Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BLYS A RHESWM.

News
Cite
Share

BLYS A RHESWM. Y MAE beddau blys i'w cael yn mhob tref a llan. Y maent i'w cael yn ami, ac nid yn anfynych y mae colofnau marmor ac ithfarn i'w cael arnynt, ac ambell waith ran o'r Beibl wedi ei gerfio arnynt a allasai beri i'r dyeithr feddwl yn wahanol am y rhai y mae eu gweddillion ynddynt i'r hyn gwyddai eu hadnabyddion eu bod mewn gwirionedd. Porthwyd y blys, am amser maith mewn llawer o achosion, yn ddifwriad ac yn ddiarwybod. Credwyd fod diod gadarn yn un o angenrheidiau bywyd, ac yn undi a'r grediniaeth hono cymerwyd hi yn onest gan. lawer cre- fyddwr da, a edrychai ar feddwdod gydag atgasrwydd a chan lawer gwraig rin- weddol na fynasai feddwl am eiliad am ddim ond y pur a'r da. Eithr yn raddol, ond yn sicr, tra yn cymeryd y ddiod gyda'r dybiaeth onest ar y cyntaf ei bod yn angenrheidiol hi a greodd flys, ac a'i porthodd nes iddo fyned yn ddigon cryf i wneyd y dyn crefyddol yn feddwyn, a'r ddynes bur yn butain aeth y tad tyner a darbodus yn anghenfil digydwybod a chreulon a'r fam deimladwy a gofalus mor ddiofal ag estryses. Dyna hanes miloeddl ar filoedd yn y deyrnas hon er pan y mae Victoria yn teyrnasu heb fyned yn mhellach yn ol na hyny. Y mae blys yn cael ei borthi a'i feithrin nes ei fod yn ddigon cryf i ddarostwng rheswm, i ddibrisio egwyddorion a rhwymedigaethau, i sarnu y teimladau puraf a thyneraf, ac i wneyd y difrod mwyaf galaethus ar bob peth sydd dda a J gwerthfawr mewn bywyd personol, ac' mewn cymdeithas, heb arbed, dim bob blwyddyn, bob dydd. Dug blys y tadau a'r mamau i'w feddau yn dorfeydd bob blwyddyn, gan adael eu plant mewn tlodi, a gwaeth na hyny yn etifeddion o'r blys a tagwyd ganddynt eu hurain i lofruddio eu plant ar eu hoi: Ac erbyn hyn y mae y blys yn sefyll heb un esgus o'i blaid. Nis gall efe mwyach geisio llechu yn nghysgod rheswm. Tystiolaeth sicr ddi- wrthbrawf Gwyddoniaeth yw fod diod gadarn yn hollol ddiangenrhaid i gynal bywyd a chadw iechyd a nerth-mwy na hyny, fod ei holl dueddiad, o'r llymeityn cyntaf, i niweidio y corff. Y mae Rheswm yn dadgan yn benderfynol a chryf na ddylid ei harfer. Rhaid fod ymarferiad o'r hyn sydd yn hollol ddiangenrhaid, yr hyn y mae ei beryglon mor ofnadwy, a'i effeithiau truenus i'w gweled yn mhob man—rhaid, meddwn, fod ymarfer a pheth felly, fod cellwair a pheth felly yn un o'r pethau mwyaf afresymol y mae yn bosibl meddwl am dano-yn un o'r pethau y mae rheswm yn ei gondemnio yn fwyaf diarbed. Ond tra y mae Rheswm yn condemnio yr arferiad o yfed diod gadarn nfbu beiddgarwch a gwyneb- galedwch ei phleidwyr erioed yn fwy haerllug. Yr oedd diotwyr Lerpwl yn ddigon beiddgar i ddwyn Jgwneuthurwr a gwerthwr diod yn mlaen am y Faerolaeth. A phan yr oedd pleidwyr crefydd a moes, cefnogwyr cartrefi glan a bywyd pur yn gwrthdystio yn erbyn y fath anfadwaith ysgymun, ceid gweinidog yr efengyl (!) yn lledaenu yr hysbysiad ei fod am bre- gethu yn ei bulpud ar nos Sabboth yn erbyn y gwrthdystiad. Ac felly daeth John Houlding yn lie IESU GRIST yn destyn pregeth ar hwyr Dydd yr Arglwydd gan glerigwr perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn ninas Lerpwl! Ac y mae papuryn Toriaidd y ddinas hono yn ymorfoleddu fod Mr Houlding yn Arglwydd Faer, ac fod yr Arglwydd Faer wedi codi o'r rhengoedd." Ond pa fod y mae darllawydd a thafarnwr yn Codi ? Pa fodd hefyd, ond trwy ddarostwng amgylchiadau, sarnu cysuron, ac andwyo cymeriadau pobl eraill! Codi" yn wir I ba Ie? Yn hytrach na bod Mr John Houlding wedi codi," y mae safle Arglwydd Faer y ddinas wedi ei darostwng yn wara- dwyddus. Nid oedd wr teilwng yn nghyraedd Toriaid Lerpwl i'w osod ynddi heb roddi tafarnwr ynddi! Ac y mae y papur y cyfeiriwyd ato yn ceisio esgusodi y gwneuthurwr diod trwy ddal ei hyfwyr yn gyfrifol. Eithr nid yw hyny ond haner gwir. Y mae cyfrifoldeb ar ei hyfwyr-aruthrol. Ond nid yw temt- wyr i ddianc ar esgusawd wag y papyryn a nodwyd. Y mae y darllaw- ydd a'r tafarnwr yn gwneyd a allont i gymell blys yn gystal a'i borthi. Mas- nach y tafarnwr sydd yn creu yr alwad yn gystal ag yn ei chyflenwi. Blys sydd yn ei chynal yn mlaen. Ac un o amcanion diotwyr Lerpwl yn gwneyd John Houlding yn Faer oedd ceisio parchuso ychydig ar farchnad y blys. Ond tra y bydd y ddiod yn gwneyd lladron a phuteiniaid a llofrudd. ion nis gall gwneyd tafarnwr yn Faer, wneyd ei fasnach yn ddyogel nac yn anrhydeddus. Yr ydym yn falch fod y Llywodraeth yn gofalu ar fod tomenydd a phyllau budron naturiol yn cael eu symud er mwyn iechyd ac hapusrwydd cymdeithas. Os yw hyny yn iawn pa faint pwysicach yw fod y pyllau budron a berthynant i Arglwydd Faer Ler- pwl a'i dras mewn tref a gwlad yn cael eu canu i fyny Ond y mae gan y teulu, yr Eglwys, pawb da, i ymegniu i enill y bobl i wrando ar eu rheswm ac i lywodraethu eu blys, ag yn arbenig i wylio rhag creu blys annaturiol andwyol i gorff ac enaid yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw. Y mae "SuI Dirwest yn nesau, a diau y bydd yr ym- drech i enill y bobl i wrando ar reswm a pheidio ymyfed yn fwy arbenig nag arfer.

" JOHN THOMAS Y CWM."

UNDEB EGLWYSI ANGHYDFFURFIOL…

[No title]

[No title]

NODION O'R GORNEL.

Family Notices