllewinol yr India. Wyth- nos i heno, fyth, yr oedd Arglwydd Wolseley yn dywedyd gyda math o ymffrost mai un o hynodion y fyddin Brydeinig oedd ei bod bob amser mewn rhyfel ac yr oedd y" gwyr gwaedlyd oedd yn bresenol yn euro dwylaw ac yn chwerthin. Dylasent, o gywily.dd, fyned i'r graig, ac ymguddio yn y llwch. Ac yn ngloddest fawr Cyfarfod Undebol y Toriaid canmolai y Prif-weinidog wroldeb milwyr Prydain a'r India yn lladd yr haner- barbariaid y torodd ei Weinyddiaeth ef mor haerllug gyfamod ac addewid gyda hwynt. Y mae ein cydymdeimlad yn wirioneddol gyda'r milwyr truain sydd yn cael eu gyru i ladd a chael eu lladd ar derfynau yr India ond yn mha le y gellir cael iaith i ddangos atgasrwydd pob egwyddor a chydwybod onest tuag at yr anwiredd a barodd y fath resyni ? Wrth gwrs, y mae y Prif-weinidog wrth ei hen gastiau yn ceisio dianc o honi." Efe a ganmola y milwyr, a gria gywilydd ar y rhai sydd yn condemnio yr anwiredd am gyhuddo Arglwydd Elgin, ac a geisia ym- gyfiawnhau am nad yw Arglwydd North. brook yn condemnio. Ond mewn gwirion- edd nid oes a fyno y wlad yn umongyrchiol a'r pendefigion hyny. Pwy a roes y cy- hoeddiad allan fod yn rhaid i'r llwythau rhwng Peshawur a Chitral ymostwng o fodd neu anfodd i ni eu difeddianu o'u hannibyn- iaeth, a hyny wedi rhoddi sicrwydd iddynt y parchem eu hannibyniaeth-pwy a wnaeth hyny ? Y Weinyddiaeth y mae Arglwydd Salisbury yn benaf gwr ynddi a'r Wein- yddiaeth hono a gyhuddir yn gyfiawn o fod yn euog o anwiredd a gwaed. Profodd Syr Henry Fowler hyn mewn araeth nodedig o alluog a chlir a draddodwyd ganddo i'w etholwyr nos Sadwrn diweddaf. Fel cyn- ysgrifenydd yr India yr oedd ganddo wyb- odaeth glir a sicr am sefyllfa pethau cyn dyfodiad y Weinyddiaeth bresenol i swydd. Gwyddai beth oedd polisi Gweinyddiaeth Rosebery, a'r addewid a wnaed i'r llwythau yn nyffrynodd Chitral; ac efe a ddangos mor oleu a haul haner y dydd fod y Wein- yddiaeth bresenol wedi mabwysiadu polisi hollol wahanol, a thrwy hyny dori yr addewid, ac mai y canlyniad ofnadwy o hyny yw y tywallt gwaed sydd yn y lleoedd a nodwyd. Ac yr oedd y Weinyddiaeth bresenol wrth gymeryd y cwrs a gymerodd hi yn gwybod ar y pryd ei bod yn tori addewid. Profodd Syr Henry hyny hefyd hyd adref; ac wrth wneyd hyny efe a ddangosodd yn hollol glir fod cyhuddiad Mr Balfour oedd erbyn yr Wrthblaid bresenol, mai ail feddwl er mwyn niweidio y Llywod- raeth yn dyweyd ei bod wedi tori addewid, yn hollol ddisail. Ac mor oleu a hyny efe a ddangosodd hefyd mai oferedd yw i'r Prif weinidog gymeryd arno mai Arglwydd Elzin sydd yn gyfrifol am y galanas. Y mac holl gyfrifoldeb yr anwiredd a'r gwaed yn aros yn gwbl ac yn hollol ar Arglwydd Salis- bury a'i Weinyddiaeth.

"SWCH HEB GWLLTWR."

BWRDD YSGOL.

--_.............-'-,--::::-.....---.-.,-----.--NODION…

[No title]